Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun)/Y Gân Gymreig
| ← Y Gymanfa a'r Eisteddfod | Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun) gan Idris Lewis |
Dechrau canrif → |
PENNOD VI
Y GÂN GYMREIG
AETH llawer blwyddyn heibio, wedi i ganu corawl gartrefu yng Nghymru, cyn bod unrhyw ymgais at gyfansoddi caneuon. Tua chanol y ganrif ddiwethaf odid y ceid unrhyw ganeuon Cymraeg ar wahân i'r alawon cenedlaethol (yr oedd geiriau Cymraeg yn cael eu hysgrifennu iddynt y pryd hwnnw) a'r ymdrechion cynnar a wnaed gan Owain Alaw a J. D. Jones i ysgrifennu caneuon. Yn y pum degau, cyhoeddodd J. D. Jones ei lyfrau Y Delyn Gymreig ac Alawon y Bryniau, a oedd yn cynnwys y caneuon gwreiddiol cyntaf, yn ôl pob tebyg, a gyhoeddwyd erioed yng Nghymru. Fel gwaith arloeswr, yr oedd y casgliadau hyn yn bwysig, a daeth un neu ddwy o'r caneuon, er gwaethaf eu hansawdd elfennol, yn bur boblogaidd. Eithr fe'u disodlwyd hwy pan aeth cyfansoddwyr Cymru ati yn ddiweddarach, i gyfansoddi caneuon o ddifrif. Prif anhawster cyfansoddwyr Cymreig y dyddiau hynny oedd eu diffyg profiad ym myd cerddoriaeth offerynnol. Ni fedrai ond ychydig ohonynt ganu piano neu organ, ac o ganlyniad ni allent ysgrifennu cyfeiliant da i'w caneuon. Y rhan fynychaf, amrwd ac aneffeithiol oedd eu hymdrechion cyntaf yn y cyfeiriad hwn. Ond yr oedd Owain Alaw yn eithriad. Organydd proffesedig ydoedd, ac yn hen gynefin ag offerynnau allweddog. Eithr er iddo lwyddo i raddau wrth ysgrifennu ar gyfer corau, ni lwyddodd i ysgrifennu caneuon arbennig o dda. Boed a fo, yr oedd ei gyfeiliannau yn ddiargyhoedd; yr oeddynt bob amser yn dwt ac yn gywir, ac yn rhan o'r llwyddiant byrhoedlog a fu i ganeuon fel "O peidiwch â dweud wrth fy nghariad" a "Myfi sy'n magu'r baban."
Y mae'n ddiau ddylanwadu ar y gân Gymreig ar y cychwyn gan yr hen faledi, a oedd yn perthyn yn agos i'r hen alawon cenedlaethol, ac a oedd weithiau'n hanfodol glwm wrthynt. Yr oedd hyd yn oed y telynegwyr cyntaf yn ysgrifennu yn arddull yr hen faledi, a dyma, y mae'n debyg, y rheswm paham y mae'r caneuon Cymraeg hynaf, ac weithiau'r rhai diweddarach, wedi eu hysgrifennu yn y dull hwn. Y mae'n werth sylwi bod rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd R. S. Hughes wedi eu hysgrifennu yn null yr hen faledi. Yr oedd dyfodiad cantorion enwog fel Edith Wynne, Mary Davies, Eos Morlais, Ben Davies a Ffrangcon Davies yn beth tra phwysig yn natblygiad y gân Gymreig, oherwydd daeth galw mawr am y math yma o gerddoriaeth, ac fe dynnwyd sylw cyfansoddwyr at y ffurf hon o gyfansoddi. Yn wir fe ysgrifennwyd llawer o ganeuon ar gyfer y cantorion hyn.
Un o nodweddion y caneuon Cymreig oedd bod y rhan i'r llais fel rheol yn ganadwy a diymdrech. Efallai y gellir priodoli hyn i'r ffaith fod llawer o'r cyfansoddwyr caneuon, megis Megan Watts-Hughes, William Davies, Pughe Evans a John Henry (awdur enwog "Gwlad y Delyn") yn gantorion proffesedig. Yr oedd hyd yn oed Joseph Parry, a ysgrifennodd rai caneuon da, yn ganwr bariton pan oedd yn ddyn ieuanc. Dywedir mai ei fynych absenoldeb o'r coleg er mwyn canu mewn cyngherddau a oedd wrth wraidd ei anghydfod â'r awdurdodau yn ystod yr amser yr oedd yn gofalu am adran gerddorol Aberystwyth, ac a arweiniodd yn y diwedd i'w ymddiswyddiad. Yn y cyngherddau hyn, canai ei ganeuon ei hun, gan gyfeilio iddo'i hun ar yr harmoniwm.
