Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun)/Dechrau canrif
| ← Y Gân Gymreig | Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun) gan Idris Lewis |
Rhwng dau ryfel → |
PENNOD VII
DECHRAU CANRIF
NEWIDIODD rhagolygon cerddorol Cymru yn nechrau'r ugeinfed ganrif. Hyd yn hyn, ni roesai'n cyfansoddwyr ond ychydig o'u hamser i ddatblygu cerddoriaeth i gerddorfa, ond yn nechrau'r ganrif hon dechreuasant feddwl am y gerddorfa fel modd mynegiant hollol annibynnol ar y lleisiau, a hefyd i'w defnyddio'n amlach fel ategiad at y gelfyddyd gorawl. Fe briodolir y cyfnewidiad hwn yn bennaf i'r hyfforddi gwell a gâi cyfansoddwyr, gan roddi iddynt well cymwysterau technegol nag a gafodd cyfansoddwyr y ganrif flaenorol. Hoff ymffrost y Dr. Joseph Parry ydoedd mai ef oedd yr unig ddoethor mewn cerddoriaeth yng Nghymru. Yn fuan wedi ei farw, enillwyd y radd hon gan dwr o gerddorion, y rhan fwyaf ohonynt yn ddisgyblion i Parry. Yr oedd y cerddorion hyn, D. C. Williams, D. Vaughan Thomas, David Evans, Caradog Roberts a T. Hopkin Evans wedi eu hyfforddi'n dda, ac yn flaengar eu hagwedd. At hyn yr oedd ganddynt gydymdeimlad llawn â delfrydau Cymreig, ac felly yr oeddynt yn ddynion cymwys i roddi arweiniad i gerddoriaeth Cymru am flynyddoedd. Heblaw'r rhai a enwyd uchod, yr oedd dau gerddor arall a aned yn y saith degau, a gymerodd fel prif nod eu bywyd, wella cerddoriaeth yng Nghymru, a hynny er mai o'r tu allan i Gymru yr oeddynt yn byw. Harry Evans a Vincent Thomas oedd y rheini.
Problem y dynion hyn i gyd oedd sut y gallent ennyn diddordeb eu cydwladwyr yn y gerddorfa. Y mae'r broblem hon yn bod hyd heddiw. Ni chafodd eu hymdrechion fawr o effaith, gan mor ddidaro yw'r Cymry o'r cychwyn tuag at gerddoriaeth offerynnol. Ond er i'r cyfansoddwyr hyn fethu cael gan y bobl gymryd at gerddoriaeth i gerddorfa ar ei phen ei hun, fe lwyddasant i wneuthur y gerddorfa yn rhan hanfodol o berfformiadau corawl, ac ysgrifennu llawer iawn o weithiau i gör gyda chyfeiliant cerddorfa. Y mae'n resyn na ddarfu i Caradog Roberts, er cymaint ei ddoniau, ymroi i gyfansoddi o ddifrif. Ni chawsom ganddo ond dyrnaid o donau poblogaidd ac un neu ddau o ddarnau i gôr meibion. Aeth ei amser i gyd i ganu'r organ mewn cyngherddau, arwain cymanfaoedd canu, a beirniadu mewn eisteddfodau. Ond fe wnaeth y gwaith hwn yn nodedig o dda, a bu'n un o ddynion mwyaf ei oes yn y byd cerddorol yng Nghymru.
Fe aned D. CHRISTMAS WILLIAMS yn Llanwrtyd yn 1871. Bu'n astudio cerddoriaeth o dan y Dr. Joseph Parry yng Nghaerdydd, a'r hyn a'i dug i'r golwg oedd ennill ohono'r brif wobr o ugain punt yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1892 gyda'i gantata "Traeth y Lafan." Yn ddiweddarach perfformiwyd y gwaith hwn yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog. Ar ôl hyn, gwnaeth ei gartref ym Merthyr lle y bu'n organydd ac yn athro. Ei waith mwyaf uchelgeisiol yw ei "Psalms of Praise," i unawdau, côr a cherddorfa. Cafodd hwn ei berfformiad cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902, ac fe'i darlledwyd yn 1938 gan Gôr Unedig Dowlais. Er bod yn y gwaith hwn rai darnau effeithiol i gor, braidd yn anwastad a hen ffasiwn yw ei arddull, ac fe ymddengys nad apeliodd lawer at gorau Cymreig. Yr oedd y cyfansoddwr hwn yn fwy llwyddiannus yn ei ddarnau corawl byrion, ac fe ysgrifennodd rai rhanganau ardderchog i leisiau cymysg. Y gorau o'r rhain yw "Hwyrgan yr Indiaid" a "The Sands of Dee." Bu rhai o'i gytganau i gôr meibion, yn enwedig "The Destruction of Pompeii" a "Homeward Bound" yn boblogaidd iawn am rai blynyddoedd, ond anfynych y clywir hwy heddiw.
