Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun)/Yr Eisteddfod a chyfnod y ganig
| ← Cyfansoddwyr cynnar | Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun) gan Idris Lewis |
Y Gymanfa a'r Eisteddfod → |
PENNOD IV
YR EISTEDDFOD A CHYFNOD Y GANIG
WRTH olrhain hanes cerddoriaeth Cymru, y mae'n amhosibl osgoi'r Eisteddfod yn hir. Yn ystod y pedwar ugain mlynedd. diwethaf bu tynged ein cerddoriaeth ynghlwm wrth yr Eisteddfod, ac y mae ôl ei llaw yn drwm ar ein canu. Yn ei dyddiau bore, ysywaeth, ni roes yr Eisteddfod lawer o gymorth i gerddoriaeth. Yn y cyswllt hwn, dywaid y Dr. J. Lloyd Williams, "Hyd ganol y ganrif ddiwethaf, ychydig iawn oedd cyfraniad yr Eisteddfod i ddiwylliant cerddorol y genedl." Yn nechrau'r ganrif ddiwethaf, rhoes yr Eisteddfod le amlwg i lenyddiaeth, ac ychydig o ddylanwad a gafodd y pryd hwnnw ar gynnydd cerddoriaeth yng Nghymru. Eisteddfod Caerfyrddin yn 1819 oedd un o'r rhai pwysicaf yn y cyfnod cynnar. Cynhaliwyd hi mewn ystafell yng ngwesty'r Ivy Bush. Bardd y Brenin oedd beirniad canu'r delyn, ac yr oedd Iolo Morganwg yntau'n bresennol. Nid oedd yma ddim cystadleuaeth unawd lleisiol na chanu corau. Yr unig gystadleuwyr cerddorol oedd y telynorion (a'r rheini'n canu alawon gydag amrywiadau) a datgeiniaid penillion. Yn Eisteddfod Merthyr yn 1825 rhoddwyd gwobrwyon i'r telynor gorau ac ir datgeiniad gorau. Dyma'r tro cyntaf i ganwr unawd ymddangos mewn eisteddfod.
Yn Eisteddfod Caerdydd yn 1834 y gwelir cyfansoddwr yn ennill am y tro cyntaf, pan enillodd Brinley Richards y wobr gyntaf am ei amrywiadau i biano ar yr alaw "Llwyn Onn." Bachgen pymtheg oed ydoedd ar y pryd. Cynigiodd Eisteddfod Lerpwl hithau, yn 1834, wobrau am gyfansoddi (rhagor o amrywiadau ar alaw osodedig) a hefyd am yr alaw wreiddiol orau. Dyma gam pwysig ymlaen, ac o hyn allan daeth cynnig gwobrwyon am donau ac anthemau yn beth mwy cyffredin mewn eisteddfodau. Yr oedd y ddau fath o gerddoriaeth, sef cerddoriaeth genedlaethol a cherddoriaeth gysegredig, a oedd mor bwysig ym mywydau Brinley Richards, Owain Alaw, Ambrose Lloyd a Thanymarian, hefyd yn ddylanwad mawr ar yr Eisteddfod gynnar.
Eithr yn nechrau'r chwe degau clywir nodyn newydd, nodyn lleygol, a newidiodd yn llwyr gwrs cerddoriaeth Gymreig am lawer blwyddyn i ddyfod. Y Ganig oedd y dylanwad newydd hwn. Yr oedd dau beth yn achosi'r newid hwn i gyfeiriad cerddoriaeth leygol; un peth a'i parodd oedd datblygiad canu corawl, oherwydd dyfod yr eisteddfod yn boblogaidd; y llall oedd y ffaith ddarfod i nifer bach o gyfansoddwyr gysegru eu dawn yn bennaf at gyfansoddi canigion a rhanganau. I lawer o bobl y mae'r cyfnod hwn, y gellir ei alw yn "Gyfnod y Ganig" (o tua 1860 hyd 1875) yn un o'r cyfnodau mwyaf diddorol yn hanes ein cerddoriaeth.