Wrth ddewis geiriau ar gyfer eu caneuon, dangosodd y cyfansoddwyr yn fynych chwaeth isel resynus. Nid oedd y geiriau'n aml yn haeddu eu gosod ar gân o gwbl. Disgrifient ystormydd erchyll, a diangfeydd argyfyngus ar dir a môr, e.e., "Y Llong a'r Goleudy," "Brad Dunrafon," "Llam y Cariadau," etc. Yn y pegwn arall, cawn ganeuon hiraethus am fam a chartref. Y mae "Bwthyn bach melyn fy nhad," "Cartref" a "Llythyr fy Mam" yn enghreifftiau da o'r math hwn. Yr oedd cynulleidfaoedd Cymreig yn dotio at ganeuon fel hyn, oherwydd bu galw mawr amdanynt, ac nid ydynt yn llwyr allan o'r ffasiwn eto.
Un o ganeuon mwyaf adnabyddus Emlyn Evans oedd "Bedd Llywelyn." Dechreuai'r gân gydag adroddgan, ac ar ôl hyn bu'n ffasiwn am beth amser i ddechrau cân yn y dull hwn. Benthyciad o Loegr, fel y ganig, oedd syniad yr adroddgan. Y cyfansoddwys caneuon gorau yng Nghymru yn ystod y ganrif ddiwethaf oedd Emlyn Evans, Joseph Parry, Pughe Evans, William Davies ac R. S. Hughes. Yr ydym eisoes wedi trafod gwaith Emlyn Evans a Joseph Parry-nid rhaid ond ychwanegu nad eu caneuon oedd eu gwaith gorau. Ond fe genir ychydig o'u caneuon heddiw mewn cyngherddau, er enghraifft, "Baner ein Gwlad," "Hoff wlad fy ngenedigaeth" a "Yr Eos," o waith Joseph Parry, a "Hen wlad y menyg gwynion" a "Bedd Llywelyn" gan Emlyn Evans.
Ganed DAVID PUGHE EVANS yng Nghynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin, yn 1866, lle'r oedd ei dad yn ffarmwr. (Fe'i ganed o fewn ergyd carreg i gapel Dafydd Evans, Ffynnon Henri). Yr oedd yn hoff o gerddoriaeth, a dysgodd ganu'r ffidil pan oedd yn hogyn. Prentisiwyd ef yn llanc i ddilledydd yn Llanelli, ac yn ystod yr amser hwn daeth yn aelod o gôr R. C. Jenkins, yng Nghapel Seion. Dywedir iddo gael gwersi mewn cynghanedd gerddorol gan Joseph Parry. Yn ddiweddarach, datblygodd ei lais, a daeth yn denor da; daeth trobwynt ei yrfa pan enillodd ysgoloriaeth am dair blynedd yn y Royal College of Music yn Llundain. Yr oedd erbyn hyn yn un-ar-hugain oed, a phenderfynodd fod yn ganwr proffesedig. Ar ôl gadael y coleg, ymunodd â chwmni opera Arthur Rousby, a chymerodd rai o'r prif rannau i denor. Ni bu erioed yn gryf ei iechyd, a thoc fe waethygodd, ac oherwydd hyn collodd ei lais. I ganwr ar drothwy ei yrfa, yr oedd hyn yn ergyd lethol ; ond i Gymru yr oedd yn fendith ddiarwybod, oherwydd bu'n rhaid i Pughe Evans ymroddi i yrfa o ddysgu canu, ac ysgrifennu caneuon. Gwnaeth ei gartref yn Abertawe, ac o hynny ymlaen bu'n byw bywyd undonog athro canu gydag ambell egwyl o gyfansoddi caneuon. Y mae'r rhain ymysg y gorau a feddwn. Oherwydd ei brofiad fel canwr, gallai ysgrifennu alawon yn llawn mynegiant a hawdd eu canu. Yr oedd ei addysg fel cerddor, a'i ddawn canu piano yn peri bod ei gyfeiliannau yn artistig ac yn ddiddorol. Ei gân gyntaf oedd "Yr Hen Gerddor." Fe'i cenir gan bob tenor Cymreig, ac yn sicr dyma un o'r caneuon mwyaf dwys a ysgrifennwyd erioed. Eithr ei gân orau yw "Tyr'd, Olau Mwyn." Yr oedd y ffaith fod Novello wedi cyhoeddi'r gân hon ynddi ei hun yn glod mawr y dyddiau hynny. Daeth hyn ag ef i fri fel cyfansoddwr caneuon, ac nid yw'n syn, oherwydd buasai cân o'r safon hon yn ddigon i wneuthur enw i gyfansoddwr ieuanc, hyd yn oed heddiw. Dyma, yn ddi-ddadl, y gân gysegredig orau a ysgrifennwyd erioed gan gyfansoddwr o Gymro. Ysgrifennodd lawer o ganeuon da eraill, ac fe genir rhai ohonynt heddiw, megis "Cymru fy Ngwlad," "Brad Dunrafon" a "Y Ddwy Delyn," ond i'm tyb i, y mae ganddo ddwy gân sydd wedi eu hesgeuluso ar gam, sef "Return unto thy rest" cân gysegredig neilltuol o dda, a "Hyd fedd hi gâr yn gywir." Trefnwyd yr olaf yn bur fedrus gan y cyfansoddwr ar ffurf canon.