Ymysg ei gyfansoddiadau i gerddorfa y pwysicaf yw "Suite in D minor" ac "Overture in C minor." Yr un fath â'i gyfansoddiadau i gör gyda chyfeiliant cerddorfa, fe ddengys y rhain allu technegol mawr, ond ni cheir ynddynt nac ysbrydiaeth na gwreiddioldeb.
Ganed DAVID VAUGHAN THOMAS yn Ystalyfera yn 1873, ond yn fuan wedi ei eni, symudodd y teulu i Bontardulais. Pan oedd yn fachgen, ei hoff bynciau oedd cerddoriaeth a mathemateg, pynciau y gwnaeth yn wych ynddynt yn ddiweddarach. Cafodd rai gwersi cerddoriaeth gan Joseph Parry, ac yna aeth yn fyfyriwr i Goleg Llanymddyfri. Wedi pedair blynedd yno, enillodd ysgoloriaeth mewn mathemateg i Goleg Exeter, Rhydychen. Ýma y graddiodd yn Mus. Doc. ac yn M.A. Bu am ychydig wedi hyn ar staff ysgol Harrow, ac yna dychwelodd i Gymru, gan ymsefydlu ym Mhontardulais. Dwy flynedd wedyn, yn 1908, symudodd i Abertawe, ac yma y bu ei gartref am weddill ei oes. Gweithiodd yn ddyfal, gan ddysgu, beirniadu, a chyfansoddi, hyd 1927, pan benodwyd ef yn arholwr teithiol dros y Trinity College of Music yn Llundain. Golygai hyn deithio diddiwedd, yn bennaf yn Nhrefedigaethau Prydain. Ar un o'r teithiau hyn yn Neheudir Affrig y bu farw, yn Johannesburg, yn 1934.
Awgryma gyrfa Vaughan Thomas iddo gael ei siomi a'i rwystro, ac ni ellir llai na theimlo bod peth cyfiawnhad i hyn. Nid yw'n glod i Gymru fod un o'i cherddorion mwyaf wedi ei droi'n alltud am gyfnodau hir er mwyn ennill ei fywoliaeth. Ni sylweddolwyd gennym nes dyfod y newydd am ei farw, y fath dalent aruchel a wastraffwyd trwy'n hesgeulustod a'n difaterwch ni ein hunain. Pe bai'r bwriad o sefydlu cadair cerddoriaeth yng Ngholeg Abertawe yn 1926, wedi ei gyflawni, fe ddichon y byddai popeth yn iawn, a buasai'r lles i gerddoriaeth Cymru yn anfesuradwy; ond collwyd y cyfle, ac nid oes ond gofidio ddarfod colli talent a allasai wasnaethu ei wlad yn llawer llawnach.
Yr ydym eisoes wedi trafod caneuon Vaughan Thomas. Ar ryw ystyr, dyma'r gwaith sydd fwyaf nodweddiadol ohono, oherwydd mynegant ei welediad artistig, ei ysgolheictod, ac yn bennaf oll ei gariad gwresog tuag at Gymru. Eithr y mac ganddo amryw weithiau eraill sy'n haeddu sylw. Fel ysgrifennwr i gerddorfa, ni chynhyrchodd unrhyw beth arbennig; ei waith gorau yn y maes hwn yw'r "Overture and Incidental Music" a gyfansoddodd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1926. Ond, fe ddengys y rhain, gwaetha'r modd, ei wendidau fel ysgrifennwr i gerddorfa. Y maent yn esbonio, i raddau, paham na Iwyddodd i ysgrifennu gwaith o'r radd flaenaf i gerddorfa'n unig. Fe welir yr un gwendidau, ond i raddau llai, yn ei gyfansoddiadau i gor a cherddorfa. Yn Eisteddfod Abertawe yn 1907 perfformiwyd "Llyn y Fan," cantata i unawdwyr, côr a cherddorfa, a'r cyfansoddwr yn arwain. Ysgrifennwyd y gwaith yn dda, ond ni wnaeth argraff parhaol oherwydd y gwahanol fathau o arddull a oedd ynddo. Y mae'r "Ode to St. Cecilia's Day" yn gadarnach a mwy gafaelgar, ond wrth fyned yn gadarn, aeth hefyd braidd yn drwm a dilewyrch. Er bod iddo ei funudau o ysbrydiaeth, rhaid cyfaddef mai gwaith anwastad ydyw. Perfformiwyd ef yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909. Y mae'n debyg mai'r gerddoriaeth a ysgrifennodd ar eiriau Gray, "The Bard" yw ei waith mwyaf uchelgeisiol, ond hyd yn oed yma, teimlir nad yw'r cyfansoddwr wedi cael ei draed odano, a'i fod yn tueddu i ymbalfalu tuag at y ffurf ddelfrydol i'w fynegi ei hun. Perfformiwyd "The Bard" yng Ngŵyl Caerdydd yn 1910. Cafwyd perfformiad arall yn y Queen's Hall, Llundain, a hefyd gan Undeb Corawl Lerpwl o dan arweiniad Harry Evans.