Y mwyaf adnabyddus o'r canigwyr hyn oedd Gwilym Gwent, John Thomas (Blaenannerch), Alaw Ddu, Emlyn Evans a Joseph Parry. Ysgrifennent hwy'n bennaf ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol, ac er bod cystadlu brwd rhyngddynt a'i gilydd, yr oedd ysbryd hollol gyfeillgar ymysg y dynion hyn, a phawb yn ennill yn ei dro. Adwaenent ei gilydd yn dda, gohebent yn fynych y naill â'r llall ac arferent chwarae triciau ar ei gilydd. Er iddynt gyfansoddi tonau ac anthemau, yn y ganig yr oeddynt fwyaf llwyddiannus.
Ffurf fenthyg o Loegr oedd y ganig, a buan iawn y daeth yn boblogaidd yng Nghymru. Yr oedd y canigion syml a melodaidd hyn yn fendith i'r corau bychain a oedd yn codi ymhobman. Hoff destun y ganig Gymraeg oedd "Natur," ac fe ddisgrifid rhyw agwedd ar Natur yn y canigion mwyaf poblogaidd, e.e., "Y Gwanwyn," "Y Wawr," "Y Ffrwd," "Yr Haf," "Y Gwlithyn," etc. Ond yn y dechrau, defnyddid y ganig i hyrwyddo Dirwest. Dyma sylw Emlyn Evans yn ei erthygl ar "Y Ganig" yn Y Cerddor (Mehefin, 1893) ar y duedd hon: "Y lle cyntaf y deuwn ar draws y gair 'canig' fel yn gyfystyr â 'glee' yw y drydedd ran o'r Arweinydd Cerddorol (1845). Yno y cawn ganig ar Ddirwest. Ymddengys mai Dirwest oedd y testun canigol yn ystod y rhan gyntaf o'r cyfnod." Yn yr eisteddfodau a gynhaliwyd yn Aberdâr yn 1859, 1860 ac 1861, cyfansoddwyd yr holl ganigion ar eiriau dirwestol. (Nid yw ond teg ychwanegu mai Cymdeithas Ddirwestol Aberdâr a drefnodd yr eisteddfodau hyn). Enillodd Gwilym Gwent bump allan o'r saith wobr a roddwyd am ganigion yn y tair eisteddfod yma.
WILLIAM WILLIAMS (Gwilym Gwent). Prin iawn yw'r wybodaeth am ei fywyd. Y cwbl a wyddom yw ei eni yn Nhredegar yn 1838, ymfudo i'r America yn 1872, a marw yno yn 1891. Gof ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu'n ymdrechu'n galed i roi addysg gerddorol iddo'i hun. Dyn gwylaidd, hoffus ydoedd, fel y profir gan ei liaws cyfeillion. yma ac yn yr America ar y pryd. Nid ysgrifennodd ond dau o weithiau mawr, sef dwy gantata. Enillodd y gyntaf o'r rhain, "Y Mab Afradlon," y brif wobr yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1865; a'r ail, "Plant y Tloty," yn Eisteddfod Treherbert ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach.
Nid oedd gan Gwilym Gwent ddim uchelgais, a gwastraffodd y dalent ddiamheuol a oedd iddo ar bob math o gystadlaethau eisteddfodol. Efallai mai hyn sy'n cyfrif am ei duedd i ail-adrodd yr un darnau o alawon a'r un dilyniadau Yr Eisteddfod a Chyfnod y Ganig cynganeddol dro ar ôl tro yn ei gyfansoddiadau. Y diffyg hunan-feirniadaeth hwn sy'n peri bod ei arddull yn amrwd ac aflêr, ac yn ddiau, amharodd hyn ar ei boblogrwydd erbyn heddiw.
