Neidio i'r cynnwys

Cerddi Edern a Cherddi Eraill (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cerddi Edern a Cherddi Eraill (testun cyfansawdd)

gan John Glyn Davies

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Cerddi Edern a Cherddi Eraill
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Glyn Davies
ar Wicipedia


CERDDI EDERN A CHERDDI EREILL.[1]

Bu cryn dipyn o ddisgwyl gweld cyhoeddi "Cerddi" y diweddar J. Glyn Davies o dan yr enw "Cerddi Edern." I'r sawl a welodd ambell un ohonynt gofidiwyd na bai modd eu cael i gyd yn un gyfrol. Ac yn awr dyma hi.

Cerddi atgofus ydynt yn bennaf yn dwyn yn ôl, â thinc hiraethus, y dyddiau a'r hen gymdeithas ddifyr gynt yng ngwlad Llŷn, pan arferai y llanc, Glyn Davies, dreulio mis o wyliau haf yno. Mis yn orlawn, wasgedig o hen fwynderau cefn gwlad a glan y môr yn Llŷn i un a deimlai ei hun yn enaid rhydd yno ar ôl mursendod a chaethiwed bywyd y ddinas yn Lerpwl.

Argraffiadau a phrofiadau cynnar oed wedi eu cynaeafu yn ystod treigl blynyddoedd afrywiog ac anwastad a geir yn y gyfrol gynnes a swynol hon.

Tynnwyd y darlun ar y siaced lwch gan J. O. WILLIAMS, M.A., a lluniwyd y teitl gan E. MEIRION EVANS.

J. GLYN DAVIES


CERDDI EDERN

a Cherddi ereill




GAN
J. GLYN DAVIES





LERPWL
GWASG Y BRYTHON
HUGH EVANS A'I FEIBION, CYF.,



Argraffiad Cyntaf—Awst, 1955



Argraffwyd gan
Hugh Evans a'i Feibion, Cyf.,
9-11 Hackins Hey a 350-360 Stanley Road, Liverpool



RHAGAIR.

Y mae amryw o ffrindiau fy niweddar briod, Glyn Davies, wedi pwyso'n daer arnaf gyhoeddi 'Cerddi Edern' a chyda cydweithrediad Mr. J. O. Williams yr ydym yn gwneud hyn. Dywedodd fy ngŵr droeon, os byth y cyhoeddir unrhyw waith o'i eiddo, nad oeddem i newid dim ar ei orgraff. Barnai ef fod yr orgraff newydd yn achosi mwy o anhawster i bobl gyffredin ysgrifenu yn Gymraeg.

Dymunaf ddiolch yn fawr i Mr. J. O. Williams am ei gymorth; hebddo mae'n amheus a fedrwn i ymgymeryd a chyhoeddi'r Cerddi.

H. GLYN DAVIES.

RHAGYMADRODD.

Prin y gallaf feddwl am ddim amgenach fel deunydd Rhagymadrodd i Gerddi Edern, Glyn Davies, na dyfynnu ambell ddarn yma a thraw o'r amryw lythyrau a dderbyniais oddi wrtho o dro i dro. Edern, yn Lleyn! Pa fath le ydoedd pan oedd Glyn Davies yn hogyn, yn llanc, ac yn henafgwr ifanc ar ffiniau ei bedwar ugain?

"Ni fedrwn fyth ddesgrifio fy ngorfoledd wrth ddeffro'r bore cyntaf (o wyliau) yn Edern. Yr oedd cyfaredd yn mhob careg, yn mhob blewyn glas, a chlochdar yr ieir fel sŵn telynau'r nef- oedd, a sŵn yr afon yn fwy swynol fyth. A chlywed Cymraeg o enau pawb—yr oeddwn yn gwirioni. Mae'r swyn yn dal o hyd wrth gofio'n ôl—"

A ffrwyth y cofio'n ôl yw y rhan fwyaf o gynnwys y gyfrol hon, ac ni fynnai Glyn Davies golli'r mymryn lleiaf yn y ' cofio ' hwnnw, na hyd yn oed ei groniclo ond ar fesur cerdd. Cofio'n ôl tros gyfnod aflonydd o hanner canrif a mwy; cofio'n ôl yr hen dirionwch a gyfareddai ei lencyndod yn "naear, dŵr ac awyr " ei Edern a'i Leyn; cofio'n ôl o dir yr estron anghymreig pan oedd sŵn bygythiol awyrennau'r gelyn yn byddaru ei glustiau. Gofio'n angerddol bryd hynny, a'u croniclo'n fanwl gerddgar i leddfu'r hiraeth ysig a'r anobaith du a'i meddianai,—cofio "pethau cyffredin bywyd, pethau a ddiystyrir oblegid eu bodyn perthyn i bawb ond tyrwyr pres—" Beth oeddynt i Glyn Davies, yn nieithrwch di-Gymraeg Caergrawnt a'r cyffiniau, yn ystod 1936-41, y cofio angerddol? Lôn las yn Lleyn; tywod poeth dydd o haf ym Mhortinllaen; "sŵn ton yn sugno'n ôl i'r glas, a sŵn fel ochen: hen long gestog yn dadlwytho glo ar y traeth; cri gwylan frech, gylfinir, cornchwiglen; porffor bychan cloddiau Lleyn: aroglau cynes yr eithin: tir gwyllt y Gors; sŵn ffrwd y Felin; blawd ar wydrau sbectol gŵr y Felin, a—wel, a mil a mwy a gofiodd

ac a groniclodd yn y modd symlaf, i'w gadw'n fyw—"Yr wy fyn byw ar sugno fy nghof-—Hogyn bach blodau'r maes, llongau ac adar oeddwn i, ac ni chaech rheiny'n iawn ond yn y wlad—yn ngwlad Lleyn."

Cyfaredd mewn pellterau, pellter amser yn ogystal â lle. Ac o Leyn ac Eifionydd y blynyddoedd pell y llifai'r llaeth a'r gwin a'i cadwai'n fyw yn nhir cras yr estron.

Wedi misoedd tyrfus a di-hedd yn ninas Lerpwl pan yn hogyn, hudolus iddo, a sanctaidd bron, oedd tawelwch "byd araf ar long a throl, ac awr i ymgomio" yn Lleyn. Ymhen blynyddoedd lawer wedyn, "yn sŵn rhialtwch mawr y lan," yn San Ffrancisco, ni fynnai wrando ar ddim ond ar stwyrian pell'r hen olwyn ddŵrf yn Lleyn; na gweld lleuad fawr y trofannau yn disgleirio ond ar lenydd Lleyn—ar fau a glan Portinllaen, mewn "gwlad sydd well,"—yn well na haf di-aeaf Môr y De, na thes ac aur Awstrelia, na hinsawdd heulog Califfornia a rhialtwch strydoedd San Ffrancisco.

Do, crwydrodd lawer ar y byd yn ystod ei fywyd, cyn ymsefydlu ohono fel pennaeth yr Adran Geltaidd ym Mhrifysgol Lerpwl, ac wedi ymddeol, oddi yno i Gaergrawnt i gostrelu'r nostalgia a'i meddiannodd eto am Edern a Lleyn a'r 'ynysoedd dedwydd' a gafodd gynt mewn dethol fannau o Gymru. Wedi tair blynedd o gyfnod y Rhyfel yng Nghaergrawnt, dychwelodd i Gymru, i Lanarth yn Sir Aberteifi, ac oddi yno drachefn i Lanfairfechan yn Arfon, lle cafodd, ar derfyn oes, sylweddoli fwy nag unwaith ddyheadau y blynyddoedd maith ac anesmwyth y bu drwyddynt—cerdded unwaith eto hen lonydd a glenydd Lleyn, ac unwaith yn rhagor brofi yr iasau cyfareddol gynt y methodd henaint pedwar ugain mlynedd a'u pylu.

Ceisied y sawl a ddarlleno Cerddi Edem weld a theimlo yr hyn a welodd ac a deimlodd Glyn Davies wrth "gofio'n ôl: canys dyma'r hyn a gais gyda'r cerddi syml a gwrthrychol hyn. Dyheu am siarad am yr hen fyd a'r bywyd a'i swynodd gymaint a wna, yn yr iaith a'r dull a fynnai i wneud y pictiwr yn glir, a hynny fynychaf yng nghanol estroniaid anghyfiaith a di-Leyn.

"Cerddi pruddion ydi cerddi Edern i gyd. Ni wastreffais ddau funud ar yr iaith, a llai na hyny, oblegid yr oeddwn a fy mryd yn llwyr ar y pictiwr—a phan welwch lun, yna yr iaith agosaf at ddweyd be welwch . . ."

"Wrth feddwl am Edern yn llanc ifanc, rhaid i mi gael rhywun i siarad ag o . . "

A dyna a wna yn y gyfrol hon, wedi tewi o'i lais yn naear Llanfairfcchan, yn dair a phedwar ugain oed.

J. O. WILLIAMS.

SYLWADAU

Ar Fôr i Leyn. Cronicl o daith tros y môr o Lerpwl i Leyn. Y blynyddoedd a roes ramant i'r daith ddifyr, ddiofal hon i fachgen a ddyheai am dawelwch a rhyddid Lleyn wedi bywyd trystiog a chaethiwus Lerpwl.

Cwmisdir. Pnawn braf o haf, yn pwyso'n hamddenol ar glawdd uwchben y môr ar dir Cwmisdir yng nghyffiniau Edern.

Melin Edern. Yma yr arferai Glyn Davies a'i frodyr aros pan yn blant ar eu gwyliau haf o ddinas dyrfus Lerpwl.

Mynhadlog. Hen gartref clyd o'r dyddiau gynt. Heddiw saif yn furddyn atgofus ar y lôn sy'n arwain o Edern i Gwmisdir.

Rhosys Mynhadlog. Yn ystod un o'i ymweliadau â Mynhadlog, sylwodd Glyn Davies ar lwyn dryslyd o rosys gwynion yn dal i dyfu yng nghanol mieri'r hen ardd. Torrodd sbrigyn ohono, a llwyddodd i'w gael i dyfu'n flodeuog yn ei ardd ei hun yn Llanarth, Sir Aberteifi. Un diwrnod gwelwyd ef yn syllu'n hir arno, yn drwm dan ei flodau. Dychwelodd i'r tŷ yn drwm ei hunan o hen atgofion—Rhosys Mynhadlog.

Harbwr Skyw. Un tro, wrth wylio'r llongau bach yn mynd a dod, yn llwytho a dadlwytho, yn Harbwr Skive ar y Lim Fjord yn Nenmarc, daeth iddo atgofion byw am hen ddyddiau diddan y llongau bach ym Mhortinllaen.

Ynys Dyfnallt. Ger Rhoslan, Eifîonydd. Pictiwr yw'r gerdd o'r hyn a welodd ac a glywodd Glyn drwy ffenest agored ei ystafell ar hwyrnos dawel o Fehefin yn Eifionydd. Hwyrnos o'r dydd y goresgynodd Hitler Rwsia—Meh. 19, 1942.

Pen y Cefn. Atgof am bysgota yng nghwmni y Dr. J. G. Thomas, Dinbych.

Nos Iau yn y Seiad. Taith hwyrnos gyda Dr. J. G. Thomas, y bardd-feddyg o Ddinbych.

Rhyd y Bedd. Cywydd i gyfarch y meddyg awenyddol, y Doctor J. G. Thomas eto.

Wedi Mynd. Yn enw'r Dr. Prys Williams y cyfansoddwyd y gerdd hon. Dychmygir y Dr. yn sefyll yn Llanon, Sir Aberteifi yn syllu dros y môr, a bae Ceredigion ar bentir Lleyn, ac yn dwyn yn ôl yn hiraethus y bywyd a'r sgwrsio diddan gynt yn ei gartref, Prysgol, ger Fourcrosses.

Tair Llong. I'r diweddar Ddr. G. Prys Williams, Prif Arolygydd Addysg tros Gymru, y diweddar Ddr. W. J. Williams, a'i dilynodd yn y swydd, a Glyn Davies.

Fy Mrawd, a glywi? I'w frawd, y diweddar Captain Frank Davies. Y dôn Shenandoah oedd ei hoff sianti ef.

Yr Heddychwr. I'w frawd, y diweddar George M. Ll. Davies.

Hen Forwr. Wrth basio mynwent y Wern, ger Llanarth, Ceredigion, gwelodd enw hen gapten llong ar garreg fedd ger wal y fynwent.

William Jones. Hen gymeriad nobyl yn nyddiau llencyndod Glyn Davies—pen gwas yn warws y Brodyr Rathbone, Lerpwl, 1887, pan oedd Glyn yn brentis yno.

Wil Ardd Wen. Bachgen ifanc o longwr a chymeriad hoffus, o gyffiniau Nefyn,

Y Postmon. "Dene chi " a ddywedai bob amser dan wenu'n siriol wrth roi llythyrau yn llaw y plant wrth y drws yn Rossa Fawr, ger Dinbych, ers talwm.

Madonna y Gweithiwr. Cymreigiad Glyn Davies o drosiad Oliyer Elton i'r Saesneg; Glyn Davies i'r Gymraeg.

Y Cwpan Tsieni. (Slavko Batushic, Croatia). Cyfieithiad Oliver Elton i'r Saesneg; Glyn Davies i'r Gymraeg.

I'r Llenor Mawr. Georg Brandes, Denmarc. Cerdd gan Jeppe Aakjaer, Denmarc, mewn llythyr i Glyn Davies. Aakjaer a biau 1, 3, 9. Glyn Davies 4-8.

ENGLYNION.

Llythyrau Morgan Davies. Y Dr. Morgan Davies, Llundain, a genedigol o Langwrddon, Sir Aberteifi.

David R. Daniel. D. R. Daniel, Fourcrosses, a chyfaill mynwesol Tom Ellis, William Jones a D. Lloyd George.

CYNNWYS.


AR FÔR I LEYN

Mi flinais ar fwg du y dref
a'i strydoedd trystiog:
O am gornchwiglen unig lef
ar lecyn corsiog.

Meddyliais am wynt iach na fu
yn safnau dynion,
a dail y coed heb fod yn ddu,
a'r hen ffyrdd gleision.

Ac at y stemar yn y doc
yn llwytho am Gymru,
a hithau i hwylio allan toc,
a'r sêr yn t'w'nu.

Y doc a'r llongau'n fil sêr mân
o lampiau gloewon,
a'r lleuad yn ei llawnder glân
yn glaer ar afon.

Trwst llwytho; brys i fynd i ffwrdd,
a'r corn yn chwyrnu;
gwib wrth y rigin ar y bwrdd—
Wel dyma Gymru.

A sŵn Gymraeg ar hyd y lle
mewn haner t'w'llwch;
ni fedrwn lai na dweyd Hwre,
mewn diolchgarwch.


I lawr i'r caban cynes clyd,
a'r goleu'n dallu,
a'r Capten yr un fath o hyd
a'i ddawn croesawu.

A holi mawr; cip ar y cloc,
a throi i ymddiddan,
cyn codi i fynd a'r llong o'r doc
i'r afon lydan.

Y cyrn yn rhuo yn y doc,
a llongau'n hwylio;
llong fawr Belfast o'n blaenau toc,
a'i phortiau'n g'leuo.

A ninau nesa'n Heave away,
a'r winch yn myned,
a'r corn yn rhuo dros y lle,
a'r giatiau'n 'gored.

Sŵn cloch ddwy waith, a'r sgriw yn troi,
a'r corn yn udo;
a'r llong i'r afon; dyma ffoi
o'r ddinas hono.

A cholli golwg cyn bo hir
ar Lerpwl bygddu:
pan âf oddiar y llong ar dir,
bydd yn dir Cymru.

Goleuni'n wincio yma a thraw
o lenydd Cymru,
mynyddoedd duon ar naill law,
ar wybren lasddu.


Goleuni gwyrdd llong hwyliau draw
yn myned heibio;
dwy stemar ar eu hynt, heblaw,
a'u coch yn lliwio.

