Ceulan y Llyn Du/Pennod VIII
| ← Pennod VII | Ceulan y Llyn Du gan Edward Morgan Humphreys |
Pennod IX → |
PENNOD VIII
"YN awr be' wnewch chi?" meddai Elston yn ffyrnig, wedi i Aubrey a Sarjant Williams ymadael. "Fe welwch i b'le'r ydach chi wedi'n harwain ni gyda'ch clyfrwch a'ch llwfrdra. Pe buasech wedi gadael i mi setlo efo Gwynn pan ddaeth yma gyntaf, fuasai hyn ddim wedi digwydd, a 'rwan dyma'r Aubrey yma ar eich trywydd chi pan oeddych yn Nhre'r Porth ac wedi fy adnabod innau. Y mae'n rhaid i ni gael y cwch heno a chlirio allan cyn yr â pethau'n waeth. 'Does dim eiliad i'w golli."
Cododd llais Elston fel yr âi ymlaen, ac yr oedd bron yn ysgrech pan ddywedodd y geiriau olaf. Ar y dechrau nid oedd Morley fel pe'n gwrando arno o gwbl. Eisteddai â'i en wedi suddo ar ei fynwes, a'i lygaid bron ynghau, fel dyn wedi llwyr ymgolli mewn myfyrdod. Ond pan gododd Elston ei lais agorodd yntau ei lygaid ac edrychodd arno, heb ddywedyd yr un gair. Daeth atal i eiriau cynhyrfus Elston a gostyngodd ei lais; bron na ddywedai sylwedydd ei fod fel pe'n cilio'n ôl rhag ei gydymaith fel pe byddai arno ei ofn. Ac yna distawodd.
"Felix," meddai Morley o'r diwedd, "dywedais o'r blaen am i ti beidio â bod yn ffwl. Y mae ffyliaid cyn berycled â bradwyr, ac nid oes gennyf le i'r naill na'r llall. Hwyrach y dylaswn fod wedi gwneud yn siŵr na ddeuai Gwynn yn ei ôl, ond yr wyf wedi dysgu'r wers. Os bydd yn rhaid, gwnaf yn siŵr na chei di, beth bynnag, ddim cyfle i ddianc. Paid â chamgymeryd. Myfi sydd yn arwain yn y busnes yma."
"Ie," meddai Elston, yn ceisio'i adfeddiannu ei hun, "ond am fy ngwddf i y mae'r rhaff."
"Paid â chyboli," meddai Morley. "'Does dim rhaft am wddf neb hyd yn hyn. Os bydd yn rhaid, y mae'r cwch gennym, ac ni ŵyr Aubrey na'r plismyn ddim am hwnnw. Ond yn gyntaf peth y mae'n rhaid talu'r pwyth i Gwynn. Y fo sydd wedi dwyn yr holl helynt yma am ein pennau, a fydd yr un ohonom yn ddiogel tra bydd o ar dir y byw. Wyt ti wedi gwneud y trefniadau y soniais i amdanynt?
"Naddo," oedd ateb sorllyd y llall. "Fe ddaeth y plismyn felltith yna yma'n rhy fuan. Ond mi af i wneud yn awr. Y mae'n tywyllu'n gyflym."
"Ydyw," meddai Morley, gan godi ac edrych trwy'r ffenestr. O'i flaen yr oedd y lawnt a'r parc, ond yr oedd bwlch yn y coed ar gyfer y ffenestr, a gellid gweled ar draws y traeth i gyfeiriad y bryniau a oedd yn codi yr ochr draw i'r morfa. Eisoes yr oedd y bryniau hynny'n ymgolli yn y gwyll. Yr oedd goleuni olaf yr haul wrth fachlud wedi cilio, ac yr oedd cymylau tywyll y glaw a'r nos yn cuddio y rhan fwyaf o'r ffurfafen. Nid oedd yn glawio, ond yr oedd yn edrych yn debyg i law, ac yr oedd y cymylau'n dyfnhau'r gwyll. "Y mae'n tywyllu, bydd yn noson dda at y pwrpas. Ond cymer ofal, Felix, wrth fynd at y gwaith. 'Wyddom ni ddim pa le y mae Gwynn, ac fe all ymosod yn sydyn."
Edrychodd Elston yn anesmwyth braidd.
"Tybed y gallai gyrraedd yma heb i rywun ei weled?" meddai. "Ond, p'run bynnag, mi wnaf o'r gorau â fo os daw.. Nid wyf am fethu'r ail waith. Ond, o ran hynny, eisio arian sydd arno, nid eisiau lladd yr un ohonom. Eisio arian am gau ei geg."
"Eisio arian oedd arno," meddai Morley yn araf, ond, os wyf yn adnabod Gwynn-ac yr wyf yn ei adnabod yn bur dda-'does arno eisio dim erbyn hyn ond dial arnom ni—arnaf fi ac arnat tithau, Felix—am yr hyn y bwriadasom ei wneud iddo. Na, fy nghyfaill' i, yr unig ffordd i ti a minnau deimlo'n ddiogel bellach ydyw cael sicrwydd fod Gwynn wedi marw."
