Ceulan y Llyn Du/Pennod I
| ← Ceulan y Llyn Du | Ceulan y Llyn Du gan Edward Morgan Humphreys |
Pennod II → |
CEULAN Y LLYN DU
PENNOD I
YR oedd yn nosi. Machludodd yr haul ers tro, ac er bod rhesi o gochni yn aros o hyd yn awyr y gorllewin, yr oedd y gwyll yn ennill tir yn gyflym bellach. Wrth weled hynny prysurodd y dyn a oedd yn cerdded ar hyd y ffordd gul a oedd yn dyfod i lawr at y traeth; gwyddai fod ganddo filltir neu fwy o forfa a thraeth i'w cherdded cyn dyfod i ffordd glir, ac nid oedd yn gyfarwydd â'r morfa nac a'r traeth. Yn wir, golwg ddigon diarffordd a oedd ar y lle. Yr oedd tir Penlliw. yr oedd ef yn ei adael, megis yn darfod yn y fan honno. O'r tu cefn iddo yr oedd y caeau a rhyw awgrym o barc ymhellach yn ôl, er nad oedd y tŷ yn y golwg o'r fan honno. Yr oedd yno ffordd, ffordd gul, y mae'n wir, ond ffordd mewn eithaf cadwraeth, gyda gwrychoedd isel o boptu i gysgodi'r fforddolion rhag angerdd y tywydd yn y lle amlwg hwnnw. Ond yr oedd y ffordd yn darfod ar ymyl y traeth.
O flaen y teithiwr wedyn nid oedd ond anialwch o lastraeth, o frwyn ac o forhesg. Prin yr oedd y llanw uchaf yn cyrraedd i'r rhan honno o'r traeth: yr oedd y lle wedi tyfu'n las ac yr oedd y tywod wedi caledu. Ond nid oedd yno ffordd, er hynny; weithiau y deuai pobl Penlliw y ffordd honno, a phan ddeuent gwyddent hwy am bob modfedd o'r traeth a gallent anelu'n ddiffael ar ei draws tua'r bryniau tywod draw a oedd yn cuddio'r morfa o olwg y teithiwr. Lle unig oedd hwnnw; cuddiai codiad tir Penlliw y môr, ond clywid su parhaus y tonnau o hyd, sŵn trymaidd ddigon gyda'r hwyr. Ar un ochr yr oedd anialwch o fryniau tywod a thociau o frwyn; ar y llall yr oedd y traeth gwastad, gwag, heb ddim i dorri arno ond olion hen glawdd yn rhywle tua'r canol, lle bu cei ers llawer dydd ar gyfer y llongau a ddeuai yno gyda'u calch a'u glo yn y blynyddoedd cynt. Nid oedd dŷ na thwlc yn y golwg ac nid oedd yr un enaid byw i'w weled o'r naill ben i'r traeth i'r llall.
Wedi dyfod o'r ffordd safodd y dyn i edrych o'i gwmpas; dyn canol oed ydoedd, yn tueddu at fod yn dew, ac wedi ei wisgo'n bur anghyfaddas i le o'r fath, mewn côt a gwasgod ddu, trwsus rhesog a het galed. Pe gwelsech ef yn dyfod oddi wrth y tren yn y dref ac yn anelu am ei swyddfa neu am y banc ni buasech yn edrych ddwywaith arno; buasai'r un fath yn union â degau o ddynion eraill o'i gwmpas. Eithr ni buasech yn disgwyl gweled neb wedi ei wisgo felly gyda'r nos ar draeth Penlliw, a hwyrach y buasai hynny'n peri i chwi edrych yn graffach arno. Ac o wneud hynny gwelech arwyddion o anesmwythyd, os nad o bryder hefyd, ar ei wyneb llyfndew, wyneb digon cyffredin. Hwyrach y buasai dyn yn dweud bod dwy olwg arno. Yr oedd y pryder neu'r anesmwythyd yn amlwg, ond gyda hynny yr oedd yno benderfyniad neu ystyfnig- rwydd hefyd. Nid oedd, gallech gasglu, yn ŵr hawdd ei droi'n ôl unwaith y penderfynai ar ei ffordd. Am y pryder, gellid cyfrif am hwnnw wrth gofio'i bod yn nosi a'i fod yntau'n amlwg yn ansicr ynghylch ei lwybr.