Goleuni Penmon gyda hyn
o'n blaenau'n union;
fflachiadau clir y goleu gwyn,
a'r cwrs i'r afon.

Biwmaris, Bangor, yn y llwyd,
mewn trymgwsg tawel,
a Phont y Borth ddidramwy gwyd
uwchben yn uchel.

Hyd Fenai lonydd rhwng dwy lan
o gaeau llwydion,
heb fwg o simdde hyd y fan
na gweled dynion.

Mor daŵel ar y llong; heb stŵr
ond sŵn peirianau;
gwynt miniog bore dros y dŵr
a'r mwg o'n holau.

Y dŵr a'i daw, a gweld y wawr
yn gwelwi'r dwyrain;
pelydrau'n saethu i'r awyr fawr j
swyn cyfrin plygain.

Sêr yn diflanu yn y man
o'r awyr welw;
goleuni'r llong yn llosgi'n wan
a'r wawr ar lanw.


Y wawr fel goddaith isel glân,
a thros y dyfroedd
yr haul tu cefn fel rhimyn tân
ar grib mynyddoedd.

Gwylanod cras eu sŵn uwch ben,
neu'n nofio'r afon;
a'r haul yn tori drwy y llen
ar Gastell C'narfon.

Ac heibio'r Belan, gweld o hyd
yr Eifl fylchog
yn ddirfawr rhwng gwlad Lleyn a'r byd,
fel muriau caerog.

Cam Fadryn grom i'w gweld ymlaen
a Cham Boduan,
a thai pysgotwyr Portinllaen,
a'r cychod allan.

Rhag., 40.

PORTINLLAEN

Prydnawn dioglyd dan yr allt
ar ddiwrnod heulog;
dŵr wedi sychu'n gaenen hallt
am byllau creigiog.

Blas helltni môr o'r pellder llwyd
dros ddyfroedd gleision;
ac oddi ar y cefnro cwyd
aroglau gwymon.

Sẅn ton yn sugno'n ôl i'r glas,
a sŵn fel ochen;
gwylanod fry yn arthio'n gras
wrth fflachio aden.

Gweld Careg Llam yn gwgu'n ddu,
fel tŵr gyferbyn,
a'r penrhyn bychan penlas sy'
yn cuddio Nefyn.

Yn glir ar draws môr glas y bau,
Y moelydd hwythau,
hyd at yr Eifl, a'u copâu
yn codi'n risiau.

Y tywod poeth dan draed yn troi
dros gefnau sgidiau;
ymlusgo'n araf ac ymdroi
gerllaw y llongau.


Llong gestog yn dadlwytho glo
yn sych ar dywod,
a throliau wrthi yn eu tro,
a mwy yn dyfod.

Y llongwr melyn wrth y craen,
a'i sgwrs rhwng 'speidiau;
daw môr byd mawr i Bortinllaen,
a'i ryfeddodau.

Ar certmon dan gnoi baco'n gawr,
yn gwrando'n astud,
a datgan syndod drwy air mawr,
a phoeri gwrhyd.

Dim brys; rhoi lle i sgwrs a lol—
aed amser heibio:
byd araf deg ar long a throl,
ac awr i ymgomio.

Dau gwch yn hwylio yn y bau,
a'r gwynt yn darfod;
dim gobaith hwylio draw lle mae
arwyddion pysgod.

Ond gartref, William Tŷ Coch Bach,
a'i gwch wrth angor;
hen fachgen gwydn gwridgoch iach
a'i fyd ar gefnfor.

Ni thwyllwyd mono ef erioed
gan wynt y bore;
hen forwr pedwar ugain oed,
gŵyr ef o'r gore.


Ymddiddan enyd ar y traeth
am furiau'r Henblas,
a gofyn iddo sut y daeth
y môr o'i gwmpas.

" Dw'i'n cofio perllan lle mae'r dŵr,
a'i llond o 'falau—"
a gwrando arno, yr hen ŵr,
yn mynd drwy'i bethau.

Hanesion hen am wŷr di-nod,
hen forwyr Nefyn,
fel chwi a minau'n byw a bod
a darfod wedyn.

Daw machlud haul a gwynt dros dir,
a sêr yn oleu,
a lliw y lloer yn llwybr hir
ar frig mân donau.

A thrymgwsg tawel ar y tai
a'r llongau danyn',
a churiad ysgafn ton a'r drai,
ochenaid wedyn.

Rhag., 40.

YNYS TANGNEFEDD

Yr ynys fechan yn y bau
a chwa o'r Werddon,
rhyw encil tawel lle y mae
gwres haul yn dirion.

Sŵn ymchwydd môr yn tori draw
yn erbyn ceulan,
a llepian mân y dŵr gerllaw
a chri y wylan.

Gri gwylan frech yn ôl ymlaen,
ar gylchau byrion,
ac ar y traeth sŵn dŵr ar daen,
a'r môr yn wreichion.

Aderyn pell a chwiban hir
dros ddyfroedd gleision;
creyr glas yn hedfan dros y tir
i fyny'r afon.

Baich swrth o wymon ar y dŵr;
dwy wylan arno
yn sefyll yno yn ddi-stwr
a synfyfyrio.

A sŵn y môr yn mynd yn llai,
a chwa'n arafu;
ar dir holl odidowgrwydd Mai,
a'r tes yn crynu.

Yr encil bychan lle y try
mor amghyfanedd;
byd araf heb ddim brys, lle bu
awr o dangnefedd.

Mai, 41.

YR AFON GEIRGH

Haul cynes ar ôl glaw drwy'r nos,
a'r ffyrdd yn wlybion,
a ffrydiau'n tywallt o bob ffos
i lenwi'r afon.

Y cefnlli'n dwndwr wrth y cafn,
dros risiau creigiog,
ac at y bont a thrwy ei safn
yn gyru'n donog.

Lliw'r lli'n awgrymu pnawn o hwyl,
a'r dŵr mewn cywair,
yn gyfiawnhad am gadw gwyl,
a nôl yr enwair.

Ac ar ddŵr crych yn troi i'r llyn,
rhoi'r pry wrth amcan,
a gweld y lein yn sythu'n dyn
o dan y dorlan.

A blaen yr enwair gyda hyn
yn gwingo'n sydyn:
un wib, a brithyll brych a gwyn
ar welltglas wedyn.

A symud at y graig lle mae
y llwyni eithin:
penfelyn, er gweld dyn, nid ae
oddiar ei frigyn.

Aderyn cywarch brongoch twt,
yn hedeg allan;
ehediad byr o ffrwt i ffrwt,
a chlochdar bychan.


Pen cerddor yr holl adar mân
yn ei gynefin;
f'eneidiau, onid pêr ei gân
yn mis Mehefin.

A chrac yr eithin, ynteu a'i gerdd,
a'i gnoc dwy gareg;
a glas y dorlan, fflach las werdd,
hyd ddŵr yn hedeg.

A mynd ymlaen o bwll i bwll,
pob un a'i hanes;
llygoden ddŵr yn ffoi i dwll
heb gael ei neges.

Y pwll lle byddai plant yn siŵr
o gael llysywod,
a gyda hwy yn ngwaelod dŵr,
mân ledod tywod.

At bwll y cefnro'n Aber Ceirch,
rhu'r môr ar glybod,
a'r tonau'n hyrddio i mewn fel meirch;
mil mwy i ddyfod.

Ond tawel iawn oedd bwthyn Siân
cyn mynd yn furddyn;
Hen Siân a'i hieir, cath, barcud, brân,—
holl deulu'r llecyn.

Mae'r cwbl wedi mynd ers tro—
pwy sy'n eu cofio?
Sŵn tonau'n tori ar y gro,
fydd yno heno.

Rhag., 40.

LÔN PEN YR ALLT

Y Lôn wrth ymyl pen yr allt
rhwng cloddiau preiffion,
lle clywir blas y gwynt yn hallt
o fryniau'r 'Werddon.

A seiyll enyd yn y gwynt
ar glawdd, a gweled
ryw smàc a sgwner ar eu hynt—
Ble'r an' nhw, tybed?

Mwg stemar beli yn nesu draw
o Ben Caergybi,
Rebecca, mi wn; bydd awr cyn daw
wrth Ynys Enlli.

Sŵn moroedd ar y traeth islaw
fel sẃn taranau,
a gweld y môr yn llyfn bell draw
o'r lle daw'r tonau.

A mynd ymlaen rhwng dwy res hir
o rug ac eithin,
a gweld y gwrid ar liwiau'r tir
tan haul gorllewin.

Lôn las yn dawel ar ei hyd,
heb fawr o dramwy,
yn mynd tu hwnt i ben draw byd—
Caersalem meudwy.

Tach., 40.

Y LÔN ADREF

Hen lôn bach gul yn mynd ymlaen
rhwng cloddiau gleision,
prif ffordd o longau Portinllaen
i dai bach gwynion.

Didramwy fel ped fai yn Sul
ar lôn bererin,
ac wrth y clawdd ôl pedol mul
a blawd o'r felin.

Ac ar ei hyd 'n ôl morio'n hir,
ae'r llongwr adref,
a'i sgwner newydd gyraedd tir,
a phawb i'w gartref.

A phêr i hwn ar ôl gwynt hallt
dros frig y tonau,
aroglau porphor pen yr allt
ar hyd y cloddiau.

Aroglau blodau eithin fyrdd
o'u melfed melyn;
lliw grug mawr clochog, coch a gwyrdd,
a sŵn y gwenyn.

Ar ôl yr anial llwyd, mor hawdd
oedd gweld y lliwiau,
coch, melyn, gwyn a glas ar glawdd,
a charu'r blodau.


A gweld penfelyn bach ar frig
heb gynyg symud,
ac asgell fraith yn hogi'i phig
ar frigyn enyd.

A gweld cwningod llonydd draw
yn codi clustiau
wrth glywed camrau, a chael braw
a ffoi iw tyllau.

Y lôn a welodd drwy ei hun
yn bell ar gefnfor;
mae'r sgwner wedi cyraedd Lleyn
a bwrw angor.

Awst, 40.

LÔN Y GORS

Ar ochr ffordd, pwll Pen y Bryn
o dan hen goeden,
a changen isel dros y llyn
i hudo bachgen.

Pwll coediog tywyll, wedi ei doi
â changau deiliog,
a'r ochr draw ieir dŵr yn ffoi
i'r drysni brigog.

Troi i lôn y gors, fe saif o hyd
Tir Bedw yna;
mae'r Capten wedi hwylio byd
a chael angorfa.

Y rhes murddynod ar y chwith
yn mynd tan stormydd;
tai'r meirwon gynt, ac yn eu plith
tŷ Edward Dafydd.

Y llidiard goch a'r llynoedd glaw,.
a'r gors gyferbyn,
ac fel rhyw wyliwr mud fan draw
hen gaer Carn Fadryn.

Tach., 40.

Y GORS WYLLT

Cors bantiog, llynoedd bychain bas,
a mân dwmpathau,
tir gwyllt o'r lôn i'r Ynys Las;
ffordd las i droliau.

Y gwter gul fu'n fawr ei bri,
gerllaw y llidiard,
lle byddai plant, pob un a'i gi,
yn hela ffwlbard.

Y ddraenen wen ar ben ei hun
ar glawdd y terfyn;
da gŵyr yr adar mân bob un
lle mae pob brigyn.

Lle anial lle bydd cwafrio cân
ar haul Mehefin,
lle bydd llai ofn ar adar mân
o fewn ei elin.

Cael gweld o dalcen tŷ'r hen daid
sigl-gwt yn gwegian,
a nico yn ymdrochi'n haid
wrth draeth llyn bychan.

A gwibio'n ôl i'r ddraenen wen
i ymbluo wedyn,
a disgyn dau a thri o'i phen
ar ysgall penwyn.

Cornchwiglen fraith ar ben ei hun
yn syn fyfyrio;
efallai'n craffu ar ei llun
mewn dŵr digyffro.


Ac yn y ffrwd yr ochr draw
creyr glas yn hela,
nes clywed cyfarth ci; cael braw
a ffoi oddiyna.

Tir gwyllt lle gallai plant ymdroi
yn ddiwarafun,
diffaethwch na thal fyth iw droi;
trysordy plentyn.

Y gongl wrth y lôn o dan
mieri mawrion,
a gair ymhlith y plant i'r fan
am fwyar duon.

Tir gwyllt di-fael na chododd fawr
ond drain ac eithin;
rhyw encil i gymuno awr
â rhywbeth cyfrin.

A gyda'r hwyr hen gofion gant
tu draw i'r llidiard,
a haner disgwyl gweld y plant
ar ôl y ffwlbard.

Mân adar wedi clwydo'n llu
mewn perth ddiogel,
pob un a'i ben o dan ei blu
yn cysgu'n dawel.

Dim sŵn i dori ar draws hynt brudd
meddyliau dwysion,
i darfu'r drychiolaethau sydd
yn rhodio'n fudion.

Tach., 40.

CWMISDIR

Clawdd yn Lleyn uwchben y môr,
a'r porphor bychan arno,
hwn mor bêr, pob chwa a dyn
y gwenyn tuag yno.

Sŵn y gwenyn haner swrth
yn grwnian wrth felusder;
sŵn y dẃr ar hyd y gro
wrth dreiglo'n ôl i'r dyfnder.

Adar môr ar fin y dŵr
yn cadw stŵr yn swnllyd,
'deryn cywarch draw mewn llwyn
yn canu'n fwyn am funud.

Glas y môr tu draw i wyrdd
y clawdd a'i fyrdd o flodau;
cysgod cwmwl gwyn ar led
yn cerdded tua'r glanau.

Creigiau isel wrth y lan
a'u gwymon dan ddŵr gloew,
yn ymsymud yn y man
dan ymchwydd gwan y llanw.

Ac yn unig ar y graig
yn gwylio saig y glenydd,
mulfran dal fel delw ddu,
dan daenu ei hadenydd.

Mynwn fod yn ngolwg môr
a'r porphor dan fy elin,
ac yn gweld y fulfran ddu
yn harddu ei chynefin.

Gorph., 40.

CARLO

Cof am hen fastiff coch, y cyfaill ffyddlon,
cydymaith ar bob taith i Bortinllaen;
draw at y Rhosgor ac ar hyd yr afon,
rhodiwr diflino i arwain yn y blaen.

Yr oedd efe yn un o deulu'r felin,
ychydig iawn o gŵn a fu o'i fath,
gorweddai'n ddistaw o dan fwrdd y gegin,
a'i lygaid effro'n gwylio y ddwy gath.

Wrth hebrwng gwartheg byddai'n ddigon hapus,
heb wylltio'r osgordd drom, na buwch na llo,
ond hongiai wrth fôn cynffon tarw barus,
a'r tarw fyddai'n cael y braw bob bro.

Roedd Carlo yn Fethodsyn cydwybodol,
nid ae er dim i grwydro ar y Sul,
ond gwarchad adre'r dydd yn ddefosiynol,
a bod yn dda, a rhodio'r llwybr cul.

Ofer oedd ceisio ei hudo draw o'i warchad,
fe wyddai Carlo'n reddfol am y dydd,
tan gadw'n drist tu cefn i'r llidiard gauad,
a'r dagrau'n pefrio yn ei lygaid prudd.

Mor llawen byddai pan ddoem ni yn ein holau
i Edern unwaith eto yn yr haf,
a neidio amom, gosod ei bawenau
hyd at ein sgwyddau; llyfu'n cegau'n braf.


Ar ôl hir aros, gwelai Garlo ddyddiau
o rodio glan y môr am furgyn pêr;
cae eto ymlid brain ar hyd y caeau
ac ymlid cryrod gleision at y sêr.

Cae eto gloddio'n ddwfn ar ôl cwningod
a'i 'winedd blaen yn lluchio pridd o'i ôl
a blino, a throi ymaith tan ddyhefod,
i ryw gwnhing-gaer arall dros y ddôl.

