Neidio i'r cynnwys

Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun)/Heddiw

Oddi ar Wicidestun
Rhwng dau ryfel Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun)

gan Idris Lewis

Rhagolygon

PENNOD IX
HEDDIW

Yr ydym ni'r Cymry'n gynefin â chael ein canmol am ein canu, ac wedi ymffrostio erioed ein bod yn gwybod y gwahaniaeth rhwng canu da a chanu gwael; ond wrth drin cerddoriaeth y gerddorfa, nid ydym mor sicr ohonom ein hunain. Nid oes gennym gymaint o hyder, wrth ymdrin â cherddorfa, ag sydd gennym wrth ymwneuthur â chôr. Y rheswm am hyn yw inni erioed ymroi mwy i ganu â llais, nag i ganu offerynnau. Eithr heddiw, gwelir argoelion fod gennym fwy i'w ddweud wrth y gerddorfa, a'n bod yn barotach i'w gwerthfawrogi. Darlledu sydd yn cyfrif, i raddau mawr, am y gwelliant hwn. Oherwydd yn awr, gallwn wrando ar gerddorfeydd byd-enwog trwy'r radio. Hefyd cawn glywed llawer o gerddorfeydd enwog Lloegr sy'n cynnal cyngherddau yng Nghymru yn ystod y rhyfel.

Cafodd y gwelliant yn y cyfeiriad hwn effaith ar safle'r cyfansoddwr. Y mae swm yr hyn a gyfansoddwyd i gerddorfa gan gyfansoddwyr Cymreig yn ystod y deng mlynedd diwethaf yn aruthrol fwy na'r hyn a geid ganddynt yn ystod unrhyw ddeng mlynedd cynt. Gwir yw i'n cyfansoddwyr gael rhagor o gyfleusterau, a chredaf mai'r radio a roes y cyfleusterau hyn trwy roddi siawns iddynt gael perfformio eu gweithiau, a thrwy ennyn diddordeb y llu mawr o wrandawyr.

Cyn dyfod darlledu, yr unig gyfle bron a gâi cyfansoddwr o Gymro i glywed ei waith ef ei hun oedd mewn un o gyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol neu yn un o'r gwyliau canu. Y rhan amlaf, ni chafodd unrhyw waith a berfformiwyd yn y cyngherddau hyn ei glywed wedyn. Heddiw, os bydd. cyfansoddwr yn ysgrifennu darn o'r radd flaenaf, gellir ei ddarlledu drocon mewn cyfnod byr. Golyga hyn fod ei waith yn cael ei glywed nid yn unig gan ei gydwladwyr ef ei hun, ond gan wrandawyr drwy'r holl fyd. Digwyddodd hyn eisoes i'r cyfansoddwyr Cymreig hynny y darlledwyd eu gwaith yn fynych yng Ngwasanaeth Tramor y B.B.C.

Wrth ddilyn hanes cerddoriaeth Cymru yn ystod y can mlynedd diwethaf, y mae'n ddiddorol atgoffa'n gilydd gymaint o weithiau y daroganodd cerddorion Cymreig fod rhyw ddadeni mawr i gerddoriaeth Cymru ar ddyfod. Gau broffwydoliaeth bob tro; eithr heddiw temtir dyn i edrych ar yr ochr olau a phroffwydo'r un peth, a chymaint o'n cyfansoddwyr yn cynhyrchu llawer gwell gwaith nag a gaed yn y gorffennol. Yn awr, soniwn yn fyr am gyfansoddwyr heddiw, sydd wedi rhoddi sylw arbennig i'r gerddorfa.

