Neidio i'r cynnwys

Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun)/Yr arloeswyr

Oddi ar Wicidestun
Cerddoriaeth draddodiadol a'r telynorion Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun)

gan Idris Lewis

Cyfansoddwyr cynnar

PENNOD II
YR ARLOESWYR

WRTH ymdrin â'r telynorion yn y bennod ddiwethaf, ychydig a soniwyd am gyflwr cerddoriaeth yng Nghymru, oherwydd yn Llundain, bron yn ddieithriad, yr oedd y telynorion yn byw ac yn bod, ac ar dro yn unig y deuent i Gymru. Yn nechrau'r ganrif, yr oedd cyflwr cerddoriaeth yn bur resynus. Felly y parhaodd pethau hyd tua chanol y ganrif. Yna dechreuodd wella, trwy ymdrechion ychydig o arloeswyr, a dechreu- odd cyfansoddwyr Cymru ysgrifennu cerddoriaeth a haeddai sylw.

Cyn 1800, ychydig iawn o gerddoriaeth Gymreig a oedd ar gael, oddieithr y casgliadau o alawon cenedlaethol a gyhoeddwyd yn Llundain, yn bennaf, gan Parri Ddall, Bardd y Brenin a Bardd Alaw. Rhaid crybwyll hefyd am waith y cyhoeddwr medrus o Edinburgh, George Thomson, a gyhoeddodd dair cyfrol o alawon Cymreig, yn 1809 a 1814. Talodd ef i gyfansoddwyr enwog, megis Haydn a Beethoven am drefnu'r alawon, ac i amryw o awduron Seisnig, na chlywir sôn amdanynt heddiw, am ysgrifennu'r geiriau. Ond er gwaethaf enwogrwydd Haydn a Beethoven, nid llwyddiant mo'r gwaith hwn. Aeth eu trefniadau o alawon Cymreig i ebargofiant ers talm. Y mae'n debyg mai'r rheswm am fethiant y casgliad hwn yw mai Almaenaidd yn hytrach na Chymreig yw ansawdd y trefniadau. Ar wahân i'r alawon cenedlaethol nid oedd unrhyw gerddoriaeth Gymreig arall, oddieithr ychydig o donau a gyhoeddwyd ynghyd â Salmau Edmwnd Prys, mor bell yn ôl â 1621.

Heblaw bod cerddoriaeth wreiddiol Gymreig yn brin, nid oedd ond ychydig o wybodaeth am ochr ymarferol y gelfyddyd. Ychydig iawn o bobl a fedrai ddarllen cerddoriaeth, ac yr oedd cyflwr cerddoriaeth yn yr eglwysi a'r capelau, sydd heddiw'n beth i ymfalchio ynddo, y pryd hwnnw'n warthus. Wrth sylwi ar hyn, dywaid gohebydd yn Y Gwyliedydd yn 1823 "fod eglwysi Sir Feirionnydd heb ganu ynddynt o gwbl." A dyna Brinley Richards yn dywedyd yn Eisteddfod Biwmares yn 1832 nad oedd cymaint ag un côr Cymreig i'w gael; ac mai'r unig leiswyr Cymreig oedd y datgeiniaid gyda'r delyn. Yr oedd un peth i gyfrif am hyn. Nid oedd gramadeg cerddorol i'w gael yn yr iaith Gymraeg, ac i Gymro uniaith, yr oedd hyn yn ddifrifol. Yr unig ffordd i ddysgu tôn i'r rhan fwyaf o bobl oedd wrth y glust.