Yr oedd gyrfa JOHN THOMAS (Blaenannerch) a'r eiddo DAVID LEWIS (Llanrhystyd) yn debyg i'w gilydd ar lawer ystyr. Daeth y ddau o Sir Aberteifi a byw bywyd tawel a di-ddigwydd, a bu hoffter y ddau o gerddoriaeth yn sylfaen cyfeillgarwch a barodd hyd ddiwedd eu hoes. Ar ffurf y ganig y bu eu hymdrechion cyntaf i gyfansoddi cerddoriaeth, ac yr oedd eu gwaith yn adlewyrchu bywyd y wlad yng Nghym- ru y pryd hwnnw. Wrth wrando ar y canigion hyn, cawn gipolwg ar fythynnod gwyngalchog Sir Aberteifi, a chlywn furmur tyner y nentydd a red i Fae Ceredigion. Yn ddiwedd- arach, fe ddylanwadodd y Gymanfa (a ddeuai'n fwy poblog- aidd o hyd) ar y cyfansoddwyr hyn, a dechreuasant ysgrifennu tonau. Dyma hoff bwnc arall i gystadleuwyr eisteddfodol, ac mewn cystadleuaeth cyfansoddi tôn yr oedd David Lewis yn ymgeisydd peryglus. Enillodd lawer gwobr gyda'i donau ; yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe (1863) fe enillodd ddwy wobr, yn Llandudno (1864) dair gwobr, yn Aberystwyth (1865) ac Aberdâr (1868) ddwy wobr.
Ganed David Lewis yn Llanrhystyd yn 1828, lle yr oedd ei dad yn deiliwr. Dilynodd Dafydd grefft ei dad, ac ar wahân i ambell daith i Lundain neu i ryw eisteddfod, arhosodd ar hyd ei oes yn ei fro enedigol, lle y bu farw yn 1908. Ni chenir mo'i ganigion na'i ranganau heddiw, ond yr oeddynt yn rhan bwysig o stoc corau Cymru tua'r adeg yr ysgrifennwyd hwy. Yr oedd un ohonynt, "Trewch y Tant," yn boblogaidd iawn. Ond ei donau a'i gwnaeth yn enwog, ac nid oes ond ychydig o lyfrau emynau nad yw'n cynnwys enghreifftiau o'i waith. Dywaid Emlyn Evans fel hyn am arddull David Lewis (Y Cerddor 1908): "Ni bydd yn treiddio'n isel iawn i'r dyfnderau nac yn esgyn fry i'r uchelderau hwyrach; ond y mae bob amser yn syml, melodus a diorchest; y gynghanedd yn llyfn a chyfoethog; a'r holl gyfanwaith yn neilltuol o ddillyn a gorffenedig.'
Ganed John Thomas ym Mlaenannerch yn 1839. Yr oedd yn well cerddor na David Lewis, ac yn fwy llwyddiannus fel ysgrifennwr canigion a rhanganau. Y mae "Nant y Mynydd," "Mai" a "Gymru Anwylaf" yn dangos mor swynol yw ei waith yn y ffurf hon. Heblaw hyn ysgrifennodd anthemau da. Cafodd un ohonynt, "Bendigedig fyddo Ar- glwydd Dduw Israel," ei chanu drwy'r wlad am flynyddoedd lawer, ac fe'i clywir weithiau heddiw. Dyma un o'r anthemau Cymreig gorau a mwyaf poblogaidd a ysgrifennwyd erioed. Ychydig o'i donau a ddaeth yn boblogaidd, ond y mae "Blaencefn," "Aberporth" a "Cymod" yn nodedig, ac fe'u cenir am flynyddoedd eto. Yn ddiweddarach, symudodd John Thomas i Lanwrtyd, lle y bu'n bostfeistr. O hyn allan, adnabyddid ef fel "John Thomas, Llanwrtyd." Yr oedd ei gartref yn Llanwrtyd yn gyrchfan cerddorion y dydd. Yr . oedd yn boblogaidd fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd, a mawr oedd ei ddylanwad ar gerddoriaeth ei oes.
