Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun)/Y Gymanfa a'r Eisteddfod
| ← Yr Eisteddfod a chyfnod y ganig | Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun) gan Idris Lewis |
Y Gân Gymreig → |
PENNOD V
Y GYMANFA A'R EISTEDDFOD
YN y bennod flaenorol, buom yn dilyn hanes cerddoriaeth yng Nghymru hyd ddiwedd cyfnod y ganig, gan orffen gyda Joseph Parry a David Jenkins, er nad oedd y ddau yma, mewn gwirionedd, yn perthyn i'r canigwyr. Cyn myned at y cyfansoddwyr a ddaeth ar ôl hyn, fe weddai inni roddi trem yn ôl er mwyn archwilio cyflwr cerddoriaeth yng Nghymru yn ystod deugain mlynedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Bu llawer o bethau'n dylanwadu ar dwf cerddoriaeth Cymru yn y cyfnod hwn. Y rhai pwysicaf ohonynt oedd (a) cychwyn y Gymanfa Ganu; (b) twf yr Eisteddfod fel sefydliad cerddorol; (c) bri cynyddol canu corawl. Perthynai'r olaf yn agos iawn i'r ddau fudiad cyntaf, ac oherwydd rhoddi lle mor amlwg i ganu lleisiol, esgeulusid canu offerynnol.
Yr oedd y Gymanfa Ganu'n rhwym o lwyddo, o'r cychwyn cyntaf. Dyma sefydliad a gafodd bopeth o'i blaid, oherwydd fe apeliodd at reddfau crefyddol a cherddorol y Cymry. Heblaw hyn, yr oedd tuedd ein cyfansoddwyr i ysgrifennu tonau ac anthemau yn peri bod gan gorau a chynulleidfaoedd ddigon o'r math o gerddoriaeth a oedd yn boblogaidd ar y pryd. Wedyn, yr oedd y teimladau crefyddol dwys a roed ar dân gan Ddiwygiad 1859 yn ei gwneuthur yn beth hawdd i Ieuan Gwyllt, Tanymarian, ac eraill, sefydlu'r Gymanfa fel dylanwad cryf ym mywydau'r bobl. Gwnaed hyn yn haws fyth, am fod y ddau hyn yn bregethwyr a darlithwyr poblogaidd yn ogystal â cherddorion. Yr oedd gan arweinwyr eraill y mudiad hwythau gyswllt agos â chrefydd. Offeiriad oedd Eos Llechid, ac yr oedd Ambrose Lloyd a Rosser Beynon hefyd yn ddynion tra chrefyddol ac yn arweinyddion canu mewn capelau. Dylid pwysleisio hyn, er mwyn dangos bod ochr grefyddol y Gymanfa mor bwysig â'r ochr gerddorol. Enillodd y Gymanfa lawer trwy ei chyswllt â phrif gerddorion y dydd, a diogel dywedyd na bu safon y Gymanfa erioed yn uwch nag yn ystod ugain mlynedd olaf y ganrif ddiwethaf, a hynny oherwydd cyfraniad y cerddorion talentog hyn, a roes lawer o'u hamser iddi. Trwy'r gymanfa, codwyd safon ein canu cynulleidfaol, a gallwn ymfalchio ynddo. Ond rhaid Cerddoriaeth yng Nghymru inni beidio ag anghofio'r gwaith gwerthfawr a wnaethpwyd. gan lawer o gerddorion a gyfrannodd i'r gwahanol lyfrau tonau a gyhoeddwyd o 1859-blwyddyn cyhoeddi llyfr Ieuan Gwyllt—ymlaen. Wrth edrych yn ôl dros y cyfnod hwn, gwelwn y nifer mawr o donau gwych a ddaeth i'n meddiant y pryd hwnnw. Peth ffodus, yn ddiau, ydoedd mai Ambrose Lloyd ac Ieuan Gwyllt oedd yr arloeswyr, oherwydd gosodasant hwy safon uchel i'r dôn gynulleidfaol.
Bron yn gyfochrog â thwf y Gymanfa, fe gododd mudiad y Tonic Sol-ffa, ac fe roes hwn symbyliad cryf i ganu corawl a chynulleidfaol. Eleazar Roberts ac Ieuan Gwyllt oedd prif genhadon y nodiant newydd yng Nghymru. Yr oedd Ieuan Gwyllt yn danbaid iawn drosto, fel y dengys ei waith yn cyhoeddi yn 1864 argraffiad sol-ffa o'i Lyfr Tonau, a chychwyn yn ddiweddarach Cerddor y Tonic Sol-ffa er mwyn hyrwyddo'r efengyl newydd. Onibai am gynnydd cyflym y tonic sol-ffa yng Nghymru, ni buasai'r adfywiad corawl mawr yn yr wyth degau a'r naw degau wedi digwydd; neu o leiaf, buasai wedi digwydd ar raddfa lai o lawer, heb y ffordd rwydd o ddarllen cerddoriaeth a gafwyd yn y tonic sol-ffa.
