Neidio i'r cynnwys

Ceulan y Llyn Du (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Ceulan y Llyn Du

gan Edward Morgan Humphreys

Pennod I
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Ceulan y Llyn Du (testun cyfansawdd)
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward Morgan Humphreys
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Ceulan y Llyn Du
ar Wicipedia

CEULAN Y LLYN DU



GAN
E. MORGAN HUMPHREYS





LLYFRAU PAWB.
DINBYCH




Argraffiad Cyntaf - Mehefin 1944



Dychmygol yw holl gymeriadau a digwyddiadau'r stori hon. Nid oes gyfeiriad ynddi at unrhyw berson gwirioneddol nac at unrhyw le neilltuol.



Argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych


CEULAN Y LLYN DU

PENNOD I

YR oedd yn nosi. Machludodd yr haul ers tro, ac er bod rhesi o gochni yn aros o hyd yn awyr y gorllewin, yr oedd y gwyll yn ennill tir yn gyflym bellach. Wrth weled hynny prysurodd y dyn a oedd yn cerdded ar hyd y ffordd gul a oedd yn dyfod i lawr at y traeth; gwyddai fod ganddo filltir neu fwy o forfa a thraeth i'w cherdded cyn dyfod i ffordd glir, ac nid oedd yn gyfarwydd â'r morfa nac a'r traeth. Yn wir, golwg ddigon diarffordd a oedd ar y lle. Yr oedd tir Penlliw. yr oedd ef yn ei adael, megis yn darfod yn y fan honno. O'r tu cefn iddo yr oedd y caeau a rhyw awgrym o barc ymhellach yn ôl, er nad oedd y tŷ yn y golwg o'r fan honno. Yr oedd yno ffordd, ffordd gul, y mae'n wir, ond ffordd mewn eithaf cadwraeth, gyda gwrychoedd isel o boptu i gysgodi'r fforddolion rhag angerdd y tywydd yn y lle amlwg hwnnw. Ond yr oedd y ffordd yn darfod ar ymyl y traeth.

O flaen y teithiwr wedyn nid oedd ond anialwch o lastraeth, o frwyn ac o forhesg. Prin yr oedd y llanw uchaf yn cyrraedd i'r rhan honno o'r traeth: yr oedd y lle wedi tyfu'n las ac yr oedd y tywod wedi caledu. Ond nid oedd yno ffordd, er hynny; weithiau y deuai pobl Penlliw y ffordd honno, a phan ddeuent gwyddent hwy am bob modfedd o'r traeth a gallent anelu'n ddiffael ar ei draws tua'r bryniau tywod draw a oedd yn cuddio'r morfa o olwg y teithiwr. Lle unig oedd hwnnw; cuddiai codiad tir Penlliw y môr, ond clywid su parhaus y tonnau o hyd, sŵn trymaidd ddigon gyda'r hwyr. Ar un ochr yr oedd anialwch o fryniau tywod a thociau o frwyn; ar y llall yr oedd y traeth gwastad, gwag, heb ddim i dorri arno ond olion hen glawdd yn rhywle tua'r canol, lle bu cei ers llawer dydd ar gyfer y llongau a ddeuai yno gyda'u calch a'u glo yn y blynyddoedd cynt. Nid oedd dŷ na thwlc yn y golwg ac nid oedd yr un enaid byw i'w weled o'r naill ben i'r traeth i'r llall.

Wedi dyfod o'r ffordd safodd y dyn i edrych o'i gwmpas; dyn canol oed ydoedd, yn tueddu at fod yn dew, ac wedi ei wisgo'n bur anghyfaddas i le o'r fath, mewn côt a gwasgod ddu, trwsus rhesog a het galed. Pe gwelsech ef yn dyfod oddi wrth y tren yn y dref ac yn anelu am ei swyddfa neu am y banc ni buasech yn edrych ddwywaith arno; buasai'r un fath yn union â degau o ddynion eraill o'i gwmpas. Eithr ni buasech yn disgwyl gweled neb wedi ei wisgo felly gyda'r nos ar draeth Penlliw, a hwyrach y buasai hynny'n peri i chwi edrych yn graffach arno. Ac o wneud hynny gwelech arwyddion o anesmwythyd, os nad o bryder hefyd, ar ei wyneb llyfndew, wyneb digon cyffredin. Hwyrach y buasai dyn yn dweud bod dwy olwg arno. Yr oedd y pryder neu'r anesmwythyd yn amlwg, ond gyda hynny yr oedd yno benderfyniad neu ystyfnig- rwydd hefyd. Nid oedd, gallech gasglu, yn ŵr hawdd ei droi'n ôl unwaith y penderfynai ar ei ffordd. Am y pryder, gellid cyfrif am hwnnw wrth gofio'i bod yn nosi a'i fod yntau'n amlwg yn ansicr ynghylch ei lwybr.