Hen gi maddeugar, sawl gwaith y maddeuai
i'r bechgyn am eu castiau dro ar ôl tro;
ffyddlon i'r carn, tu hwnt i ddyn, ni ddigiai,
ond codi'i glustiau am air i fynd am dro.

Rhag., 40

MELIN EDERN

Syn gweled y drws; mae clo ar ddrws y Felin,
ar ddiwrnod gwaith, wel dyma dro ar fyd.
Ni chlywaf un sẃn ond sŵn y ffrwd yn disgyn
wrth lithro dros ei meini'n haner mud.
Ni chlywaf wrth sefyllian
yr olwyn fawr yn stwyrian
na'r dŵr yn tywallt enyd bach fel cynt,
na'r pistyll main
o'r cafn, a'i sain
yn codi ac yn gostwng gyda'r gwynt.

Mewn myfyr fel hyn, mi welwn ddrws agored
a Rhisiart Roberts wrthi ei oreu glas;
roedd curiad y dẃr o'r olwyn fawr iw glywed,
a dwndwr trwm y meini'n grwnian bas.
Sion William cryf ei freichiau
yn llwytho'r blawd i'r troliau,
a'r mynd a'r dyfod drwy y drws heb frys,
a'r certmyn wrth
geffylau swrth,
ac ar bob chwa aroglau shag fel thus.

Lliniaru yr haul, troi adref y drol ola',
a'r olwyn fawr yn sefyll er ys tro,
a William yn mynd at orchwyl cyn swpera,
a Mistar yn cau'r drws; nid oedd rhaid clo.
A throi i'r tŷ yn siriol
a blawd ar wydrau spectol,
a mynd i'r llofft i newid dillad gwaith;
sŵn chwythu tân,
rhoi llian glân
ar fwrdd y gegin fawr at swper saith.


Mi greffais am hir ar ffenest ucha'r felin,
mi welwn Rhisiart Roberts wrth y fainc
yn craffu ar bren wrth heulwen y gorllewin,
pren derw wrth ei fodd, darn da heb gainc.
A marcio'r pren a'i lifio
ar draws, ar hyd, a'i bleinio,
a'i drin â chŷn a gordd yn gynil iawn,
ymgolli'n llwyr,
dal ati'n hwyr,
a'i gorph a'i enaid yn y gwaith yn llawn.

Mi welwn ar fyr ddau'n cerdded â'u genweiriau
i lawr yr afon, Mistar a myfi,
fy athraw oedd, a phrentis oeddwn inau,
ac ni bu athraw genyf mwy ei fri
A chanddo ryw athrylith
at fwrw hud a lledrith
ar ddŵr a glenydd ac ar docyn drain;
a'i lygad chwim,
nid oedd un dim
nas gwelai wrth rodio'r ffrwd â'i enwair fain,

Mi a'i gwelwn yn mynd a phedwar llanc i'w ganlyn
i fyny drwy y pentref ar brydnawn,
a dadwrdd mawr, genweiriau gwrachod ganddyn',
am Rosgor, a phob un yn hapus iawn.
Ac aros yn Mynhadlog
am awr o de a chrempog,
a chroeso serchog iawn gan John a'i wraig,
a John mewn hwyl
ar ddiwrnod gwyl,
a diwrnod mawr oedd diwrnod ar y graig.


A'r cerdded yn ôl, myfi a'r hen Felinydd,
yn hwyr y nos, a'r lleill o'n blaenau'n bell.
a gwrando pob gair, ac ynteu'n adrodd cywydd
gan Eben Fardd, neu Dewi Wyn,—pwy gwell?
A'r sêr i gyd yn t'wnu
a'r lleuad yn arianu,
a'r ffordd yn llwyd o'n blaenau rhwng dau glawdd
sŵn adar nos
draw yn y rhos,
gwirionwn ar farddoniaeth yn bur hawdd.

Mi welwn nos Sul bob un o deulu'r Felin
yn cychwyn am y capel, ond y ci,
a Mistar a'i wraig a William a'r ddwy Elin,
a John Mynhadlog hefyd a nyni.
A Charlo'n troi i orwedd
ac aros mewn amynedd
wrth ddrws y Felin nes doe pawb yn ôl,
i warchod tŷ
'n lle ymlid pry'
neu frân brofoclyd ar draws caeau'n ffôl.

Dywedyd Nos Dawch wrth ddrws y capel wedyn
wrth hwn a hon, 'n ôl anrhydeddu'r dydd,
John Williams yn troi tua chartref yn o sydyn,
a Mistar gyda Harri Jones y Crydd,
yn cerdded yn hamddenol
a sôn am wers ragorol
a gawsom yn y bregeth, rhywbeth byw.
Dau feirniad mwyn,
di-gas, di-gŵyn,
yn diolch o'u calonau am air Duw.


Syn gweled y drws ar ddiwrnod gwaith yn gauad,
heb drol o'i flaen yn disgwyl am y blawd,
heb sŵn ac heb sain, heb Carlo yn wárcheidwad,
heb Rhisiart Roberts yno; dyma ffawd.
A'r olwyn a'r llyn croni,
adfeilion mewn trueni,
heb gafn, heb ffrwd, heb ffiodiard; angeu yw.
Ond daw o hyd
peth o'r hen fyd
am enyd bychan eto i ail fyw.

Awst, 40.


MELIN EDERN II.

Try'r meddwl yn ôl yn aml at ẃr y Felin,
efe yn anad neb oedd swyn y lle,
mor ifanc yr oedd yn nghwmni plant a bechgyn,
ac yn gydymaith hoff gan lanciau'r dre.
Fe wyddai am ddirgelion
cors, mynydd, traeth ac afon,
adnabu flodau'r maes a'r adar mân;
hoff ganddo ymdroi
wrth lwyn a rhoi
i'r adar bach eu henwau wrth eu cân.

Hoff ganddo ei waith, ni flinai ar orchwylion,
roedd hacio'r meini yn ddifyrwch llawn,
peirianwr wrth reddf, fe wyddai wrth sŵn olwynion
eu bod i gyd yn gwneyd eu gwaith yn iawn.
Darllenwr o'r manylaf,
yr oedd nosweithiau gaeaf
mor ddifyr iddo a nosweithiau haf.
A chalon lawn,
ddiolchgar iawn,
fe wyddai pwy a wnaeth ei fyd mor braf.

Nid ymdrech erioed oedd iddo fyw'n gymdogol,
roedd ynddo yn naturiol, ac yn ddawn;
ni cheisiodd ychwaith fyw'n llym a manwl ddeddfol,
ond byw yn frawdol ac yn dawel iawn.
Ni pharchai ddeddf anghyfion
gwŷr crefydd na gwŷr mawrion,
a llawer gleisiad trwm a ddaliodd ef,
yn ngwaethaf 'stad
a deddf y wlad;
ni chredai i neb ddigio yn y nef.


Roedd capel a Sul yn bethau mawrion ganddo,
gwych ganddo glywed darllen Sgrythur Lân,
a gwrando ar air urddasol drosodd eto
ac ar lais John yn codi ac arwain cân.
Ni fyddai yn aniddig
wrth wrando ar ŵr dysgedig
yn traethu'n farwaidd ar efengyl gras;
os oedd y dawn
yn fychan iawn,
ar eiriau'r Sgrythur Lân y caffai flas.

A cherddor da iawn, clustdeneu, oedd Mynhadlog
yn gerddor wrth ras Duw, ac nid wrth ddysg,
cydblethai y dôn a'r geiriau'n hynod fywiog,
y goreu am gân o ddigon yn ein mysg.
Cerddoriaeth a'i serch ati
a'i tynodd i drybini,
drwy fynd i gyngerdd yn ddi-feddwl-drwg
a'i droi am hyn—
a phwy mor syn—
o seiat cariad gyda gwarth a gwg.

Gwŷr dinod y ddau, a phwy a ŵyr am danynt
ond rhai henafgwyr mewn un cwr yn Lleyn
ond eto er hyn, dau anghyffredin oeddynt,
gadawsant gyfoeth mawr i fwy nag un.
Mi gefais ineu gyfran
a barodd hyd hen oedran
mewn serch at flodau'r maes a'r adar mân.
Wrth rodio dôl
daw'r ddau yn ôl
pan glywaf hedydd fry yn cwafrio cân.

Awst, 40.

MYNHADLOG

Wel dyma'r hen dŷ, ie dyma hen Fynhadlog
yn furddyn bylchog, yn malurio'n llwyr,
heb do ac hcb drawst, ac adwy lle bu rhiniog,
ond tristwch edrych trosto, Duw a'i gŵyr.
Mae twll lle bu y pentan,
yr aelwyd lle bu diddan
nosweithiau gynt yn trafod hyn a'r llall,
a John yn boeth
a'i wraig yn ddoeth,
a Rhisiart Roberts yn wrandawr call.

A dyma lle bu Hugh Jones yr Abbey a'i deulu,
sawl gwaith y safodd wrth y drws y nos,
i simio'r gwynt cyn troi i mewn i'w wely,
neu wrando ar sŵn y troellwr yn y rhos.
A pha sawl gwaith wrth forio
y byddai Hugh yn cofio
am gartref clyd wrth droi yn ôl o Sbaen,
a gweld ei hun
yn cyraedd Lleyn
a cherdded adre ar frys o Bortinllaen.

Fan yma yr oedd y ffenest, hen gynefin
John Williams ar ei setl gyda'r nos;
y pentan a'r lamp yn siriol yn y gegin,
a'r gwyll yn haner tywyll ar y rhos.
A John wrth bawb gyferbyn
yn nodi ei bwnc a'i getyn,
wrth roi esboniad byw ar enw lle.
Yr oedd yn llawn
o dân a dawn;
lle swynol iawn oedd hwn i fechgyn tre'!


Prif gyrchfan oedd hwn lle doe genweirwyr gwrachod
ynghyd yn gwmni difyr ar brydnawn;
y tywydd yn braf, a chwa o'r môr yn dyfod
ar hyd y lôn, yn bêr â gwynt mwg mawn.
A'r môr a'i greigiau duon,
ac ochrau hafnau dyfnion
a'u gwymon yn ymsymud 'n ôl a blaen;
a gwylan wen
a'i chri uwchben,
a sgwner draw a'i chwrs am Bortinllaen.

A dyma lle bu y rhes genweiriau gwrachod
yn pwyso ar y bargod gyda'r nos,
a'r cwmni i mewn yn dadwrdd ac yn trafod,
cyn myned adref ar hyd lôn y rhos.
A John a'i holl ystraeon
arswydus am ysbrydion,
nes gyru iasau drwyddom oll â'i ddawn.
Dal ati'n hir,
pob stori'n wir,
'r oedd noswyl gyda John yn noswaith lawn.

Trist gweled yr ardd, a fu mor dwt trwy'r flwyddyn,
mae wedi ei thagu'n llwyr gan chwyn a drain.
Mae eto ar ôl, fel gwylwyr wrth ei therfyn,
y rhes coed eirin; ymffrost John oedd rhain.
A phan ddaw Mai, a disgyn
y blodau o'r coed eirin,
a'u bwrw'n gawod wen o flaen y tŷ;
dros enyd sai'
mân eira Mai
yn adgof gwyn am ŵr a gwraig a fu.


Ar elin y lôn, fe saif am amser eto
ryw olion prudd i ddangos lle bu'r tŷ,
ac wedi fy oes, fe ddaw rhyw holwr heibio
i synfyfyrio am y rhai a fu.
"A dyma'r hen Fynhadlog
fu unwaith mor odidog
gan rai a fu; bu'n anwyl ganddynt hwy."
Ac er eu mwyn
fe erys swyn
hyd gonglau'r murddyn am beth amser mwy.

Ac eto at hyn, ar gwr y rhos fe glywir
sŵn pell ei hadar mewn tawelwch mawr,
y wylan a'r afr, cornchwiglen a gylfinir,
ac adar mân y maesydd gyda'r wawr.
Daw eto bob mis Medi
wrid machlud haul i gochi
ar lethrau grugog hen Garn Fadryn draw,
a hedd di-stŵr
ar dir a dŵr,
heb ddim i dori arno. F'enaid taw!

Gorph., 40.

RHOSYS MYNHADLOG

'O rosys gwynion, yr hen gymdeithion,
o berllan dirion Mynhadlog gynt;
ond hawdd ymddiddan am hen fyd diddan,
a'ch penau yn stwyrian yn y gwynt.

Mae yn Mynhadlog gwmni llon
cei wrando ar John yn sgwrsio,
a Betsan Huw yn hwylio te,
wel dyma le am groeso.

Daw dyddiau mebyd yn ôl mewn munud,
a'ch gweld yn un ffunud ag oeddech gynt,
pan oeddem fechgyn yn byw'n y Felin,
yr hen gynefin henafiaid gynt.

Mae ffwlbard yn y Gors mi wn,
a sôn am hwn, bechadur;
Daw Edward Dafydd yno â rhaw,
i roddi braw i'r creadur.

Pentref y swynion, fy nhad a'i gofion
am hen drigolion, am gŵn a meirch;
y straeon smala am Taid a Neina
straeon o Nefyn hyd Abergeirch.

Gyru'n grand ar geffyl gwyn
o Nefyn i Bwllheli;
pawb yn tynu eu hetiau'n syn,
wel dyma gryn gwrteisi.


Richard y Felin, gŵr anghyffredin,
crefftwr yn frenin ar eriyn a choed;
crefftwr genweiriau, prydydd ar brydiau,
cyfaill i'r llanciau'n oreu erioed.

Mae yn y Felin sgwrs a chân,
lle diddan i brydyddu,
pob copa yno'n byw yn dda
ar fara llaeth a llymru.

Crwydro y traethau, gweld rhyfeddodau,
canlyn y llongau, a'r môr yn las;
gwylan yn harthio, mulfran yn dowcio,
llanciau yn nofio, ymryson ras.

Cwch yn dyfod yn y bau
a'i hwyliau wedi eu rhaifio,
chwalu moryn yn ei flaen
am Bortinllaen mae'n llywio.

Pysgota afon am oriau meithion,
a chael ein digon ar ôl y glaw;
brithyll a lledan o dan y dorlan;
creyr glas yn hedfan ar ôl cael braw.

Y mae brithylliaid, siŵr yw hyn,
yn llechu yn llyn y Felin,
a lledod tywod wrth lan y môr,
a rhagor yn Mhorth Ferin.

Cofio Mynytho a Phlas yn Ngheidio,
Sarn, Denio ac Abersoch;
Cefn Leisiog, Madryn, a Morfa Nefyn,
Bodlondeb, Terfyn a'r Erw Goch.


Yr Erw Goch, lle cynta'n Lleyn
i'r bechgyn dderbyn croeso;
Capten Davies, Jane ei ferch,
pob bendith serch iw cofio.

Cors Geirch a Mathan, Ceidio, Boduan,
Nefyn, Bryn Cynan, Pen Cilan serth;
Cae Glas, Botwnog, Gors Wyllt, Tudweilio
Borthwen, Llanbedrog, Lleyn yn ei nerth.

Tan goed Boduan rhodio wnaf,
tan haul yr haf mae'n hyfryd;
liw nos nid wn am oerach lle,
nag unlle mor fwganllyd.

Cerdded a chrwydro hyd odre Mynytho,
a syth oddiyno am Fynydd Rhiw;
ymlaen ar ein hunion hyd tai Aberdaron
a'r cloddiau yn wychion o dan bob lliw.

Er noethed Beudy Bigyn llwm,
a'r gwynt yn drwm ar brydiau,
os pell y ffordd i Fynydd Rhiw
caem gwmni lliw y cloddiau.

Gwrando ar straeon hen forwyr rhadlon,
am beth a welson' tu draw i'r môr,
China a Burma a Chalifornia,
Sourabaya a Singapore.

Rhaffau wedi rhewi'n gorn,
a gwynt yr Horn yn erbyn,
golwg garw ar y lan;
mae clydach man yn Nefyn.