Yr hynaf a'r mwyaf toreithiog o'r rhain yw. RICHARD MALDWYN PRICE, a aned yn 1890. Mab ydyw i'r diweddar T. Maldwyn Price, a oedd yn adnabyddus fel cyfansoddwr y darnau poblogaidd i gôr meibion, "Crossing the Plain" a "The Fishermen." Cafodd Maldwyn Price, y mab, yn wahanol i'r rhan fwyaf o'i gyd-gyfansoddwyr, ei holl addysg yng Nghymru. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Aberystwyth, a graddiodd yn B.Mus. yn 1911. Ef oedd y myfyriwr cyntaf i ennill y radd o D.Mus. Prifysgol Cymru. Bu yn y fyddin yn ystod y rhyfel o'r blaen, a phan dderbyniodd y radd D.Mus. yn ffurfiol, cymerwyd ef i'r ddalfa am fod yn absennol o'r fyddin heb ganiatâd! Er 1933 y mae'n dal y swydd o organydd Eglwys Fair, y Trallwng, swydd y bu ei dad ynddi o'i flaen.

Gweithiau i gerddorfa yw'r rhan fwyaf o'i gyfansoddiadau ef. Cynnwys y rhain symffoni, a ysgrifennodd ar gyfer y radd D. Mus. (Nid yw eto wedi ei pherfformio); deg cyfres— llawer ohonynt ar alawon Cymreig ac alawon gwerin; tair bugeilgan; tri agorawd; "A Welsh Prelude"; "Fantasy-Overture, Glyndŵr"; "Introduction and Scherzo?"; a nifer o ddarnau llai. Y mae'n debyg mai ei weithiau gorau yw ei "Introduction and Scherzo" a'r "Fantasy-Overture, Glyndŵr." Ysgrifennwyd y cyntaf ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1928, a chafodd ei ddarlledu nifer o weithiau. Cafodd "Glyndŵr" ei berfformiad cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth (1937), â'r cyfansoddwr yn arwain. Perfformiwyd ef eilwaith y flwyddyn ganlynol yng Ngŵyl y Tri Chwm yn Aberpennar. Trefnwyd y gwaith hwn gan y cyfansoddwr i seindorf bres hefyd, ac yn y ffurf hon y dewiswyd ef yn ddarn cystadleuol yn yr Eisteddfod Genedlaethol rai blynyddoedd yn ôl.

Wrth bwyso a mesur gwaith Maldwyn Price, daw dau beth i'r amlwg, ei allu arbennig i ysgrifennu ar gyfer cerddorfa, a'i ddawn i lunio alawon trawiadol a diymdrech. Wrth feirniadu un o'i gyfansoddiadau yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911, disgrifiodd y diweddar Walford Davies ef fel "The Welsh Schubert." Y mae'n rhyfedd nad ysgrifen- nodd fwy o weithiau lleisiol a chanddo yntau gystal dawn i lunio alawon; efallai mai'r rheswm am hyn yw bod ganddo'r fath rwyddineb rhyfeddol ac athrylith ddiamheuol wrth gyfansoddi ar gyfer y gerddorfa.

Un o'r Barri yw GRACE WILLIAMS. Y mae ei thad, W. M. Williams, yn gerddor eiddgar, a bu ar daith yn yr America a Chanada rai blynyddoedd yn ôl fel arweinydd Côr Bechgyn Romilly.

Dechreuodd Grace Williams astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Caerdydd, a graddio'n B.Mus. Oddi yno, cafodd ysgoloriaeth i'r Royal College of Music a bu'n astudio cyfansoddi gyda'r Dr. Vaughan Williams. Wedyn astudiodd am flwyddyn yn Vienna gydag Egon Wellesz. Hi yn sicr yw'r bersonoliaeth fwyaf blaengar yn y byd cerddorol yng Nghymru heddiw. Er ei holl ddiddordeb yn nhueddiadau a dulliau cerddoriaeth mewn gwledydd eraill, nid yw byth yn anghofio mai Cymraes ydyw, ac y mae'n cyfuno dealltwriaeth eang o gerddoriaeth ddiweddar drwy'r byd â gwir gariad at ein cerddoriaeth werin ni Gymry. Cynllunia ar raddfa fawr, a baidd sylweddoli ei chynlluniau.

