Ceulan y Llyn Du/Pennod V
| ← Pennod IV | Ceulan y Llyn Du gan Edward Morgan Humphreys |
Pennod VI → |
PENNOD V
TRODD Aubrey a Sarjant Williams yn ôl am Drewylan, ac aeth Morley ac Elston ar draws y traeth tua chlawdd parc Penlliw. Am ysbaid ni ddywedodd y naill na'r llall yr un gair, ond pan oeddynt ar gyrraedd terfyn y parc trodd Elston yn sarrug ar ei feistr.
"Pam gythraul 'roeddach chi'n gadael i'r Wmffra Jones yna aros yma?" meddai. "Y mae o â'i gyllell ynoch chi o'r cychwyn, ac yn awr dyna fo wedi rhoi'r 'tec busneslyd yna ar y trywydd. Mi ddylasech fod wedi ymadael ag ef ar y dechrau."
Trodd Morley ddau lygad lym a dirmygus ar ei gydymaith.
"Os ydi Wmffra Jones â'i gyllell ynom," meddai, mewn llais isel ond clir, y mae felly am eich bod chwi wedi ymddwyn fel ffwl tuag ato o'r dechrau. Y mae'n rhaid i chwi gofio nad yw pobol y wlad yma yn barod i gymryd pob sarhad ar law rhai fel chi. Pe buasech chi wedi bihafio gyda rhyw gymaint o synnwyr fe fuasai'r hen greadur yn iawn."
"Yn y llyn y mae'i le fo," meddai Elston, gyda rheg, yr hen lob busneslyd, dialgar!
"Peidiwch â bod yn ffwl, Ffelix," meddai Morley yn chwyrn, "â siarad fel yna am yr hen greadur nad yw o bwys yn y byd. Y mae perygl gwaeth o lawer yn llechu o'r golwg yn rhywle."
"Beth yw hwnnw?
"Dydach chi ddim mor ddwl â hynna, Felix," meddai Morley. "Y cwestiwn i chi a minnau, fy nghyfaill i, ydi paham yr oedd y llyn yn wâg?"
Safodd Elston yn sydyn, ac am y tro cyntaf daeth rhywbeth fel braw i'w lygaid. "Y llyn yn wâg?" meddai. "Ond y chi a aeth â'r corff oddi yno y noson honno, Frank?
"Peidiwch â chyboli," meddai Morley. "Sut y gallwn i symud y corff fy hun? Ac ni welais i'r un corff, 'chwaith. Pan euthum i symud y post arwydd yn ei ôl y cwbl a glywais oedd gwaedd Gwynn ar fin y llyn a'i sŵn yn disgyn i'r dŵr. 'Doedd dim golwg amdano fo pan euthum at y llyn, ond cymerais yn ganiataol mai wedi mynd i'r gwaelod yr oedd. Credwch fi, bu bron i mi lewygu pan gawsom nad oedd y corff yno heddiw."
"Be' sydd wedi digwydd, yntau?" meddai Elston. A gafodd rhywun arall hyd iddo? Bwnglerwaith a wnaethoch chi, wedi'r cwbl. Buasai'n well i chi fod wedi gadael i mi roi diwedd arno pan fygythiodd o ollwng y gath o'r cwd, fel yr oedd arna' i eisiau gwneud."
"A chael y plismyn yma drannoeth?" meddai Morley yn oeraidd. "Cadwch eich pen, Felix. 'Does ganddyn' hw' ddim praw yn y byd fod neb wedi'i ladd 'rŵan—dim ond fod John Gwynn, y dyn busnes parchus o Dre'r Porth, ar goll."
"Ar goll y buasai o pe buaswn i wedi cael fy ffordd echdoe hefyd," meddai Elston, gyda hanner-gwên greulon. "Ond 'rwan dyna rywun wedi cael hyd i'r corff ac yn dal y peth uwch ein pennau ni!
"'Rwyt ti'n colli dy afael, Felix," meddai Morley, ac yn colli dy ben. Hyd yn oed pe buasai rhywun wedi cael hyd i gorff Gwynn yn y llyn, pa le fuasai 'gan neb i feddwl bod rhywbeth heblaw damwain wedi digwydd? A phwy yn y byd a fuasai'n symud y corff ac yn ei guddio?
"'Dwn i ddim," meddai Elston, "ond ar ôl y peth ddeudodd Gwynn pan oedd o yma, be' wyddoch chi nad oes yna rhywun arall yr un fath ag yntau wedi penderfynu gwasgu arnom? Ac mi fydd hwnnw, pwy bynnag ydi o, wrth y drws un o'r dyddiau nesaf yma ac yn dweud beth fydd pris ei ddistawrwydd."