Yr oedd gwên ar ei wyneb, ond nid oedd yn wên a oedd yn argoeli'n dda i John Gwynn, pa le bynnag yr oedd. Yr oedd creulondeb a chyfrwystra yn gymysg ynddi, a gwyddai Elston—neu Smith—fod y neb a groesai lwybr Morley pan fyddai'r wên honno ar ei wyneb mewn dirfawr berygl.
"Yn awr, Felix," ychwanegodd Morley, "at dy waith. Y mae'n ddigon tywyll bellach, ac y mae'n beryglus i ni ei gadael yn rhy ddiweddar. Gyda llaw, a glywodd rhywun rywbeth am ddyn diarth wedi ei weled ar hyd y glannau? Y mae'n beth od na buasai rhywun wedi ei weled."
"'Does yna na siw na miw," meddai Elston. "Wmffra Jones fuasai'r tebycaf i weled neu i glywed, ond ddywed yr hen benci hwnnw ddim byd."
"Diolch i dy ddull di o ymddwyn ato," meddai Morley. "Ond, p'run bynnag, y mae'n hen bryd rhoi'r cynllun ar waith. Byddaf allan wrth y Llyn Du fy hun rhag ofn iddo ddwad y ffordd honno. Gwell i ti fynd â'r gwn efo ti."
"'Da' i ddim allan hebddo fo tra bo Gwynn yn crwydro o gwmpas," oedd ateb Elston wrth fynd trwy'r drws. Taniodd Morley ei bibell, a daeth y wên i'w wyneb drachefn. Ond nid oedd Elston yno i'w gweled yn awr
Oddi wrth ddrws cefn bwthyn unig Siôn y Bodiau yr oedd llwybr yn agor i anialwch o rug ac eithin a llwyni o goed helyg isel. Byddai'n anodd i ddyn dieithr ddyfalu paham y codwyd tŷ yn y fangre ddiarffordd honno o gwbl, ar fin tir rhos a'r morfa, ac ymhell o bob man. Tŷ a godwyd rhywdro pan fyddai llongau bychain yn cludo nwyddau o borthladd i borthladd ydoedd. Bu yno rai tai eraill, ond fel y dywedodd Sarjant Williams, diflanasant o un i un dan bwysau'r tywydd a threigl amser. Gwag a diolwg ddigon oedd y bwthyn pan gymerodd ffansi Siôn. Yr oedd yn lle wrth ei fodd ef, yn ddigon pell ac yn ddigon unig ac yn ddigon o olwg pawb, ac yr oedd yn byw yno bellach—ac yn byw ar ei ben ei hun—ers cryn nifer o flynyddoedd. Nid oedd Siôn yn caru gormod o gwmni ei gyd-ddynion, na hwythau, a dweud y gwir, yn or-awyddus am ei gwmni yntau.
Eithr nid oedd ei hun y noson honno. Agorwyd drws cefn y bwthyn yn ddistaw a llechwraidd. Llithrodd Siôn allan fel cysgod, a symudodd yn ei grwcwd i gyfeiriad y llwybr cudd. Ar ei ôl daeth John Gwynn, ei ddillad yn llawer salach eu gwedd na phan gychwynnodd ar ei daith o Benlliw am y morfa, a'i wyneb heb ei eillio ers dyddiau. Fel cysgod llithrodd yntau i gyfeiriad y llwybr, a phe buasai dyn yn dyfod i'r lle funud yn ddiweddarach ni buasai'n gweled dim ond y bwthyn unig a'r tyfiant gwyllt o'i gwmpas. Hwyrach y buasai'n clywed rhyw siffrwd yn y grug a'r eithin, ond prin yr oedd digon o hynny i dynnu sylw. Unigrwydd a distawrwydd y lle a fuasai yn gadael argraff ar feddwl dyn felly.
Ac y mae'n debyg na buasai wedi gweled peth arall, ychwaith. Pan agorodd Siôn y drws edrychodd o'i gwmpas yn graff, ond nid oedd mewn gwirionedd yn disgwyl gweled neb na dim. Yr oedd yn hen gynefin ag unigrwydd y lle, ac er bod ymweliad Sarjant Williams wedi peri iddo anesmwytho peth—a rhegi mwy—nid oedd mewn gwirionedd yn disgwyl gweled na chlywed neb. Ac ni welodd ac ni chlywodd neb.
Arweiniodd Siôn yn gyflym a difeth ar hyd y llwybr cudd, trwy ddrysni'r grug a'r eithin ac yng nghysgod yr helyg bach. Nid oedd y tywyllwch yn mennu dim arno ef; gwyddai am bob cam a thro ar y llwybr. Collai ei amynedd wrth weled Gwynn mor anfedrus ac araf yn ei ddilyn, a throdd yn ôl fwy nag unwaith i'w regi ac i ddweud wrtho am frysio. Tuthiai Gwynn, dyn nad oedd erioed wedi arfer â llwybrau'r wlad, yn llafurus ac yn boenus ar ei ôl, ond yr oedd penderfyniad ffyrnig yn peri iddo yntau ddal ymlaen. Nid oedd waeth ganddo am regfeydd Siôn y Bodiau. Nid oedd waeth ganddo am ddrysni'r grug na phigiadau'r eithin na'r tyllau sydyn yn y llwybr. Yr unig beth a oedd yn ei feddwl oedd y cof am y disgyniad hwnnw dros geulan y Llyn Du yn y nos a'r penderfyniad caled, di-ildio, fod yn rhaid i'r sawl a'i twyllodd dalu am ei dwyll.