Cyfansoddwr toreithiog oedd Vaughan Thomas, ac y mae swm ei waith, yr hyn sydd wedi ei gyhoeddi a heb ei gyhoeddi, yn drawiadol. Ar wahân i'r darnau y soniwyd amdanynt eisoes, ysgrifennodd ranganau i gorau cymysg a chorau meib- ion, anthemau, tonau, darnau i'r piano, ac amryw ddarnau i ffidil a phiano. Ysgrifennodd hefyd bedwarawd a phumawd llinynnol. Gwaith gwych yw'r olaf, ac yn ôl rhai beirniaid, dyma'r darn gorau o gerddoriaeth ystafell a ysgrifennwyd erioed gan gyfansoddwr Cymreig. Yn Cape Town, yn 1930 y perfformiwyd y gwaith hwn am y tro cyntaf, a'i ddarlledu o Gymru yn 1936. Fe ddichon y gwerthfawrogir gweithiau Vaughan Thomas yn well yn y dyfodol. Nid celfyddyd boblogaidd yw'r eiddo ef, ond i'r rhai a werthfawroga gerddoriaeth sy'n cyfuno nodweddion dychmygol a theimladol y bardd a'r cerddor, daw ei waith i apelio fwy-fwy.
Ganed DAVID EVANS yn Resolfen yn 1874. Bu'n ddisgybl i Joseph Parry, ac yn olynydd iddo yn y swydd o ddarlithydd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Caerdydd. Penodwyd ef yn athro cerddoriaeth yno, pan sefydlwyd y gadair yn 1908, a llanwodd y swydd yn anrhydeddus nes ym ddiswyddo yn 1939, pan ddaeth y Dr. J. Morgan Lloyd i'w ddilyn. Fel sol-ffawr y dechreuodd ei yrfa, gan lwyddo i basio'n rhwydd gydag anrhydedd y naill arholiad ar ôl y llall, nes cael ohono y radd Mus.Doc. (Rhydychen). Pan nad oedd ond ieuanc, daeth yn feirniad poblogaidd, ac yn arweinydd cymanfaoedd. Rhoddodd flynyddoedd maith i wasnaethu Caniadaeth y Cysegr, a'r Eisteddfod. Ysgrifennodd yn hel aeth ar gerddoriaeth, yn Saesneg a Chymraeg, a bu'n un o olygyddion Y Cerddor o 1916 nes ei ddirwyn i ben yn 1921. Bu o wasanaeth mawr i achos caniadaeth y cysegr, fel cyfansoddwr a golygydd. Golygodd Llyfr Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd a'r Revised Church Hymnary, gan gyfrannu tonau iddynt hefyd. Fel cyfansoddwr enillodd y brif wobr am gyfres i gerddorfa yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr (1901). Ar ôl hyn, rhoes ei ddawn i gyfansoddi ar gyfer corau, gyda chyfeiliant cerddorfa. Dyma'i brif weithiau yn y cyfeiriad hwn: "The Coming of Arthur," a ysgrifennwyd ar gyfer Gŵyl Caerdydd yn 1907, "Deffro, mae'n Ddydd," "Gloria" a gyfansoddwyd i ddathlu dau- canmlwyddiant Methodistiaeth yng Nghymru, ac "Alcestis," gwaith i gor gyda chyfeiliant i gerddorfa linynnol. Y mae'n bosibl mai fel athro y gwnaeth David Evans ei wasanaeth mwyaf i Gymru. Bu'n Athro Cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, am un mlynedd ar hugain, ac yn sicr, ef yw un o'r athrawon gwychaf a gynhyrchodd Cymru erioed; profir hyn gan y nifer mawr o ddisgyblion llwyddiannus sydd mor ddyledus iddo am eu dysgu a'u hysbrydoli.