Ond dechreuwyd cynhyrchu rhyw fath o gerddoriaeth Gymreig yn weddol gynnar yn y ganrif, er mai cysegredig oedd bron y cwbl a gynhyrchwyd. Yr arloeswyr cyntaf oedd John Williams, Dolgellau (1740-1821); John Ellis, Llanrwst (1760-1834) a Dafydd Siencyn Morgan, Llechryd (1751-1844). Cyhoeddodd John Ellis ei gasgliad o donau Mawl i'r Arglwydd yn 1816. Cyfansoddodd hefyd lawer o donau ac anthemau, ac y mae ei dôn "Elliott" yn para yn ei blas hyd heddiw. Er bod ei lyfr yn glogyrnaidd iawn ac yn llawn gwallau, eto y mae'n deilwng o'n sylw am mai hwn oedd y casgliad cyntaf o'r fath a gyhoeddwyd yng Nghymru, ac ef yn ddiau a gychwynnodd y dôn gynulleidfaol Gymreig ar ei thaith urddaso drwy'r byd. Bu llawer o gasgliadau cyffelyb, megis Gamut a Brenhinol Ganiadau Seion Owen Williams o Fôn; Grisiau Cerdd Arwest John Ryland Harries o Abertawe (1823), Caniedydd Crefyddol William Owen o'r Drefnewydd (1828); Caniadau Seion Richard Mills (1840) a Salmydd Cenedlaethol Hafrenydd (1845).

Heblaw cyfansoddi a chyfaddasu tonau ar gyfer eu casgliadau, gwnaeth yr arloeswyr hyn waith addysgiadol pwysig trwy drefnu dosbarthiadau cerdd drwy'r holl wlad. Aeth Dafydd Siencyn Morgan, er enghraifft, o Lechryd, yng ngwaelod Sir Aberteifi, cyn belled â Sir Fôn er mwyn cynnal dosbarthiadau mewn cerddoriaeth. Gan fod cerddoriaeth Gymreig mor brin ar gyfer y dosbarthiadau, aeth yr athrawon hyn ati i gyfansoddi alawon at y pwrpas. Cyhoeddwyd y rhain yn ddiweddarach yn eu casgliadau gyda chyfarwyddiadau ynglŷn â'r sut i'w canu. Yn 1838 daeth "anadliad o Lanidloes" gyda Gramadeg Cerddorol John Mills. Dilynwyd hwn gan Arweinydd Cerddorol Richard Mills yn 1842-3, a Gramadeg Cerddoriaeth Alawydd yn 1848. Fel llyfrau ar gerddoriaeth y mae'r rhain bellach ar ôl yr oes, ond yr oeddynt yn dra phwysig pan gyhoeddwyd hwy, ac yn gryn gaffaeliad i Gymry uniaith. Ond tua chanol y ganrif bu gwelliant mawr, a hynny trwy lafur caled ychydig o ddynion. Gan mor ddwfn oedd eu dylanwad ar gerddoriaeth Gymreig, rhaid ymhelaethu arnynt. Rosser Beynon, Alawydd ac Ieuan Gwyllt oedd y rhain.

Ganed ROSSER BEYNON yng Nglyn Nedd yn 1811. Un o Sir Gaerfyrddin oedd ei dad. Symudodd i Ferthyr yn 1815, ac yno y treuliodd Rosser weddill ei oes. Ychydig a barodd ei ddyddiau ysgol. Dechreuodd weithio, yng Ngwaith Haearn Dowlais yn ôl pob tebyg, cyn iddo gyrraedd wyth oed. Fodd bynnag, yno y bu'n gweithio y chwe blynedd ar hugain diwethaf o'i oes. Fel llawer cerddor Cymreig y pryd hwnnw methodd gael hyd i athro cerdd, a bu'n rhaid iddo ei ddysgu ei hunan. Er hyn dysgodd yn gyflym, a chyn hir yr oedd yn trefnu dosbarthiadau cerddoriaeth nid yn unig ym Merthyr, ond yng Nghaerdydd a rhannau eraill o Ddeheudir Cymru.