"Ai dyna sydd yn eich poeni chi, Felix?" meddai Morley, gan sefyll ac edrych ar ei gydymaith.
"Tybed nad ydi o'n ddigon i boeni dyn?" meddai Elston.
"Y mae peth gwaeth o lawer yn fy mhoeni i," meddai Morley. "Does arna' i ddim llawer o ofn gweled neb diarth wrth y drws yn gofyn am bris ei ddistawrwydd, mwy nag sydd arna' i lawer o ofn y 'tec busneslyd yna na'r plismyn pendew."
Be' sydd arnoch chi ofn, yntau?"
"Ofn yr hyn a wna John Gwynn yn awr," oedd yr ateb.
"John Gwynn?" meddai Elston. "John Gwynn? Ond y mae o . . . .
"Nac ydi, Felix," oedd ateb Morley, "y mae cyn sicred â dim, bron, nad yw John Gwynn wedi boddi. 'Roeddwn i, fel chwithau, wedi meddwl nad oedd fodd iddo ddianc o'r Llyn Du, ond y mae'n rhaid ei fod wedi gwneud. Pa eglurhad arall sydd yn bosibl ar y ffaith nad yw ei gorff yn y llyn? A'r peth yr wyf yn ei ofyn i mi fy hun yn awr ydyw pa bryd y mae John Gwynn yn bwriadu ymweled â ni eto? Y mae'n siŵr o ddwad, ac fe allwch chi a minnau, Felix, fod yn bur sicr na bydd yn teimlo'n gyfeillgar. O'm rhan fy hun, bwriadaf fod yn bur ofalus rhag mynd allan wedi nos yn y lle anial yma nes cael sicrwydd pa le y mae o."
Cyrhaeddasant lidiart y parc erbyn hyn, ac yr oedd y tŷ yn y golwg. Hen dŷ hir, isel, oedd Penlliw, hen blasty bychan, Cymreig, a fu'n gartref i uchelwyr o Gymry gynt. Yr oedd parc, a fu unwaith yn drefnus, o'i gwmpas; yr oedd y coed oll yn plygu rhag grym gwynt y gorllewin yn y fan amlwg honno ac erbyn hyn yr oedd golwg wyllt a didrefn ar y rhannau agored. Lle wedi bod yn olygus ac yn drefnus ydoedd; heddiw, er na ellid dywedyd bod "mieri lle bu mawredd ", eto, gwael oedd ei wedd wrth yr hyn a fu pan oedd yr hen deulu'n byw yno. Yr oedd yn amlwg nad oedd Morley yn gwneud fawr mwy na byw yn y tŷ, ac yr oedd eithaf golwg ar amgylchoedd y tŷ ei hun. Yr oedd yr ardd o'i flaen yn weddol daclus a'r tŷ mewn eithaf cyflwr, ond cyn gynted ag yr elid gan' llath oddi wrth y tŷ i gyffiniau'r coed, gwelid bod yr anialwch yn cael ei ffordd. Nid oedd neb wedi tocio twmpathau'r rhododendron ers llawer dydd, ac yr oeddynt hwythau wedi tyfu ar led yn llwyni tewfrig. Cwympasai rhai o'r coed pîn yn ystod storm rhyw aeaf, ac ni thrafferthodd neb i'w symud; gadawyd hwy ar eu lled-orwedd ymhlith y coed byw, yn pwyso arnynt ac yn peri eu bod hwythau hefyd yn gwyro ac yn barod i gwympo yn eu tro pan ddeuai storm arall i guro arnynt. Lle wedi ei esgeuluso ydoedd, lle na chymerai neb falchter ynddo; nid oedd angen neb craff iawn i ddywedyd mai pobl wedi arfer byw mewn tref a oedd yn byw ym Mhenlliw yn awr, pobl heb feddu'r traddodiad gwlad a fuasai'n codi cywilydd arnynt o weled lle mor afler. Nid oedd yno arwydd o falchter y gwladwr yn ei amgylchoedd.
Cerddodd Morley ac Elston yn araf at y tŷ; yr oedd yn amlwg fod geiriau Morley wedi effeithio ar ei gydymaith, ac yr oedd mewn myfyrdod dwfn, a hwnnw i bob golwg yn fyfyrdod digon annifyr. Cyn cyrraedd at y drws trodd at Morley.
"Does dim ond un peth i'w wneud," meddai, "a hynny ydyw'r peth y dylasech fod wedi gadael i mi ei wneud echdoe. Y mae'n rhaid rhoi Gwynn allan o'r ffordd y cyfle cyntaf. Gwyliaf amdano heno, a byddaf yn fwy dethau na chwi efo'r gwaith, gobeithio."
