Neidio i'r cynnwys

Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun)/Rhwng dau ryfel

Oddi ar Wicidestun
Dechrau canrif Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun)

gan Idris Lewis

Heddiw

PENNOD VIII
RHWNG DAU RYFEL

WRTH drafod gwaith y cyfansoddwyr y soniwyd am hanes eu bywydau yn y bennod flaenorol, dywedwyd mai bychan o lwyddiant a fu i'w hymgais i hyrwyddo cerddoriaeth y gerddorfa yng Nghymru, ac nid eu bai hwy oedd hynny. Yr oedd amryw resymau am hyn: (a) nid oedd cyfansoddwyr Cymru'n ddigon cynefin â defnyddio'r gerddorfa fel cyfrwng artistig, a methasant ysgrifennu gweithiau i dynnu sylw'r cyhoedd; (b) ar wahân i'r cyfansoddwyr eu hunain, mewn cerddoriaeth gorawl, yn bennaf, yr oedd diddordeb y Cymry ac ni wyddent ddim am y gweithiau gorau i gerddorfa, gan anwybyddu'r hyn a wneid yn y ffurf hon gan ein cyfansoddwyr; (c) Ychydig o gyfleusterau a gafwyd i glywed cerddorfa o safon uchel yng Nghymru, ac ni chafwyd yma yr un gerddorfa sefydlog. Yr elfen economaidd a gyfrifai'n bennaf am hyn, ond fe erys y ffaith mai anaml y gallai cyfansoddwr o Gymro glywed datganiad o'i waith, ac o ganlyniad ni allai'r Cymry feirniadu gwaith y dynion hyn.

Cyn trafod cwrs cerddoriaeth Cymru o 1919 hyd 1939 (y cyfnod rhwng y ddau ryfel mawr), dylid egluro bod gwaith diweddarach rhai o'r cyfansoddwyr a enwyd yn y bennod ddiwethaf, yn dyfod i'r cyfnod hwn (wrth ymdrin â bywydau'r cyfansoddwyr, y mae hi weithiau yn amhosibl osgoi gorgyffwrdd o'r math yma).

Yn niwedd y rhyfel mawr cyntaf, daeth cyfnod o arbraw yn hanes cerddoriaeth, fel yn hanes y rhan fwyaf o'r celfyddydau eraill, pan chwiliwyd am syniadau newydd, a dulliau gwahanol o'u mynegi. Daeth yr ysbryd anturiaethus hwn i Gymru hithau, a dyfod enwau a sefydliadau newydd i'r golwg. Ymhlith y sefydliadau newydd hyn, yr oedd Cyngor Cerdd Cymru a sefydlwyd yn. 1919, a'r B.B.C. yn 1922. Cymerodd y ddeubeth hyn ran bwysig yn natblygiad cerddoriaeth ein gwlad. Sefydlwyd y Cyngor Cerdd er mwyn "gweithredu. fel y prif gorff ymgynghori ynglŷn â holl faterion yn ymwneuthur ag addysg gerddorol yng Nghymru." Gwnaeth y Cyngor waith ardderchog, ac ymysg ei fawr weithgarwch, bu trefnu "Gŵyl y Tri Chwm" a "Gwyl Maldwyn." Yn y rhain, casglwyd at ei gilydd adnoddau cerddorol ardaloedd eang, gyda chanlyniadau rhagorol. Rhaid inni beidio ag anghofio'r gefnogaeth a roddwyd gan y Cyngor i gyfansoddwyr Cymreig drwy gyhoeddi eu gwaith o bryd i bryd. Fel y mae gwaetha'r modd, talfyrrwyd peth ar ei waith da oherwydd y rhyfel presennol, a marw Syr Walford Davies, a oedd yn Gyfarwyddwr y Cyngor Cerdd, ond yn sicr fe dry Cymru at y Cyngor pan ddaw'r angen am arweiniad yn y blynyddoedd anodd sydd o'i blaen. Dyma'r enwau pwysicaf ar ochr greadigol cerddoriaeth yn ystod y cyfnod o dan sylw: David Vaughan Thomas, T. Hopkin Evans, Vincent Thomas (yr ydym eisoes wedi eu trafod), John Owen Jones, E. T. Davies, David de Lloyd a Morfydd Owen. Daeth hefyd ychydig o gyfansoddwyr ieuainc i'r amlwg, y cawn sôn amdanynt yn y bennod nesaf.