Ganed T. HOPKIN EVANS yn Resolfen yn 1879, a bu'n ddisgybl i'w gefnder, David Evans. Dilynodd ei athro trwy ennill y radd o Mus.Doc. (Rhydychen). Enillodd ei wobr gyntaf am gyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar yn 1905, gyda'i fadrigal swynol "Ar doriad dydd." O 1909 hyd 1919, bu'n organydd ac arweinydd y côr yng nghapel Presbyteraidd Cymraeg Castell Nedd. Yn 1919, symudodd i Lerpwl, lle y bu'n olynydd i Harry Evans fel arweinydd yr Undeb Corawl Cymreig. Yma, aeth ymlaen â'r gwaith da a wnaethpwyd yno gan ei ragflaenydd, a rhoddi perfformiadau nodedig o weithiau gan Delius, Vaughan Williams a chyfansoddwyr modern eraill, heblaw gweithiau gan y cyfansoddwyr clasurol.
Ysgrifennodd amryw gyfansoddiadau i offerynnau, gan gynnwys pedwarawd llinynnol a enillodd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1907, sonata i biano, ac ychydig o ddarnau llai i'r offeryn hwnnw. Dyma'i gyfansoddiadau pwysicaf i gerddorfa: "A Brythonic Overture," "A Cymric Suite" a "Three Preludes on Welsh Hymn-tunes"—a'r tonau a ddewisodd yw "Moab," "Abergele" a "Tanymarian." Gwnaeth Hopkin Evans waith da fel beirniad ac arweinydd; hefyd fe gyfansoddodd nifer o ganeuon a rhanganau, a daeth llawer ohonynt yn boblogaidd. Ei weithiau mwyaf uchelgeisiol yw "Kynon" a "Salm i'r Ddaear." Ysgrifennwyd y ddau ar gyfer unawdau, côr a cherddorfa. Dengys y rhain ba mor gynefin oedd y cyfansoddwr â'r gerddoriaeth fodern orau, a dengys hefyd y dylanwad a gafodd rhai o gyfansoddwyr heddiw ar ei ardull.
Bu farw yn 1940, a chladdwyd ef yn Resolfen.
Ganed HARRY EVANS ym Merthyr ar ddydd Calanmai, 1873. Fel llawer o gyfansoddwyr Cymru yn ei oes, dechreuodd ymwneud â cherddoriaeth drwy gyfrwng y tonic sol-ffa. Penodwyd ef, yn ddeg oed, yn organydd Capel Gwernllwyn, Dowlais, ond yn lle talu cyflog, cytunodd yr eglwys i dalu am wersi cerddoriaeth iddo. Bu'n petruso yn y dechrau rhwng mynd yn athro ysgol a mynd yn gerddor, ac fe fwriodd ei brentisiaeth yn Ysgol y Bechgyn, Abermorlais. Ond bu'r dynfa at gerddoriaeth yn rhy gref, ac yn fuan iawn rhoes y gorau i fod yn athro ysgol, a throi'n gyfangwbl at gerddoriaeth. Gwelwyd yn fuan fod ganddo athrylith at arwain côr. Enillodd ei gôr meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1900, a'i gôr cymysg o Ddowlais yn Eisteddfod Llanelli yn 1903.
Ar ôl hyn, ni chystadleuodd mewn eisteddfod, ac yn ddiweddarach, penodwyd ef yn arweinydd Undeb Corawl Cymreig Lerpwl. Eithr ni thorrodd ei gysylltiad â Chymru, ond yn hytrach cymryd diddordeb mawr yng ngherddoriaeth ei wlad, lle yr oedd yn ffigur poblogaidd fel beirniad ac arweinydd. Yng ngeiriau Syr Granville Bantock, "Yn ddiamheuol, yr oedd yn un o'r arweinyddion corau mwyaf yn y wlad, ac yn sicr yn un o'r beirniaid mwyaf caredig a phoblogaidd."
Bu am flynyddoedd yn pleidio dros sefydlu Coleg Cerddoriaeth yng Nghymru, ond ni roddwyd y cynllun mewn grym. Ymhen amser, rhoddwyd gwell safle i adrannau cerdd yng ngholegau'n prifysgolion, ac felly nid oedd cymaint o angen am goleg o'r fath.