Un arall o'r canigwyr oedd W. T. REES (Alaw Ddu) a aned yn Nhrelalas, ger Pen-y-Bont-ar-Ogwr yn 1838. Adnabyddir ef yn bennaf fel cyfansoddwr y ganig boblogaidd "Y Gwlithyn." Ar ôl ysgrifennu'r ganig hon, newidiodd ei arddull, y mae'n debyg o achos dylanwad yr ysgol Almaenaidd. O hyn allan, aeth ei gerddoriaeth yn beth sych a dieneiniad. Eto i gyd, yr oedd ganddo uchelgais, ac fe gyfansoddodd gantata, "Y Bugail Da," a gwaith dramatig o'r enw "Llywelyn ein Llyw Olaf," ond ni fu'r un ohonynt yn llwyddiannus. Dyn myfyrgar oedd Alaw Ddu, a heblaw cyfansoddi, ysgrifennodd lawer am gerddoriaeth. Bu'n olygydd yr Ysgol Gerddorol, na fu fyw ond am ychydig, a Cerddor y Cymry a'i dilynodd aca fu fyw yn llawer hwy. Y mae rhai o'i donau'n boblogaidd o hyd, a'r fwyaf adnabyddus ohonynt yw "Glanrhondda." Treuliodd ran olaf ei oes yn Llanelli, lle y bu farw yn 1904.
Ganed DAVID EMLYN EVANS ger Castell Newydd Emlyn yn 1843. Prentisiwyd ef yn llanc, i ddilledydd, ac yn ddiweddarach bu'n drafeiliwr yn yr un math o fusnes. Ymdrechodd i ddatblygu ei ddawn at gerddoriaeth, ond ar wahân i ychydig wersi gan Ieuan Gwyllt, yr oedd yn hollol hunanddysgedig. Bu'n eithriadol lwyddiannus mewn eisteddfodau, ac enillodd chwech a thrigain o wobrau mewn deuddeng mlynedd. Ei gamp fwyaf oedd yn Eisteddfod Porthmadog yn 1867, pan enillodd y brif wobr gyda'i ganig, "Y Gwanwyn." Fel Gwilym Gwent, John Thomas a Joseph Parry, gwnaeth lawer i hyrwyddo'r mudiad corawl yng Nghymru drwy ysgrifennu canigion ac anthemau, a ddaeth yn boblogaidd iawn.
Buasai'n anodd canmol gormod ar ei wasanaeth i gerddor- iaeth yng Nghymru. Cyfansoddodd amryw o weithiau pwysig, megis ei ddwy gantata, "Y Tylwyth Teg" a "Gweddi'r Crist- ion" (gosodiad o Weddi'r Arglwydd). Hefyd fe gyfansoddodd oratorio uchelgeisiol, "Y Caethgludiad," a nifer mawr o ganeuon, canigion, rhanganau, anthemau a thonau.