Y mae JOHN OWEN JONES yn adnabyddus fel cyfansoddwr, arweinydd a beirniad. Ysgrifennodd ar gyfer côr a cherddorfa, a'i weithiau gorau yn y cyfeiriad hwn yw "He fell among thieves" a "Spirit of Delight." Cafodd y cyntaf y brif wobr yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri (1920) ac oherwydd rhagwelediad Pwyllgor yr Eisteddfod, cafodd ei berfformiad cyntaf yn un o gyngherddau'r eisteddfod honno. Darlledwyd y ddau gyfansoddiad o Gymru yn 1938. Ysgrifennodd hefyd ddarnau swynol i gôr meibion. Y mwyaf adnabyddus ohonynt yw "The Arsenal at Springfield" a "The Inchcape Bell." Ceir ganddo hefyd ganeuon a rhanganau i gôr cymysg. Y mae "God of Dreams" ("Yr Hyfryd Wlad") yn un o'r rhanganau gorau a ysgrifennwyd erioed gan gyfansoddwr Cymreig.

Ganed E. T. DAVIES yn Nowlais yn 1879. Daeth yn olynydd i Harry Evans fel organydd yno yn 1906, a rhoes wasanaeth mawr i gerddoriaeth Cymru fyth er hynny. Ef yw un o'r beirniaid mwyaf poblogaidd heddiw, y mae'n llwyfannwr da, ac yn siaradwr rhugl yn Saesneg a Chymraeg. Nid yw'n gyfansoddwr toreithiog, ac nid ysgrifennodd unrhyw waith mawr, ond y mae ei ddarnau bychain (caneuon, rhanganau, darnau i biano a cherddoriaeth ystafell) wedi eu hysgrifennu'n firain a swynol. Gellir dywedyd mai ef yw'r cyfansoddwr mwyaf boddhaol yng Nghymru. Haedda glod uchel am ei waith yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor—swydd yr ymneilltuodd ohoni'n ddiweddar. Gwnaeth waith da ar ran cerddoriaeth werin Cymru hefyd. Trefnodd nifer mawr o'n halawon gwerin ar gyfer unawdau lleisiol, côr, piano a llinynnau. Y mae i'w waith ar y cyfan ansawdd Gymreig gref, efallai oherwydd ei ddiddordeb byw mewn alawon gwerin, ac fe ddengys nodweddion artistig cerddor diffuant. Cafodd ddylanwad da ar ein cerddoriaeth yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf.

Ganed DAVID DE LLOYD yn Sgiwen, ger Castell Nedd, yn 1883. Sol-ffawr pybyr ydoedd yn nyddiau ei ieuenctid, a deil yn frwd dros y nodiant hwn hyd heddiw. Ond ni fodlonodd ar hynny, ac enillodd y radd Mus.Doc. (Dulyn) ers llawer blwyddyn. Am rai blynyddoedd bu'n organydd Capel Seion, Llanelli, ond yn 1926 ymddiswyddodd, er mwyn bod yn Athro Cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, swydd y mae'n ei dal hyd heddiw. Ysgrifennodd un neu ddau o bethau i gerddorfa'n unig, ond fe ymddengys yn fwy hoff o gyfansoddi i gôr nag i offerynnau. Y mae'n un o ychydig o gyfansoddwyr Cymru i ysgrifennu operâu, a rhoes inni ddwy opera bur ddiddorol, "Tir Na N'og" a "Gwenllian"—y ddwy ar destunau Cymreig. Ysgrifennwyd geiriau'r gyntaf gan y Dr. T. Gwynn Jones, ac ef ac Eurwedd sy'n gyfrifol am eiriau'r ail.