Ysgrifennodd Grace Williams amryw weithiau pwysig i gerddorfa, a rhai ohonynt wedi eu sylfaenu ar gerddi gwerin Cymreig. Y mae blas Cymreig pendant ar yr agorawd cyngerdd "Hen Walia," gwaith a berfformiwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1935, ac a ddarlledwyd droeon. (Nid Cymru yw ystyr y gair "Walia" yn y teitl, ond ffurf lafar ar "waliau," gan gyfeirio at yr hen furiau yng Nghaernarfon). Er mai gwaith cynnar yw'r agorawd, dengys fedr technegol Grace Williams i ysgrifennu yn y dull modern, a hefyd ei hoffter o ganeuon gwerin Cymreig.

Y mae "Fantasia on Welsh Nursery Tunes" yn waith hyfryd iawn, ac yn rhagori'n amlwg ar "Hen Walia." Y mae'n loyw a melodaidd, y sgorio'n wreiddiol ac effeithiol, a gwelir ynddo fwy o sicrwydd wrth drafod y gerddorfa. Hwn yw ei gwaith mwyaf poblogaidd, ac y mae'n ychwanegiad pwysig a pharhaol at swm ein cerddoriaeth gerddorfaol. Darlledwyd ef lawer gwaith; gan Gerddorfa Symffoni'r B.B.C., dan arweiniad Syr Adrian Boult; Cerddorfa'r B.B.C., Adran B (deirgwaith), Cerddorfa'r B.B.C. yn y Gogledd, a Cherddorfa Sgotaidd y B.B.C.

Ysgrifennwyd "Rhiannon," chwedl i gerddorfa, ar ffurf cyfres. Rhoed comisiwn i Grace Williams i'w hysgrifennu gan y B.B.C. yn 1939, a pherfformiwyd hi gyntaf yn yr hydref y flwyddyn honno, a'i hailberfformio ymhen dwy flynedd. Yna caed "Sinffonia Concertante" i biano a cherddorfa. Y mae hwn yn waith uchelgeisiol, a'r rhan i'r unawdydd yn anodd ei chanu. Perfformiwyd ef gyntaf gan Gerddorfa'r B.B.C. yn 1943, a Margaret Good yn canu'r piano. Yn ddiweddar, gorffennodd Grace Williams waith mawr arall i gerddorfa, "Owen Glendower." Disgrifia hi ei hun ef fel "Argraffiadau Symffonig." Y mae iddo bedwar symudiad. Ysbrydolwyd ef gan yr olygfa rhwng Glyndŵr a Hotspur yn nrama Shakespeare, "Henry the Fourth," rhan I. Ni pherfformiwyd y gwaith hwn eto.

Rhaid ychwanegu at y rhestr uchod ddau waith i gerddorfa linyn-"Élegy" a ysgrifennwyd cyn y rhyfel presennol, a set o ddarnau a orffennwyd yn ddiweddar, ac a elwir "Sea Sketches." Er mai gweithiau i gerddorfa yw corff ei gwaith, ysgrifennodd Grace Williams amryw ddarnau lleisiol, megis "Two Psalms for Soprano Solo and Orchestra" (a ysgrifennwyd pan oedd hi'n fyfyriwr yn y R.C.M.); "The Song of Mary," gosodiad o'r Magnificat i soprano a cherddorfa ; a "Gogoned- awg Arglwydd." Hyd y gwn i, y darn olaf hwn yw'r unig gynnig a roes ar ysgrifennu ar gyfer côr. Cymerwyd y geiriau o Lyfr Du Caerfyrddin, a'r cyfansoddwr ei hun a ysgrifennodd y geiriau Saesneg. Perfformiwyd a darlledwyd "The Song of Mary" a "Gogonedawg Arglwydd" am y tro cyntaf gan Margaret Rees, côr a cherddorfa'r B.B.C. yn Chwefror, 1945.

