Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun)/Cyfansoddwyr cynnar
| ← Yr arloeswyr | Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun) gan Idris Lewis |
Yr Eisteddfod a chyfnod y ganig → |
PENNOD III
CYFANSODDWYR CYNNAR
FEL yr awgrymwyd yn y bennod flaenorol, yn hwyr y dechreuodd y Cymry gyfansoddi, ac ni chafwyd dim mwy uchelgeisiol na thôn seml, cyn canol y ganrif ddiwethaf. Crybwyllwyd y ffaith hon gan y diweddar Dr. Vaughan Thomas yn ei anerchiad i Gymdeithas Cymrodorion Abertawe yn 1911, pan ddywedodd "na fu cyn oddeutu'r flwyddyn 1850 un cais o gwbl yn y Dywysogaeth at gyfansoddi cerddoriaeth o ddifri." Y mae'n debyg mai'r rheswm pennaf am hyn oedd mai ychydig o ymarfer cerddorol a geid drwy'r wlad, ac mai prin yr oedd pobl yn medru deall cerddoriaeth. Ond fel canlyniad i waith a dylanwad Alawydd, Rosser Beynon ac Ieuan Gwyllt yn dysgu'r bobl drwy gyfrwng eu dosbarthiadau, daeth y werin yn raddol i ymddiddori mewn celfyddyd a oedd yn apelio'n gryf at ei greddfau cynhenid. Efallai nad amherthnasol yw dywedyd mai cynnyrch y werin fu cerddoriaeth yng Nghymru erioed, fel y dengys poblogrwydd yr Eisteddfod a'r Gymanfa Ganu yn ddiweddarach.
Ond yr oedd llawer o rwystrau ar ffordd y cyfansoddwyr Cymreig cynnar. I ddechrau, nid oedd unrhyw draddodiad cerddorol yng Nghymru, nac unrhyw ysgol o gyfansoddwyr wedi rhoi eu bryd ar ddatblygu cerddoriaeth genedlaethol a rhoi mynegiant i'r athrylith a oedd yn nodweddiadol o'r Celt. Felly, nid oedd dim patrymau y gallai'n cyfansoddwyr eu dynwared. Heblaw hyn, yr oedd eu diffyg hyfforddiant technegol yn anfantais iddynt. Fel rheol, ni chawsent y fantais o gael eu hyfforddi'n drwyadl yng nghelfyddyd cyfansoddí cerddoriaeth—mantais a oedd o fewn cyrraedd cyfansoddwyr gwledydd eraill. Bu'n rhaid iddynt eu dysgu eu hunain, a throi yn eu hunfan gan wneuthur y gorau o'r ychydig gyfleusterau a oedd wrth law. O ganlyniad, mewn dau gyfeiriad yn unig y datblygodd cerddoriaeth Gymreig, sef alawon cenedlaethol, a chaniadaeth y cysegr. O'r prif gyfansoddwyr a oedd yn ffynnu yr adeg yma, rhoes Brinley Richards ac Owain Alaw eu hamser i gasglu a threfnu alawon Cymreig, ac Ambrose Lloyd a Thanymarian yn troi eu hegnïon tuag at ddatblygu caniadaeth y cysegr. Gan fod bywydau'r pedwar cyfansoddwr hyn yn dangos cyflwr cerddoriaeth yng Nghymru yn eu dydd, rhown yn awr ychydig o'u hanes.
