Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun)/Cerddoriaeth draddodiadol a'r telynorion
| ← Rhagair | Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun) gan Idris Lewis |
Yr arloeswyr → |
PENNOD I
CERDDORIAETH DRADDODIADOL A'R TELYNORION
Y MAE hanes cynnar cerddoriaeth yng Nghymru mor niwlog ac annelwig nes ei bod yn amhosibl dywedyd i sicrwydd pa bryd y daeth ein halawon traddodiadol i fod. Yn wir, y mae'n amheus iawn a yw rhai o'r alawon yn ddilys, ac er honni bod llawer ohonynt yn aruthr hen, gan gynnwys y gân boblogaidd "Nos Calan," eto i gyd ni chafwyd hyd yma braw bod y ceinciau'n wirioneddol hen. Yn ei erthygl ar Gerddoriaeth Gymreig yng Ngeiriadur Grove, dywaid Frank Kitson, "Y mae'n resyn mawr na allwn olrhain, fesul cam, ddatblygiad yr Alawon Cymreig, fel y gallwn gyda cherddoriaeth yn Lloegr, drwy gyfrwng llyfrau print a llawysgrifau." Ond ceir tystiolaeth bod rhyw fath o ddiwylliant cerddorol i'w gael yng Nghymru, ganrifoedd yn ôl. Y mae'n drueni na ddaeth dim enghreifftiau ohono i lawr i ni y gellid eu cymharu â chynhyrchion gwledydd gwâr eraill yn yr un cyfnod. Dywaid Syr J. E. Lloyd, yntau, yn ei Lyfr Golwg ar Hanes Cymru (a gyfieithwyd gan y Dr. R. T. Jenkins), "Ni throsglwyddwyd hen gerddoriaeth yr Oesau Canol inni gyda'r un gofal na'r un anwyldeb â'i barddoniaeth. Felly, nid corff o 'weithiau cerddorol' ydyw ein hetifeddiaeth yn hyn o beth, ond rhyw hoffter greddfol o ganu, a chryn nifer o alawon gwerin syml-ond dirfawr eu hamrywiaeth a'u cyfoeth."
Er na thraddodwyd i ni ddim cerddoriaeth o waith cyfan- soddwyr Cymreig cynnar, yr ydym wedi etifeddu cyfoeth o alawon cenedlaethol a chanu gwerin y buasai unrhyw wlad yn falch ohonynt. Trosglwyddwyd yr etifeddiaeth yma inni trwy ysbrydiaeth a diwydrwydd yr hen delynorion Cymreig, y cawn sylwi arnynt yn y man. Eithr yn gyntaf, ystyriwn rai o nodweddion ein canu cenedlaethol.
Cynnyrch y bobl yw cerddoriaeth werin Cymru, fel pob gwlad arall. Ond y mae canu gwerin Cymru'n wahanol i ganu gwerin gwledydd eraill. Y mae iddo ei nodweddion arbennig ef ei hun. Crewyd y canu hwn am ei fod yn mynegi hoen a phoen y bobl gyffredin, wrth iddynt fynd a dod yn eu gwaith beunyddiol. Weithiau dathlwyd dyddiau nodedig yn eu bywydau trwy ganu caneuon fel "Y Dydd Cyntaf o Awst," "Calan Mai," neu "Calan Gaeaf." Cawn lawer o wybodaeth ddiddorol a defnyddiol ynglŷn â bywyd pob dydd ein cyndadau, wrth astudio'r hen gerddi gwerin. Dywaid Romain Rolland, yr ysgrifennwr a'r beirniad Ffrengig enwog, "Y ffordd orau i ddarganfod nodweddion cerddorol unrhyw genedl yw astudio ei chanu gwerin." Credaf y byddai'r gosodiad hwn yr un mor wir am ein gwlad ni hyd yn oed pe baem yn hepgor y gair "cerddorol." Mynega llawer o'r alawon ysbryd rhyfelgar ac annibynnol yr Hen Gymry, dengys rhai ohonynt yr hiraeth sydd gynhenid ynom, eraill arabedd addfwyn, cynhesrwydd calon, ac agosatrwydd cenedl groesawus.