"At y clawdd cerrig," meddai wrtho ei hun, "y dywedodd Francis y dylwn fynd, a chroesi o'r fan honno at y bwlch yn y bryniau tywod. 'Feddyliais i erioed fod cymaint o ffordd neu mi fuaswn wedi cychwyn yn gynt. Y mae hi'n tywyllu'n gyflym, ond y mae yna ddigon o olau i weled y post y dywedodd Francis wrthyf am i mi gyfeirio ato." Gallai weled, rhyngddo a'r hen glawdd cerrig, bolyn gwyrgam â rhywbeth fel arwyddnod ar ei ben. Prin yr oedd i'w weled yn y gwyll erbyn hyn, ond yr oedd teithiwr yn teimlo'n fodlon mai dyna'r marc y cyfarwyddwyd ef i gyrchu ato, a throdd ar draws y glastraeth i'r cyfeiriad.
Yr oedd ganddo tua hanner milltir i'w cherdded cyn cyrraedd y post, hanner, milltir o dir digon blin ac anodd, ac erbyn iddo ddyfod at y polyn yr oedd yn tywyllu'n gyflym iawn. Nid oedd yn hawdd gweled olion yr hen glawdd bellach, ond wedi llygadrythu tipyn llwyddodd y teithiwr i'w weled o fewn rhyw ddau cant o lathenni o'r lle y safai.
"At y bwlch yn y clawdd ddywedodd o," meddai, fel dyn yn myned dros ei wers er mwyn bod yn sicr ohoni, "a thrwy'r brwyn wedyn. Y mae'n edrych yn debyg iawn fel pe buaswn yn mynd o chwith, ond y mae'n sicr fod yr hen bry' copyn Francis yna yn gwybod. 'Does ganddo ddim i'w ennill trwy beri i mi golli fy ffordd—heno, beth bynnag. 'Faswn i ddim mor siŵr nos yfory, a fuaswn i ddim yn ei drystio fodfedd ymhellach nag y gwelwn i o. Ond 'does gynno fo ddim i'w ennill heno, ac y mae'n debyg o fod wedi fy rhoi i ar y ffordd orau i gyrraedd y morfa a'r ffordd. Ond pwy ond y fo fuasai'n byw mewn lle fel hwn, heb ffordd o fath yn y byd i fynd ato ac ymhell o bob man? Ond am y clawdd amdani hi cyn iddi fynd yn nos dywyll."
Gadawodd y polyn a oedd yn sefyll fel rhyw fraich unig, denau, yn codi o ganol y tociau brwyn—brwyn uchel, pigog fel nodwyddau, ac yn tyfu'n llwyni mor dew fel nad gwaith hawdd oedd gwthio trwyddynt. Trywanent trwy ddillad y teithiwr, a rhegodd hwynt pan welodd eu bod wedi tynnu'r gwaed o'i ddwylaw, a hyd yn oed o'i wyneb, canys yr oeddynt yn ddigon tal i hynny. O'r diwedd cyrhaeddodd at olion yr hen gei; yr oedd y cerrig yn oleuach na'r twf o'u cwmpas, a medrodd ddringo i'r bwlch yn y clawdd yn weddol ddidrafferth. Yr ochr arall yr oedd llwyni o frwyn drachefn, a dywedodd y teithiwr rywbeth yn ddiamynedd pan welodd beth oedd yn ei aros—neu pan deimlodd yn hytrach, canys yr oedd bellach yn rhy dywyll iddo weled fawr iawn.
"Wel, trwy'r brwyn amdani hi," meddai, "neu yma y bydda' i trwy'r nos."
Cyn gynted ag y dywedodd hynny daeth sŵn sydyn o'r tywyllwch ar y chwith; yr oedd yn eglur nad oedd nerfau'r teithiwr yn dda, canys rhoddodd naid a rheg pan redodd rhywbeth bron ar draws ei droed, ac ni thawelodd lawer pan sylweddolodd mai cwningen oedd wedi cychwyn o'i gwâl pan ddaeth ef i aflonyddu arni ac wedi rhedeg yn syth i'w gyfarfod yn ei dychryn.
"Cythraul o le ydi hwn," meddai. 'Roedd o'n ddigon drwg wrth olau dydd, ond y mae o'n ddigon â pheri i ddyn weld bwganod wedi nos fel hyn. Mi fydd yn dda iawn gen' i weled y ffordd fawr a'r car unwaith eto."