Ganed BRINLEY RICHARDS yng Nghaerfyrddin yn 1819, lle yr oedd ei dad yn organydd yn Eglwys Sant Pedr. Bwriadwyd gwneuthur Brinley yn feddyg, ond rhoddwyd y gorau i'r syniad hwn pan welwyd mor hoff oedd y bachgen o gerddoriaeth. Gwnaeth dipyn o enw iddo'i hun pan enillodd y wobr am gyfansoddi yn Eisteddfod Gwent a Dyfed a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 1834. Cyfres o amrywiadau i biano ar yr alaw "Llwyn Onn" oedd y darn buddugol. Aeddfedodd ei ddawn i ganu'r piano pan oedd yn bur ieuanc, ac fe ddaeth trobwynt ei yrfa pan glywodd Dug Newcastle ef wrth y gwaith. Gwnaeth y fath argraff ar y Dug, nes peri iddo dalu am wersi piano i'r bachgen yn y Royal Academy of Music. Yma enillodd Brinley Richards Ysgoloriaeth y Brenin ddwywaith—y tro cyntaf yn 1834, a thrachefn yn 1837. Ar ddiwedd ei yrfa yn yr Academi aeth i Baris i orffen ei addysg gerddorol. Yma y cyfarfu â'r pianydd a'r cyfansoddwr enwog, Chopin, ac fe dyfodd cyfeillgarwch rhyngddynt a barodd hyd farw Chopin. Pan ddychwelodd Brinley Richards i Lundain, penodwyd ef yn athro piano yn y Royal Academy of Music, ac iddo ef yn bennaf y mae'n rhaid diolch am ddarfod cynnwys Cymru yng nghyfundrefn arholiadau'r Academi.
Yn y cyfamser bu'n cyfansoddi, yn bennaf ar gyfer ei hoff offeryn, y piano. Bu hefyd yn feirniad poblogaidd am lawer blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu'n darlithio drwy Gymru gyfan ar bwnc a oedd o gryn ddiddordeb iddo, sef Cerddoriaeth Gymreig. Yn Eisteddfod Caernarfon, 1862, gofynnodd Ceiriog iddo ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer telyneg a oedd wedi ei hysgrifennu i ddathlu priodas Tywysog Cymru yn y dyfodol agos. Cydsyniodd Brinley Richards, a'r canlyniad oedd y gân boblogaidd "Ar D'wysog Gwlad y Bryniau." Canwyd y gân am y tro cyntaf gan Sims Reeves, a buan iawn y daeth yn adnabyddus, oherwydd ei chanu gan gorau a chantorion ym mhob rhan o'r wlad.
Yn ôl pob tebyg, Brinley Richards oedd y pianydd mwyaf a gynhyrchodd Cymru erioed, ac yr oedd ei enw wedi cyrraedd ymhell y tu hwnt i'r gororau. Ond ni bu'n llwyddiannus fel cyfansoddwr, ac er iddo gyfansoddi nifer mawr o ddarnau, ni chenir ond ychydig ohonynt heddiw. Y goreuon yw "Ar D'wysog Gwlad y Bryniau" a'r rhangan swynol sy'n haeddu cael ei chlywed yn amlach, "Cwyd Rian Lwys." Ei brif gymwynas â cherddoriaeth oedd ei gasgliad o alawon The Songs of Wales a gyhoeddwyd yn 1873. Dyma'r llyfr mwyaf poblogaidd o alawon gwerin a gyhoeddwyd erioed. Canmolir ef am y trefniadau syml ac artistig i'r alawon, ac am y geiriau Cymraeg gan Geiriog. Y mae rhai o'r rhain ymysg y gorau a ysgrifennodd. Bu farw Brinley Richards yn Llundain yn 1885, a chladdwyd ef yno ym mynwent Brompton.
Ganed JOHN OWEN (Owain Alaw) yng Nghaer yn 1821. Rhai o Lanfachreth, Sir Feirionnydd, oedd ei rieni. Capten ar long hwyliau fechan oedd ei dad, ac fe gollodd ei fywyd ar y môr yn 1837. Cafodd ei fab addysg dda pan oedd yn blentyn, ac nid esgeuluswyd cerddoriaeth, pwnc a oedd yn arbennig o hoff ganddo. Yn ddiweddarach, cafodd wersi mewn cerddoriaeth gan Charles Lucas o Lundain. Nid oedd ym mwriad ei rieni wneuthur y bachgen yn gerddor proffesedig, ar y dechrau, a phrentisiwyd ef gyda gwerthwr cyllyll yng Nghaer. Ond wedi peth llwyddiant fel organydd ac athro cerdd, troes yn gerddor wrth ei alwedigaeth yn 1844. Bu'n organydd mewn llawer o eglwysi Caer yn eu tro, a thua diwedd ei oes daeth yn organydd yr Eglwys Gymreig yno, swydd y bu ynddi hyd ei farw yn 1883.