Yr oedd Morley yn llygad ei le. Nid oedd ar Gwynn eisiau dim erbyn hyn ond dial ar Morley ac Elston. Aethai i Benlliw y diwrnod hwnnw gan gredu y gallai wasgu arian o groen y ddau. Synnodd braidd fod Morley wedi cytuno mor rhwydd i'w gyfarfod trannoeth ac i dalu am y darlun a oedd yn ei feddiant, ond, am fod y darlun ganddo ac yn ddiogel yn ei swyddfa, ni chredodd y buasai Morley yn ymosod arno nes ei gael. Pe buasai wedi ei drosglwyddo iddo, cymerasai ei ffordd ei hun i'w ddiogelu ei hun, canys nid oedd ganddo fymryn o ffydd yn ei gyd-leidr. Ond ni ddaeth i'w feddwl ei fod mewn perygl y noson honno.
Gwyddai bellach ei fod wedi camfarnu Morley. Gwyddai iddo fod yn ymyl boddi ac y buasai wedi boddi oni buasai fod Siôn yn ymyl, yn cuddio yn y brwyn. Yr oedd holl ffyrnigrwydd twyllwr a dwyllwyd yn ei gynhyrfu, ac nid oedd ganddo ond un meddwl bellach. Teimlai'r automatic a oedd ganddo yn ei boced: gwnaethai Siôn drefn ar hwnnw ar ôl y drochfa yn y Llyn Du, a daeth gwên nid annhebyg i eiddo Morley ei hun i'w wyneb wrth feddwl pa fath olwg a fyddai ar Morley ac Elston pan ddeuai ar eu trywydd.
Ar y cychwyn gobeithiai eu bod hwy'n credu ei fod wedi boddi. Yr oedd yn amhosibl credu hynny ar ôl ymweliad Sarjant Williams â bwthyn Siôn, ond hyderai y caffai hyd i'r ddau cyn i'r plismyn gael gafael ar y gwir. Creadur peryglus oedd John Gwynn y noson honno, yn cwrcwdu yn y drysi ac yn ceisio gweled yn y tywyllwch fel bwystfil gwyllt ar drywydd ei ysglyfaeth.
Ond nid oedd yntau, mwy na'i gydymaith, wedi gweled na chlywed dyn arall yn symud yn ddistaw a chyflym fel drychiolaeth ar eu trywydd hwy. Ni welsant ef yn sleifio heibio i ddrws cefn y bwthyn ac yn llithro i enau'r llwybr cudd, amryw lathenni ar eu holau hwy. Ni wyddent ei fod yn eu dilyn ar draws Y morfa, wedi i'r llwybr ddarfod, na'i fod o fewn tua dau gant o lathenni iddynt pan gyrhaeddasant y traeth. Yr oedd yn anodd iawn eu gweled yn y tywyllwch, ond llwyddodd y sawl a'u dilynai i gael ambell gip arnynt trwy orwedd yn sydyn ar y ddaear a'u gosod hwy felly rhyngddo a'r awyr a oedd beth yn oleuach. Gallai eu clywed yn siarad weithiau, ond yr oeddynt yn bur wyliadwrus ac yr oedd yn amhosibl deall yr un gair. Ond yr oedd yn amlwg eu bod yn cyfeirio at Benlliw. Tawedog iawn oedd Siôn a Gwynn ar y daith honno, Siôn am mai tawedog oedd wrth natur, a Gwynn am fod ei feddwl yn llawn o'i gynlluniau. Yr oedd distawrwydd y nos o'u cwmpas. Torrid arno weithiau gan chwibaniad aderyn môr yr aflonyddid arno ganddynt wrth fynd heibio, ac weithiau gan wich rhyw greadur yng ngafaelion creadur ysglyfaethus arall a chryfach nag ef ei hun. Y mae'r nos yn y wlad, ac yn enwedig yn y lleoedd gwylltion, agored, yn llawn o sibrydion ac o seiniau sydyn, brawychus. Gwyddai Siôn hynny, ac ni sylwai arnynt. Ni roes ddim sylw pan chwibanodd gylfinhir yn uchel a lleddf ychydig y tu ôl iddynt, ond anesmwythodd Gwynn.
"Beth oedd yna?" meddai.
"Dim byd ond rhyw hen 'dderyn," meddai ei gydymaith. "Rhaid i chi beidio â gadael i bethau fel yna y'ch dychryn chi ne' 'newch chi ddim byd ohoni hi. Dyna fo eto; mae o wedi meddwl 'i bod hi'n fore, 'ddyliwn i."
Chwibanodd y gylfinhir drachefn, yn uchel ac yn glir, ond erbyn hyn yr oedd y sŵn yn dyfod o'r cyfeiriad arall, o'r traeth a oedd o'u blaen.