Neidio i'r cynnwys

Ceulan y Llyn Du/Pennod VI

Oddi ar Wicidestun
Pennod V Ceulan y Llyn Du

gan Edward Morgan Humphreys

Pennod VII


PENNOD VI

TRANNOETH aeth Aubrey i Dre'r Porth i holi hanes John Gwynn. Nid oedd yn disgwyl cael hyd i fawr fwy nag a gawsai pan yn cychwyn ar yr ymchwil, ond teimlai fod rhyw berthynas rhwng Gwynn a Morley amgen nag ymholiad ynghylch hawliau saethu, ac amheuai mai yn y cyswllt hwnnw yn rhywle yr oedd allwedd—neu ran o'r allwedd—i'r dirgelwch. Wedi trafod yr achos yn ei wahanol agweddau â'r Arolygydd Jones yn Nhrewylan, a chael barn Sarjant Williams ar yr hyn a welwyd ac a glywyd ar y traeth, teimlai Aubrey yn weddol sicr yn ei feddwl ei hun fod ymgais wedi ei gwneud i lithio Gwynn i'r llyn, a'i fod yntau rywfodd neu'i gilydd wedi llwyddo i ddianc o'r trap.

Ond, os felly, paham na buasai wedi dyfod i'r fei bellach? Paham na buasai wedi myned at ei gar yn y ffordd ac wedi mynd adref, os oedd yn meddwl mai damwain a'i cyfarfu, neu, os oedd ganddo le i amau rhywbeth arall, paham na buasai wedi hysbysu'r plismyn yn Nhrewylan?

"Y dirgelwch mwya' yn yr holl beth," meddai'r Arolygydd, gan grafu ei ben, "ydi be' ddaeth o John Gwynn. 'Rydw' i bron â gresynu na buasech chi wedi cael hyd iddo fo yn y llyn hwnnw."

"'Roedd yno eraill yn dymuno hynny, beth bynnag," meddai Aubrey. "Y mae Morley yn hen law ar guddio'i deimladau, gallwn feddwl, ond os gwelais i syndod a braw ar wyneb neb erioed yr oeddan' hw' i'w gweled ar ei wyneb o am eiliad pan gawsom ni nad oedd yna neb yn y llyn."

"Braw?" meddai'r Arolygydd.

"O, ie," oedd yr ateb, "braw yn llawn cymaint â syndod. Am ryw reswm neu'i gilydd y mae Mr. Morley yn teimlo'n anghysurus iawn wrth feddwl bod John Gwynn yn fyw ac yntau heb wybod ymhle."

"Wel," meddai'r Arolygydd, "fyddai'n well i ni anfon dyn i lawr i Benlliw tra byddwch chi yn Nhre'r Porth? Os ydach chi'n iawn, wyddom ni ddim beth all ddigwydd yno. Ond 'wn i yn y byd lle y gallai Gwynn fod 'chwaith. Os syrthiodd o i'r llyn, y mae'n rhaid ei fod o'n wlyb ac yn anghysurus iawn. Oes yna le iddo fo gael lloches yn rhywle, Williams?

"Lle diolwg iawn oedd o i'm golwg i, beth bynnag," meddai Aubrey, " heb dŷ na thwlc yn y golwg yn unlle ond Penlliw ei hun, a phrin y buasai Gwynn yn mynd i'r fan honno am noddfa."

"'Does yna unlle yn agos," meddai Sarjant Williams. "Y mae Llangam, fel y gwyddoch chi, tua dwy filltir o'r lle ar draws y morfa, ac fe fuasai yn hwylusach i Gwynn fynd at ei gar na mynd i'r fan honno. A phe buasai fo wedi mynd yno fe fuasem wedi clywed, y mae'n siŵr. Os syrthiodd o i'r llyn y mae'n rhaid fod golwg mawr arno, a fedra' fo ddim 'sgoi sylw. A phe. . .'

Tawodd y Sarjant yn sydyn, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi meddwl am rywbeth.

"Wel, Sarjant, beth sy'n bod?" meddai'r Arolyg ydd, braidd yn ddiamynedd.

Cofio ddaru mi am Siôn y Bodiau, syr," meddai'r Sarjant.

"Pwy ydi hwnnw?" gofynnai Aubrey, ac edrychodd yr Arolygydd yntau yn bur hurt am eiliad. Ond gyda hynny daeth golwg arall i'w wyneb.