Yn 1845 cyhoeddodd Telyn Seion, casgliad o donau, anthemau a chorawdau. Ymddangosodd ail ran yn 1848. Yr oedd Telyn Seion yn welliant mawr ar lyfrau o'r fath a gyhoeddwyd o'i flaen, ac i ryw raddau cyflawnodd yr angen a oedd yn bod ar y pryd, am gerddoriaeth i gorau a chynulleidfaoedd. Er bod ugain o donau o waith Beynon ei hun yn y casgliad hwn, anghofiwyd hwynt ers tro. Bu'n olygydd cerddorol Y Diwigiwr am rai blynyddoedd, a bu hefyd yn boblogaidd fel beirniad eisteddfodol. Yn Eisteddfod Wrecsam (1845) dyfarnodd y ddwy wobr gyntaf am yr anthemau gorau i John Ambrose Lloyd, gŵr na wyddai neb amdano y pryd hwnnw.

Haedda Rosser Beynon le anrhydeddus yn hanes cerddoriaeth ein gwlad, oherwydd ei waith gwych dros ganu corawl a chynulleidfaol yn Neheudir Cymru. Adnabuwyd ef yno fel "Apostol canu cynulleidfaol." Dywedir mai ef a Moses Davies (taid y Dr. Mary Davies) a oedd yn gyfrifol am newid o'r hen ddull i'r dull newydd o ganu emynau. Yn yr hen ddull y dynion a ganai'r alaw, a'r merched y rhan i'r tenor. Yn ogystal â bod yn arweinydd da, yr oedd Beynon hefyd yn athro ardderchog. Yr oedd rhai o arweinwyr gorau'r dydd, megis Abraham Bowen, Robert Jones a David Francis ymysg ei ddisgyblion. Yn ddiamau, diwydrwydd a brwdfrydedd Beynon sydd yn cyfrif am enwogrwydd Merthyr yng nghanol y ganrif ddiwethaf fel canolfan cerddoriaeth Deheudir Cymru. Yr oedd iddo gymeriad dilychwin, a mawr oedd ei barch gan bawb a'i hadwaenai. Bu farw yn 1876 a chladdwyd ef ym Mynwent y Cefn.

Cyffelyb i waith Rosser Beynon ym Merthyr oedd gwaith Alawydd ym Methesda. Ganed DAVID ROBERTS (Alawydd) yn Nhal-y-bont, Llanllechid, yn 1820. Gof oedd ei dad, yn un o chwareli'r Arglwydd Penrhyn. Symudodd y teulu yn fuan i Gae'r Berllan, ger Bethesda, ac oherwydd tlodi'r teulu niferus, bu'n rhaid i Alawydd ddechrau ennill ei fywoliaeth yn un ar ddeg oed. Pan oedd yn dair ar ddeg, ymunodd â Chymdeithas Gerddorol Bethesda, a chyn hir, medrai ddarllen cerddoriaeth yn dda. Yn ddiweddarach penodwyd ef yn godwr canu yng Nghapel Bethesda. Isel iawn oedd cyflwr cerddoriaeth ym Methesda ar y pryd, ac fe ysgrifennodd Alawydd amryw o ymarferiadau ar gyfer y dosbarthiadau canu a oedd yn ei ofal. Yn ddiweddarach, dangosodd yr ymarferiadau hyn i Ambrose Lloyd a Thanymarian. Canmolodd y ddau hyn ei waith, a'i annog i'w gyhoeddi. Felly yn 1848 cyhoeddodd y Gramadeg Cerddoriaeth. Yr oedd i hwn dair rhan, ac fe'i printiwyd yn y Bala. Ymddangosodd argraffiad diwygiedig yn 1862. Er nad oedd ond cymharol fyr, a bod ynddo lawer o dermau Saesneg dianghenraid, bu'n dra gwerthfawr. "Cyhoeddwyd Gramadeg Alawydd," medd- ai Emlyn Evans, "yn agos i ddiwedd yr hanner cyntaf o'r ganrif, ond i'r hanner dilynol y cariodd ei ddylanwad, ac er efallai nad hollol gywir fyddai dywedyd bod y gramadeg hwn gymaint uwchlaw gramadegau'r Millsiaid ag ydoedd yr olaf yn uwch na'r rhai a'u blaenorai, y mae'n eithaf gwir ei fod yn tra rhagori arnynt, ac yn rhoddi i'r Cymro wybodaeth a chyfarwyddyd mewn pynciau na chyffyrddwyd â hwy o'r blaen yn ei iaith ei hun . . . Y mae'n amhosibl mesur y gwasanaeth a fu'r gramadeg bychan ond cynhwysfawr hwn i gerddorion Cymru." Yn ei ragymadrodd i'r gramadeg, dywaid Alawydd, "Cyhoedd- wyd ef ar gais cantorion Bethesda a'r cymdogaethau, ynghyd ag amryw o weinidogion a chyfeillion cerddgar ac eiddgar dros les âd y genedl. Amcanwyd cyfleu egwyddorion cerddoriaeth yn fyr, eglur, a chynhwysfawr, mewn ffurf syml a dirodres."