Elfen nodedig oedd y pwysigrwydd a oedd yn dyfod i ran yr Eisteddfod, a'r effaith a gafodd ei phoblogrwydd cynyddol ar ein canu corawl. Yn ystod cyfnod y ganig, daeth bri ar yr Eisteddfod fel sefydliad cerddorol. Yr oedd wedi creu brwdfrydedd dros gerddoriaeth Gymreig-cerddoriaeth gorawl yn bennaf, rhaid cyfaddef. Bu cyfansoddwyr gorau'r dydd yn cystadlu am wobrwyon; dewiswyd y cyfansoddiadau buddugol fel darnau ar gyfer cystadlaethau corawl y dyfodol, ac felly cawsant le yn stoc yr holl gorau Cymreig. Nid oedd corau'r pryd hwnnw yn rhai mawr fel corau heddiw, ond yn hytrach rhai bychain o ugain i ddeg-ar-hugain o leisiau. Fel rheol, canent yn ddi-gyfeiliant, ac yr oedd yn eu canu ryw ffresni na chaed mohono ar ôl y dyddiau hynny.
Bychain iawn oedd y gwobrau yn y prif gystadlaethau corawl. Hyd yn oed mewn Eisteddfod Genedlaethol, ystyrid pumpunt yn wobr ddigonol y dyddiau hynny. Yn ddiweddarach, codwyd ef i ddecpunt, ond fe aeth llawer blwyddyn heibio cyn codi'r wobr i dri ffigur. Fel y cynyddai'r wobr, felly y cynyddai'r corau o ran rhif eu haelodau, nes cael yn nechrau'r ganrif hon gorau o ddau neu dri chant o leisiau'n cystadlu am wobrau o ddau gant o bunnau. Mewn ffordd, peth drwg oedd hyn i ganu corawl Cymru, oherwydd daeth ennill gwobrau yn bwysicach peth na pherfformio'r gerddoriaeth yn gain. Aeth corau yn rhy fawr ac afrosgo i ganu darnau ysgeifn fel "Y Gwlithyn" ac "Yr Haf," felly yr oedd yn rhaid cael darnau addas i gorau mawr. Tyfodd corau bychain y capelau yn gorau "Ardal," a chyn hir ffurfiwyd "Undebau Corawl" a gynhwysai ardaloedd eang fel Cwm Tawe neu Gwm Rhondda. Daeth uchafbwynt y tyfiant yma pan ffurfiwyd yr enwog Gôr Caradog yn cynnwys pedwar cant a hanner o leisiau wedi eu dewis o holl Ddeheudir Cymru.
Gwelir felly fod y llwyfan yn barod ar gyfer dyfodiad Handel. Yr oedd Handel yn gyfansoddwr mor fawr, a chanddo ddawn mor eithriadol i ysgrifennu cerddoriaeth gysegredig, nes iddo ar fyr o dro ennill Cymru. Yn chwithig braidd, daeth ei olynwyr gynt, Ambrose Lloyd, Tanymarian a Joseph Parry, ymhen amser yn rhagflaenwyr iddo, ac yr oedd eu dynwarediadau caeth o'r arddull Handelaidd yn paratoi'r ffordd i'r meistr. Yr oedd Ieuan Gwyllt yntau'n edmygwr mawr of Handel, ac fe ychwanegodd at ei fri drwy ei erthyglau yn Y Cerddor, a hefyd drwy gyhoeddi rhai o'r cytganau mwyaf poblogaidd o waith Handel, gyda geiriau Cymraeg.
Y mae'n ddiddorol darganfod y rhesymau am boblogrwydd aruthrol Handel yng Nghymru-a bery'n ddi-drai hyd heddiw. Awgrymais un neu ddau o resymau eisoes, ond ceir rhesymau eraill hefyd. Yr oedd yr addysg a gafodd Handel yn yr Eidal wedi dangos iddo sut i ysgrifennu'n lleisiol a dramatig ar gyfer corau, ac yr oedd ei athrylith yn y cyfeiriad hwn yn apelio'n gryf at gorau a chynulleidfaoedd Cymreig, a theimlent hwy iasau yn ei gorawdau aruchel. Heblaw hyn, yr oedd ei oratorïau yn amlwg yn gerddoriaeth gysegredig, ac felly yn unol â'r traddodiad Cymreig. Felly yn wir yr ystyrid hyd yn oed y cytganau'n disgrifio aberthau gwaedlyd y paganiaid. Cynhelid yr ysgol gân fel rheol ar y Sul, ac yr oedd canu cerddoriaeth gysegredig yn anhepgor, ac felly'n cloi'n addas brofiadau crefyddol y Saboth. Beth a wnâi'n well, felly, na chytgan allan o oratorio gan Handel, yn gyforiog o "Amenau" a "Haleliwiau"? Yn olaf, fe hyrwyddwyd y bri hwn ar Handel oherwydd mai ei gorawdau ef oedd y rhan fwyaf o'r pethau a gyhoeddwyd gyntaf mewn tonic sol-ffa. Ni allai'r corau mawr ddysgu dim ond cerddoriaeth a gyhoeddwyd yn y nodiant hwn, a phan ychwanegwn y ffaith ddarfod i bwyll gorau eisteddfodol ddewis cytgan o waith Handel ar gyfer bron bob cystadleuaeth gorawl, gwelir bod pawb yn rhwym. o gael "y dwymyn Handelaidd." Yn sicr, yr enw mwyaf yn hanes cerddoriaeth Cymru oedd enw Handel.