Enillodd aml wobr mewn eisteddfodau fel cyfansoddwr. Yn 1857 rhoes Dr. S. S. Wesley y wobr gyntaf iddo yn Eisteddfod Rhuddlan, am ei anthem "Cân Deborah a Barac." Yma y cafodd yr enw barddol "Owain Alaw." Oherwydd clod Wesley iddo y pryd hwn cafodd le blaenllaw ymysg cyfansoddwyr Cymreig. Yn Eisteddfod Madog yn yr un flwyddyn, yr oedd yn gyd-fuddugol ag Ambrose Lloyd â'i gantawd "Gweddi Habacuc." Fel hyn y dywaid Ieuan Gwyllt am y gystadleuaeth yn Y Cerddor Cymreig: "Rhoddai'r ddau Gymro (y Parchedig J. D. Edwards a Thanymarian) y flaenoriaeth i Mr. Ambrose Lloyd, a Dr. S. S. Wesley i Owain Alaw; ond er bod mwyafrif y beirniaid yn dyfarnu'r wobr i Mr. Lloyd, efe a ewyllysiai yn hytrach iddi gael ei rhannu rhwng Owain Alaw ac yntau; ac felly y bu." Enillodd hefyd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1862, â'i gantawd "Tywysog Cymru," y geiriau gan Geiriog.
Heblaw bod yn organydd a chyfansoddwr da, yr oedd hefyd yn ganwr bariton rhagorol, ac yn athro a beirniad llwyddiannus. Yr oedd y cyfansoddwr enwog Edward German yn ddisgybl iddo un tro. Nid oedd Owain Alaw yn gyfansoddwr mawr, ond gallai ysgrifennu alawon clir a syml a aeth yn syth at galon y Cymro. Ond byr fu hoedl ei waith creadigol. Er hyn yr oedd rhai o'i amryw ganeuon yn boblogaidd iawn ryw hanner can mlynedd yn ôl, caneuon fel "O peidiwch â dweud wrth fy nghariad," "Mae Robin yn swil," a'r hwiangerdd adnabyddus "Myfi sy'n magu'r baban" o'i gantata "Tywysog Cymru." Cafodd ei oratorio "Jeremiah" a gyhoeddwyd yn 1878, dderbyniad da ar y pryd. Y mae'n dilyn traddodiad oratoriau Handel. Ond er bod yn y gwaith hwn grefftwaith sicr a chwaeth dda, nid oes ynddo gymeriad cryf a nodweddion personol cyfansoddiadau Ambrose Lloyd. Perfformiwyd yr oratorio yn fynych yn niwedd y ganrif ddiwethaf, ond er hyn methodd gadw ei lle erbyn heddiw ymysg stoc corau Cymreig. Ond nid anghofia Cymru fyth mo enw Owain Alaw. Bydd cof amdano pe na bai am ddim ond ei Gems of Welsh Melody. Trefniadau o alawon cenedlaethol oedd y gwaith hwn, a chyhoeddwyd ef yn bedair rhan yn 1860. Daeth yn boblogaidd ar ei union drwy Gymru gyfan, ond disodlwyd ef tua deng mlynedd yn ddiweddarach gan Songs of Wales Brinley Richards. Er i Owain Alaw gyfansoddi llawer, ni chlywir ond ychydig o'i waith heddiw. Eto i gyd, yr oedd yn gerddor gwych, a gwnaeth lawer i wella cerddoriaeth ei wlad.