Y mae ei gyfansoddiadau lleisiol yn llawn o alawon swynol, ac y mae gwead y gwahanol leisiau'n hynod o glir, ond yn y rhan fwyaf o'i waith, hawdd yw canfod ei edmygedd o Mendel- ssohn. Pery llawer o'i gyfansoddiadau'n boblogaidd o hyd, yn arbennig ei rangan wych "How sweet the moonlight sleeps," ei ganig "Y Gwanwyn," yr anthem fer ond swynol "Eisteddai teithiwr blin," a nifer mawr o donau rhagorol. Cymerth ddiddordeb arbennig yng ngherddoriaeth genedl- aethol Cymru, ac yn ôl pob tebyg, gwyddai fwy amdani nag unrhyw Gymro arall. Ymdrechodd yn galed i ennyn diddor- deb ei gydwladwyr yn y math yma o gerddoriaeth, drwy ysgrifennu amdano, a hefyd drwy drefnu llawer iawn o'r alawon. Cafodd hwyl ar y trefniadau hyn, ac fe haeddant fwy o sylw nag a gawsant. Hefyd, gwnaeth waith gwych fel ysgrifennwr a beirniad. Bu'n un o olygyddion Y Cerddor o 1889 hyd ei farw yn 1913, a bu'n ohebydd i'r Musical Times ac yn ohebydd cerdd i'r South Wales Weekly News am flyn- yddoedd. Fel beirniad yr oedd yn un o'r rhai gorau a wel- odd Cymru erioed. Rhôi gerydd lle y dylai fod, ac yr oedd yr un mor barod i roddi clod i'r sawl a'i haeddai. Er nad oedd ei iechyd yn dda, yr oedd bob amser yn siriol, ac yr oedd gan- ddo synnwyr digrifwch eithriadol, a chryn ffraethineb. Ac eithrio Joseph Parry, ef oedd y dylanwad cryfaf ar gerddoriaeth Cymru yn ystod hanner olaf y ganrif ddiwethaf. Bu'n sym- byliad i'w gydwladwyr mewn cyfansoddi a beirniadu, ac fel ysgrifennwr doeth ar gerddoriaeth.
JOSEPH PARRY oedd un o gydoeswyr Emlyn Evans, ac fel cyfansoddwr canig y dechreuodd yntau. Ei bersonol- iaeth gyforiog ef a fu'n ysbrydoli cerddoriaeth Cymru hyd ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Ganed ef o deulu cyffredin ym Merthyr yn 1841. Un o Sir Benfro oedd ei dad, ac un o ferched Sir Gaerfyrddin oedd ei fam. Yr oedd hi'n perthyn o bell i Henry Richard-"Apostol Heddwch." Gwraig alluog ydoedd, yn angerddol hoff o gerddoriaeth. Yn y ped- war degau, Merthyr oedd y dref fwyaf cerddorol yn Neheudir Cymru. Enynnwyd hoffter at gerddoriaeth yn Joseph Parry gan eisteddfodau enwog a gynhelid yno, y mynych gyngherddau corawl, a chanu seindorf Cyfarthfa. Ond cyn iddo ddechrau astudio cerddoriaeth o ddifrif, ymfudodd y teulu i'r America, ac ymsefydlu yn Danville, Pennsylvania. Yn 1854, y digwyddodd hyn. Yma, bu Joseph yn gweithio yn y gweithydd haearn, gan roddi ei oriau hamdden i astudio cerddoriaeth. Ei athro oedd John Abel Jones, yntau'n un o Ferthyr. Aeth Joseph Parry ymlaen fel hyn gyda'i waith a'i gerddoriaeth, hyd 1866. Yn y cyfamser, enillasai amryw o wobrwyon am gyfansoddi cerddoriaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Ei gampau mwyaf oedd yn Abertawe (1863) a Llandudno (1864). Tynnwyd sylw ei gydwladwyr, yn enwedig Brinley Richards a'r "Gohebydd," a thrwy eu hymdrechion hwy, yn bennaf, sefydlwyd cronfa er mwyn cael arian iddo ddychwelyd i'r wlad hon ac astudio yn y Royal Academy of Music. Gyda'r arian a gasglwyd, gallodd Parry fynd i'r R.A.M. yn 1868, lle y bu am dair blynedd yn astudio cyfansoddi o dan Syr W. Sterndale Bennett.