A gwrando beunydd ar forwyr glenydd,
gwŷr dihafal ar deitiau'n siŵr;
a'u sgwrs am ddrycin ar draethell erwin,
a'u hen gynefin, y graig dan ddŵr.

Gwylia lle bo moryn gwyn,
a chofia hyn o rimyn;
er diogeled Portinllaen,
na fentra dros Faen y Bridyn.

Dau gwch ar gychwyn o'r wig yn Nefyn,
a'r ddau yn canlyn cwch ar y blaen,
Cychod dan beintio, a sŵn saernio,
rhwydau i'w trwsio yn Mhortinllaen.

Capteiniaid crand, pob un mewn plas
yn byw yn fras yn Nefyn,
mae tai pysgotwyr Portinllaen
a'r dŵr ar daen o danyn.

Bechgyn yn lansio cwch ac yn rhwyfo
at long oedd yno, ' Eliza Jane,'
cael bara caled am hyn o arbed;
Capten iw weled yn hen ŵr clên.

Yn Mhortinllaen mae'r môr yn las,
a Henblas dan ei donau,
a'r berllan hefyd lle yr oedd
mil filoedd o afalau.

Cofio a chofio am fyd a aeth heibio,
fel tarth yn cilio o flaen y gwynt;
wedi mynd heibio, fel llong yn cilio,
prudd ydyw cofio am ddyddiau gynt.


Clawdd yn Lleyn uwch ben y môr,
a'r porphor bychan arno;
hwn mor bêr, pob chwa a dýn
y gwenyn tuag ato.

O rosys gwynion, yr hen gymdeithion,
o'r llanciau tirion, mae tri wedi mynd,
heb neb a'i chwedlau am hen hen ddyddiau,
ond chwi a mineu, am frodyr gynt.

Hydref, 51

CYWYDD I LEYN

Draw acw ar bob drycin,
gaeafaidd neu hafaidd hin,
boed niwlog, boed yn heulwen,
boed lliw dydd, boed lleuad wen,
boed llyfn ddŵr, boed arw'r don,
gwyliaf tra curo'r galon,
Can's dyna'r fan mae arfor
Lleyn yn ymestyn i'r môr.

Penparce, Chwef. 1900.

YN HARBWR SKYW

Dacw Skyw ar ddiwrnod marchnad,
Daniaid prysur, pawb yn siarad,
mynd yn ddigon pell o'u dwndwr,
troi am lonydd tua'r harbwr,
lle cawn ddernyn o hen fyd,
y llongau hwyliau eto o hyd.

Dacw'r tai a'u toiau cochion,
yn yr heulwen rhwng coed gleision;
dacw'r cei lle mae dwy sgwner,
yn dadlwytho pethau lawer.
Cwch yn cychwyn at long draw,
a'i bowspryd atom; chwim y daw.

Sŵn y rhwyfau yn y towliau,
dau yn tynu nerth eu breichiau;
un yn llywio yn ben campwr,
tri bachgenyn, tri rêl llongwr.
Ar ba neges nid wn i,
ond gwn mai pwysig oedd y tri.

Tri yn troi yn ôl i'r harbwr;
pwy ni fynai fod yn llongwr?
Yn y man fe ddaeth rhyw adgof^
mi glywn ias yn cerdded drosof.
Clywswn ias fel hyn o'r blaen
ers talwm iawn yn Mhortinllaen.

Gorph., 42.

CERDD Y LLONGWR

Hwylio i'r môr o Bortinllaen,
a'r bowspryd cadarn o fy mlaen,
a gwylio'r jib a'r staysail llawn,
a'r mainsail mawr yn tynu'n iawn.
Llyw ataf, llong yn mynd ar ras
a rhwygo dros y moryn glas,
yn claddu ei thrwyn mewn mynwes ton,
a lluchio moryn dros fy mron.
Yr ymchwydd araf dan fy nhraed,
a chrefft y llongwr yn fy ngwaed,
peth braf pryd hyny oedd cael byw
a bod yn llongwr wrth y llyw.

Ar fachlud haul, a'r haul yn goch,
aroglau coffi a chig moch,
a gwynt yn gynes dros y tir,
a'r seren gyntaf cyn bo hir.
Rhoi goleu coch a goleu gwyrdd;
ymhen ychydig sêr yn fỳrdd,
a'r lloer yn codi'n felen fawr
i ddangos tir hyd tan y wawr.
Ymddiddan a chydymaith da
yn hapus iawn ar nos o ha',
heb fod dan fawd creadur byw,
ond bod yn frenin ar y llyw.

Hydref, 42.

EDRYCH TUAG ADREF

A glywch chwi'r gair, mae'r llong ar hwylio,
a nineu'n mynd adre':
O olwg tir y byddwn heno.
O hogiau mor deg edrych tuag adre'.

Ni fydd dim tir mewn 'chydig oriau, a nineu &c.
Ni fydd ond môr a sêr a hwyliau.O hogiau, &c.

Chwi adar gwynion sy'n ein danfon,
a glywsoch chwi am Sir Gaernarfon?

O wlad yr haul, mae Cymru'n fechan,
ond daw briallu 'nghoed Boduan.

Mae blodau Gwlad yr Haul yn wychion,
ond boddlon wyf ar fysedd cochion.

O wlad yr haul, mae'n dirion yma,
ond gwell fy nghartre dan yr eira.

Wrth nesu at yr Horn daw'n oerach,
ond daw fy nghalon yn gynesach.

Chwef., 39.


EDRYCH YN ÔL

Gwynt dros y tir,
a nofio i ganlyn trai tua'r cefnfor draw,
'r ôl diwrnod hir
o wynt newidiog, ac o haul a glaw;
a chwrs y llong at fachlud haul yn awr,
a chlywed ymchwydd hir y cefnfor mawr.

Ar hyd y daith,
mor araf heibio penrhyn, craig a maen,
a gwylio'n faith
y penrhyn nesa'n codi'n bell ymlaen.
Troi' i mewn am gyntun byr, a deffro'n syn,
a'r penrhyn draw o'n holau erbyn hyn.

Wrth ganlyn trai,
gweld drumiau'n ôl na fu i mi mo'u gwell.
Ni fedrwn lai
na chraffu'n serchog arnynt o hir bell;
a'r hen gopâu, cyn mynd i'r nos yn llwyr,
yn gwrido tan belydrau haul yr hwyr.

Gorph., 42.


YN HARBWR SAN FRANCISCO

Hen leuad wen, uwch ben y byd,
a ddoist ti o hyd i Gymro
a aeth yn bell o'i wlad ei hun,
o Leyn i San Francisco.
Mor dda dy gwmni hyd y môr,
ac wrth ein hangor heno,
fel hen Gymraes uwch ben y dŵr,
yn harbwr San Francisco.

Y mae fel goleu dydd ar lan
a phob man yn disgleirio,
a thaflu gwreichion hyd y dŵr
yn harbwr San Francisco.
Ond medraf weld dy oleu gwyn,
wrth imi syn fyfyrio,
ar Bortirillaen, a'i bau a'i glan,
o bellder San Francisco.

Mae sŵn y strydoedd ar y clyw,
a'r dref yn fyw ac effro,
a sŵn rhialtwch mawr y lan
dros harbwr San Francisco.
Ond tawel iawn yw glenydd Lleyn;
ar ben fy hun 'rwy'n gwrando
am stwyrian pell 'r hen olwyn ddŵr,
o harbwr San Francisco.

Yfory byddi uwch ben Lleyn
yn gweld pob un a'm caro,
a gweld y tai mewn gwlad sydd well,
yn bell o San Francisco.
Cei fynd yn dawel ar dy hynt;
ni all dim gwynt dy rwystro;
ond stormydd geirwon sydd o mlaen
i Bortinllaen o Frisco.


CARN FADRYN

Dacw Carn Fadryn yn gefngrwm ei drum,
gwylfa dros diroedd gwyrddleision rhwng deufor;
yma bu tylwyth dihanes mewn grym,
gwylwyr fu'n craffu ar dir ac ar gefnfor.

Pegwn gwlad Lleyn, nod iw weled yn hir
cyn doe'r pysgotwr i olwg y glenydd;
draw fel rhyw ynys yn bell o bob tir;
ynys bell unig ar gamog môr 'Werydd.

Ie, fel hyn gwelai forwyr y Garn
yn yr hen oesoedd wrth droi Pen Caergybi,
ac o'r De hefyd wrth ochel y Sarn:
felly y byddai i Hugh Jones yr Abbey.

Prin yr ymwelwyr o'r godre i'r Garn,
bechgyn i weled y trimor ar brydiau;
gwŷr ysgolheigaidd i ddwedyd eu barn
am bwy a gododd y cytiau a'r caerau.

Amlach ymwelwyr glawogydd a gwynt,
niwloedd digynwrf yn gaddug disyfyd;
wedi troi haf unwaith eto ar hynt,
heulwen i wrido ar lethrau wrth fachlud.

Sêr yn y glasddu, cymdeithion uwch ben,
pell a dilafar, i'r gaer yn gwreichioni;
pan fyddo'r lleuad yn llawn ac yn wen,
amlwg pob murddyn yn wyn a du tani.


Caer anghyfanedd, anghysbell iawn fry,
mae ganddi gwmni ar diroedd y gwaelod;
pentwr o feini hen bobloedd a fu;
hen dai cyfanedd yn troi yn furddynod:

dynion yn dyfod a dynion yn mynd,
cofion yn aros a pheidio am byth wedyn;
ambell un eto i gofio fel cynt,
cyn mynd i gwmni diyngan Carn Fadryn.

Rhag., 40.

Y LÔN GOED

Prif ffordd urddasol, rhwng pileri ffawydd
a rhwng hen gyffion derw, hen Lôn Goed,
a'r cangau'n cau ar las yr awyr lonydd,
a gwyrddni i gyd yn esmwyth dan dy droed.
Rhyw gangell werdd lle nad oes goddef llais
na chablwr na therfysgwr na charn Sais.

Ffordd las ddidramwy, eto a'i fforddolion,
y llwynog a'r pry llwyd 'mherfeddion nos;
liw dydd cwningod yw ei phererinion,
ac adâr man, ac adar coed a rhos,
yn mynd a dyfod yn hamddenol iawn,
heb frys, yn ôl hen arfer gwlad y mawn.

Dryw bach aflonydd, gwibiog fel llygoden.
yn gweu yn môn y gwrych drwy'r drysni glas,
sŵn penill talcen slip llinosen felen,
dau nodyn siriol Titw Tomos Las.
Ac ysguthanod ar frig ucha'r coed
yn hel hen chwedlau'n daer fel ag erioed.

Ffordd fawr urddasol, i ba le y daw
pererin wrth ei chanlyn ar ei hyd?
Nid tref binaglog weli di ben draw,
cerbydau'n gyru, a holl fawredd byd,
ond tref sydd well, a mynd yn wysg dy drwyn,
tref eang wych comchwiglod gwlad y brwyn.

Gorph., 42.

YNYS DYFNALLT

Rhyw haner nos ar haner haf
ar dyddyn corsiog
ar noswaith oleu tywydd braf
dros erwau brwynog.

Gwrid machlud wedi cilio'n llwyr
oddiar ffurfafen,
ac ymgrynhoi cysgodion hwyr.
mewn gwrych a choeden.

Y lliwiau gwelwon yn y llwyn
yn treiddio'r cysgod,
a'r blodau rhwng y tociau brwyn,
hawdd eu hadnabod.

Fel gwawr, a goleu pell y sêr
mor wan iw weled.
Gwynt melus y tegeirian pêr
drwy'r drws agored.

Gylfinau hirion yn un haid
uwchben yn gwibio,
a dal i lefain yn ddibaid
wrth droelli heibio.

Ac ysgyfarnog wrth y tŷ—
(gŵyr lle i mochel)
yn pori blewyn glas yn hy
mewn lle mor dawel.


Cornchwiglod wedi tewi a'u cwyn
a mynd i gysgu;
gylfinau hirion yn y brwyn
yn rhywle'n llechu.

Wel f'enaid, dyma iti daw
hyd lecyn corsiog;
dim sŵn ond bref oen bach bell draw
ar ôl ei famog

Gorph., 42.

PEN Y CEFN
At J.G.T.

O na chawn fynd i Ben y Cefn
a'r enwair lefn i rodio,
lle mae'r brithylliaid mwya' 'rioed
o dan y coed yn cydio.

Lle mae mwsog am y brwyn
a lle bydd cwyn yr adar;
lle bydd gafr y gors a'i bref
a'r frân a'i llef aflafar.

Lle bydd cornchwiglen gopog frith
o blith y grug yn gwibio,
a gylfinir fraith ar frys
uwchben y llus yn lleisio.

Lle bydd ehedydd mynydd mân
yn cwafrio cân yn llafar;
mwyalchen, bronfraith yn y coed
lle bu erioed yr adar.

Lle bydd mân leisiau'r ffrwd yn bêr
ar haner haf Mehefin,
ac yn cordio'n fwyn ag iaith
yr asgell fraith a Robin.

A phwy yw hwn ar dywydd trwm
i fyny'r cwm yn camu;
heibio'r eithin, drwy y drain,
a'i enwair fain i fyny.

Gŵr a gefnodd ar y dref
i wrando ar lef gylfinir;
gŵyr y claf am sŵn ei gar
yn nesu at y gwaendir.

Awst, 36

NILIG

Mynydd a drumiau anial; wybren, grug
brwyn a gro a phoethwal:
Na sŵn dim ond firwd sy'n dal
yn oes oesoedd i sisial.

Rhyw dincian mân am enyd, yn groyw
dros y graean rhydlyd;
canu'n fwyn, ac yna'n fud
yn y siglen fwsoglyd.

Gyru wedyn dros gareg, i diwnio
dani yn ddiosteg;
fel corn bychan ar waneg,
corn esmwyth y Tylwyth Teg.

Gorn yma, cyrn draw, cyrn lawer heno-
yn ymuno'n seinber;
yn ymdoni'n salm dyner;
myrddiwn a'u sŵn at y sêr.

Ac yn awr y genweiriwr, a'i gi draw
gyda'r hwyr wrth grychddwr;
rhyw rith llwyd o freuddwydiwr
ara'deg wrth odre dŵr.

Nosi y rhawg, sêr agos ar wybren
yn ebrwydd ymddangos;
ar ddaear heb hir aros,
goleuni ffenestri'r nos.

A phelled rhwng dau dŷ gwledig didrwst
hyd odre drum unig.
Beudy fry, to'r byd a'i frig
dyna weiid yn Nilig.

Medi, 1922.

NOS IAU YN Y SEIAD

Gyda phrydydd ar ddydd Iau yn ei gar
yn gyru i'r Bylchau,
mynwn fy mod, a manau
hen ein serch draw yn nesau.

A bryn a dyffryn a dôl yn dywyll
yn dawel ryfeddol;
a'u llun, a rhyw ias grasol
heddyw'n wir a ddaw yn ôl.

Ac yn y càr y siarad, a'r englyn
o sydyn osodiad,
neu rimyn hurt, er mwynhad,
"Pum gronyn mewn pomgranad."

Y nos awn o Lansanan yn hwyr iawn,
ond rhaid cael sefyllian
a lliw'r lloer, yn bell o'r llan,
ar y dŵr yn Rhyd'r'arian.


RHYD Y BEDD
i'r Meddyg J. G. Thomas.