Er i Alawydd ennill y wobr am yr anthem orau yn Eisteddfod Bethesda yn 1851, 1852 ac 1853, aeth ei holl gyfansoddiadau, oddieithr ei dôn "Catherine," i dir angof ers llawer dydd. Tua chanol y ganrif ddiwethaf, Bethesda, Llanidloes a Merthyr oedd y lleoedd mwyaf cerddorol yng Nghymru. Gwnaeth Alawydd fwy na neb arall tuag at ddyrchafu cerddor- iaeth ym Methesda, ac yr oedd safon canu yn uwch yno pan oedd ef yn ei flodau nag yn odid un ardal arall yng Nghymru. Pan gyhoeddodd Novello & Co. eu hargraffiadau rhad o oratorïau, ffurfiodd Alawydd glwb llyfrau fel y gallai'r chwarel- wyr brynu ac astudio'r gweithiau corawl gorau. Perfform- iodd côr o gant o leisiau ym Methesda y gweithiau hyn o dan arweiniad Alawydd: "Messiah," "Israel in Egypt," "Samson," "The Creation" ac "Ystorm Tiberias."

Er na chenir odid ddim o waith Alawydd heddiw, dylid cofio amdano oherwydd ei wasanaeth i gerddoriaeth Gymreig pan nad oedd ond ychydig o weithwyr ar y maes. Bu farw yn 1872, a chladdwyd ef ym mynwent Glanogwen, Bethesda.

Yr olaf a'r mwyaf adnabyddus o'r arloeswyr oedd JOHN ROBERTS (Ieuan Gwyllt). Ganed ef ym Mhenllwyn, ger Aberystwyth, yn 1822. Pobl gyffredin, yn hoff o gerddoriaeth, oedd ei rieni. Yr oedd ei dad yn ddechreuwr canu, a'i fam yn gantores dda. Yn nannedd pob anhawster bore oes, llwyddodd i ddysgu cerddoriaeth, a chyn cyrraedd ugain oed, bu'n cynnal dosbarthiadau canu yn yr ardaloedd o gwmpas ei gartref. Felly, dangosodd yn bur ieuanc yr awydd cynhenid a oedd ynddo i ddysgu ei gyd-wladwyr, peth a ddaeth yn nod- wedd bur amlwg yn ei holl fywyd. Treuliodd rai blynyddoedd fel athro ysgol, ac yna aeth i swyddfa cyfreithiwr, gan ddal i astudio yn y cyfamser.