Gellir cymharu'r digwyddiad anffodus a roes ben ar yrfa Pughe Evans fel canwr â'r ddamwain anffodus a rwystrodd Schumann rhag bod yn bianydd enwog. Gyda Schumann, yntau, yr oedd dynoliaeth ar ei hennill, oherwydd cyfansoddodd ef lawer ar gyfer y piano.
Er nad ysgrifennodd ddim gweithiau mawr ar gyfer corau, cyfansoddodd Pughe Evans rai darnau i gor a oedd yn rhyfeddol o dda, ac a bery'n boblogaidd hyd heddiw. Fe genir ei drefniant o'r hen alaw Gymreig "Y Delyn Aur" gan bob côr meibion. Felly hefyd ei fadrigal swynol "Teyrnged Cariad" ("Lovely Maiden"). Fe esgeulusir ei rangan i leisiau cymysg -"Nos da'r Perorion," ac yn sicr ni haedda hyn. Bu farw yn Abertawe yn 1897 pan nad oedd ond un ar ddeg ar hugain mlwydd oed.
Ganed R. S. HUGHES yn Aberystwyth yn 1855. Mab ydoedd i siopwr, a oedd yn hoff o gerddoriaeth a cherddorion. Cafodd ei fab bob cefnogaeth i ddatblygu ei ddawn gerddorol. Dysgodd R. S. Hughes ganu'r piano yn ieuanc iawn, ac edrychid arno fel rhyfeddod. Clywn amdano'n cymryd rhan, pan nad oedd ond pump oed, mewn cyngerdd a roddodd Owain Alaw yn Aberystwyth. Yn ddeg oed, enillodd y wobr am ganu'r piano yn Eisteddfod Aberystwyth. Ar yr achlysur hwn creodd ei berfformiad dipyn o gynnwrf, ac ar ôl iddo orffen, dyna Brinley Richards, y beirniad, yn codi'r bachgen bach ar ei fraich, fel y gallai'r gynulleidfa ei weled. Datblygodd ei ddawn ganu piano fel yr âi'n hŷn, nes iddo ddyfod yn bencampwr ei oes yng Nghymru yn y gelfyddyd honno. Yr oedd hon yn ddawn a fu'n ddefnyddiol iddo'n nes ymlaen pan ddechreuodd ysgrifennu caneuon. Pan oedd yn bymtheg oed, aeth i'r Royal Academy of Music. Yma ni ddaeth yn ei flaen gystal ag y disgwylid. Y mae'n debyg mai'r rheswm. am hyn oedd ei natur swil, ddiymhongar. Sut bynnag, pur siomedig, ar y cyfan, oedd ei yrfa yno, ac ar ôl cyfnod braidd yn ddi-nod, treuliodd ychydig o amser ym Mangor fel dirprwy i'r Dr. Rogers yn yr Eglwys Gadeiriol.
