Neidio i'r cynnwys

Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Yr Ynys Ddedwydd

Oddi ar Wicidestun
Clochydd Mai Cerddi Edern a Cherddi Eraill

gan John Glyn Davies

Cywydd Mis Mehefin

YR YNYS DDEDWYDD

Mi a'i i'r Ynys Ddedwydd
yn llongwr ar long fawr,
lle bydd mwncwn ar benau'r palmwydd
yn lluchio y cnau i lawr.

Lle bydd adar yn las a sgarlad
yn rhesi ar gangau'r coed,
a Poli Parod yn siarad
yn ffrindiau mwya' erioed.

Lle na fydd y dail yn gwywo
ond para o hyd yn wyrdd,
ac eirin gwlanog yn rhuddo
yn filoedd ar ochrau ffyrdd.

A lle bydd y bobl dduon
yn canu o hyd o hyd,
ac yn ffrindiau mawr â phlant gwynion,,
y bobol ffeindia'n y byd.

A lle nad oes ysgol na symiau
na sôn am genhadwr a'i flwch;
dim byd ond dysgu cylymau
a sgwlio yn starn y cwch.


Mae bywyd yn bur flinderog
a throion chwithig o hyd,
ond O, y mae gwlad ardderchog
draw, draw yn mhen pella'r byd.

Mi a'i i'r Ynys Ddedwydd
yn llongwr ar long fawr,
lle bydd mwncwn ar benau'r palmwydd
yn lluchio y cnau i lawr.
Ion., 50.


Nodiadau

[golygu]