Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun)/Rhagolygon
| ← Heddiw | Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun) gan Idris Lewis |
Mynegai → |
PENNOD X
RHAGOLYGON
Y MAE'r rhyfel diweddar wedi newid ein hagwedd tuag at fywyd a chelfyddyd, a disgwylir y bydd cerddoriaeth, a'r celfyddydau eraill, yn dyfod yn rhan bwysig yn ein bywydau ar ôl y rhyfel. Yn ystod blynyddoedd y rhyfel, gwnaethpwyd yn eithaf clir pa mor bwysig oedd cerddoriaeth fel celfyddyd, ac fel moddion i godi calon y genedl, ond fe ddylai cerddoriaeth olygu mwy inni nag adloniant difyr yn unig. Geill fod yn foddion nerthol i anfon neges o'n gwlad ni i'r gweddill o'r byd, a dylid cynllunio'n ddoeth i ddatblygu. cerddoriaeth Cymru os ydym am gyfrannu unrhyw beth o werth i gerddoriaeth y byd yn y dyfodol.
Ond wrth gynllunio, dylem ochel camgymeriadau'r gorffennol. Ein gwendid mwyaf oedd methu datblygu cerddoriaeth offerynnol, ac yn arbennig gerddoriaeth y gerddorfa. Y gwendid hwn oedd y rhwystr pennaf i'n cynnydd fel cenedl gerddorol yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf. Tra oedd cenhedloedd eraill yn cynyddu ym mhob cangen o'r gelfyddyd, yr oeddem ni'n rhoddi gormod o sylw i gerddoriaeth gorawl, gan esgeuluso cerddoriaeth offerynnol. Canlyniad hyn oedd diwylliant cerddorol unochrog. Fel y gwelsom eisoes, rhoes y Gymanfa, ac i raddau llai, yr Eisteddfod, eu pwys ar ganu corawl, ac ni welsom bosibiliadau cerddoriaeth symffonig'tan y blynyddoedd diwethaf yma. Yn y dyddiau. goleuedig hyn, ni eill cenedl sy'n ymlwybro trwy gymorth canu corawl yn unig ennill lle anrhydeddus ymysg cenhedloedd cerddorol y byd.
Ein hangen cyntaf, felly, yw Cerddorfa Genedlaethol ar raddfa symffonig. Gallai cerddorfa o'r math hwn ddatrys y rhan fwyaf o'n hanawsterau. Buasai'n cefnogi cyfansodd- wyr ieuainc Cymru sydd yn awr yn ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer cerddorfa, trwy fynych ganu eu gwaith; gallai ymuno â chymdeithasau corawl er mwyn canu gweithiau corawl mawr ; a buasai'n rhoddi cyfle i'r Cymry glywed perfformiadau "byw" o'r campweithiau mawr ar gyfer cerddorfa. Wrth reswm, buasai cerddorfa barhaol, digon mawr i ganu gweithiau symffonig, yn costio llawer o arian bob blwyddyn, ond credaf y gellid gorchfygu'r anhawster hwnnw petai awdurdodau pob tref a sir yng Nghymru yn rhoddi cynhorthwy ariannol. Nid oes cymaint o broblem gyda'r corau, oherwydd y mae digonedd o leisiau i'w cael, ac nid yw'n rhaid creu corau fel y mae'n rhaid creu cerddorfa. Gwahaniaeth arall yw bod yn rhaid wrth gerddorion proffesedig i wneuthur cerddorfa, ond gwaith gwirfoddol yw canu mewn côr, a chryn amrywiaeth yn eu safonau a'u cyraeddiadau. Dylid ystyried yn ofalus iawn gyflwr ein canu corawl, ac arbrofi â dulliau a syniadau newydd er mwyn codi'r safon. Y mae angen gwella techneg a thonyddiaeth corau Cymreig, a dylai fod ganddynt lawer iawn mwy o ddarnau y gallent eu canu. Y cwbl sydd ganddynt fel rheol yw ychydig ranganau, ac ambell gorawd o'r "Messiah" ac ambell oratorio gyffelyb. Y rheswm am fod cyn lleied o ddysgu darnau newydd yw na eill aelodau'r corau ddarllen cerddoriaeth, a gorfod iddynt ddysgu eu rhannau wrth y glust.
Ond cyn codi safon canu corawl, rhaid inni yn gyntaf godi safon arwain. Y mae digonedd o ddefnydd corau yng Nghymru, ond gwaetha'r modd fe'i camddefnyddir oherwydd anallu'r arweinwyr. Ni eill llawer ohonynt wneuthur dim mwy na churo amser, ac anaml y gallant arwain y dernyn mwyaf syml heb gopi. Dewisir arweinydd yn aml oherwydd ei sêl, nid oherwydd ei gymwysterau cerddorol. Ac aelodau'r côr, hwythau, anfynych y dysgant eu rhannau ar gof, ond yn hytrach cadw eu llygaid ar y copi, heb roddi odid ddim sylw i'r arweinydd, ac ef wedi'r cwbl a ddylai fod yn ganolbwynt yr holl berfformiad. Nid bob amser y sylweddolir bod arwain côr yn gofyn mwy o ymroddiad nag arwain cerddorfa o gerddorion proffesedig. Y mae mwy o gyfrifoldeb ar arweinydd côr, oherwydd gofyn ei gantorion am fwy o hyfforddiant ac am arweiniad sicrach nag aelodau cerddorfa, canys y mae'r rheini fel rheol wedi eu disgyblu'n well ac yn fwy parod eu hymateb i ofynion yr arweinydd. Buaswn i'n argymell sefydlu ysgol i hyfforddi arweinwyr yng Nghymru, canys rhaid gwella safon yr arwain cyn coethi gwaith y corau.