Ar ôl dychwelyd i Aberystwyth ymsefydlodd fel cyfeilydd a chyfansoddwr caneuon. Yr oedd ei gân gyntaf, "Wyt ti'n cofio'r lloer yn codi," yn llwyddiant mawr, a dilynwyd hi gan ei gân orau, yn ôl pob tebyg, sef "Y Golomen Wen." Yn ddiweddarach, rhoes gynnig ar Lundain unwaith eto, ac ar ôl cyfnod siomedig arall, penodwyd ef yn organydd i un o'r Eglwysi Cymraeg yno. Yn Llundain, cyfansoddodd amryw o ganeuon a ddaeth yn boblogaidd iawn; yn eu mysg yr oedd "Y Dymhestl" a "Llam y Cariadau." Ar ôl ysbaid, troes at ffurf boblogaidd y faled, ac fe ysgrifennodd lawer o ganeuon o'r math hwn, gan gynnwys "Bwthyn bach melyn fy nhad" ac "Elen Fwyn." Cyfansoddodd donau hefyd, ac anthemau a rhanganau, ond nid oedd y rhain gystal â'i ganeuon; er y mae'n rhaid cyfaddef bod un o'i anthemau, "Wel, f'enaid, dos ymlaen," yn weddol lwyddiannus. Eithr cyfansoddwr caneuon, yn anad dim, ydoedd; pan nad oedd wrth y piano, yr oedd allan o'i elfen, ac fe gollai ysbrydiaeth yr offeryn. Dywedir nad oedd ganddo wybodaeth eang o gynghanedd, a dim ond ychydig o wybodaeth am wrthbwynt a ffiwg. Cytuna hyn a'i brofiad fel myfyriwr yn yr R.A.M. Ymddengys iddo geisio cyfansoddi pethau mwy uchelgeisiol, unwaith neu ddwy. Gorffennodd gantata, "Bugeiliaid Bethlehem," a phedwarawd llinynnol a enillodd y brif wobr yn Eisteddfod. Genedlaethol Wrecsam yn 1876, pan gafodd glod uchel gan Syr Julius Benedict. Y mae'n werth sylwi ddarfod iddo drefnu sgôr llais a phiano "Dafydd a Saul" o waith David Jenkins. Treuliodd flynyddoedd olaf ei oes fel organydd ym Methesda, lle y bu farw yn 1893.
Ganed WILLIAM DAVIES yn Rhosllannerchrugog yn 1859. Hoffai gerddoriaeth er pan oedd yn blentyn, a bu'n canu mewn un neu ddau o'r corau lleol, gan ddarllen o'r nodiant sol-ffa. Erbyn iddo gyrraedd deunaw oed, yr oedd wedi datblygu llais tenor da, ac mewn eisteddfod yn y Rhos enillodd y wobr gyntaf. Joseph Parry oedd y beirniad, a gwnaeth canu William Davies y fath argraff arno nes iddo awgrymu yn y fan a'r lle i bobl y Rhos hel arian i roddi ychwaneg o addysg gerddorol i'r bachgen, a'i gynorthwyo i wneuthur canu'n fywoliaeth iddo. Casglwyd cronfa, ac fe aeth William Davies i goleg Aberystwyth yn ddisgybl i Parry. Ar ôl gorffen ei gwrs yn y coleg, aeth i Langefni yn athro canu, ond wedi rhai blynyddoedd yno, penodwyd ef yn unawdydd yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Yno, bu'n canlyn ymlaen i astudio cerddoriaeth (o dan y Dr. Rogers, yr organydd) a chyn hir dechreuodd gyfansoddi caneuon. "Llwybr yr Wyddfa" oedd y gân nodedig gyntaf o'r eiddo ef, a daeth yn un o hoff ganeuon Eos Morlais. Dilynodd y gân hon yr un traddodiad â "Bedd Llywelyn" gydag adroddgan ar ei dechrau. Cân arall a gyfansoddwyd ym Mangor oedd yr un adnabyddus "O na byddai'n haf o hyd." Yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1886 y cafodd ei lwyddiant eisteddfodol cyntaf fel cyfansoddwr, pan enillodd y wobr gyda'i gân, "Neges y Blodeuyn." O hynny ymlaen bu'n ennill yn gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd yn Llundain (1887), Wrecsam (1888, gydag "O na byddai'n haf o hyd"), ac yn Aberhonddu yn 1889 cafodd wobr arbennig o ugain punt am set o bedair cân-un i bob llais. Yn yr un flwyddyn penodwyd ef yn unawdydd tenor yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen. Arhosodd yma hyd 1894, pan dderbyniodd swydd gyffelyb yn Eglwys Gadeiriol St. Paul, yn Llundain.