Un o Rosllannerchrugog yw ARWEL HUGHES, a ganed ef yn 1909. Aeth i Ysgol Ramadeg Rhiwabon, ac yn ddiweddarach i'r Royal College of Music lle y bu'n astudio cerddoriaeth o dan y Dr. Vaughan Williams. Yn ystod ei flwyddyn olaf yn y coleg, ymgymerodd â gwaith ychwanegol fel organydd a meistr y cor mewn eglwys yn Rhydychen, ac yn ddiau fe ddylanwadwyd arno gan y profiad a gafodd yno o gerddoriaeth grefyddol o'r math uchaf, a rhoes hyn rywbeth llym yn ei gerddoriaeth, a thuedd at gyfriniaeth grefyddol ar brydiau. Oherwydd afiechyd, bu'n rhaid iddo ymneilltuo o'i swydd yn Rhydychen, a chynghorwyd ef i gyrchu glan y môr. Aeth i Aberystwyth i'r pwrpas hwnnw, gan fwriadu ar yr un pryd raddio yno. Ond rhoes y cynllun hwn o'r neilltu pan benodwyd ef ar staff y B.B.C. yn 1935.

Nid yw Arwel Hughes yn gyfansoddwr toreithiog, ond y mae'n un cyflym. Y mae llawer o'r cyfrinydd yn ei natur, a gesyd iddo'i hun safon mor uchel, nes ei fod eisoes yn ymwrthod â'i weithiau cynnar. Ymysg y rhain y mae "Passacaglia" i gerddorfa, a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon (1935) o dan arweiniad y cyfansoddwr ei hun. Yr un fu tynged un neu ddau o gyfansoddiadau ystafell.

Ei waith pwysig cyntaf yw "Fantasia for Strings on an old Ecclesiastical Welsh Melody" a ysgrifennwyd yn 1937. Derbyniodd y cyfansoddwr y dôn gan y Dr. J. Lloyd Williams, ac iddo ef y cyflwynir y gwaith. Perfformiwyd ef droeon gan gynnwys y tro hwnnw yn Eisteddfod Machynlleth yn 1937, dan arweiniad Syr Adrian Boult. Cynhwyswyd ef yn rhaglen y Promenade Concerts yn 1939, ond oherwydd i'r rhyfel dorri allan, nis perfformiwyd. Cyn y rhyfel, yr oedd Arwel Hughes wedi dechrau ar waith ar ffurf oratorio i gôr a cherddorfa ar y testun Job, y geiriau gan T. Rowland Hughes. Dodwyd y gwaith o'r neilltu ar y pryd, ond y mae rhan helaeth ohono wedi ei gorffen, a gobeithio yr ail-afaelir ynddo eto. Ei waith diweddaraf, a'r gorau yn fy marn i, yw "Anatiomaros". cathl symffonig i gerddorfa lawn, a berfformiwyd ac a ddarlledwyd am y tro cyntaf Ddydd Gŵyl Dewi 1944. Dyma'n ddiamheuol waith a fydd byw. Y mae ynddo egni, gloywder, a gallu mawr i gynnal y mynegiant yn ddi-wyro. Oherwydd hyn, ym marn y beirniaid a'i clywodd, y mae'r gwaith yn nodedig iawn ymysg gweithiau Cymreig y gerddorfa. Cymerwyd y teitl "Anatiomaros" oddi wrth gerdd enwog y Dr. T. Gwynn Jones, ac y mae'r gwaith yn deyrnged iddo ef. Ystyr y gair yw "enaid mawr," a myfyriodd y cyfansoddwr ar ystyr y geiriau hyn, gan ei throsi i gerddoriaeth sydd weithiau'n arwrol, weithiau'n dyner, ond bob amser yn ddiffuant. O dan ddylanwad ei brofiad yn yr eglwys yn Rhydychen, gosododd Arwel Hughes beth o'r Offeren Sanctaidd, "Kyrie Eleison," i soprano a chôr a chyfeiliant cerddorfa. Cyhoeddwyd hwn dan y teitl "Gweddi," a'i ganu yn Eisteddfod Genedlaethol Llandybïe yn 1944. Perfformiwyd ei waith diweddaraf ar gyfer cerddorfa, a'r gorau hyd yn hyn (Prelude for Orchestra"), am y tro cyntaf, dan gyfarwyddyd y cyfansoddwr ei hun, yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog, 1945, ardal enedigol yr awdur. Clodforwyd ef fel gwaith gwych gan y beirniaid cerddorol. Y mae ef yn dra höff o gerddoriaeth draddodiadol Cymru, a gwnaeth drefniadau rhagorol o alawon gwerin. Trefnwyd amryw ohonynt ar gyfer offerynnau, a hynny'n arbennig ar gyfer eu darlledu gan Gerddorfa Linynnol Powys. Y mae ei drefniant o'r hen alaw wych honno, "Cân y Pibydd Coch," ar raddfa ehangach, ac wedi ei sgorio i gerddorfa lawn. Y mae hwn yn waith rhagorol; nid yw'r trefnydd byth yn colli golwg ar yr alaw, eithr ei haddurno heb ei chuddio. Y mae dyfodol cerddoriaeth offerynnol yng Nghymru yn dibynnu llawer ar Arwel Hughes a Grace Williams. Y mae'r ddau gyfansoddwr hyn eisoes yn tynnu sylw cerddorion deallus y tu allan i Gymru, a da fuasai i gyfansoddwyr ieuainc Cymru gymryd eu harwain ganddynt.