Gwelir oddi wrth ansawdd rhai o'r alawon eu bod ers oesoedd maith yn alawon a ganwyd ar y tannau. Cychwynnodd llawer o'r alawon hyn gyda'r hen delynorion. Er mai cyfyng braidd yw cwmpas yr alawon pan gymherir hwynt ag alawon gorau cenhedloedd eraill, eto i gyd y maent yn syml eu ffurf, ac yn aml yn mynegi teimladau dwys. A'u cymryd at ei gilydd, y maent yn etifeddiaeth deg. Fe ymddengys mai'r telynorion a gadwodd gerddoriaeth Gymreig yn fyw yn yr hen amser. Yr oedd y dynion hyn, a oedd yn aml yn feirdd yn ogystal â cherddorion, weithiau'n llunio geiriau i'r hen alawon, a chlywir rhythmau geiriol nodweddiadol Gymreig mewn rhai ohonynt. Ambell dro byddai'r telynorion yn crwydro'r wlad i ddifyrru hen ac ieuanc, cyfoethog a thlawd. Galwent yn fynych yn nhai'r uchelwyr a chael croeso a nawdd ganddynt. Yr oedd gan ambell un o'r uchelwyr cyfoethog, megis Syr Watcyn Williams Wynn o Wynnstay, ei delynor ei hun. Canai'r telynorion hefyd mewn marchnad a ffair, a derbynnid hwy'n llawen ymhobman. Prin bod dim o'u caneuon wedi eu hysgrifennu. Mewn gwirionedd yr oedd llawer o'r telynorion yn ddall. Bron na ellir dywedyd bod dallineb yn gymhwyster ar gyfer canu'r delyn. Yng Ngogledd Cymru'n bennaf y ffynnent, a rhagorent mewn canu penillion a medru llunio amrywiadau ar alawon poblogaidd.
Yn y ddeunawfed ganrif y dechreuwyd casglu a chyhoeddi alawon Cymreig. Daeth pob un o'r tri thelynor a ymgymerodd â'r gwaith hwn, yn enwog, yn ei dro, yn Llundain. Y mae'n ffaith ddiddorol bod yr holl gasgliadau cynnar hyn wedi eu cyhoeddi y tu allan i Gymru. Dyma enwau'r tri thelynorJohn Parry, o Riwabon (Parri Ddall); Edward Jones (Bardd y Brenin) a John Parry (Bardd Alaw).
JOHN PARRY (Parri Ddall). Telynor Syr Watcyn Williams Wynn o Wynnstay oedd ef. Teithiodd John Parry ymhell. Clywn ei hanes yn cynnal cyngherddau yn Nulyn (1736), a Llundain (1746). Dywedir i Handel ei glywed yn canu'r delyn yn Llundain, a'i longyfarch ar ei fedr. Bu yng Nghaergrawnt, a chanodd y delyn i'r bardd Seisnig Gray, a hynny a'i hysbrydolodd ef i ysgrifennu "The Bard." Mewn llythyr at un o'i gyfeillion, disgrifia Gray'r amgylchiad fel hyn, "Mr. Parry has been here, and scratched out such ravishing blind harmony, such tunes of a thousand years old, enough to choke you." Yn ôl ei gyfoeswyr, yr oedd Parry'n delynor medrus. Adnabyddid ef fel "the celebrated blind harper." Trwyddo ef yr ail-ddechreuwyd defnyddio'r Delyn Deires Gymreig, a oedd wedi colli ei phoblogrwydd yn gyson, nes i athrylith Parry ail-gynnau diddordeb ynddi. Cyhoeddodd Parry ei Antient British Music of the Cambro-Britons yn 1742. Dyma'r casgliad cyntaf o alawon Cymreig a gyhoeddwyd erioed. Dilynwyd hwn gan gasgliad cyffelyb yn 1781 o dan y teitl Cambrian Harmony. Gwnaeth Parry waith gwerthfawr trwy gasglu a golygu'r alawon hyn, a gwnaeth hwy'n boblogaidd drwy ei ganu. Bu farw Parry yn Rhiwabon yn 1782.