Bu William Davies yn boblogaidd fel beirniad a chanwr, ond fel cyfansoddwr caneuon y cofiwn ni ef. Gadawodd ar ei ôl nifer mawr o ganeuon gwych. Y mae ei alawon yn ddelfrydol i'r llais, a'r cyfeiliant bob tro yn gerddorol ac artistig. Yn sicr, yr oedd ymysg y mwyaf o'n cyfansoddwyr caneuon. Bu farw yn Llundain yn 1907.
Ond ni ddarfu'r gân Gymreig gyda William Davies. Er pan fu farw, newidiodd ei hansawdd yn fawr. Y mae wedi cynyddu gymaint yn y dull modern, nes teimlo ohonom fod y caneuon gorau eto i ddyfod. Wrth olrhain ei datblygiad, sylwn ar ddau newid pwysig: (a) Aeth cyfansoddwyr yn fwy gofalus wrth ddewis geiriau; (b) daeth y cyfeiliant yn rhan bwysig a hanfodol o'r gân, gan ychwanegu at fynegiant y geiriau. Fel y daeth gwell cyfleusterau i gael addysg gerddorol, rhoddodd cyfansoddwyr fwy o sylw i gerddoriaeth offerynnol, ac o'r herwydd ehangwyd eu gwybodaeth dechnegol gan wella'n ddirfawr ansawdd y gân hithau.
Y mae'n beth rhyfedd braidd na ddatblygodd ffurf nodweddiadol Gymreig ar y gân yng Nghymru, ffurf yn deillio o ganu penillion. Buasai rhywun yn meddwl y byddai ffurf mor hanfodol Gymreig â hon wedi denu sylw'r cyfansoddwyr Cymreig, ac y byddent hwy wedi gwneuthur arbrofion arni, a cheisio datblygu ffurf newydd, gynhenid. Ond ni wnaethpwyd hyn. Y mae'n beth rhyfeddach fyth na wnaeth yr un o'r cantorion enwog yng Nghymru astudiaeth arbennig o ganu penillion, nac ymarfer a'r gelfyddyd ar goedd. Y prif gyfansoddwyr caneuon yn nechrau'r ganrif hon oedd Vincent Thomas (geiriau Saesneg a ddefnyddiodd ef ran amlaf), T. Hopkin Evans a D. Vaughan Thomas.
Gwnaeth DAVID VAUGHAN THOMAS ymdrech lew i dorri llwybr newydd i'r gân Gymreig. Yr oedd ganddo ddiddordeb byw yn yr hen farddoniaeth Gymraeg, a bu'n dyfal astudio'i mesurau, yn arbennig mesur y cywydd. Gwnaeth arbrofion gyda'r mesur hwn gan ysgrifennu cerddoriaeth i'r cywyddau. Ni adawodd ar ei ôl ddim campweithiau yn y ffurf hon, nid oherwydd dim gwendidau a oedd iddo fel cerddor, ond am nad oedd ganddo'r ddawn i ysgrifennu alawon diymdrech, dawn sy'n anhepgor i gyfansoddwr caneuon. Ond y mae rhai o'i ganeuon bron â bod yn gampweithiau, er enghraifft "O Fair Wen" a "Berwyn." Eithr y mae caneuon o'r math hwn a ysgrifennodd Vaughan Thomas yn rhoi inni'r argraff mai ysgolor gwych yn hytrach na chyfansoddwr wedi ei ysbrydoli ydyw. Y mae ganddo lawer o ganeuon o safon uchel, yn arbennig y ddwy a grybwyllwyd uchod, a hefyd rhai a ysgrifennodd i farddoniaeth gan George Meredith, "Dirge in the woods," a "Enter these enchanted woods"-dwy gân sydd ymysg y pethau gorau a gyfansoddodd. Ar wahân i'r caneuon Saesneg hyn, y mae ei ganeuon ar delynegion Cymraeg yn hynod o Gymreig eu hansawdd, ac y mae'n bosibl mai ymhen blynyddoedd i ddyfod y gwelwn ffrwyth ei waith, ac y'i gwerthfawrogir yn fwy. Amser yn unig a ddengys a fydd y tir lle y bu ef yn archwilio, yn cael ei drin gan gyfansoddwyr caneuon yng Nghymru'r dyfodol.