"Unwaith eto, Felix," meddai Morley, ac yr oedd awdurdod ddigamsyniol yn ei lais y tro hwn, "peidiwch â bod yn ffwl. A ydych yn meddwl fod y plismyn yna'n fodlon ar yr hyn a welsant heddiw? Byddant o gwmpas yma yn rhywle o hyd am rai dyddiau, beth bynnag, a phe byddech yn llwyddo i wneud diwedd ar Gwynn byddai'r rhaff am eich gwddf chwithau yr un pryd, ac am fy ngwddf innau—peth fyddai'n llawer gwaeth, fy nghyfaill i."
Chwarddodd wrth ddweud y geiriau, ond nid oedd y chwerthin yn siriol na dymunol. A barnu oddi wrth ei gilwg, dyna oedd barn Elston hefyd.
"Pa beth wnewch chi, yntau?" meddai hwnnw. Disgwyl yma fel llwfrgi nes daw Gwynn yn ôl i ddweud wrth y plismyn mai chi sydd yn delio yn y rhan fwyaf o'r gemau a ladrateir ar hyd a lled y wlad? Cofiwch mai dyna a fygythiodd os nad oeddych yn fodlon talu'r swm a ofynnodd. Mi wyddoch cystal â minnau y rhoddai'r plismyn unrhyw beth am gael gafael ar y Brawd Llwyd sydd wedi bod y tu ôl i bob lladrad o bwys ers deng mlynedd bellach, ac fe wyddoch hefyd y gwaeda Gwynn chwi'n fyw fel ei bris am gadw'r gyfrinach. Ffwl, aie? Pwy oedd yn ffwl, ys gwn i, yn gadael i'r dyn yna gael gafael ar y 'stori? 'Wn i ddim beth oedd ar eich pen chi yn gwneud dim â fo."
"Y mae Gwynn wedi bod yn ddigon buddiol," meddai Morley yn dawel, "ac wedi gwneud eithaf gwasanaeth o dro i dro. Y mae'n rhaid i mi gyfaddef na feddyliais i ddim y buasai'n troi i flacmelio, ond ni phery hynny ddim yn hir. Y mae mwy nag un ffordd i ddelio â pheth felly, Felix. Cofiwch fod eich pen chwithau mewn cryn enbydrwydd hefyd. Yr oedd Aubrey yn edrych yn bur graff arnoch gynnau. 'Synnwn i ddim nad oedd o'n drwgdybio rhywbeth."
"Tybed?" meddai Elston, yn anesmwyth. "Sut y gallai wybod dim amdanaf?
"Bu'n ddigon cyfyng arnoch ar ôl llofruddiaeth. Black," meddai Morley. "Cofiwch fel y bu'r plismyn yn eich holi yr adeg honno—a chofiwch hefyd na chafwyd byth hyd i lofrudd y plismon. Dywedir na bydd y plismyn byth yn gollwng eu gafael ar achos felly, a buasai'n beth anffodus iawn pe buasai Aubrey yn digwydd eich adnabod."
Gwenodd Morley yn sarhaus wrth weled fel yr oedd ei gydymaith yn anesmwytho, ac yna ychwanegodd:
"Ond na hitiwch am hynny'n awr. Mi wnaf i o'r gorau ag Aubrey eto. Y peth sydd ar fy meddwl i yn awr ydyw symudiad nesaf John Gwynn. Y mae o'n siŵr o symud, ac y mae'n rhaid i ni ddarparu ar gyfer hynny."
"Sut?" gofynnai Elston yn swrth.
"Gwrandewch," meddai Morley, a siaradodd yn gyflym ac yn isel am rai munudau. Ar y dechrau edrychodd Elston arno mewn syndod, ond yn raddol daeth gwên i'w wyneb, ac o'r diwedd trawodd ei law ar ochr ei glun gyda rheg.
"O'r gorau," meddai. "Un garw ydach chi, hefyd. Ond fe fydd yn well i Aubrey ac i Gwynn edrych ati hi."
Pe buasai rhyw ddamwain anffodus yn digwydd i'r ddau," meddai Morley yn sychlyd, buasai'n beth gofidus iawn."
"Gobeithio'r gorau," meddai Elston, ac ar hynny cerddodd y ddau i'r tŷ.
Yr oedd y lle'n ddistaw iawn. Yr unig bethau a dorrai ar y distawrwydd oedd sŵn y môr a brefiadau gwartheg draw i gyfeiriad y beudai. Yn gymysg â'r sŵn hwnnw yr oedd islais dwfn y tarw. Yr oedd ffarm ynglŷn â Phenlliw, ac yr oedd Morley wedi cymryd y stoc drosodd gyda'r lle. Ymfalchïai yn yr ochr yma i'w fywyd. Hwyrach ei bod cystal ffordd â'r un o daflu cochl dros y gorffennol—a'r presennol hefyd, o ran hynny.