RHODIO bûm wrth Ryd y Bedd,
Gwaun unig ag un anedd;
Gwlad y brwyn, gwlad ebyr yw,
A gwlad y mwsogl ydyw:
Gerddi ar fro, lle mae'r llus,
A'r grug, a'r ffrwd fel gwregys:
Erwau gwynion plu'r gweunydd,
A'r lle y ceir trilliw cudd.
Eglyn melyn y moelydd
Yma drwy'r haf uchaf fydd.
Llysiau Grist rhwng y llus crwn,
A'u nythle ar glwt noethlwm.
Gerddi llydain gwyrdd llwydwedd,
Ar do byd sy'n Rhyd y Bedd.
Gynefin y gylfinir,
A'i dai yn y grug a'i dir;
Hen eglwys y gornchwiglen,
A hed o bwll am dy ben;
Treftad gafr gors a'i gorsedd,
A'i byd bach yw Rhyd y Bedd.
Er bod ar glybod is glan
Twrw byd yn trybedian;
Acenau draw o'r ceunant
A sain hir o risiau nant,
A seiniau dwfn sŵn y dẃr
Hyd weundir fry yn dwndwr;
Y mae'r Rhyd yn Mharadwys
Ddedwydd y distawrwydd dwys;
Yn fud i gyd, oni fydd
Hyd y waun sŵn adenydd,


Neu sŵn chwerthin gylfinir
Fflachwyn yn disgyn ar dir.
Rhodio buom wrth rydau,
Ar awel dawel, ni'n dau,
A gweld pysgod yn codi
Gerllaw rhiw, a lliw'n y lli;
Lliw mawn yn y pyllau mân;
Lliw aur yn lle lliw arian;
Lliw gwineu drwy'r holl geunant;
Lliw gwyll yn y pyllau gant;
Lliw nos yn nghorbwll y nant,
Lloches y pysg lle llechant.
Chwa o'r de yn crychu'r dŵr
Yn oreu i enweiriwr;
A'r anial a'i chyfrinach,
A'r awr aur, a'r awyr iach;
O am enwair a mynydd
A rhodio dŵr'r hyd y dydd.

Chwef., 34.


WEDI MYND
dros G.P.W., Llanon, Awst, 1918

Mi af liw nos i ben y bryn
a hyn a fynaf heno,
gwylio goleu Tudwal draw
a distaw synfyfyrio.

Treiddio dyfnder caddug nos
ac aros enyd bychan;
gweled blaen rhyw lewyrch gwyn,
ac wedyn seren gyfan.

Fflachio, cilio, fflachio'n ôl
ar ganol t'wllwch hirfaith;
rhifo curiad calon ffôl
nes daw yn ôl yr eilwaith.

Awyr, môr a thir yn un
a drumiau Lleyn mewn caddug;
nid aeth erioed dy lewyrch gwyn
er hyn ar siwrnai seithug.

Enlli, Rhiw, mi wn eu man,
Pen Cilan mawr ei gilwg;
Madryn, Camguwch, Rhos gerllaw
yn rhywle draw o'r golwg.

Er dued ydyw'r noson brudd
mae genyf ffydd yr awrhon
fy mod yn gweld rhyw wawr ar dir
â golwg clir y galon.


Gau dy lygad, oleu gwyn,
rwy'n credu'n syn y gwelaf
ryw oleu gwan ar gwr y Rhos,
fel petai agos ataf.

Lle daw dwyffordd bell ynghyd,
mae goleu hyfryd tirion;
goleu ffenestr Prysgol yw;
gwn wrth ei liw yn burion.

Taw di wynt, taw dithau don,
i'r galon brudd gael gwrando;
fe glyw hono yn y man
ryw hen ymddiddan eto.

Yn d'ôl, oleuni, dithau wynt,
dos ar dy hynt ar d'union:
trom yw'r noswaith ar y rhiw,
ond trymach yw fy nghalon.

Mawrth, 21.


TAIR LLONG
G.P.W.

Tair llong wrth y cei dan awyr Mai,
ddydd ar ôl dydd a'i lanw a'i drai,
a'r gwynt yn halio i'r gogledd glir,
cymylau gwynion a heulwen hir.
Felly erioed y bu'r hin yn Mai.

A'r gwynt ar wyneb yr hafn yn lân,
a gyru yn rhesi y tonau mân,
i fflachio heulwen yn ôl fel erioed
a llepian wrth ochrau y llongau coed.
Felly erioed y gwnae tonau mân.

Dwy long yn newydd, yn lân heb graith,
yn llwytho yn dalsyth at y daith,
a'r llall wedi hwylio moroedd byd,
ac olion tywydd oedd ar ei hyd.
Felly erioed y gwnae'r cefnfor maith.

Dwy long newydd ar gychwyn taith,
a'r llanw fel prif-ffordd eang faith,
a gollwng rhaffau a gosod hwyl,
a diwrnod mawr oedd, a diwrnod gŵyl.
Felly erioed y bu dechreu taith.


A'r llong fu gyda hwynt yn y doc
yn canlyn draw ar eu holau toc.
Aeth dwy i'r gogledd ac un i'r de—
a ddoe'r tair eto ynghyd i'r un lle?
Felly erioed wedi mynd o'r doc.

Tair llong yn hwylio dan awyr braf;
ni pharai drycin yn hir yr haf;
a dwy wrth 'r un cei rhyw ambell dro,
a'r tair un adeg, bendigaid go'.
Felly erioed y bu llongau'r haf.

Pan ddaeth yr hydref a chwerwach gwynt,
yr oedd tair llong yn bell ar eu hynt,
a dwy yn siarad rhyw ambell dro,
a'r llall i'r niwl na fydd chwa lle bo.
Felly erioed y doe niwl heb wynt.

Dwy long ar fôr wedi hwylio'n hir,
fel breuddwyd unnos drwy drwm a chlir,
a thrist oedd helynt a chwrs y llall;
mae môr dan niwl yn lle distaw dall.
Felly erioed y bu niwl wrth dir.

Ion., 35.

MARCH Y MIERI

Mae'r llwch yn drwch ar y drain
marw mae'r blodau mirain,
marw mae March y Mieri,
edwi'n awr mae mlodyn i,
a gorphwys ef bwys ei ben
eiddilaf ar y ddeilen.
Rhydd a gwyn, yr oedd gwaneg
echdoe a doe'n lledu'n deg,
heddyw mae'r blodau eiddil
gwae fi sôn am feirwon fil,
a blodau oedd heb ledu
yn awr ar y llawr yn llu.
Mor frau, 'chydig oriau gynt,
rhyfeddod yr haf oeddynt;
echdoe a doe, heddyw a'i des
a heno yw eu hanes.
Anian mae dy deganau
tlysaf, hyfiytaf mor frau.
Mynych ben ar lawenydd
dynion er eu sôn y sydd.
Wylo'r ym, mor aml eu rhif
a dagrau'n mhen pob digrif.

Aberystwyth. Awst, 1899.


FY MRAWD, A GLYWI?
ar Shenandoah.

Fy mrawd, a glywi'r hogiau'n canu
—a nineu'n mynd adre'
cyn rowndio'r Horn yn ôl i Gymru?
—O hogiau mor deg edrych tuag adre'

A weli Harbwr San Francisco, (a nineu &c)
a'r Golden Gate o'th flaen di eto?

A glywi'r hogiau gylch y capstan,
a Rio Grand, a'r powls yn clician?

A wyt ti gyda'r hogiau'n canu?
A weli'r iard yn mynd i fyny?

A weli hwyl ar hwyl yn lledu,
a'r llong o danat yn cyflymu?

Fy mrawd dan gudd, a fedri weled
drwy'r Golden Gate, y môr agored?

Tach., 42.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
George Maitland Lloyd Davies
ar Wicipedia

YR HEDDYCHWR

Felly y safai'n hir ar Fynydd Rhiw,
i weld y teitiau'n troelli wrth fynd heibio,
a gweld yr awyr las yn newid lliw
wrth nesu at fachlud haul a dechreu gwrido.

A'r gwrid yn troi yn fflamgoch yn yr hwyr,
ac uwchben haul yn lliwio rhes cymylau,
a'u troi yn fryniau pell tan ledrith llwyr,
a llynoedd gleision tawel wrth eu traethau.

Y gwrid yn dyner ar ben Mynydd Rhiw,
yn rhimyn coch ar ysgwydd Mynydd Enlli,
a'r hen fynachlog dawel dan y lliw,
a'r holl ogoniant yn gwefreiddio drwyddi.

Tangnefedd llwyr, taw ar helyntion byd,
a hen fynachod yn ail fyw yn dawel;
yn ddau a dau, ac yn ymswyno'n fud
wrth glywed galw seinber Cloch yr Angel. (Angelus)

Aros nes gweld goleuni yn y tai,
a phared Mynydd Enlli yn tywyllu;
gwrid ochr draw, heb lewych, oni bai
goleuni fflachiog llachar y goleudy.

Troi at y dwyrain, gweld copâu ar dân,
tai gwynion dan liw gwin y cymun hefyd,
a hwnw'n bwrw hud yr Ysbryd Glân
ar werin Lleyn, a dyna wyrth yr Ysbryd.

Cadwodd ar Fynydd Rhiw ar hyd ei oes,
a gwelai werin Lleyn ar hyd y gwledydd.
Aeth a'r tangnefedd drwy aml Fwlch y Groes,
a daeth tangnefedd ato i fyw yn grefydd.

Medi, 50.

AR ÔL DARLLEN HEN LYTHYRAU TEULUOL

Eneidiau anwyl wedi mynd i gyd,
O wedi mynd ers llawer blwyddyn bellach,
a dyma chwi yn ôl, ac yn eich gwrid
i rodio daear eto yn ifengach,
yn hardd gariadus, unwaith eto i fyw,
yn lle bod oll yn feirwon gyda Duw.

Fy nhad yn llanc ffraeth rhadlon, aml ei ddawn,
Mam yn ferch ifanc brydferth ac osgeiddig,
fy modryb Mary'n ffraeth ac anwyl iawn,
fy ewythr Thomas, diddan, hardd, boneddig.
Iuenctid anwyl, onid gwych oedd byw
a gwneyd i ddynion dybio'n dda am Dduw.

Sirioldeb unwaith eto gyda'r hwyr,
y canu llawen yn Nhŷ Coch, Glan Beuno;
y lampau llachar, lletygarwch llwyr,
felly yn Mala Deulyn, Plas yn Ngheidio.
O prydferth oeddych, prydferth iawn oedd byw,
a'r mwyniant llafar, mwyniant wrth fodd Duw.

Eich lleisiau clir, a llais fy mam mor hardd,
clust deneu fel ei thad at hud cerddoriaeth,
hoff ganddoch oll oedd hyn a welai bardd,
ac unfryd oeddych oll mewn diwinyddiaeth;
ond un; yn sicr eich ffydd tra buoch byw.
A gawsoch weled Ef? Ni ŵyr ond Duw.


Eneidiau anwyl, esmwyth oedd eich byd,
meirch a cherbydau'n sgleinio yn yr heulwen,
heb brinder cyfoeth, pawb a'i gartref clyd,
a balchder byd oedd rhyngoch a'r ddaearen.
Eneidiau hoff yn dawel gyda Duw,
gadawsoch ar eich holau Fflat Huw Puw.

Hen ŵr sydd yma, hen, heb oeri o'i serch,
yn gweld ieuenctid glân o'i flaen yn symud,
a gweld ei dad a'i fam yn llanc a merch,
a synfyfyrio uwchben diben bywyd,
heb air iw ddwedyd am ddibenion Duw,
ond dal i synfyfyrio tra bo byw.

1947


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Robert David Rowland (Anthropos)
ar Wicipedia

CERDD Y GŴR DIERTH
er cof am Anthropos

Hwyrddydd yn muarth Penbryn,
tawelwch hyd y lle,
gwychder y machlud yn gwrido
fel bendith ar fyd o'r ne'.

Holl dynerwch mis Medi,
trydar adar y to,
clwcian iar yn yr hofel,
brefu enfawr rhyw lo.

Gŵr dierth yn agor y llidiard,
gŵr tawel tan ganol oed;
gŵr hardd mewn gwisg drwsiadus,
a'r gwyneb harddaf erioed.

Safai ar ganol y buarth,
fel petai yn haner call;
yr oedd Dryw Bach ar un ysgwydd
a Robin Goch ar y llall.

Nesodd y gaseg ato;
safodd yn ddistaw fud;
nid oedd dim o'i ofn o arni,
dim mymryn lleia'n y byd.

Cododd Carlo yn sydyn
a rhedodd at y gŵr,
tan ysgwyd ei gynffon yn llawen;
roedd wedi ei nabod yn siŵr.


Ac ato ar ras aeth Carlo,
tan gampio yn eithaf llon;
cododd i lyfu ei wyneb,
rhoes bawen ar ei fron.

Ni symudodd na'r Dryw na Robin,
ond sbio ar y ci,
a thrydar yn ddigyffro
mân nodau, dau neu dri.

Yr oedd John Penbryn a'r hogyn
yn hogi llafn ar y maen:
Pwy di'r gŵr dierth yna?
A welaist ti hwn o'r blaen?

Mae Jadan fel tae hi'n ei nabod—
peth odiaf a welis i erioed:
Wel, ylwch, ci stowt fel Carlo
yn gorwedd wrth 'i droed.

Mi gwelis i o'r blaen yn rhywle,
dawn i'n medru cofio yn mhle;
y mae o'n rêl gŵr bonheddig,
a'r golwg ffeindia tan ne.

Pnawn da i chwi gyfaill, dowch trwodd—
Pnawn da, ebra'r gŵr wrth John;
A ga i gysgu'n y daflod?
Cewch wely'n y tŷ, ebra John,

Aeth gyda John i'r gegin,
ac amo roedd golwg flin;
eisteddodd ar fainc y simdde;
neidiodd y gath ar ei lin.


Daeth Marged i'w groesawu,
a meddai hi yn syn—
Mi'ch gwelais o'r blaen yn rhywle—
Ai tybed yn y fan hyn?

Nid ydw i ond dyn cyffredin,
yn teithio ar hyd y wlad.
Bum yma o'r blaen ers talwm
ar neges oddiwrth fy nhad.

Wel, fel mae'r cof yn pallu—
wyt ti'n i gofio fo John?
Dw i fel tawn i yn i gofio
ryw bryd yn Nghapel y Fron.

Na hidiwch am hyny, gyfaill,
pob croeso i chwi ar eich hynt,
ond rhoswch ron bach imi holi
i ba gapel y byddwch yn mynd?

Mi fyddwn yn mynd ers talwm
i gapel bach y Garn
i glywed y gwres o nghwmpas
wrth wrando ar Jones Talsarn.

Ni ofynodd neb ei enw—
yr oedd y ddau fel petae
y gŵr dierth yn hen hen gyfaill,
ac anwyl oedd gan y ddau.

Ar swper yr oedd ymddiddan
yn hapus wrth wres y tân;
roedd John a'r hogyn a Marged
wedi gwirioni yn lân.


Ie, wedi gwirioni:
meddai John wrth y gwas, meddai fo—
Deith dy feistres y rhawg i'w gwely,
a storïwr fel hwn dan y to.

Geiriau, perlau doethineb,
na fu y fath sgwrs o'r blaen;
geiriau a byd o dangnefedd,
a phob ymadrodd mor blaen.

Aeth pawb i'w wely yn dawel;
cododd John am bump o'r gloch;
roedd ganddo fân orchwylion
rhwng defaid a lloiau a moch.

Gurodd yn nrws y gŵr dierth
unwaith, dwywaith, a thair:
Gyfaill, mae'n amser codi!
Ni atebodd neb un gair.

Agorodd y drws yn ddistaw,
gwelai y gwely o'i flaen—
neb wedi cysgu ynddo,
roedd hyny i'w weld yn blaen.

Chwilio drwy'r tŷ am dano:
I ble roedd y gŵr wedi mynd?
Roedd wedi diflanu yn sydyn—
wedi mynd i galyn y gwynt.

Syndod i John a Marged,
dirgelwch mwya'n y byd—
I ble'r aeth y creadur anwyl,
a'r ddau yn fawr eu byd.


Rhyfedd, meddai John, mi glywais
rywbryd yn yr oriau mân,
fronfraith ar goeden y buarth
yn bwrw ei enaid mewn cân.