Yn 1852, aeth i Lerpwl, lle y bu'n is-olygydd Yr Amserau o dan Hiraethog. Ar ôl chwe blynedd yno, torrodd ei gysylltiad â'r papur, a symudodd i Aberdâr, er mwyn bod yn olygydd Y Gwladgarwr. Yma cafodd gyfeillion cerddgar, sef David Rosser, Šilas Evans ac Alaw Ddu. Blwyddyn i'w chofio oedd 1859 iddo ef; arweiniodd ei gymanfa gyntaf (yn Aberdâr y bu hyn); priododd Miss Jane Richards, Aberystwyth; ymddiswyddodd o fod yn olygydd Y Gwladgarwr, a chy- hoeddodd ei Lyfr Tonau. Yr oedd wedi bod am flynyddoedd yn casglu tonau gorau'r gwahanol wledydd, a bu cerddorion Cymru'n edrych ymlaen at weled cyhoeddi ei lyfr. Bu'n llwyddiant ar ei union, ac erbyn 1863 yr oedd dwy fil ar bym- theg o gopïau wedi eu gwerthu. Gan iddo ddyfod i weled gwerth nodiant y Tonic Sol-ffa, cyhoeddodd argraffiad o'r gwaith yn y nodiant hwnnw yn 1864, ac Atodiad yn 1870. Nid oes amheuaeth nad yw'r Llyfr Tonau yn gasgliad rhagorol. Gwyddai Ieuan Gwyllt beth oedd tôn dda, ac fe welir hyn yn ei lyfr, er mai at y dôn urddasol a chlasurol (hynny yw y math Almaenaidd o dôn) y gogwyddai ef. Fodd bynnag, darfu i'w lyfr wella'n ddirfawr chwaeth gerddorol ymysg cynulleidfaoedd Cymreig.

Yn y cyfamser yr oedd wedi dechrau pregethu, a symudodd i Ferthyr. Yno y cyhoeddodd rifyn cyntaf y misolyn cerddorol Y Cerddor Cymreig yn 1861. Yn y dechrau cyhoeddodd y papur ar ei gost ei hun, ond ymhen pedair blynedd, cymerwyd ef drosodd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam. Ieuan Gwyllt oedd y golygydd, hyd 1873, pan beidiwyd â chyhoeddi'r papur oherwydd diffyg cefnogaeth. Cynnig arall oedd Cerddor y Tonic Sol-ffa a ymddangosodd yn gyntaf yn 1869. Ond daeth hwn yntau i ben yn 1874 am yr un rheswm. Yr oedd Ieuan Gwyllt yn ysgrifennwr ac yn feirniad cerddorol galluog, fel y gwelir yn ei erthyglau yn y ddau gylchgrawn a nodwyd, a ysgrifennwyd bron yn gyfangwbl ganddo ef ei hun. Trwy gyfrwng y papurau hyn, gwnaeth waith gwerthfawr trwy gyhoeddi darnau o gerddoriaeth glasurol, a roes i gorau gwledig eu cyfle cyntaf i ymgydnabod â cherddoriaeth dda. Hefyd fe gynorthwyodd gyfansoddwyr Cymreig ieuainc drwy gyhoeddi eu gwaith yn y cylchgronau hyn, ac yr oedd ei feirniadaeth ar eu gwaith ac ar ganu corawl bob amser yn adeiladol a llawn cydymdeimlad.

Cafodd Ieuan Gwyllt ormod o'i ganmol fel cyfansoddwr. Yr oedd yn ddyfal a gweithgar, ond ysywaeth nid oedd ganddo athrylith gerddorol. Fel rheol y mae ei waith yn anystwyth ac yn anysbrydoledig, a mwy cydnaws oedd ei ddawn ag ysgrifennu ar gerddoriaeth nag â'i chreu. Gwnaeth waith da drwy gyfaddasu darnau clasurol, ac ysgrifennodd eiriau Cymraeg ar eu cyfer, eithr ni chenir heddiw ond ychydig o'i donau gwreiddiol ef ei hun. O'r rhain y mae "Liverpool," "Ardudwy," "Aberafon" a "Moab" yn parhau i afael mewn cynulleidfaoedd Cymreig. Yn wir, fe dybiai'r diweddar Syr Henry Hadow fod "Moab" ymysg y dwsin gorau o donau'r byd.

Yn 1865 symudodd Ieuan Gwyllt o Ferthyr i Lanberis, lle y bu'n gofalu am Eglwys y Capel Coch, ond ymddiswyddodd o fod yn weinidog yn 1869, oherwydd mwy o waith gyda llenyddiaeth a cherddoriaeth. Yna aeth i fyw i'r Fron, ger Caernarfon, lle y bu farw yn 1877. Claddwyd ef yng Nghaeathro.

Nodiadau

[golygu]