Ganed JOHN AMBROSE LLOYD yn yr Wyddgrug ar y pedwerydd dydd ar ddeg o Fehefin, 1815. Saer oedd ei dad—dyn myfyrgar a chrefyddol ei natur, a ordeiniwyd yn ddiweddarach yn weinidog ar Gapel Bedyddwyr Hill Cliffe, ger Warrington. Yr oedd ei fam yn chwaer i John Ambrose, Bangor, sef tad William Ambrose, y bardd-bregethwr enwog "Emrys." Ni wyddys ond ychydig am flynyddoedd cyntaf Ambrose Lloyd ar wahân i'r ffaith ei fod yn dra hoff o gerddoriaeth, a bod ganddo lais trebl anghyffredin o swynol. Fe'i cafodd yn anodd i ddysgu cerddoriaeth, oherwydd prinder llyfrau. O'r diwedd llwyddodd i gael gafael ar Musical Grammar gan Callcot, ac fe aeth ymlaen i ddysgu trwy astudio'r llyfr hwn ac ychydig o oratorïau gan Handel. Cyn hir, yr oedd yn dechrau cyfansoddi, ac yn 1831 ysgrifennodd ei dôn adnabyddus "Wyddgrug," camp aruthrol i fachgen un ar bymtheg oed, hunan-ddysgedig. Ni chyhoeddwyd y dôn hyd 1835 pan ymddangosodd yn Y Gwladgarwr. Yr oedd yn arferiad, hyd yn oed yn y dyddiau hynny, gyhoeddi tonau mewn cyfnodolion.
Yn 1830 pan benodwyd Enoch Lloyd (y tad) yn weinidog ar Hill Cliffe, fe wasgarwyd y teulu, a thorri'r cartref yn yr Wyddgrug. Aeth Ambrose a'i frawd hynaf i Lerpwl— Ambrose gyda'r bwriad o fod yn athro ysgol. Cyn hir, dechreuodd ddysgu yn Ysgol Picton, ac yn ddiweddarach penodwyd ef i swydd gyffelyb yn y Mechanics Institute, lle y bu am ddeng mlynedd. Pan ddaeth i Lerpwl gyntaf, ymaelododd Ambrose Lloyd yng nghapel y Tabernacl, lle'r oedd Williams o'r Wern yn weinidog. Yn 1843 dilynwyd Williams o'r Wern gan y Parchedig William Rees (Gwilym Hiraethog). Er i Ambrose Lloyd, cyn dyfodiad Gwilym Hiraethog, adael y Tabernacl er mwyn arwain y gân yn Salem, Brownlow Hill ("sblit" o'r fam-eglwys) daeth y ddau'n gyfeillion mawr, a chafodd Lloyd lawer o gynhorthwy gan Gwilym Hiraethog, yr hwn a ysgrifennodd y geiriau ar gyfer ei gantata "Cwymp Babilon," ac a awgrymodd eiriau ar gyfer ei anthemau.
Yn 1843 cyhoeddodd Casgliad o Donau. Hwn oedd y casgliad gorau o'r math a oedd wedi ymddangos hyd hynny. Yn 1845 cystadleuai mewn eisteddfod am y tro cyntaf; yn y Groes-wen, ger Pontypridd yr oedd hon, ac fe enillodd Ambrose Lloyd y ddwy wobr am anthemau. Cafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniad, Rosser Beynon. Yn ddiweddarach, yn 1846, pan gyhoeddodd Rosser Beynon Telyn Seion, cofiodd am hyn, ac anfonodd wahoddiad i Ambrose Lloyd gyfrannu ato. Ymysg y tonau a anfonodd Lloyd yr oedd "Eifionydd" a "Groes-wen" er cof am ei lwyddiant eisteddfodol cyntaf. Anfonodd hefyd ei anthem "Ac mi a glywais lais o'r nef" a ddaeth yn boblogaidd iawn wedi hynny. Tua'r adeg yma, ymunodd â'r Liverpool Philharmonic Society, a daeth felly i gyffyrddiad ag amryw o gerddorion Lerpwl, yn eu mysg W. T. Best, a ddaeth yn organydd enwog ymhen rhai blynyddoedd wedyn. Pan ffurfiwyd Cymdeithas Gorawl Gymreig Lerpwl yn 1846, penodwyd Ambrose Lloyd yn arweinydd iddi, a bu yn y swydd hon nes gadael Lerpwl yn 1851.