Ni ddeuwn byth yn genedl o ddiwylliant cerddorol oni roddir i ddarllen cerddoriaeth fwy o le yn ein cyfundrefn addysg. Awgrymaf roddi mwy o amser yn yr ysgolion i ddysgu hyn, a gwneuthur cerddoriaeth yn bwnc gorfodol yn y cyrsiau addysg, a hefyd gofalu yn ddieithriad na ddysgir cerddoriaeth i blant ond gan athro cymwys i'r gwaith. Pe gwneid hyn byddai'r plentyn yn cael ei gychwyn yn briodol, a hyd yn oed pe na bai ganddo lais cyfaddas i fod yn aelod o gôr, buasai wedi derbyn cefndir cerddorol a barai iddo garu cerddoriaeth am y gweddill o'i oes.
Ysgrifennwyd llawer o bryd i'w gilydd am ddiwygio'r Eisteddfod Genedlaethol. Carwn roddi teyrnged i'r hen sefydliad rhagorol hwn, oherwydd er ei holl wendidau, bu'n gyfrwng i gefnogi cerddorion Cymru trwy'r blynyddoedd. Fel y gwelsom yn y llyfr hwn eisoes, bu pob cerddor Cymreig o bwys mewn cyswllt â'r Eisteddfod rywbryd neu'i gilydd yn ystod ei oes, a manteisiodd ar hynny. Yn fy marn i, yr ydym yn tueddu i ddisgwyl gormod gan yr Eisteddfod, ac anghofio (a dyfynnu Joseph Bennett) "mai gwobrwyo diwylliant cerddorol y mae'r Eisteddfod, nid darparu ar ei gyfer, ac eithrio efallai ar ambell achlysur prin." Mewn geiriau eraill, ni eill yr Eisteddfod ond bod yn ddrych o ddiwylliant cerdd- orol a llenyddol y genedl ar amser arbennig. Os bydd bly- nyddoedd llwm, a chanu corawl ar drai, fe welir hynny yng nghystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol megis y bu yn nechrau'r ganrif hon.
Gallai'r Eisteddfod fod yn fwy o rym o lawer ym mywyd cerddorol Cymru pe rhoddai fwy o gefnogaeth i gerddorion Cymreig. Gellid gwneuthur hynny trwy ddewis mwy o'u gwaith hwy fel darnau cystadleuol, a chynnwys mwy o'u cyfansoddiadau yn rhaglenni cyngherddau'r Eisteddfod. Ni fynnwn awgrymu y dylai'r holl ddarnau cystadleuol fod yn waith Cymry; ond pe dewisai'r pwyllgorau fwy o weithiau Cymry, yr wyf yn siŵr y buasai i'r cyfansoddwyr hwythau wneuthur eu rhan a chynhyrchu mwy.
Diau y gwelid diwygiad cerddorol yng Nghymru pe bai gennym fwy o gydymdeimlad â'n cerddoriaeth ein hunain. Hyd yn hyn, ychydig iawn o ddiddordeb a gymerth y genedl yng ngweithiau ei chyfansoddwyr hi ei hun, a chwynant hwy, nid heb reswm, nad oes odid neb yn malio dim am yr hyn a ysgrifennant. Cymharol fychan yw cynnyrch cerddorol Cymru wrth gynnyrch cenhedloedd eraill, ond y mae'n syn cyn lleied o gerddorion Cymreig a ŵyr am y pethau sydd gennym. Anfynych iawn y ceir arweinwyr corau ac unawdwyr yn gynefin â darnau gan gyfansoddwyr Cymreig. Gwn trwy brofiad mor anodd yw darbwyllo arweinwyr corau i baratoi gweithiau Cymreig, a chael gan gantorion ddysgu caneuon Cymreig. Oni roddir cynnig ar y gweithiau hyn, a'u canu, pa fodd y gallwn farnu eu gwerth? Dylid atgyfodi llawer ohonynt, a rhoddi cyfle iddynt o ddifrif cyn eu dedfrydu'n derfynol.
Profir pa mor fychan yw'r diddordeb yng ngherddoriaeth Cymru gan y gefnogacth dila a roed i'r unig gylchgrawn cerddorol a gyhoeddwyd yng Nghymru yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf, sef Y Cerddor. Efallai y buasai sefydlu cylchgrawn cerddorol byw yn cynrychioli barn gerddorol y dydd yng Nghymru, ac yn ymroi i gefnogi cerddoriaeth Gymreig, yn symbyliad gwerthfawr i'n cerddorion, ac yn gymorth i godi diddordeb y genedl yn eu gwaith. I ddirwyn i ben, ein prif anghenion, yn fy marn i, yw: (1) sefydlu Cerddorfa Genedlaethol i Gymru; (2) gwelliant cyffredinol yn safon ein canu corawl; (3) cefnogi cyfansoddwyr Cymreig trwy berfformio'u gweithiau yn amlach; (4) hyfforddiant mwy trwyadl mewn darllen cerddoriaeth; (5) mwy o ddiddordeb byw yng ngwaith y sawl sy'n cyfansoddi ac yn perfformio cerddoriaeth trwy'r wlad benbwygilydd. Buasai'n gynhorthwy i gyrraedd hyn pe cychwynnid cylchgrawn cerddorol da.
Os gellir datrys y problemau hyn yn foddhaol, gellir rhagweled dyfodol llewyrchus i gerddoriaeth yng Nghymru.