Cyfansoddwr arall y disgwylir pethau mawr ganddo yw MANSEL THOMAS. Ganed ef yn Tylorstown, ac astudiodd yn y R.A.M. o dan Benjamin Dale. Penodwyd ef yn Gyfarwyddwr Cerdd Cynorthwyol i'r B.B.C. yng Nghymru yn 1936. Ei brif weithiau cerddorfaol hyd yn hyn yw "Variations on an Original Theme" a "Variations on Morfa Rhuddlan." Perfformiwyd y blaenaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon (1935) â'r cyfansoddwr ei hun yn arwain. Yn ddiweddar yr ysgrifennodd "Variations on Morfa Rhuddlan," ac fe ddarlledwyd y gwaith hwn am y tro cyntaf ar ddydd Gŵyl Dewi 1945. Ysgrifennodd Mansel Thomas hefyd lawer o ganeuon swynol, a chyhoeddwyd rhai ohonynt. Ychwaneger rhanganau, darnau i'r piano, a llawer o drefniadau o alawon gwerin Cymreig ar gyfer gwahanol gyfuniadau o offerynnau.

Ganed DANIEL JENKIN JONES yn Sir Benfro yn 1913. Un o Aberaeron yw ei dad, Jenkin Jones, a chyfansoddodd rai anthemau a thonau cynulleidfaol. Symudodd y teulu i Abertawe pan oedd Daniel yn blentyn. Bu yn yr Ysgol Ramadeg yno. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol. Yr oedd o'r cychwyn yn awyddus i wneuthur cerddoriaeth yn alwedigaeth iddo, ond mynnodd ei rieni ganddo gymryd gradd yn y celfyddydau i ddechrau. Yn y cyfamser bu'n astudio cyfansoddi yn ei oriau hamdden, ac yr oedd wedi ysgrifennu amryw weithiau i gerddorfa. Ar ddiwedd ei gwrs coleg, symudodd ei deulu i Lundain, ac aeth yntau'n ddisgybl at Harry Farjeon yn y R.A.M. Yn fuan, enillodd. ysgoloriaeth Mendelssohn, a thrwy hynny gallodd astudio cerddoriaeth ar y cyfandir. Torrodd y rhyfel ar draws ei gwrs, ac aeth yn swyddog i'r lluoedd arfog.