Cyhoeddwyd ei gantata "Cwymp Babilon" yn 1848. Yn yr un flwyddyn, ymddiswyddodd o'r Mechanic Institute. Wedyn, fe ymgeisiodd am amryw o swyddi, ond yn aflwyddiannus. Yn y diwedd, cafodd waith fel trafeiliwr dros gwmni'r Meistri Woodhall a Jones, a oedd yn gwerthu te yng Ngogledd Cymru. Arhosodd gyda'r cwmni hwn am weddill ei oes. Yn ystod yr amser hwn bu'n byw ym Mwlch Bach, yn ymyl Conwy, yna yng Nghaer, ac yn olaf symudodd i'r Rhyl, yn 1864. Ym Mwlch Bach y cyfansoddodd ei gampwaith "Teyrnasoedd y Ddaear." Enillodd hwn y wobr yn Eisteddfod Bethesda yn 1850. Y Parchedig J. D. Edwards a Thanymarian oedd y beirniaid. Dywedodd Tanymarian yn ei feirniadaeth—"Y mae rhywbeth ynddo i'r anghyfarwydd ac i'r cyfarwydd. Y mae gwychder y cysegr yn llanw pob nodyn." Ei waith pwysig diwethaf oedd Aberth Moliant, casgliad gwych o donau ac emynau, a gyhoeddwyd yn 1873, flwyddyn cyn ei farw. Bu Gwilym Hiraethog ac Emrys yn ei gynorthwyo i ddewis yr emynau. Yr oedd yn y llyfr hwn 344 o donau, 47 ohonynt o waith Ambrose Lloyd ei hun. Pallodd ei iechyd yn raddol ym mlynyddoedd olaf ei oes, a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w waith fel trafeiliwr. Cynghorwyd ef i fynd ar fordaith hir, er mwyn ei iechyd, ac yn Hydref, 1874, aeth ar daith i'r Aifft. Ar y ffordd adref gwaethygodd yn gyflym a bu farw ychydig ddyddiau ar ôl glanio yn Lerpwl. Fe'i claddwyd yno ym mynwent y Necropolis. Am flynyddoedd ar ôl ei farw, nid oedd llawer o ganu ar ei waith, ond daethant yn fwy poblogaidd fel yr âi'r amser heibio.
Yn ddiau, Ambrose Lloyd oedd un o'r cyfansoddwyr Cymreig gorau. Ar ryw ystyr, ef yw'r gorau ohonynt oll. Arferai'r Dr. Joseph Parry ddywedyd mai ef oedd awdur y dôn Gymreig orau—"Eifionydd"; y rhangan Gymreig orau— "Y Blodeuyn Olaf"; a'r anthem Gymreig orau—"Teyrnasoedd y Ddaear." Gwnaeth Ambrose Lloyd ei wasanaeth mwyaf ym myd cerddoriaeth y cysegr. Cyn ei amser ef, yr oedd tonau ac anthemau yn anghelfydd ac anaeddfed. Er mai amateur hunan-ddysgedig ydoedd, cyfoethogodd gerddoriaeth Cymru â thonau ac anthemau a fydd byw cyhyd â'r iaith Gymraeg. Ei anthemau gorau yw "Teyrnasoedd y Ddaear," ac "A bydd yn y dyddiau diweddaf." O'i dair cantata, yr unig un a genir heddiw, a hynny'n anfynych, yw "Gweddi Habacuc." Ychydig yw gwerth ei gerddoriaeth leygol, ac eithrio "Y Blodeuyn Olaf," ac y mae'n syn nad aeth ymlaen yn y cyfeiriad yma ar ôl llwyddiant mawr y gwaith hwn. Wrth fwrw golwg dros ei yrfa, rhaid inni beidio ag anghofio ei waith da fel arweinydd a beirniad. Dyn gwylaidd ydoedd, yn hoffi'r encilion. Yr oedd ganddo ddigon o synnwyr cyffredin, a chwaeth dda, ac fe gafodd ddylanwad llesol ar gerddoriaeth Cymru yn ei oes.