Canu yn y tywyllwch,
dirgelwch mwya a fu—
tybed a welodd y fronfraith
y cyfaill yn mynd o'r tŷ?

A chofio am dano fo eto,
a chofio tra buon nhw byw;
os na cheid ei weled eilwaith,
daeth adgof atyn i fyw.
*****

Pregeth nos Sul mewn crandrwydd,
pregethwr yn B.A., B.D.,
huawdledd ysgubol a chanu,
roedd crefydd yn wir yn ei bri.

Yr organ ar ôl y bregeth,
a'r gynulleidfa fawr
yn canu yn orfoleddus
'Ymgrymed pawb i lawr.'

Roedd yr organ newydd ddistewi,
pawb wedi mynd yn awr
ond gŵr y tŷ capel yn diffodd
lamp ar ôl lamp yn y llawr.


Clywai ef draw o'r cysgodion
ochenaid a'i llond o wae,
Pwy yn y byd sydd yna?
Hai, gyfaill, mae'n amser cau.

Cafodd ef gip ar wynepryd
ac ynddo holl dristwch y byd—
Arglwydd, meddai hwn, pwy sy 'na
a gofid yn llond ei bryd.

Aeth y gwyneb trist iw galon—
Dowch acw am baned o de—
ond erbyn mynd ato a chraffu,
nid oedd dyn byw yn y lle.

Safodd yn syn yn ei unfan,
amheuodd ei lygaid ei hun;
Do, mi gwelis o am llygaid:
I ble yn y byd aeth y dyn?

Cafodd ysgytiad garw,
aeth iasau drwy ei holl gnawd,
ac yna yn syth i'r gegin
i ddweyd am y creadur tlawd.

Dywedodd yr hanes wrth Mari,
a hono yn gwrando yn syn:
Ni chlywodd erioed yn ei bywyd
ddim byd yn debyg i hyn.
*****


Roedd Gwynn ac Arithropos yn rhodio
yn araf ar hyd y lôn,
ac yn codi hen adgofion
ac am hwn a'r llall yn sôn.

Gwyrodd Anthropos i godi
pry genwair o ganol y lôn,
a'i osod yn ofalus
mewn glaswellt ar glawdd y lôn.

Mae lle rhy beryg iti yma,
mae saffach lle yn y clawdd;
cei hyd i ryw dwll mewn munud,
mae hyny yn ddigon hawdd.

A meddai Anthropos wrth sythu,
eith hwn i dwll yn syth;
ond rargian, 'dw i wedi drysu
cynlluniau'r creadur am byth.

O'u blaenau roedd gŵr yn cerdded
yn hamddenol iawn heb frys,
a mwyalchen ar un ysgwydd,
a Robin ar flaen ei fys.

Rhyfeddodd Gwynn ac Anthropos—
o ble yn y byd ddaeth hwn?
Troes y gŵr a gwên at Anthropos:
Wel, Anthropos, adweini di hwn?

Safodd Anthropos mewn syndod,
ni fedrai symud troed—
Pwy yn y byd sydd yma
â'r wên anwylaf erioed?


Mynai Anthropos fynd ato,
ond nid oedd neb yno ond Gwynn,
ni fedrai weld y gŵr dierth:
safodd Anthropos yn syn.

Wel, rhyfedd, meddai Anthropos,
ac ynte yno mor blaen—
a chyn sicred a mod i yma,
mi welis i hwn o'r blaen.

Do, wedi'i weld o droion,
ond yn mhle, ys gwn i, yn mhle?
Mhle gwelis i'r wên anwyl
fel heulwen o eigion ne'.

Aeth Gwynn ac Anthropos i chwilio—
Lle'r oedd y gŵr wedi mynd?
ond methu yn eu byw, a methu—
roedd wedi ymdoddi i'r gwynt.

Ion., 53.

"Bu hefyd rai heb fod coffa amdanynt, y rhai y darfu

amdanynt fel pe na buasent."

HEN FORWR

Hen forwr dinod yn y fynwent wledig,
fan hyn tan gudd, yn bell o sŵn y byd,
pwy wyr am dano? A oes rhywun debyg
o'i gofio yn yr ardal hon o hyd?

Ac eto bu yn grefftwr gyda'r gwyntoedd,
a gosod hwyliau, trin ei long ar fôr,
'all royals set,' i hwylio i borthladdoedd
Periw a Chile a San Salvadôr.

Fe ganodd hwn wrth yru'r iardiau i fyny,
a chodi angor yn y porthladd pell,
a'i enaid ifanc yn dyheu am Gymru;
ni wyddai hwn erioed am wlad oedd well.

Fe rowndiodd hwn yr Horn drwy stormydd gaea'
cynefin oedd â niwloedd Labrador,
a mochel gwres dan balmwydd Sourabaya,
a cherdded strydoedd poethion Singapore.

Fe garodd drwst y dociau mawr a'u trefydd,
Bwmbau a Frisco, Antwerp a Hong Kong;
ond dyma ef mewn llecyn digon llonydd,
yn forwr dinod, diddim heb ei long.

1943-

WILLIAM JONES

Wel, William Jones, ai tybed fod rhyw gymaint
o gof am danat heddyw yn y byd?
Ond eto y mae prentis gynt mewn henaint
a'i gofion oll yn gynes iawn o hyd.

Yn ôl barn byd, nid oedd dy swydd yn uchel,
pen gwas mewn warws, braidd o olwg byd,
ond brenin difalch oeddit er yn isel,
i brentis ifanc swil ar drothwy byd.

Yn frenin ar dy warws, ac yn siriol,
a chadair wag bob awr i Gymro glân;
o hil cefn gwlad hen ffasiwn ac yn dadol,
yn barod iawn am sgwrs o flaen y tân.

Felly y bu, a mineu'n llanc o brentis
dan feistriaid cyfiawn, pell iawn fel y lloer,
yn dianc ar bob cyfle gawn o'r offis
i'r warws i gael dadmer f'enaid oer.

Ystotyn barfgoch, praff, yn llawn cwrteisi,
mor anwyl oedd dy wyneb crwn a'th lais.
'R oedd dy Gymraeg yn twymno'r galon drwyddi,
yr oedd yn hafan haf rhag oerni Sais.

Y cyfoethogion geirwir, cydwybodol,
a gair da iddynt, heb un gair o gas;
hael oeddynt wrth achosion da dyngarol,
ond oer fel lledod oeddynt wrth y gwas.


Yn ddeddfol iawn, yn dda, yn llawn anrhydedd,
yn gyfiawn wrth bob gwas yn ôl eu barn;
ni wybu un o honynt yn y diwedd
nad oedd y deg gorchymyn ddim ond darn.

Pwy oeddynt hwy? Tylodion o ran calon;
cyfrifid eu rhinweddau oll mewn pres;
ceiniogau, sylltau, oll yn ddarnau oerion,
yn rhewi wrth amcanu gwneuthur lles.

Ond ti oedd biau'r galon lân oludog,
a gwariaist hono'n hael o ffrwd oedd lawn,
i dwymno peth ar enaid llanc anwydog.
Ni wybu un o'th feistriaid am y dawn.

Wel, William Jones, hyd atat hyn o eiriau,
a byddi byw yn hwy na pherchen pres.
Anadlaist fywyd i glai oer rhinweddau,
ac heb yn wybod, rhoddaist iddynt wres.

1947

WIL ARDD WEN

Daw haul ar fôr ag adgof mwyn
am ddyddiau hapus pell,
pan oedd bob awr yn fawr eu swyn;
ni fu erioed eu gwell.
Y dyddiau hapus draw yn Lleyn,
os ydynt oll ar ben,
mor fwyn yw cofio ambell un,
a chofio Wil Ardd Wen.

Roedd Wil yn fachgen bach di-nod,
a llongwr ar long goed,
a boddodd ef cyn iddo fod
yn un a'r bymtheg oed.
Addfwynder siriol oedd ei ran,
ni thynodd neb iw ben;
cynesa'r galon yn y man
wrth sôn am Wil Ardd Wen.

Fe ddyblai Wil Ardd Wen y swyn
yn mhob difyrwch iawn,
ymglymai ef a phobpeth mwyn,
a hyny oedd ei ddawn.
Mae awyr las a thywydd braf,
a'r hedydd bach uwchben,
a pheraroglau rhosus haf
yn gof am Wil Ardd Wen.

Rhag., 42.

Y POSTMON

Mae John Roberts wedi marw,
newydd digon chwith i mi,
er nad oedd hyn i'r gymdogaeth
ddim fawr mwy na marw ci.
Nid oedd ef ond postmon gwledig,
nid oedd ef yn ŵr o fri,
ond pwy ato am sirioli
pawb a'i wên a'i "Dene chi."

Cymro mwyn hen ffasiwn ydoedd,
wedi myned yn rhy hen
at y daith o'r dref i Saron;
rhyfedd iddo gadw'i wên.
Chwi a'i gwelech hyd y ffermydd
yn cael croeso gan bob ci;
chwi a'i clywech wrth roi llythyr,
a'i gwrteisi, "Dene chi."

Gyda'r nos a'i Iwyth llythyrau,
cerddai'n ôl bob cam i'r dre,
a lle byddai siawns am lythyr,
rhoddai chwiban dros y lle.
Carai'r adar wrando arno,
a rhyw ddrudwen ddigon hy'
yn dynwared yr hen bostmon
nes ein twyllo ar frys o'r tŷ.


Trampio'n ôl trwy Iwch Gorphenaf
dros ei ddeg a thriugain oed,
crwm ei 'sgwyddau a blinedig,
ac yn drymaidd ar ei droed;
a rhyw arwydd yn ei lygaid
na ddoe fawr eto atom ni,
ond mor siriol yr ymsythai
i ddywedyd " Dene chi."

Rhed y meddwl draw at ddiwrnod
casglu holl eneidiau byd,
pan ddaw Gabriel heibio'n sydyn
gyda'i gorn iw galw 'nghyd.
Try'r hen bostmon glust feirniadol
at gydgrefftwr mwy ei fri,
tan ddywedyd yn edmygol,
gyda gwên, " Wel dene chi."


ELINOR RHYS

Cof byw genyf, a mineu yn rhyw bedair ar ddeg oed, yn sefyll gyda fy nhad a mam yn mhen drws drawing room, ac Edward Matthews tu mewn, ei law ar ei galon, yn bowio at y merched ifainc. Clywn fy nhad yn sibrwd wrth fy mam, "Isnt he a perfect old courtier." Gwelaf y munud yma Elinor Rees, y gantreg brydferth a fu farw yn ifanc ar drothwy gyrfa ddisglaer—gwelaf hi yn cochi at ei chlustiau pan eisteddodd Edward Matthews wrth ei hymyl, a dechrau ysmalio.——J.G.D. ar Edward Matthews.

Elinor Rhys, o rosyn Mehefin,
O rosyn gwridog heb ledu yn llawn,
gwridaist pan welaist ti Gowrtiwr y Brenin,
hardd ei ymddygiad, bonheddig ei ddawn.

Ynteu yn eistedd wrth d'ymyl yn dirion,
O beth ddaeth drosot ti, rosyn mor goch?
Elinor Rhys, oni churodd dy galon?
Do. Oni fflamiodd dy waed yn dy foch?

Clywais i'r byw dy lais ifanc yn canu,
gantreg yn more godidog ei dawn.
Gwrido am fflachiad, ac yna difianu.
Byr oedd dy fywyd; ni welaist brydnawn.


Hanes amrantiad, o'r dechreu i'r diwedd,
a diwedd yr hanes, am byth ac am byth.
Efe i'r deheu, tydi i'r gogledd,
pob un iw siwme, am byth ac am byth.

Elinor Rhys, yn mhle'r wyt ti heno?
Byw yn fy nghof mae dy lendid o hyd.
Tristwch yw gofyn, pwy sydd yn dy gofio:
Byw wyt mewn chwedl, hen chwedl y byd.

Ebrill, 1953.

MADONNA Y GWEITHIWR
JOSEF HORA.

Tŷ bychan yn lleithder i gyd, a seler dywyll ac afiach,
a gwely ag arno wraig, newydd esgor ar Fab y Dyn.
Ie, arogldarth y pentan myglyd, a sawyr trymaidd y tamaid,
a'r plant yn bentwr ar lawr, ar sachau gwellt yn gorwedd,
yn barod i ganu iti Garol Nadolig o drueni.
Arglwyddes Nef, dy erwinder! mor welw yw dy wynebpryd,
gwythienau yn glasu ar dy figwrn, dy wefus yn farwaidd heb liw.
Ymwadu, a gwrthryfel wedyn i'w gwel'd ar dy ael yn amlwg,
a gwddf, ie gwddf y trueni, wedi traflyncu er ys talm,
wedi cau er ys talm, ar eiriau tynerwch i gyd.
Tri Brenin Gwlen gynt, dyma'r tŷ na fynent mo'i weled;
nid oedd mo'r cyfoeth ganddynt i roi darn iti, Wraig a'th Fab,
oblegid i'r Seren Ddwyfol eu gyru yn bell o'u llwybr.
Aur, eli, a gwenau cariad, eu rhanu yn hael ddigrintach
i'r sawl oedd yn byw yn foethus, yn gynes, yn gorphwys yn esmwyth.
Arianog eu hunain hwy aethant i chwilio ar led am eu tebyg.

Ond Bethlem, Bethlem Judea, y mae hon a'i llond o dlodion,
deillion a chleifion, trueiniaid, dilety, carpiog a throednoeth.
Yma, yn anadlu yn swrth, fe aeth dy lendid oddiarnat,
a'r mebyn bach, y gwyrth hwnw, yn sugno llaeth chwerw dy fronau.
Ond dal di ar hyn, wedi iddo gyraedd ei ddeg a'r hugain,
i'r ddinas yr eiff ag efengyl gwrthryfel ar ei wefusau,
i gyhoeddi mewn ffair a marchnad fod cyfiawnder wedi dyfod,
i arfogi'r lluoedd, cânt ganddo freuddwyd a dur i'w dwylo.
Ni rydd ei hun iw groeshoelio, a'i weddi Gweithred fydd hono.

Ion., 38.

Y CWPAN TSIENI

Mi fyddaf yn yfed te, cwpanaid o de bob bore,
o lestri tsieni teneuon, o gwpan o tsieni main,
a lluniau gleision sydd arni, lluniau Tsineaid bychain.

Pan fyddo yr haul ar y te, a'r te yn perarogli,
mi fyddaf yn gweld y Tsineaid bob un yn dechrau dawnsio,
yn dawnsio ar fesur ieuenctyd, mesur a'i lond o lawenydd,
taro'r cwpan â llwy arian, dan wenu, i gadw amser.

Mi fyddaf yn yfed te, cwpanaid o de bob bore,
a medru gweled yn eglur erddi gweigion Pekin,
Dyma lle mynodd hwnw, y Penaeth Chang-Tso-Lin,
lofruddio yn oer ddidostur, agos i gant o drigolion,
a thrwytho y blodau â gwaed, a thrwytho â gwaed y te.

Slavko Batushic, Croatia.

Tach., 42.


JUDAS ISCARIOT
R. W. Buchanan.

Celain Judas Iscariot
a'r Faes y Gwaed ar ei hyd,
Enaid Judas Iscariot
yn sefyll wrthi yn fud.

Du oedd y nos a'r ddaear,
du oedd y wybren uwchben,
du y cymylau drylliog,
a'r lloer yn goch tucefn.

Celain Judas Iscariot
yn gorwedd ar ei hyd;
Enaid Judas Iscariot
heb obaith yn y byd.

Daear yn anadlu'n dawel,
fel anadl y claf yn wan;
a'r gwlith yn diferu'n rasol
ar lygaid byd yn y man.

Enaid Judas Iscariot
yn ocheneidio'n wan—
" Mi gladdaf fy nghorph dan ddaear
yn ddwfn yn hyn o fan."


Mi a'i claddaf yn ddwfn fel na edrycho
arno un creadur byw,
a phan ddaw'r blaidd a'r gigfran
ni fydd dim corph iddyn nhw.