Cyfansoddodd Daniel Jones lawer iawn, a'r rhan fwyaf o'i weithiau ar gyfer cerddorfa. Gan fod naws fodern i'w waith, ac felly'n anodd ei ddarllen a'i berfformio, fe welir nad y math o gerddoriaeth ydyw a ddaw'n boblogaidd ar unwaith, ond y mae er hynny yn nodedig o wreiddiol ac yn apelio mwy at y deall nag at y teimlad. Buasai rhoddi rhestr gyfan o'i weithiau yn myned â mwy o ofod nag sydd gennym yma, ond dylid crybwyll ei "Sorrows of Branwen," "Four Pastorales for Small Orchestra," "Five Pieces for Orchestra" a "Comedy Overture." Darlledwyd yr olaf yn 1944 gan Gerddorfa'r B.B.C. yn y Gogledd. Y mae i Daniel Jones ddoniau eithriadol, a chefndir cerddorol a diwylliadol eang, a hawdd y gellir credu yr hyn a ragfynegodd y Dr. Vaughan Thomas amdano, sef y bydd yn un o gyfansoddwyr mwyaf Cymru.

Ymysg cyfansoddwyr Cymreig cyfoes eraill sydd wedi ysgrifennu gweithiau i gerddorfa, y mae Hubert Davies, Kenneth Harding, Heber Evans a Franklin Sparks.

Aelod o staff coleg Aberystwyth yw Hubert Davies, ac ymysg pethau eraill, cyfansoddodd "Concert Rondo," a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd (1938) a "Suite for Strings" ar alawon Cymreig. Hefyd gwnaeth drefniadau hyfryd o alawon gwerin Cymreig i lais a phiano.

Canu'r fiola yng Ngherddorfa Symffoni'r B.B.C. y mae Kenneth Harding. Cyfansoddodd ddwy gathl symffonig, "Sohrab and Rustum" a "Phaeton" a choncerto dwbl i ffidil, sielo a cherddorfa. Darlledwyd y ddau waith olaf a nodwyd. Ganed Heber Evans yn Nhreherbert, ond yn Lloegr y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Enillodd lawer gwaith am gyfansoddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a'r enwocaf o'r cyfansoddiadau hyn yw "A Suite for Orchestra," wedi ei sylfaenu ar alawon Cymreig.

Fel Heber Evans, astudiodd Franklin Sparks gerddoriaeth yng Ngholeg Caerdydd, ac enillodd yntau am gyfansoddi drocon yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y pwysicaf o'i weithiau yw'r gathl symffonig "Branwen," a ddarlledwyd yn 1944.

Cyn gadael y bennod hon dylid crybwyll Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, a sefydlwyd yn 1908. Y mae'r gymdeithas hon yn ddyledus iawn i Olygydd ei Chylchgrawn, sef y Dr. J. Lloyd Williams, am ei hysbrydoli a'i gwneuthur yn llwyddiant. Trwyddi hi fe adferwyd nifer mawr o alawon, sydd wedi eu cyhoeddi yn ystod y chwarter canrif diwethaf. Oni bai am weithgarwch y Gymdeithas buasai'r rhain yn sicr wedi eu colli ers talm. Y mae llawer o'n cyfansoddwyr ni heddiw wedi defnyddio amryw o'r alawon, a'u trefnu i leisiau a cherddorfa. Credaf y buasai cyfansoddwyr yn cael cryn ysbrydiaeth ohonynt, pe rhoent fwy o amser i'w hastudio. Haedda'r Gymdeithas Alawon Gwerin gefnogaeth frwd pob gwir gerddor Cymreig, ac fe ddylai ddylanwadu'n gryf ar gerddoriaeth Cymru yn y dyfodol.

Nodiadau

[golygu]