EDWARD JONES (Bardd y Brenin) a ddaeth ar ôl Parri Ddall. Ganed ef yn Henblas, ffermdy yn Llandderfel, Sir Feirionnydd, yn 1752. Daeth o deulu cerddgar, a'i dad a'i dysgodd i ganu'r delyn pan oedd yn blentyn. Yn 1775, symudodd i Lundain a daeth yn enwog yno oherwydd ei fedr i ganu'r delyn. Ond daliodd Edward Jones i garu alawon ei wlad, ac yn 1784 cyhoeddodd gasgliad o'r rhain o dan y teitl Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards. Ymddangosodd cyfrol arall yn 1802, sef The Bardic Museum, a gadawyd trydedd gyfrol heb ei chyhoeddi pan fu farw yn 1824. Yr oedd gan Edward Jones ddiddordeb arall heblaw alawon Cymru. Bu'n ddiwyd trwy'i oes yn casglu llyfrau prin ac anghyffredin, a gwerthwyd ei lyfrgell ar ôl iddo farw, am fil o bunnau, pris da yr adeg honno. Er na bu erioed yn fardd i'r brenin, ymddengys ei fod yn gymeradwy yn y llys, oherwydd penodwyd ef yn delynor i Dywysog Cymru yn 1783, a bu ganddo swydd hefyd yn yr Office of the Robes ym Mhlas St. James. Gwnaeth waith gwerthfawr drwy ymchwilio i hanes alawon Cymru, a chyhoeddi llawer ohonynt. Bu'r Relicks a'r Bardic Museum yn gymorth mawr i'r rhai a fu'n gweithio ar ei ôl yn yr un maes.
Y telynor enwog arall a wasnaethodd gerddoriaeth Gymreig yn nechrau'r ganrif ddiwethaf oedd JOHN PARRY (Bardd Alaw). Ganed ef yn Ninbych yn 1776. Cafodd yrfa anturiaethus. Bu yn ei dro yn aelod o fand y Militia, yn arweinydd iddo, yn athro clarinet, yn canu'r fflageolet, ac yn gyfansoddwr, ymysg amryw o bethau eraill. Yn 1807, symudodd i Lundain, a chymaint oedd ei lwyddiant yno, nes iddo'n fuan iawn ysgrifennu caneuon ac unawdau ar gyfer Gerddi Vauxhall. Yn ddiweddarach penodwyd ef yn Gyfarwyddwr Cerdd i'r cyngherddau adnabyddus hyn, a bu yno am amryw o flynyddoedd. Yn nyddiau ei ieuenctid yn Ninbych yr oedd wedi cyhoeddi dau gasgliad o alawon Cymreig i military band, a chasgliad arall (a gyflwynwyd i Syr Watcyn Williams Wynn), i ffliwt, sielo a thelyn. Ar ôl ymsefydlu yn Llundain, cyhoeddodd gyfrol arall o alawon Cymreig, ac ef ei hun, y mae'n debyg, a ysgrifennodd y geiriau Saesneg ar eu cyfer. Rhoes Cymdeithas y Gwyneddigion fedal aur iddo am y gwaith hwn. Y mae'r llythyr hwn o eiddo Parry yn egluro pa fath ddyn, a pha fath gerddor ydoedd: "Pan ddeuthum í Lundain, yr oedd gennyf bob peth i'w ddysgu ymron; felly ymroddais i astudio gyda'r amcan o droi fy ngwaith allan o'm dwylaw heb lawer o wallau amlwg ynddo. Nid wyf byth yn awr yn ceisio ehedeg uwchlaw fy ngallu, oherwydd yr wyf yn gwybod yn dda fod nifer o gerddorion yn rhodfeydd y gelfyddyd yn llawer mwy abl na mi i gynhyrchu cyfansoddiadau dysgedig. Yr wyf yn deall natur pob offeryn a ddefnyddir yn y gerddorfa; yr wyf yn ysgorio gyda rhwyddineb anghyffredin, a hyderaf yn weddol gywir. Yr wyf yn gwneud fy eithaf i fyned yn heddychol drwy'r byd mewn cyfeillgarwch â'm holl frodyr, yn ymyrraeth a neb, a gobeithiwyf, ddim yn dwyn ewyllys ddrwg ag un dyn."