Ar ddiwedd ei yrfa yn yr R.A.M., dychwelodd i'r Americal i fyw gyda'i deulu (yr oedd wedi priodi yn 1862). Ond yn 1872, gwahoddwyd ef i ddyfod yn Athro Cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Yma yr arhosodd hyd 1880, ac ar ôl anghydfod rhyngddo ac awdurdodau'r coleg, fe ymddiswyddodd, a symud i Abertawe, a chychwyn yno Goleg Cerddoriaeth o'r eiddo ei hun. Tra fu yn Aberystwyth llwyddodd i ennill y radd o Mus.Doc. yng Nghaergrawnt, a heblaw hyn fe gynhyrchodd opera "Blodwen," ac oratorio "Emmanuel." Yn Abertawe gwnaeth ddwy opera arall, "Virginia" ac "Arianwen," ac un oratorio arall, "Nebuchadnezzar." Er gwaethaf ei lwyddiant yn Abertawe, symudodd i Gaerdydd yn 1888, gan dderbyn y swydd o Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol yno, swydd a ddaliodd hyd ei farw ym Mhenarth yn 1903. Er na fwriadwyd ef gan natur i fod yn athro mawr, y mae'n rhyfedd meddwl bod y rhan fwyaf o gyfansoddwyr Cymreig y genhedlaeth ddilynol yn ddisgyblion i Parry. Yn eu mysg yr oedd William Davies, D. C. Williams, David Jenkins, J. T. Rees, M. W. Griffith, Dan Prothero a David Evans. Yr oedd un o'i feibion, Haydn Parry, yn gyfansoddwr dawnus. Ei brif weithiau oedd "Gwen," sef cantata ysgafn, a "Cigarette," comedi gerddorol. Yn anffodus, bu farw'n ieuanc, a rhoed terfyn ar yrfa addawol.
Heb amheuaeth, Joseph Parry oedd cyfansoddwr Cymreig mwyaf poblogaidd ei oes, efallai pob oes. Yr oedd yn gyfan- soddwr toreithiog. Ymysg ei weithiau, ceir amryw o operâu, oratorïau, symffonïau, cantatau, corawdau, rhanganau, caneuon, anthemau a thonau. O'r operâu, "Blodwen" yw'r fwyaf poblogaidd. Fe'i perfformiwyd gannoedd o weithiau yn ystod oes yr awdur, a gellir ei chlywed weithiau heddiw. Ni chenir ei oratorïau yn awr. "Emmanuel" a "Saul of Tarsus" (1892) yw'r prif rai. Prin y cafodd yr un o'i gyfansoddiadau ar gyfer cerddorfa fwy nag un perfformiad, ac aethant yn angof ers talm. Er iddo feistroli techneg ysgrifennu cerddoriaeth, nid oedd Joseph Parry yn gyfansoddwr mawr. Nid oedd ganddo syniadau gwreiddiol ac yr oedd ôl dylanwad cyfansoddwyr poblogaidd y dydd yn rhy drwm ar ei waith. Yn ei oratorïau, dilynodd draddodiad Handel, a Mendelssohn, ac nid yw ei operâu'n ddim ond dynwarediadau tila o Rossini, a gweithiau cynnar Verdi. Nid oedd ganddo'r ddawn i'w feirniadu ei hun, ac fe ysgrifennodd ormod, a hynny'n rhy hawdd. Fel y dywedodd Alaw Ddu, "Pe buasai wedi cyfansoddi llai, buasai wedi cynhyrchu mwy." Benthyciodd lawer gan ei hoff gyfansoddwyr, a cheir digon o enghreifftiau o hyn yn ei waith. Y mae'n ddiamau iddo ddioddef oddi wrth arwr-addoliaeth ei lu edmygwyr. Derbynient hwy bob un o'i gyfansoddiadau newydd fel pe bai'n gampwaith. Nid oedd llwyddiant rhad o'r math hwn yn ddim lles i ddyn o'i natur ef, ac fe gafodd effaith drwg ar ansawdd ei waith. Ond er gwaethaf y gwendidau hyn, cafodd ddylanwad aruthrol, er da ac er drwg, ar gerddoriaeth Cymru yn ystod chwarter olaf y ganrif. Heddiw, cofir ef yn unig fel cyfansoddwr ychydig o ranganau swynol, a nifer o donau ardderchog, ac ymysg y rhain, y mae "Aberystwyth" ar ei phen ei hun.