Ni chyfansoddodd lawer iawn, gan mor brysur y bu fel arweinydd a beirniad; ond fe gyfansoddodd ddau waith mawr. Y mae'r cyntaf o'r rhain, sef "The Victory of St. Garmon" ar ffurf cantata, i unawdwyr, côr a cherddorfa. Elfed yw awdur y geiriau, ac fe ysgrifennwyd y gwaith yn arbennig ar gyfer Gŵyl Caerdydd yn 1904, a chafodd dderbyniad gwresog. Cafodd ei berfformio nifer o weithiau mewn gwahanol rannau o'r wlad, ond ni ddaeth corau yn hoff ohono. Y mae'n waith diddorol, ond nid oes ynddo yr uchafbwyntiau dramatig sydd mor hoff gan gôr a chynulleidfa mewn gweithiau o'r math hwn. Ei ail waith mawr yw "Dafydd ap Gwilym." Cantata ramantus yw hon, yn seiliedig ar ddigwyddiadau ym mywyd y bardd. David Adams (Hawen) a ysgrifennodd y geiriau. Perfformiwyd y gantata hon y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen (1908), a chafodd ei darlledu o Gymru rai blynyddoedd yn ôl. Y mae ynddi ryw swyn a newydd-deb, a defnyddir alawon cenedlaethol Cymru ynddi mewn ffordd gywrain. Fe ddyry hyn awyrgylch hapus a rhamantus iddi. Y mae ynddi hefyd un neu ddau o gorawdau ardderchog_ac y mae ym "Molawd Cariad" rym, ehangder ac urddas. Y mae'n drueni na chlywir y gwaith hwn yn amlach.
Ar wahân i'r darnau a grybwyllwyd, nid ysgrifennodd lawer i gôr, oddieithr ei drefniadau adnabyddus o "Gwŷr Harlech" ac "Ar hyd y nos," a rhangan ragorol, "Myfanwy," i gor meibion. Yr oedd Harry Evans yn arweinydd galluog, cerddor gwych, a phersonoliaeth gref. Ergyd fawr i Gymru. oedd ei farw yn 1914 yn un a deugain oed.
Ganed VINCENT THOMAS yn Wrecsam, ond aeth i Lundain yn gynnar ar ei oes i weithio mewn banc. Treuliodd ei oriau hamdden yn astudio cerddoriaeth, a chyn hir trôdd ati i ffurfio cerddorfa o dan ei arweiniad ef ei hun. Bu'r Gymdeithas yn gymaint o lwyddiant fel y penderfynodd roddi ei amser yn gyfangwbl i gerddoriaeth. Yn ddiweddarach yn ei fywyd dewiswyd ef yn arweinydd i Gymdeithas Gorawl Westminster, a chadwodd y swydd am ddwy flynedd ar bymtheg. Yn ystod yr amser hwn trefnodd y Gymdeithas tual deg cyngerdd a thrigain, dau ohonynt yn cynnwys gweithiau gan gyfansoddwyr Cymreig yn unig. Er gwaethaf yr holl waith a ddeuai i'w ran fel athro cerddoriaeth, arweinydd a beirniad, llwyddodd i gael amser i roddi sylw i ochr greadigol ei gelfyddyd, ac y mae'r rhestr o'i gyfansoddiadau yn cynnwys pedair opera (pob un ohonynt wedi ei seilio ar destun Cymreig), tair opera ysgafn, cerddoriaeth i dair drama, pum darn i gerddorfa a chôr, ugain o weithiau i gerddorfa yn unig, a nifer o ganeuon a rhanganau.
Er na chafodd Vincent Thomas addysg gerddorol, ond yr hyn a gasglodd ef ei hun, yr oedd yn gerddor medrus, diwylliedig, gyda chwaeth gerddorol arbennig. Nid oes nemor Gymro wedi dangos cymaint o fedr a chrefft wrth gyfansoddi ar gyfer cerddorfa, ac yn wahanol i'r rhan fwyaf o gyfansoddwyr Cymreig, medrai ysgrifennu ar gyfer cerddorfa mor fedrus ag ar gyfer y llais. Ei brif weithiau yw ei operâu "Enid" a "The Quest of the Grail." Ernest Rhys yw awdur geiriau'r ddwy. Ei waith gorau i gor yw ei osodiad o "Y Bumed Gerdd" Taliesin. Y tro cyntaf y perfformiwyd ac y darlledwyd y gwaith hwn oedd yn 1942, gan Gôr Unedig Dowlais, o dan arweiniad D. T. Davies. Ysgrifennodd hefyd gorawd ardderchog i gôr meibion, sef "De Profundis," rhai rhanganau swynol i leisiau merched, a nifer mawr o ganeuon Saesneg a Chymraeg.
Bu farw yn Llundain yn 1940.