"Siôn y Bodiau?" meddai. "Creadur sydd yn byw ar botsio a dwyn ar hyd y glannau yma. Y mae o wedi bod o flaen 'i well 'wn i ddim sawl gwaith, ac wedi bod yng ngharchar tua dwsin o weithiau am ryw droseddau bach. Y mae lle i amau pethau gwaeth amdano: byddai'r Arolygydd oedd yma o'm blaen i yn mynd ar 'i lw mai fo a laddodd gipar Penlliw rhyw ddeng mlynedd yn ôl, ond fedrodd neb brofi dim. 'Deryn amheus iawn ydi Siôn, neu, a dweud y gwir, 'deryn nad oes dim amheuaeth o gwbl yn ei gylch."

"Ond sut y gallai hwnnw ddwad i gysylltiad â Gwynn o gwbl?" gofynnodd Aubrey.

"Fel hyn, syr," meddai Sarjant Williams. "Y mae Siôn yn byw mewn hen fwthyn ar lan y môr heb fod ymhell iawn oddi wrth Benlliw—yr unig dŷ yn y cyffiniau yn unman. Maen' hw'n dweud bod yno bentre bach wedi bod yno rywdro pan fyddai llongau'n cario glo a chalch ar hyd y glannau yma, ac y byddai yno lawer o smyglwyr yn byw yno ers talwm. Ond welais i ddim ond rhyw un tŷ arall heblaw'r tŷ y mae Siôn yn byw ynddo fo, ac fe aeth hwnnw efo'r llanw un noson fawr rhyw bum fmlynedd yn ôl. Wrth gwrs, y mae tŷ Siôn wedi'i gondemnio lawer gwaith drosodd, ond yno y mynn o fod, ac fe â yntau efo'r llanw rhyw ddiwrnod—a Siôn ynddo fo."

"A fawr o golled i neb," meddai'r Arolygydd yn gwta. "Y mae'r Sarjant yn iawn. Os oes ceiniog anonest i'w gwneud yn rhywle, Siôn y Bodiau ydi'r dyn i'w gneud hi. Os daeth Gwynn ac yntau i gyfarfod ei gilydd, synnwn i ddim nad yno y mae'r dyn sydd ar goll. Fe fyddai'n well i chi drefnu i chwilio, Sarjant." "Mi â i yno fy hun, syr," meddai'r Sarjant. "Dyna'r unig le y gall o fod."

I swyddfa Gwynn yr aeth Aubrey wedi cyrraedd Tre'r Porth, a theimlodd ar unwaith nad oedd fawr obaith cael hyd i ddim gwybodaeth bellach yno. Ni wyddai'r clercod ddim mwy nag a ddywedasant wrth Aubrey o'r blaen; nid oedd dim yn y llythyrau yn yr offis yn taflu unrhyw oleuni ar y dirgelwch, a'r unig lythyrau yno ynglŷn â Phenlliw oedd rhyw ddau neu dri ynghylch gosod y saethu. Cyn belled ag y gellid barnu, nid oedd unrhyw gysylltiad arall rhwng Gwynn a'r plasty anghysbell ar fin y traeth.

Gofynnodd Aubrey am gael gweled cynnwys y sêff, a chafodd weled popeth oedd yno—papurau busnes heb unrhyw gysylltiad â dirgelwch diflaniad eu perchennog. Gorfodid ef i gredu nad oedd dim ym musnes John Gwynn ond y pethau arferol, nad oedd yno ddirgelwch o gwbl, a bod yr hyn a ddywedodd Morley am ei gysylltiad ag ef yn wir. Ar hynny daeth at fwndel o bapurau a oedd yng ngwaelod dror y sêff —y sypyn olaf—a datododd y tâp a oedd yn eu clymu yn ddigon difater. Synnodd braidd weled nad oedd yn y sypyn ddim ond un llun yn dangos nifer o bobl gyda'i gilydd, fel grŵp o ddynion chware golff neu rywbeth felly.

"Beth yn y byd a barodd i Gwynn gadw hwn yn y sêff, tybed?" meddai Aubrey wrtho ei hun, gan baratoi i'w roddi o'r neilltu. Ac ar hynny ail-afaelodd yn sydyn yn y llun a chraffodd arno fel pe buasai'n gweled ysbryd.