Dyma brif weithiau Parry—Welsh Melodies yn dair cyfrol, y gyntaf yn 1822 gyda geiriau Saesneg gan Mrs. Hemans; yr ail yn 1823, gyda geiriau Saesneg o waith amryw awduron ; a'r drydedd yn 1829. Cyhoeddwyd ei gasgliad adnabyddus The Welsh Harper yn ddwy gyfrol (1839 a 1848). Cynnwys amryw o alawon a oedd eisoes wedi ymddangos yn Relicks of the Welsh Bards o waith Edward Jones, ond yr oedd gan Parry hefyd alawon gwreiddiol o'i waith ei hun. Yn eu mysg ceir yr alaw boblogaidd "Cadair Idris" a ysgrifennodd yn 1804.
Fe ddywedir ddarfod i Parry gyfansoddi a chyhoeddi mwy o gerddoriaeth nag unrhyw gyfansoddwr arall yn ei ddydd, ac eithrio Syr Henry Bishop. Credir iddo gyfansoddi dros saith gant o ganeuon, a thua'r un nifer o ddarnau offerynnol— ar gyfer telyn, piano, ffliwt, fflageolet, clarinet, etc. Yn ychwanegol at hyn dywedir iddo ysgrifennu trigain o lyfrau yn dangos y ffordd í ganu gwahanol offerynnau. Ceir ganddo hefyd gasgliad o ddwy fil o alawon gwahanol wledydd. O'r holl waith yma, nid erys ar gof a chadw ond ei gasgliad o alawon Cymreig, "Cadair Idris," "Ap Siencyn" a "Flow Gentle Deva." Ar wahân i'w waith fel cyfansoddwr a thelynor, ysgrifennodd Bardd Alaw yn helaeth ar gerddoriaeth. Anfonodd erthyglau i'r Cambro-Briton, The Musical Times a Seren Gomer. Yr oedd hefyd yn adnabyddus fel beirniad ym mhrif eisteddfodau Llundain a Chymru, a bu'n dal swyddi pwysig yn ystod ei fywyd hir a defnyddiol. Bu farw yn Llundain yn 1851.
Cyn gadael y tri thelynor hyn, dylid crybwyll John Thomas (Pencerdd Gwalia). Mewn llawer o bethau, yr oedd ei yrfa'n debyg i'r eiddynt hwy. Fel hwythau, gadawodd ei wlad yn ieuanc, ac ymsefydlu yn Llundain. Yno cafodd lwyddiant ac enwogrwydd. Gafaelodd swyn Llundain mewn cerddorion, hyd yn oed yn y dyddiau hynny. Trwy fynd yno, enillodd ein telynorion fwy o enwogrwydd na'r hen delynorion gynt, a fu'n difyrru pobl y farchnad a'r ffair. Yn Llundain, cafwyd gwell athrawon, felly daeth y telynorion i ganu'n fedrusach. Heblaw hyn, caent yno well cyfleusterau i gyhoeddi eu cyfansoddiadau a'u casgliadau o alawon Cymreig. (Ni chyhoeddwyd llyfr o alawon Cymreig yng Nghymru tan 1844, pan ymdangosodd Airs of Gwent and Morganwg Jane Williams, a gyhoeddwyd yn Llanymddyfri). Oherwydd i'r telynorion ymsefydlu yn Llundain, daeth llawer o'r alawon Cymreig mor boblogaidd nes eu canu ar lwyfannau'r brifddinas tua diwedd y ddeunawfed ganrif.