Ymysg ei weithiau eraill, y mae cantata i blant, "Dydd a Nos" a dau ddarn i gôr a cherddorfa. Ysgrifennwyd y naill, sef "Tu draw i'r llen," yn y dull modern, ac y mae'n gafael pan genir ef yn wirioneddol dda; cafodd y llall, sef "Cylch corawl o ganeuon gwerin" ei berfformio yn Eisteddfod Machynlleth (1937) a'r cyfansoddwr yn arwain, a gwnaeth argraff ffafriol iawn. Ysgrifennodd David de Lloyd nifer o ddarnau llai, yn cynnwys caneuon (a grybwyllwyd eisoes), trefniadau o alawon gwerin Cymreig, a rhanganau i wahanol leisiau. Y mae'n resyn mawr nad oes ganddo ragor ar gyfer cerddorfa'n unig, gan fod iddo ddawn heb amheuaeth yn y cyfeiriad hwn.

Trist yw sôn am MORFYDD OWEN, gan iddi farw mor ieuanc. Colled fawr i gerddoriaeth Cymru oedd colli talent mor addawol. Ganed hi yn Nhrefforest, ger Pontypridd, yn 1892. Yr oedd ei rhieni'n hoff o gerddoriaeth, a chafodd Morfydd wersi pan oedd yn blentyn, gan ddyfod yn ei blaen yn gyflym fel pianydd a chantores. Y piano oedd y gorau ganddi, a hyfforddwyd hi ar gyfer bod yn bianydd. Ni bu'n astudio canu o ddifrif nes cyrraedd tair ar hugain oed. Wedi ennill mewn rhai eisteddfodau lleol, cafodd ysgoloriaeth "Caradog" yn 1909, ac aeth i Goleg Caerdydd, lle y bu'n astudio cerddoriaeth o dan yr Athro David Evans am dair blynedd. Yna aeth i'r R.A.M. lle y cafodd yrfa ddisglair, gan ennill gwobrau am ganu a chyfansoddi. Yn 1913 rhannodd ysgoloriaeth "Goring Thomas" gydag Eric Grant, a'i rhan hi o'r ysgoloriaeth oedd £70 am y tair blynedd dilynol.

Bu farw yn 1918 pan nad oedd ond pump ar hugain oed, ar wyliau ym Mro Wyr. Yn ystod ei hoes fer, cyflawnodd Morfydd Owen lawer iawn, ac yr oedd ei marw yn ergyd greulon i'r rhai a fu'n gwylio gyrfa un a feddai ar dalent a oedd mor brin yn hanes ein gwlad. Ni allwn ond dychmygu sut y buasai wedi datblygu, a bod yn ddiolchgar am y cyfansoddiadau a adawodd ar ei hôl. Y mae peth ohonynt yn dyst o athrylith. Cynnwys ei gwaith bedwar ugain o ganeuon; tua dwsin o ddarnau piano; "Romance" i ffidil a phiano; triawd offerynnol; amryw o bethau i gôr, ac ychydig i gerddorfa. Hefyd cyhoeddodd nifer o drefniadau o alawon gwerin.

"A Nocturne" a "Morfa Rhuddlan" (cathl symffonig) yw ei gweithiau mwyaf uchelgeisiol i gerddorfa. Clywyd y "Nocturne" am y tro cyntaf mewn cyngerdd a roddwyd gan y R.A.M. yn y Queen's Hall, Llundain, yn 1914. Cafodd dderbyniad neilltuol o dda gan feirniaid Llundain; darlledwyd ef ddwywaith. Y mae "Morfa Rhuddlan" (a seiliwyd ar yr hen alaw o'r un enw) yn weddol adnabyddus yng Nghymru, ac wedi ei berfformio lawer gwaith. Fel y "Nocturne" gwaith yn llawn addewid ydyw, yn hytrach na chyflawniad, ac ni allwn ond dyfalu am y fath gyfansoddiadau rhagorol a gawsem gan y ferch ddawnus hon, onibai iddi farw yng ngwanwyn ei bywyd. Ei chaneuon yw'r rhan aeddfetaf o'i gwaith, ac y maent ymysg ein trysorau mwyaf gwerthfawr. Dylent fod yn stoc pob un o'n cantorion Cymreig. Hyd yma cawsant eu hesgeuluso, er mawr golled i bawb a gâr gerddoriaeth.

Nodiadau

[golygu]