Oerion y ceryg a chaled,
yn finiog bob un fel cledd;
rhaid chwilio am rywle arall
i fynd a'r corph iw fedd.

Enaid Judas Iscariot
yn llym, yn arw ei drefn,
yn codi corph Judas Iscariot
a mynd ag ef ar ei gefn.

Oer oedd y corph ar ysgwydd,
fel rhew oedd y Gelain wen,
pob dant yn rhuglo a chlecian
fel disiau yn ei ben.

Enaid Judas Iscariot,
oer oedd y corph ar ei gefn,
a llygad y nef fel llusern
yn agor a chau drachefn.

Rhyw haner cerdded a llithro
ymlaen i ganlyn y gwynt,
heb aros—tucefn yr oedd dwylo
yn ei wthio ymlaen yn gynt.

A'r llecyn cyntaf iw gyrraedd
oedd llecyn anial llwm;
'r oedd drain dan draed ac eithin
'r oedd y gwynt yn oer a thrwm.


Y llecyn nesaf i'w gyraedd
oedd merddwr yn ddu ei draeth;
taflodd y Gelain iddo,
ond nofio'n ysgafn a wnaeth.

Codi y Gelain eto
a'r dŵr yn rhewi i'w groen;
mynd nes gweld llecyn ac arno
groesbren ar Fryn y Boen.

Croesbren ar fryn noeth garw,
dwy groesbren gyda hi;
tri chorph yn hongian arnyn,
wedi croeshoelio'r tri.

Ar drawst un groes 'r oedd colomen
yn wen drwy'r noson ddu,
yn cysgu ar y groes ganol
a'i phen o dan ei phlu.

A than y groesbren hono
'r oedd bedd agored heb faen;
tan 'sgrytian aeth Enaid Judas
heibio i'r bedd yn ei flaen.

Pedwerydd lle iddo gyraedd
oedd ceulan Pont y Braw,
a'r cefnllif yn sgubo drwyddi
fel cefnllif coch ar ôl glaw.

Ni feiddiai roi'r Gelain yno
rhag gwynebau'n codi'n y man,
a breichiau'n codi o'r cefnlhf
i'w thaflu yn ôl i'r lan.


Enaid Judas Iscariot
yn troi o Bont y Braw,
a dafnau cochion o'r cefnllif
yn lliwio'r gelain gerllaw.

Dydd a nos yn crwydro,
ar anial noeth a llwm,
pob dydd yn mynd fel y gwyndarth,
pob nos fel glawogydd trwm.

Dyddiau, nosweithiau'n crwydro
drwy Goedwig y Gwae fel hyn,
pob nos fel y gwynt yn ochain,
pob dydd fel yr eira gwyn.

Enaid Judas Iscariot,
mor llwyd yr oedd, mor wan,
yn unig, yn unig, yn unig,
yn unig mewn unig fan.

I'r dwyrain, i'r gorllewin
heb glywed llais un dyn,
misoedd, blynyddoedd mewn galar,
yn crwydro ar ben ei hun.

Misoedd, blynyddoedd mewn galar,
rhedodd ar hyd y nos,
I Enaid Judas Iscariot
daeth goleu draw ar y rhos.

Goleuni draw yn yr anial
yn mynd a dyfod yn wan,
fel pelydrau goleudy yn taflu
ar fôr yn bell o'r lan.


Enaid Judas Iscariot
yn llusgo at y goleu draw,
a'r glaw yn chwipio'n ei erbyn,
a garw oedd llais y glaw.

Dydd a nos yn crwydro,
dwylo'n ei wthio'n gynt,
dyddiau'n mynd heibio fel drycin,
nosweithiau fel tymhestl wynt.

Enaid Judas Iscariot,
gẃr dieithr a rhwyg yn ei fron,
gefn drymedd nos yn sefyll
a neuadd oleu ger bron.

Y rhos dan eira, a'i olion
yn dduon ar ddaear wen,
a rhith lloer arian yn codi
i ddal ei lamp uwch ei ben.

Rhew ar fargod y neuadd,
eira ar fur yn haen,
cysgod gwesteion ar ffenest'
yn symud yn ôl ac ymlaen.

A chysgod y gwesteion
yn ôl ac ymlaen o hyd;
Gelain Judas Iscariot
ar y rhew ar ei hyd.

Celain Judas Iscariot
yn gorwedd ar ei hyd,
Enaid Judas Iscariot
ar frys ac yn arw ei fyd.


Yn ôl ac ymlaen yn frysiog,
yn ôl ac ymlaen o hyd,
fel eirth wrth Begwn y Gogledd
yn aniddig yn anial y byd.

Wrth fwrdd yr oedd y Priodasfab,
goleuni am dano'n wyn—
"Pwy sy' 'na tuallan," meddai—
"yn llusgo ei draed fel hyn?"

Edrychai un o'r gwesteion
drwy'r drws i'r tywyllwch du—
"Blaidd sydd yn troi o gwmpas;
mae ei ôl ar yr eira'n ddu."

A meddai y Priodasfab,
o ben y bwrdd, meddai ef—
"O pwy sy'n ochneidio tuallan,
a galar yn ei lef?"

Trwy'r drws y craffodd gwestai,
a ffyrnig oedd llais hwn—
"Enaid Judas Iscariot
sydd yma'n cyniwair, gwn."

Enaid Judas yn dawel
wrth y drws agored gerllaw,
a gweld y Priodasfab
a goleu yn ei law.

Y Priodasfab yn ei wenwisg,
ymhen y drws, a thudraw
'r oedd Swper yr Arglwydd i'w weled
a goleuni ar bob llaw.


A'i law dros ei lygaid y craff'odd,
a disglaer ei bryd a gwyn,
"Beth fyni di yma ar Swper,
a phechod dy gorph, fel hyn?"

Enaid Judas Iscariot
yn ddu fel y nos dan ei bwn—
"Hir bûm yn crwydro'r anialwch;
nid oes goleuni ond hwn."

A meddai yr holl westeion,
â dig yn llygaid pob un—
"Fflangellwch Enaid Judas
i'r tywyllwch ar ben ei hun."

Y Mab yn mhen drws yn chwifio
ei law i'r chwith ac i'r dde,
a'r trydedd gwaith y chwifiodd
daeth eira yn llond y lle.

Ac o bob pluen eira
cyn iddi ddisgyn ar dir,
daeth colomen wen a daeth miloedd
a'u sŵn yn perseinio'n glir.

Gelain Judas Iscariot
yn symud o'i fan gyda hyn,
adenydd yr holl golomenod
am dano yn amdo gwyn.

Y Mab yn mhen drws yn gwenu—
gwên anwyl—a rhoi amnaid â'i fys—
daeth Enaid Judas Iscariot
yn grwm at ei draed ar frys.


Ar y bwrdd y mae'r Swper S anctaidd,
a'r Priodasfab wrth y gwin—
"Arhosais yn hir am danat
cyn dechreu tywallt y gwin."

A thywallt y gwin o'r diwedd,
a Judas yn y neuadd wen
yn golchi traed y Priodasfab
a'u sychu a gwallt ei ben.

Tach., 50.

I'R LLENOR MAWR

Penaeth 'sgolheigdod, O Lenor y Byd,
meistr ar hyawdledd, cyfrenaist hyfrydwch;
eofn wrth ymladd dros ryddid o hyd,
rhyddid i'r meddwl oleuo tywyllwch.

Diystyr genyt, O Lenor y Byd,
farn a gwybodaeth y bobl gyffredin,
eto anghofiaist yn fyrbwyll o hyd,
gyfrol fawr natur, sydd iti yn gyfrin.

Ni fedraist unwaith erioed yn dy fyw
droi ei dalenau a deall ei hysgrif,
fel rhyw hen forwr ar fôr wrth ei lyw,
gwyliwr y wybren a'i throion aneirif.

Llais y tymhestloedd, ddeallaist ti hwn?
Trwst yr afonydd, beth ddywed hwn wrthyt?
Dacw hen labrwr yn grwm dan ei bwn,
deall ef ieithoedd na fu erioed genyt.

Gefaist ti iasau wrth weld glas yr yd
yn y gweirgloddiau ar haner Mehefin?
Welaist ti'r pabi, O Lenor y Byd,
yn y cae gwenith, fel labrwr cyffredin?

Fuost ti'n eistedd yn ngweithdy y crydd,
ynteu yn sôn am ogoniant yr eithin?
Welaist ti'r prydferth mewn pethau bob dydd,
pethau disylw a mwyaf cyffredin?

Fuost ti'n blentyn, O Lenor y Byd,
wedi gwirioni yn lân ar friallu;
serch at brydferthwch a bery o hyd,
Faint oedd dy ddysg, os gwn i, y pryd hyny?


Oes arnat hiraeth am bethau a fu,
hen bethau anwyl oedd wedi diflanu,
fel yr hen labrwr a'i gofion yn llu?
Ai mwy dy hiraeth? Paham diystyru?

Plant anwybodus ym yma o hyd,
ond medru teimlo i'r byw, os dealli.
Dyma iti'r galon, O Lenor y Byd,
cyffwrdd di â hono mewn unmodd os medri.

Gorph., 42.

I JOHN OWEN WILLIAMS

Trwy lygaid beirdd mi glywn y gwynt a'r glaw,
a lleisiau'r adar, gwelwn liw a llun,
a llawer iawn o bethau gwych heblaw,
pob dernyn yn disgleirio ar ben ei hun,
fel darn o wydr yn y pellder draw
yn fflachio haul yn ôl i lygad dyn,
ac felly'n aros nes i'r hen fyd droi
yn araf, ac i'r haul fynd heibio i'r gwydr,
a'r dernyn a fu gyneu'n wych yn troi
yn rhes o eiriau meirwon yn eu mydr.

Cau'r llyfrau, mynd i rodio cors a rhos
y grug a'r eithin, banadl a brwyn,
a chanlyn afon, canlyn ffrwd a ffos,
a chraffu ar y môr o ben rhyw dwyn.
Troi adref hyd ffordd dawel ryw liw nos,
a gwrando ar lais aderyn rhos a'i gŵyn,
a synfyfyrio am sêr mudion pell,
cael lloches ynddynt rhag ffolineb dyn,
a chlywed yn fy nghalon mai mil gwell
na llyfr yw gweld a theimlo drosof f'hun.

Ond gwell na bod o hyd ar ben iy hun
cael cwmni yn gyfranog, sawl a ŵyr
a wêl, a glyw, a chanddo galon dyn,
a glyw y fendith drwyddo'n treiddio'n llwyr;
bod gyda llongwr tua glenydd Lleyn
neu weithiwr yn genweirio yn yr hwyr.
A'r galon lawn yn tywallt dros ymylon,
troi'n ôl at Aakjaer, Gwynn, Bob Parry eto,
a'r un ias drwyddom, ie yr un galon,
daw haul yn ôl ar wydr gloew i fflachio.


Wel wir, J. O. fe gawsoch chwi a minau
ddiddanwch lawer gyda phethau plaen,
heb ddim yn athronyddol i'n meddyliau
dim byd ond hen dai gwynion Portinllaen;
dim byd ond llais gylfinhir yn ei erwau,
neu fwsog gwyrdd ar wal, neu gen ar faen.
Pa ddysg sydd raid at garu grym tawelwch,
ar nos o haf, a machlud haul ar dân,
neu at ymdroi ar lan y môr mewn heddwch,—
neu wrando yn astud ar yr adar mân.
Gorph., 42.


I MORGAN HUMPHREYS

Cloch gylfinir, crawc y frân
a'r glaw yn fân ar fynydd;
un gornchwiglen araf deg
yn hedeg dros mawnogydd;
a phwy sydd yn myfyrio draw
ond Morgan Humphreys yn y glaw.

Rhodio'r cei ar las y dydd
yn ddigon prudd dan gofio,
Dyma'r lle bu'r llongau gynt
yn disgwyl gwynt i hwylio.
A phwy sydd ar y cei'n ymdroi
ond Morgan Humphreys—Ship ahoy!

Cerbydau'r dref yn arllwys llwyth
o dylwyth y pleserau;
boddi sŵn y wylan wen,
rhoi pen ar fyfyrdodau.
Ni fydd neb yno yn ymdroi;
bydd Morgan Humphreys wedi ffoi.

Meh., 36.

RHOS Y GAREG
(i Jennie Thomas)

Da fydd cychwyn ar y daith
er bod yn faith y siwme,
ond can gwell lle bynag bych
fydd edrych tuag adre.
Oddimewn, fel llaw mewn maneg,
A oes gaer fel Rhos y Gareg?

Wedi gorphen gwaith y dydd,
troi'n ddedwydd tuag adre,
dal yn union at y cwrs
heb droi am sgwrs yn unlle.
Yn hytrach llywio yn ddiatreg
ar frys i gyraedd Rhos y Gareg.

Pan fydd teithio pellder draw,
a'r gwynt a'r glaw yn curo
fel ifyn ar ffenest flaen y car
yn llafar ac yn llifo,
pryd hyny trof yn ôl am osteg,
ar ras i gyraedd Rhos y Gareg.

Gyru, gyru, gyru'r nos,
a gyru i Ros y Gareg,
adre, adre, adre'n chwim
heb chwenych dim ychwaneg
yn y byd na bod bob adeg
yn siŵr o gyraedd Rhos y Gareg.


Yno ceir o gylch y tân
ymddiddan am y goreu,
neu oferedd gylch y bwrdd
a dadwrdd fel hen deidiau.
Mewn direidi daw ar redeg
segurwyr byd i Ros y Gareg.


RHOS Y GAREG.

Pan ddaw glesni yn y llwyn
a gwanwyn cyn pen gaeaf,
clywi yn Rhos y Gareg gân
yr adar mân o'r mwynaf.

Jack y Nico, Asgell Fraith,
a Bronfraith a Mwyalchen,
Robin, Dryw a Llwyd y Gwrych,
mewn hwyl yn wych ar heulwen.

Ac yn siŵr bydd canu mawr
pan gwyd y wawr drwy'r goedwig;
Bronfraith, Mwyalch fore glas
yn canu bas yn bwysig.

Pan ddaw diwedd tymor cân
a'r adar mân heb nodyn,
clywi Robin tua'r drain
yn lleisio'n fain ar fonyn.

Wedi i'r adar dewi a'u cân,
a'r winllan yn o rynllyd,
tynu'r gadair at y tân
i wrando ar Sian dros enyd.

Mae parlwr newydd Sian i fod
yn barod i bererin,
i gael gwrando ar ddadwrdd llon
yn ffrydio'n anghyffredin.


Lle y cawn ymgolli'n llwyr
pan ddêl yr hwyr a'i gyfrin;
gweld yr haul tu draw i'r môr
yn lliwio'r holl orllewin.

Yma'n wir y mynwn fyw,
ie, uwchben unrhyw anrheg;
pob diddanwch gyda'r nos
a geir yn Rhos y Gareg.

Rhag., 39.

MWYALCHEN YN MIS IONAWR

Pwy biau'r llais pybyr llon
a dery fry mor dirion?
Pwy yw cerddor y bore
sy'n dwyn i'n seiniau Duw Ne'?
Y mae'r dydd, y cethlydd cu
yn rhy gynar i ganu.

Mwyalchen bigfelen fi,
Dywed pa raid i'm dewi.
Rwyf yn ceisio cofio cân
y llynedd a'm holl anian.
Mae'n dyfod fesul nodyn,
daw hi yn ôl gyda hyn.

Fwyalchen bigfelen fach,
mae y gwynt yn ymgeintach,
mae'r barug yma'r bore,
a niwl oer, mae'n anial le.
Adrodd y modd y meiddi
lawenhau tra wylwn ni.

Ddyn glân paham na chanaf
emyn, gyda hyn daw haf.
Gyneu yn wir y ganwyd
ar foreuddydd llonydd llwyd,
ddeilen gyntaf eleni,
gwyn fy myd pan ganfiim hi.
I'r baban gwan hwiangerdd
am haf, mi ganaf yn gerdd.