Wrth ymdrin â'r gân Gymreig, rhaid inni beidio ag anghofio'r gwaith a wnaed gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe roes gefnogaeth i gyfansoddwyr yn gyson ar hyd y blynyddoedd drwy gynnig gwobrau am y caneuon gorau, a thrwy gyhoeddi rhai o'r caneuon buddugol o bryd i'w gilydd. Fel y gwelsom eisoes, bu William Davies yn cystadlu'n rheolaidd (ac yn ennill) yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod yr wyth degau, ac ar ôl yr amser hwnnw hyd heddiw, y mae cyfansoddwyr caneuon yn ddyledus iawn i'r Eisteddfod am ei chefnogaeth iddynt. Darganfu'r Eisteddfod dri chyfansoddwr caneuon yn y modd hwn, yn ystod y blynyddoedd diwethaf—sef Bradwen Jones, W. Albert Williams a Haydn Morris. Organydd yng Nghaergybi yw Bradwen Jones. Y mae'n ŵyr i Eos Bradwen, cerddor enwog flynyddoedd yn ôl, a chyfansoddwr y gân boblogaidd, "Bugail Eryri." Ni chyfansoddodd Bradwen Jones yn helaeth iawn, ac nid ysgrifennodd ond ychydig o ganeuon; ond y maent yn ganeuon da odiaeth, ac y mae'n resyn nad ysgrifenna ragor. Ei ganeuon mwyaf adnabyddus yw "Cân, utgorn, Cân" a "Mab yr Ystorm."
Un o Sir Fôn ydyw W. Albert Williams yntau, ond y mae'n byw yn Lerpwl ers rhai blynyddoedd bellach, lle y mae'n organydd yn un o'r capelau Cymraeg. Er nad yw'n gerddor proffesedi, y mae'n feirniad galluog, fel y gwelir wrth ei amryw erthyglau ar gerddoriaeth yn Y Cymro a Y Llenor.
Bu Haydn Morris hefyd yn aml iawn ymysg y buddugwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd. Ar wahân i'w ganeuon, cyfansoddodd lawer o weithiau ar gyfer côr a cherddorfa. Ymysg ei gyfansoddiadau i gerddorfa, ceir "Pro Patria" a enillodd wobr arbennig o £50 yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 1939.
Dylid crybwyll hefyd enwau David de Lloyd, J. Morgan Lloyd ac E. T. Davies. Bu de Lloyd, fel Vaughan Thomas, yn gwneuthur arbrofion gyda'r mesurau caeth Cymraeg a gwnaeth hyn yn llwyddiannus yn ei "Englynion ar Gân." Y mae'r rhain yn gyfansoddiadau rhagorol, a haeddant fwy o sylw. Ysgrifennodd E. T. Davies rai caneuon gwych, a gresyn na wnâi fwy, oherwydd y mae iddo ddawn arbennig at y gwaith. Eto i gyd yr ydym yn ddiolchgar iddo am "Ynys y Plant" (a ysgrifennwyd flynyddoedd yn ôl, ac sydd yn yr hen ddull), "Cân y Bugail" a "Baled Rhyfel Glyndwr, 1400." Daeth John Morgan Lloyd yn Athro Cerddoriaeth, ar ôl David Evans, yng Ngholeg Caerdydd yn 1939. Nid ysgrifennodd lawer, ond fe geir ganddo ychydig o ddarnau byr. Y mae ei gân "Alwen Hoff" a'i fadrigal "Wele gawell baban glân" yn enghreifftiau ardderchog o'i arddull.
Y mae'n gam mawr o "Llwybr yr Wyddfa" a "Bedd Llywelyn" i ganeuon cyfansoddwyr Cymreig heddiw. Daeth idiomau newydd i iaith cerddoriaeth, ac fe ymddangosodd tueddiadau modern a newid cwrs y gelfyddyd. Felly cawn ddyrnaid o gyfansoddwyr ieuainc yng Nghymru sy'n ysgrifennu caneuon yn y dull diweddar, dull a ymddengys yn od i glustiau sy'n gynefin â chaneuon fel "Y Golomen Wen" a "Baner ein Gwlad." Ond arwydd iach yw'r caneuon newydd hyn, a dynodant y deffro sy'n digwydd yng ngherddoriaeth Cymru heddiw. Y mae'n sicr mai iaith anghynefin heddiw fydd iaith gynefin yfory. Y pwysicaf o'r cyfansoddwyr hyn yw Arwel Hughes, Dilys Roberts, Mervyn Roberts, Mansel Thomas a Grace Williams. Yn anffodus ni chyhoeddwyd ond ychydig o'u caneuon hyd yn hyn, ond y maent yn sicr o ennill tir fel y daw cantorion a chynulleidfaoedd Cymru it werthfawrogi eu prydferthwch.