Ganed JOHN THOMAS (Pencerdd Gwalia) ym Mhen-y- bont-ar-Ogwr, Gŵyl Dewi, 1826. Yn fuan iawn, daeth i fedru canu'r delyn yn dda, a phan nad oedd ond tair ar ddeg oed, enillodd delyn deires yn wobr yn Eisteddfod Abergafenni yn 1839. Flwyddyn ar ôl hyn, trwy gymorth yr Iarlles Lovelace (merch yr Arglwydd Byron) aeth yn fyfyriwr i'r Royal Academy of Music. Ar wahân i ganu'r delyn, cafodd wersi cyfansoddi gan Cipriani Potter, a fu unwaith yn ddisgybl i Beethoven. Bu Pencerdd Gwalia yn yr Academi am chwe blynedd. Yn ystod yr amser hwn, cyfansoddodd, ymysg pethau eraill, goncerto i delyn a cherddorfa. Yn ddiweddarach, aeth ar y cyfandir, a chanodd y delyn mewn cyngherddau yn yr Almaen, Awstria, yr Eidal a Rwsia. Pan ddychwelodd i Lundain, ysgrifennodd goncerto arall i'r delyn, ac fe'i perfformiwyd yn un o gyngherddau'r Royal Philharmonic Society. Gwelir felly ei fod yn cael ei gyfrif yn un o delynorion gorau ei oes, ac yn 1871 penodwyd ef yn delynor i'r Frenhines Victoria. Daliodd y swydd hon hyd farw'r frenhines.
Treuliodd John Thomas yntau lawer o amser yn casglu a threfnu alawon Cymreig, ac ar ddydd Gŵyl Dewi, 1862, cyhoeddodd ei Songs of Wales yn ddwy gyfrol. Trefnwyd y rhain ar gyfer unawd a chôr cymysg, ac awdur y geiriau Cymraeg oedd Talhaiarn. Cafodd y gwaith hwn dderbyniad brwd ar ei union. Yn yr un flwyddyn fe gynhaliodd gyngherddau o alawon Cymreig yn neuadd St. James, Llundain, a hefyd yn y Crystal Palace. Penodwyd ef yn athro Canu'r Delyn yn y Royal Academy, ac yno cafodd lawer o ddisgyblion disglair a oedd yn ddyledus iawn iddo am eu hyfforddiant. Yn 1871 ffurfiodd gymdeithas gorawl. Fel canlyniad i'r cyngherddau a roddwyd, casglwyd £90 er mwyn sefydlu ysgoloriaeth o dair blynedd yn y Royal Academy. I blant rhieni Cymreig yn unig yr oedd yr ysgoloriaeth hon. Y gyntaf i'w hennill oedd Miss Mary Davies, a ddaeth yn un o gantorion mwyaf ei hoes, ac yn un o'r rhai a sefydlodd Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Yn ddiweddarach casglodd Pencerdd Gwalia fil o bunnau. Gyda'r arian hwn, sefydlodd ysgoloriaeth "John Thomas," ac y mae myfyrwyr Cymreig hyd heddiw yn cystadlu amdani yn y Royal Academy of Music. Yr oedd Pencerdd Gwalia yn ffigur poblogaidd yn ein Heisteddfodau Cenedlaethol, fel datgeiniad ac fel beirniad. Darlithiai'n aml ar Gerddoriaeth Genedlaethol Cymru, pwnc a oedd o gryn ddiddordeb iddo.
Fel cyfansoddwr, yr oedd iddo lawer o allu technegol, a medrai ysgrifennu'n felodaidd ar brydiau. Ei brif weithiau yw'r gantata "Llewelyn," a gafodd gryn groeso pan berfformiwyd hi yn Eisteddfod Abertawe yn 1863; ac opera, "The Bride of Neath Valley" (1866). Ond byr fu bri'r ddau gyfansoddiad hyn, ac anfynych y clywir hwy heddiw. Ei gymwynas fwyaf oedd trefnu ein halawon cenedlaethol. Trefnodd lawer ohonynt yn fedrus iawn ar gyfer ei hoff offeryn, sef y delyn, a chenir hwy'n fynych o hyd. Trefnodd rai alawon ar gyfer corau, ac y mae'n rhyfedd na chenir byth mohonynt heddiw, a chymaint o brinder trefniadau felly.