Aros! Daw gwynt y dwyrain
anrhugarog miniog main;
gedy o'i ôl farwolaeth
lle delo sïo ei saeth,
ac fe wân er dy ganu
dy ddillyn, aderyn du.
Bibydd beiddgar llafar llon,
gwylia na thyr dy galon.

Na sôn am helbulon byd
am obaith y cân mebyd;
nid am wynt ond hynt yr haf
a geni'r dail datganaf.
Os du'r wybren dros enyd,
mi ganaf am haf o hyd.

O mor hir y mae'r aros,—
lle mae'r haf? Mor llom yw'r rhos.
Llom yw'r ardd—lle mae'r irddail?
Dyfydd haf a dydd y dail
Ond pan deui di yn d'ôl
i'r ynys gyda'r wenol,
buaned dy fỳnediad,
ac adfail dail, gẃyr Duw Dad.

Pa angen dwyn dy benyd?
ai gauaf dy haf o hyd?
Gwychach fai sôn am gychwyn
yr haf yn y gaeaf gwyn.
Daw eilwaith gyda'i olud;
canaf ac ni fyddaf fud.

Am obaith y mae maboed
yn canu cainc yn y coed.

Llanbadarn, Ion. 1901.


DYGWYL DEWI

Holl enweirwyr mawr a mân,
cenwch gân yn llafar,
fore Dygwyl Dewi Sant,
dros holl blant y ddaear.
Nid oes odid un o fil
heddyw o hil Adda
nad yw'n wên i gyd ar awr
dygwyl mawr pysgota.

Byddai Dewi'n wan ei fyd
adeg ympryd Grawys,
ac ymgosbai rhag ei drwyn
oll er mwyn Paradwys
Byddai'n deffro yn y nos
agos a llewygu,
wedi gweled drwy ei hun
fochyn wedi'i fachu.

Ond gwrandawyd ar ei lef
gan y nef yn dirion;
gyrwyd ugain brithyll brych
ato'n sych o'r afon.
Padell ffrio ar y tân
yn rhoi cân y cinio,
a'r brithylliaid yn un rhes
ar y tes yn tisio.


Yna meddai Dewi Sant
Bwytwn gant o honyn,
ac nid pechod yn y byd
ympryd mor amheuthun.
Awn i'r nant â phryf a bach,
ac yn iach i newyn;
odid fawr na chawn i blwc
ac wrth lwc bysgodyn.

Ar ôl glaw ni oedai fyth
godi'n syth o'i gadair;
gwelid ef yn mynd i'w daith
ganwaith gyda genwair.
A'r angylion oll o'i blaid
nid oedd raid ymguddio;
nid oedd brithyll yn y dŵr
nad oedd siŵr o hono.

Iawn coffau'r hen Ddewi Sant
draw wrth nant y mynydd,
gyda'r dorlan, gyda'r brwyn,
dan y llwyn mewn llonydd;
ac wrth fynd drwy'r grug a'r llus
hapus fydd y canu,
yn nhawelwch mawr y rhos
gyda'r nos yn nesu.

Chwef., 37.

CERDD Y GENWEIRIWR

Diwmod o haf yn Mai,
a'r awyr yn lachar las.
Oerni y gwanwyn ar drai,
a'r brisyn yn dda ei flas.
A pheraroglau cynes yr eithin;
sŵn y ffrwd dros gafn y felin;
Diwrnod o haf yn mis Mai,
a'r awyr yn lachar las.

Diwrnod o Fai a'r ffyrdd
yn frith dan y blodau mân;
haul yn tywynu yn wyrdd
drwy'r ddeilen newydd lân.
Gwafrio ehedydd, goslef mwyalchen,
chwiban bronfraith ar frig coeden.
Diwrnod o haf yn mis Mai
a'r awyr yn lachar las.

Diwrnod o Fai ar faen,
y dibyn uwchben y llyn
haul ar yr enwair, a'i blaen
yn hepian dan wynt y bryn.
Ghwa ar y llyn a lliw yn ei ddyfnder;
gwynt yr eithin draw yn dyner.
Diwrnod o haf yn mis Mai
a'r awyr yn lachar las.


CLOCHYDD MAI.

Gog yn canu'n bell o'r tai,
acw, acw, acw, rywle;
clochydd ydwyt i fis Mai,
acw, acw, acw, rywle.
Pawb a'th glyw o glochdy dail,
acw, acw, acw, rywle
Dwy gloch arian bob yn ail.
acw, acw, acw, rywle.

Clochydd Mai lle'r wyt ti'n byw,
acw, acw, acw, rywle;
pell ac agos wyt i'r clyw,
acw, acw, acw, rywle.
gwyr y sgwarnog lle'r wyt ti,
acw, acw, acw, rywle
gwyr y dryw, ond nid wn i.
acw, acw, acw, rywle.

Galw'r adar i roi cân,
acw, acw, acw, rywle.
galw'r blodau, mawr a mân;
acw, acw, acw, rywle.
galw'r plant i gyd o'u tai
acw, acw, acw, rywle.
i roi croeso i fis Mai.
acw, acw, acw, rywle.

Mai, 30.


YR YNYS DDEDWYDD

Mi a'i i'r Ynys Ddedwydd
yn llongwr ar long fawr,
lle bydd mwncwn ar benau'r palmwydd
yn lluchio y cnau i lawr.

Lle bydd adar yn las a sgarlad
yn rhesi ar gangau'r coed,
a Poli Parod yn siarad
yn ffrindiau mwya' erioed.

Lle na fydd y dail yn gwywo
ond para o hyd yn wyrdd,
ac eirin gwlanog yn rhuddo
yn filoedd ar ochrau ffyrdd.

A lle bydd y bobl dduon
yn canu o hyd o hyd,
ac yn ffrindiau mawr â phlant gwynion,,
y bobol ffeindia'n y byd.

A lle nad oes ysgol na symiau
na sôn am genhadwr a'i flwch;
dim byd ond dysgu cylymau
a sgwlio yn starn y cwch.


Mae bywyd yn bur flinderog
a throion chwithig o hyd,
ond O, y mae gwlad ardderchog
draw, draw yn mhen pella'r byd.

Mi a'i i'r Ynys Ddedwydd
yn llongwr ar long fawr,
lle bydd mwncwn ar benau'r palmwydd
yn lluchio y cnau i lawr.
Ion., 50.


CYWYDD MIS MEHEFIN.

Y mis byr distaw llawen,
mis pan fydd beunydd uwchben
groywaur rwysg yr huan
yn ei deyrnas loywlas lân.
Adeg pan fydd gosteg ar
lef y ddrycin aflafar,
pan fydd llonydd y llynau
a llais y gwynt yn llesgau.
Y dŵr llesg tu draw i'r llain,
godre môr fel gwydr mirain,
yn sibrwd dan las wybren
a lliwio fel bo uwchben.
Cyfnod y dail a'r blodau,
adeg coed i ymdecau,
a deffro tŵf y dyffryn
gan haf, wedi'r gaeaf gwyn.
Mae'r afallen mewn gwenwisg,
a blodyn gwyn yw ei gwisg,
blodyn gwyn a deryn du
uwch ei ben yn chwibianu.
Tryfrithir y gwyrdd-dir gan
y blodau wyneblydan;
coch, gwyn a melyn yn myd
y gwair a'r ddeiliog weryd.
Mae'r ddôl yn urddol werddir
a'i hafrad dẃf, hyfryd hir;
trwy dyfiant hir daw afon
yn agen las ganol hon.
O'i gafell grin fe gyfyd
gloyn byw glewa'n y byd,
a'i aden fraith ysblenydd
yn sidan ar dân liw dydd.

Mae'r adar yn mro hudol
dirion deg llwyn drain a dôl,
a phob llais min dichlais dydd
yn ymuno'n y manwydd.
O'r cangau clywir cyngerdd
dyri a chân, chwiban a cherdd,
a diasbad caniad cog
yn y mynydd mewn mawnog.

Mae gloynod ar y blodau, adar
yn hudol eu lleisiau,
a llewych ar y lliwiau;
a all neb ond llawenhau?

Aberystwyth, 1899.


COEDWIG HYDREF

Yn agoshau mae'r gaeaf,
a gorphen mae heulwen haf,
gwywo mae cnwd y gwiail
a derfydd dydd rhwysg y dail.

Y dail fu gyneu'n delaid,
yn madru'n llu yn y llaid;
awel braf haf fu'n amlhau
y dail hyn yn delynau.

Aeth gwylan wen o'r glenydd
draw i'r wlad ar doriad dydd,
ond er gwened hardded yw,
cenhades drycin ydyw.

Gyr drycin y gwynt miniog
i chwalu'r tai garai'r gog,
a phob cangen felen fydd
yn sturmant i'r ystormydd.

Llanbadarn, Hydref, 1900.


ENGLYNION.
LLYTHYRAU MORGAN DAVIES.

Dyma ei lun ei hunan,—yr oedd ei ddig
drwy'i frawddegau'n clecian.
Yr oedd enaid tanbaid dan
rym ergyd geiriau Morgan.

Eto i gyd, tan pwt o gân,—yn newid
yn gwmnîwr diddan,
direidus, llawn o drydan
drwy'r mwg, hyd yr oriau mân.



Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
David Robert Daniel
ar Wicipedia

DAVID R. DANIEL.

Gŵr mwyn, didderbyn wyneb—oedd Dafydd;
Deifiol yn ei ateb.
Ffrwyth enaid ei ffraethineb;
Ni fu ato, naddo, neb.

A Sarah hithau'n siriol,—wrth ei bodd
Wrth y bwrdd cynhesol.
Gresyn na cheid, Dduw grasol,
Heddyw'n wir y ddau yn ôl.


LLEYN.

Heulwen ar hyd y glenydd—a haul hwyr
a'i liw ar y mynydd;
Felly Lleyn ar derfyn dydd,—
Lle i enaid gael llonydd.


RHEW.

Distaw yw'r rhew didostur,—a rhewi
Er awyr las eglur.
Mae dŵr rhedeg yn segur,
A gwellt dôl fel gwieill dur.


MÔR ARDUDWY.

Mi gerddaf drwy y tywod llwm
a'i fod yn drwm i'w dramwy,
mi gaf glywed môr a'i hwrdd
yn dadwrdd wrth Ardudwy.

Gweld ar fyr oddiar rhyw grib
o tanom wib y tonau,
a'r holl gefnfor llydan llwyd
fel breuddwyd hen amserau.

Ond wrth graffu ar odre Lleyn
ac wedyn i'r gorllewin,
nid oes long i'w gweld ar fôr
yn nofio'r hen gynefin.

Lle mae llongau'r Borth fu gynt
yn rhes dan wynt y gogledd?
Prif ogoniant wedi bod
a darfod yn y diwedd.

Mae y gwyntoedd megys cynt
ac aml wynt yn hyrddio
y dŵr ar naid yn daran hir
yn erbyn tir yn taro.

Gwynt yn chwalu brig y don,
ac ar ei union wedyn
i wargamu fel erioed
holl frigau coed y dyffryn.

Mae haul a gwynt ar fôr o hyd,
a bod y byd yn newid,
ond lle mae llongau'r Borth ar gael—
a gafael y mae gofid.

Ion., 40.

TEG OEDD YR AWEL

Teg oedd yr awel a glas oedd y môr
a gwych oedd bod wrth y llyw,
a sŵn y dŵr wrth ei chwalu mlaen
yn esmwyth ar y clyw;
a'r holl hwyliau yn llawn
ac yn tynu yn iawn,
er ys talwm ar Fflat Huw Puw.

Sidan ei hwyliau, a gwynach na gwyn,
hi gerddai fel rhywbeth byw;
a chlychau arian oedd am ei mast,
ac aur oedd am ei llyw;
Nid wn i pwy saer coed
fedrai lunio erioed
long mor berffaith â Fflat Huw Puw.

Pan ddaw yr awr imi wrando ar sŵn
y moroedd ar draethell Duw,
a'r niwl yn cerdded i mewn o'r môr
nes cuddio tir y byw;
ni ddymunwn yn wir
ond cael gadael y tir
am ryw nefoedd ar Fflat Huw Puw.

1925

YR AWDUR.[2]

Ganed J. Glyn Davies yn 1870, yn Lerpwl, a chafodd ei addysg yn y 'Liverpool Institute.' Yn 16 oed, prentisiwyd ef yng nghwmni 'Rathbone Bros.','ac yn 1892 aeth oddi yno fel rheolwr ar gwmni llongau 'Thos. Williams & Co.' hyd 1895. Yr unig lecynnau disglaer iddo yn ystod y cyfnod hwn oedd cael mynd a dod i'r llongau ar fusnes y cwmni, a chael ymddiddan yn rhydd â'r morwyr. Gyda hyn, a thrwy wrando ar hanesion ei frawd, Capt. Frank Davies, y sugnodd yn ddwfn o ramant y môr, ac y medrodd ymhellach ysgrifennu am bethau'r môr fel un a wyddai trwy brofiad amdanynt.

I Glyn Davies, carchar oedd offis, a byw mewn tref; nefoedd oedd cael dianc i Leyn ar ei wyliau, a throi ymysg hen longwyr o Gymry yno. Dyma'r amser y dechreuodd fynychu dosbarthiadau Celtaidd Dr. Kuno Meyer, a dechrau meithrin brwdfrydedd at lenyddiaeth Gymraeg.

Yn 1896, aeth i New Zealand fel ysgrifennydd i'r 'Mines Corporation of New Zealand,' a dychwelyd adref am ysbaid ymhen dwy flynedd, gan alw heibio rhai o'i deulu a oedd yn Cambria, Wisconsin.

Wedi iddo gyrraedd y wlad hon, fe'i perswadiwyd gan ei gyfaill, Tom Ellis, A.S., ac eraill i beidio a dychwelyd i New Zealand, ond yn hytrach i aros yng Nghymru er mwyn sefydlu llyfrgell Gymraeg yng Ngholeg Aberystwyth, yn sylfaen i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. A dyma a wnaeth, ac yn Aberystwyth y bu am yn agos i ddeng mlynedd, lle cafodd gyfle a hamdden i ymgydnabyddu ymhellach â llenyddiaeth yr iaith Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd.

Yn 1907 gwahoddwyd ef i Brifysgol Lerpwl fel darlithydd cynorthwyol i'r Dr. Kuno Meyer yn yr Adran Geltaidd. Ar ymadawiad Dr. Meyer, penodwyd Glyn Davies yn bennaeth yr adran, ac yno y bu hyd ei ymddeoliad yn 1936. Bu droeon 'ym Mhrifysgolion y Cyfandir yn darlithio ar bynciau a materion Celtaidd.

Yna, symudodd i Gaergrawnt, lle y bu, o 1937-1941, yn dyheu, fwy neu lai, am ddychwelyd i Gymru. Yn 1941 daeth i Sir Fôn at ei frawd, Mr. Stanley Davies; yna i Lanarth, Sir Aberteifi, ac oddi yno drachefn i Lanfairfechan, lle y bu farw yn 1953.

Fel ysgolor Celtaidd, tebyg yw fod ei waith yn fwy adnabyddus i Brifysgolion y Cyfandir nag i rai Cymru. Wrth gwrs, y mae'n fwy adnabyddus yng Nghymru, hyd yn hyn, fel awdur 'Fflat Huw Puw' a 'Cherddi Portinllaen,' i blant ysgolion Cymru, fel ag y mae Lewis Carroll, y mathemategwr, gyda'i 'Alice in Wonderland.'



Siaced Llwch


Nodiadau

[golygu]
  1. Nodyn ar flaen y siaced llwch. Dim yn ymddangos rhwng cloriau'r llyfr
  2. Nodyn ar gefn y siaced llwch. Dim yn ymddangos rhwng cloriau'r llyfr

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.