Ganed EDWARD STEPHEN (Tanymarian) yn Rhyd-y-Sarn, Dyffryn Maentwrog, yn 1822, yr un flwyddyn ag Ieuan Gwyllt. Daeth o deulu cyffredin, ac yr oedd ei dad yn hynod hoff o gerddoriaeth, ac yn ganwr da gyda'r tannau. Aeth y bachgen Edward i'r ysgol am ychydig o amser, ac wedyn prentisiwyd ef yn deiliwr, ond hyd yn oed mor ieuanc â hyn, ei brif ddiddordebau oedd cerddoriaeth a phregethu. Eithr methodd ganddo gael athro cerdd yn ei ardal ei hun, a buan iawn y daeth i wybod mwy am gerddoriaeth na'r rhai a fynnai ei ddysgu. Ni chafodd ei uchelgais am fod yn bregethwr ddim llawer o groeso ar y dechrau, oherwydd ei ddoniolwch a'i ddawn ddynwared. Eto i gyd, mynnodd ci ffordd, ac yn 1843, aeth i Goleg Annibynnol y Bala. Hyd hynny, Edward Stephen Jones oedd ei enw, ond gan fod eisoes un Edward Jones yn y coleg, galwyd ef yn Edward Stephen. Yn ystod ei bedair blynedd yn y Bala, cadwodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth, nid drwy ei hastudio o ddifrif, ond trwy ddifyrru ei gyd- fyfyrwyr wrth ddynwared a chanu â'i lais bas gwych. Pan adawodd y coleg, ordeiniwyd ef yn weinidog Horeb, Dwy- gyfylchi; arhosodd yma bron ddeng mlynedd, ac yn ystod yr amser hwn, gwnaeth enw iddo'i hun fel pregethwr, dar- lithydd, bardd a cherddor. Yma y cyfansoddodd "Ystorm Tiberias," carreg-filltir bwysig yn hanes cerddoriaeth Cymru, oherwydd dyma'r oratorio gyntaf a gyfansoddwyd gan Gymro. Yn 1856 symudodd i Lanllechid, yn ymyl Bethesda, lle y daeth dwy eglwys o dan ei ofal-Bethel a Charmel. Yma y treuliodd weddill ei oes.
Bron yr unig beth sydd yn gwneuthur Tanymarian yn bwysig fel cyfansoddwr yw ei oratorio "Ystorm Tiberias." Ni chymerodd ond ychydig dros flwyddyn i'w hysgrifennu. Gorffennodd hi ar yr wythfed ar hugain o Fawrth, 1852. Cyhoeddwyd y gwaith yn dair rhan yn 1855. Dyma'r gwaith cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac nid ymddangosodd yr un oratorio ar ei hôl yn y wlad hon am bum mlynedd ar hugain. Gorbrisiwyd y gwaith hwn, oherwydd cyflwr isel cerddoriaeth yng Nghymru ar y pryd. Ond rhaid cyfaddef ei bod yn ymdrech greadigol dda gan gyfansoddwr hunan-ddysgedig a ddatblygodd ei ddawn o dan anawsterau, heb unrhyw batrwm y gallai ei ddilyn, ar wahân i Handel. Yn ddiweddarach, llwyr ddiwygiwyd yr oratorio gan y cyfansoddwr, a threfnwyd hi ar gyfer cerddorfa gan Emlyn Evans. Perfformir hi'n achlysurol o hyd, ac o gofio am yr anawsterau ar ffordd ei chyfansoddi, nid teg beio gormod arni.
Yn 1868 cyhoeddodd Tanymarian a J. D. Jones Llyfr Tonau ac Emynau, ac fe ymddangosodd Atodiad yn 1877. Mae'n debyg na chyfrannodd Tanymarian lawer i'r casgliad hwn. Yn y ddau gasgliad, ni chynhwysir ond wyth o'i donau ef, a J. D. Jones a gafodd y gwaith o ddewis a golygu'r rhan fwyaf o lawer o'r tonau. Ar wahân i'r oratorio ac ychydig o donau, yr unig gyfansoddiadau o waith Tanymarian a haedda sylw yw ychydig o anthemau. Yr oedd un ohonynt, "Disgwylied Israel ar yr Arglwydd" yn boblogaidd iawn flynyddoedd yn 61. Yr oedd Tanymarian yn gymeriad amlwg yng Nghymru yn ei ddydd. Iddo ef, Ieuan Gwyllt ac Ambrose Lloyd, y mae diolch am wella cyflwr y Gymanfa Ganu yn chwe degau a saith degau y ganrif ddiwethaf. Bu farw Tanymarian yn 1885, ac fe'i claddwyd yn Llanllechid.