DAVID JENKINS. Er na ellir ystyried David Jenkins yn un o gyfansoddwyr y ganig, credaf mai addas fuasai sôn am ei yrfa yn y fan hon, gan mai ef, o holl ddisgyblion Joseph Parry, a ddilynodd ôl troed ei feistr yn fwyaf ffyddlon. Ganed David Jenkins yn Nhrecastell, Sir Frycheiniog, yn 1848. Tlawd oedd ei rieni, ond er gwaethaf anfanteision ym more ei oes, llwyddodd i ddysgu tipyn go lew o gerddoriaeth, yn bennaf trwy gymorth y gyfundrefn tonic sol-ffa. Prentisiwyd ef i deiliwr, a thra fu'n gweithio wrth ei grefft, aeth yn ei flaen i ddysgu dosbarthiadau cerdd yng nghyffiniau ei gartref. Oherwydd ei gariad at gerddoriaeth, a'i lwyddiant cynnar fel arweinydd corau mewn eisteddfodau, penderfynodd wneuthur cerddoriaeth yn foddion byw. Digwyddodd hyn yn fuan ar ôl penodi Joseph Parry yn ddarlithydd yng ngholeg Aberystwyth. Aeth Jenkins i'r coleg fel myfyriwr cerdd, a gwnaeth y fath gynnydd nes dyfod ohono'n athro cynorthwyol i Parry yn fuan iawn. Hefyd, llwyddodd i ennill y radd o Mus.Bac. yng Nghaergrawnt yn 1877. Y flwyddyn gynt, yr oedd wedi ennill y brif wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon gyda'i gantata "Arch y Cyfamod," a Syr G. A. Macfarren yn beirniadu. Yn 1893, penodwyd ef yn ddarlithydd mewn cerddoriaeth yng ngholeg Aberystwyth. Gwnaethpwyd i ffwrdd â'r gadair yn 1879, ond adferwyd hi yn 1900 a phenodi Jenkins yn Athro Cerddoriaeth, swydd y bu ynddi hyd ei farw yn 1915. Claddwyd ef yn ei hen gartref, Trecastell.
Cyfansoddodd lawer, gan gynnwys chwech oratorio, un opera, nifer mawr o anthemau, tonau a chaneuon. Er bod yr oratorïau a'r opera yn dangos diwydrwydd mawr, ac weithiau ddychymyg, ni ddaethant erioed yn gymeradwy gan gorau Cymreig, er y clywir perfformiad o "Arch y Cyfamod" ambell waith. Ysgrifennai i gôr yn aruchel ar brydiau, a cheir amryw o enghreifftiau o hyn yn ei oratoriau; ond nid yw hyn ynddo ei hun yn ddigon i gadw ei waith yn fyw, gan mor anniddorol yw'r rhelyw ohono. Fel ysgrifennwr ar gyfer cerddorfa, yr oedd yn aml yn wreiddiol, er nad llwyddiannus mohono bob tro, oherwydd ei duedd i orweithio rhai ffigurau, yn enwedig ffigurau tripled, yn ei gyfeiliant. Fe bair yr arferiad hwn i'w waith swnio'n ddiddim, lle y dylai fod yn urddasol, a rhoddi iddo ansawdd ffwdanllyd. Bu'n fwy llwyddiannus yn ei anthemau a'i donau. Cyfansoddodd nifer mawr o'r rhain, a bydd byw llawer ohonynt am flynyddoedd. Bu'n boblogaidd iawn fel beirniad ac arweinydd cymanfa, ac ysgrifennodd lawer ar gerddoriaeth. Ef oedd un o olygyddion Y Cerddor o 1889 hyd ei farw yn 1915.