Yna dechreuodd ymwthio trwy'r brwyn. Nid oedd wedi myned mwy na llathen pan roddodd ysgrech uchel, ysgrech a oedd yn torri'r distawrwydd trwm fel cyllell. Aeth trwy'r brwyn, a chafodd fod y ddaear yn darfod dan ei draed. Fe'i teimlai ei hun yn llithro i lawr heb allu ei arbed ei hun o gwbl; teimlai ddwfr dwfn yn cau amdano. Rhoddodd un ysgrech, a dyna'r cwbl. Yr oedd y llyn yn ddwfn; yr oedd ei ochrau yn serth; yr oedd y brwyn yn ei guddio. Hyd yn oed liw dydd golau gallai dyn dieithr lithro i'r pwll hallt, dwfn, bron cyn ei weled, a suddo o'r golwg os na lwyddai yn ei ddychryn i gydio yn y brwyn a oedd yn tyfu hyd at ymyl y geulan. Nid oedd y llyn i'w weled o unman; yr oedd fel trap ynghanol yr anialwch o frwyn, hen lyn tro a adawyd gan y llanw pan ddeuai yn nes at yr hen gei nag y deuai yn awr, ac a borthid o hyd, trwy rigolau a sianelau o'r golwg, gan bob llanw a gyrhaeddai hyd at fin y glastraeth. Prin y deuai neb ar ei gyfyl unwaith mewn blwyddyn; yr oedd allan o'r trawiad, a gwyddai'r cyfarwydd ddigon amdano i gadw'n ddigon pell oddi wrtho, ddydd a nos, ac yn enwedig wedi nos.
Dyfnhaodd y tywyllwch. Dyfnhaodd y distawrwydd hefyd, ar ôl yr un ysgrech honno. Hwyrach nad oedd honno mor uchel; hwyrach, pe buasai ymdeithydd yn croesi'r traeth yr adeg honno ac wedi clywed yr ysgrech y buasai wedi meddwl mai ysgrech cwningen yng ngafael gwenci a glywsai. A phe buasai wedi cymryd digon o ddiddordeb i wrando. ni buasai wedi clywed dim wedyn—dim ond su trymllyd y don dros y dwnan a llef ddistaw, fain, awel y nos yn y brwyn.
A phrin y buasai wedi gweled dim, ychwaith, canys yr oedd yn nos erbyn hyn, os nad oedd ei lygaid wedi hen gynefino â sylwi ar bethau fel gwrychoedd a choed a physt yn erbyn llwydni'r awyr, yr unig ffordd i weled a chael hyd i'ch cyfeiriad yn y fath le yn y tywyllwch. A bwrw bod rhywun wedi gwneud hynny y noson honno—wedi gorwedd ar ei hyd ar lawr y traeth nes cael pob codiad rhyngddo a'r awyr, a oedd yn rhywfaint goleuach na'r traeth ei hun a'r bryniau tywod—gwelsai beth digon annisgwyliadwy.
Dywedwyd fod y post y cyfeiriodd y teithiwr tuag ato yn codi o ganol y brwyn fel braich unig, denau. Yn awr dechreuodd y post hwnnw symud, symud yn araf ac yn wyliadwrus ymhellach oddi wrth yr hen glawdd cerrig, ymhellach oddi wrth y bwlch yn y cei a'r llyn llechwraidd yn y brwyn. Yr oedd yn rhy dywyll i weled mwy na hynny—symudiad y polyn, fel pe buasai'n rhywbeth byw, ar draws y gwastadedd. Gwyrai weithiau, sythai dro arall, a symudai o hyd nes cyrraedd lle gryn chwarter milltir o'r fan lle y safasai. Ac yna llonyddodd, yn fraich denau, unig, yn pwyntio'n ddisymud at lwybr a oedd o'r golwg yn y brwyn.
A phe buasai'r gwyliwr wedi dal i edrych, ac wedi craffu mwy nag erioed i'r tywyllwch, efallai y buasai wedi gweled symudiad arall ynghanol y brwyn. Nid— oedd yn hawdd ei weled; ni fwriadwyd i neb ei weled, ac yn ôl pob tebyg nid oedd neb yn ei weled yn y lle unig hwnnw ac ar yr awr honno o'r nos. Eithr
yr oedd rhywun yn symud yn gyflym ac yn llechwraidd trwy'r brwyn ac ar draws y traeth i gyfeiriad tir Penlliw.