Canodd y gloch a daeth prif glerc y swyddfa mewn atebiad i'r alwad.

"A ellwch chwi ddweud wrthyf pwy yw rhai o'r bobl yma, Mr. Griffith?" meddai Aubrey, gan estyn y llun iddo.

"Dyna Mr. Gwynn," meddai Griffith, gan bwyntio at un o'r dynion, "a dyna Mr. Wilkins, a fu'n bartner efo fo rai blynyddoedd yn ôl," gan bwyntio at un arall. "Aeth o oddi yma toc ar ôl i mi ddwad yma, a welais i fawr arno fo, ond 'rydw' i'n siŵr mai fo ydi o. Pobl y dre' yma ydi'r lleill, hefyd, aelodau'r clwb golff yr adeg honno, tua deng mlynedd yn ôl."

"Wyddoch chi ddim i b'le'r aeth Mr. Wilkins?" gofynnai Aubrey.

"Mi glywais mai i Lundain yr aeth o oddi yma," meddai Griffith, "ond 'wn i fawr iawn amdano fo, i ddweud y gwir. Fuo fo yma fawr, mi glywais, a 'dydw i ddim yn meddwl bod neb yn y dre' yn cofio amdano erbyn hyn. Fe wyddoch sut y mae hi efo pobol ddwad fel yna."

"Gwn," meddai Aubrey, ond yr oedd yn amlwg fod ei feddwl ymhell yn rhywle. "Gwn—a wyddoch chi ddim am i gerdded o ar ôl iddo fo fynd oddi yma?"

"Dim o gwbl," meddai'r prif glerc.

"Wel, 'does mo'r help felly," meddai Aubrey," ond os digwydd i rywbeth ddyfod i'ch cof gadewch i mi wybod ar unwaith."

Addawodd Griffith wneud hynny, a throdd Aubrey yn ôl tua Threwylan gan yrru'n gyflymach nag y buasai yr Arolygydd Jones yn ei gymeradwyo o dan amgylchiadau cyffredin. Yr oedd ei feddwl yn fwy cynhyrfus nag arfer. Yr oedd y llun yn ei boced, a throdd y peth drosodd a throsodd yn ei feddwl ar hyd y ffordd, gan chwilio ym mhob cyfeiriad am ateb i'r cwestiynau a oedd yn ei boeni. Bwriodd y llun ffrwd o oleuni newydd ar bethau—neu credai ef ei fod yn gwneud hynny. Yr oedd arno eisiau barn yr Arolygydd ar y mater. Ond hyd yn oed os nad oedd yn camgymryd ac ni chredai ei fod—nid oedd yn gweled yn glir iawn i ba le'r oedd y goleuni yn ei arwain wedyn. Yr oedd un peth yn amlwg. Yr oedd yn rhaid gweled Morley ar unwaith a gofyn un neu ddau o gwestiynau pur blaen iddo.

Cyrhaeddodd Aubrey orsaf y plismyn yn Nhrewylan pan oedd yr Arolygydd ar gychwyn at ei swper.

"Dowch efo mi am damaid," meddai yn groesawus. "Diolch yn fawr," meddai Aubrey, "ond y mae' arnaf eisiau i chwi a Sarjant Williams edrych ar un peth sydd gennyf i ddechrau."

Tynnodd y llun o'i boced a datododd y papur a oedd amdano. Yr oedd yn amlwg i'r lleill ei fod braidd yn gynhyrfus.

"A ydych yn adnabod rhywun yn y llun yma?" meddai.

Edrychodd yr Arolygydd a'r Sarjant ar y llun yng ngolau'r lamp drydan.

"Gwelais Gwynn rhyw unwaith neu ddwy," meddai'r blaenaf. "Dyma fo, yn edrych dipyn iau, ond 'does dim dwywaith nad y fo ydi o. Yntê, Sarjant?"

Rhythai Sarjant Williams â'i geg yn agored—ond nid ar lun Gwynn yr edrychai.

"Yr argol fawr!" meddai, gan roddi bys praff ar lun y dyn a alwodd y prif glerc yn Wilkins.

"Ie, Sarjant," meddai Aubrey. "Pwy ydi hwnna?

Morley, mi gymra' fy llw," meddai'r Sarjant.

"Felly 'r oeddwn innau'n meddwl," meddai Aubrey.

Nodiadau

[golygu]