"At y clawdd cerrig," meddai wrtho ei hun, "y dywedodd Francis y dylwn fynd, a chroesi o'r fan honno at y bwlch yn y bryniau tywod. 'Feddyliais i erioed fod cymaint o ffordd neu mi fuaswn wedi cychwyn yn gynt. Y mae hi'n tywyllu'n gyflym, ond y mae yna ddigon o olau i weled y post y dywedodd Francis wrthyf am i mi gyfeirio ato." Gallai weled, rhyngddo a'r hen glawdd cerrig, bolyn gwyrgam â rhywbeth fel arwyddnod ar ei ben. Prin yr oedd i'w weled yn y gwyll erbyn hyn, ond yr oedd teithiwr yn teimlo'n fodlon mai dyna'r marc y cyfarwyddwyd ef i gyrchu ato, a throdd ar draws y glastraeth i'r cyfeiriad.

Yr oedd ganddo tua hanner milltir i'w cherdded cyn cyrraedd y post, hanner, milltir o dir digon blin ac anodd, ac erbyn iddo ddyfod at y polyn yr oedd yn tywyllu'n gyflym iawn. Nid oedd yn hawdd gweled olion yr hen glawdd bellach, ond wedi llygadrythu tipyn llwyddodd y teithiwr i'w weled o fewn rhyw ddau cant o lathenni o'r lle y safai.

"At y bwlch yn y clawdd ddywedodd o," meddai, fel dyn yn myned dros ei wers er mwyn bod yn sicr ohoni, "a thrwy'r brwyn wedyn. Y mae'n edrych yn debyg iawn fel pe buaswn yn mynd o chwith, ond y mae'n sicr fod yr hen bry' copyn Francis yna yn gwybod. 'Does ganddo ddim i'w ennill trwy beri i mi golli fy ffordd—heno, beth bynnag. 'Faswn i ddim mor siŵr nos yfory, a fuaswn i ddim yn ei drystio fodfedd ymhellach nag y gwelwn i o. Ond 'does gynno fo ddim i'w ennill heno, ac y mae'n debyg o fod wedi fy rhoi i ar y ffordd orau i gyrraedd y morfa a'r ffordd. Ond pwy ond y fo fuasai'n byw mewn lle fel hwn, heb ffordd o fath yn y byd i fynd ato ac ymhell o bob man? Ond am y clawdd amdani hi cyn iddi fynd yn nos dywyll."

Gadawodd y polyn a oedd yn sefyll fel rhyw fraich unig, denau, yn codi o ganol y tociau brwyn—brwyn uchel, pigog fel nodwyddau, ac yn tyfu'n llwyni mor dew fel nad gwaith hawdd oedd gwthio trwyddynt. Trywanent trwy ddillad y teithiwr, a rhegodd hwynt pan welodd eu bod wedi tynnu'r gwaed o'i ddwylaw, a hyd yn oed o'i wyneb, canys yr oeddynt yn ddigon tal i hynny. O'r diwedd cyrhaeddodd at olion yr hen gei; yr oedd y cerrig yn oleuach na'r twf o'u cwmpas, a medrodd ddringo i'r bwlch yn y clawdd yn weddol ddidrafferth. Yr ochr arall yr oedd llwyni o frwyn drachefn, a dywedodd y teithiwr rywbeth yn ddiamynedd pan welodd beth oedd yn ei aros—neu pan deimlodd yn hytrach, canys yr oedd bellach yn rhy dywyll iddo weled fawr iawn.

"Wel, trwy'r brwyn amdani hi," meddai, "neu yma y bydda' i trwy'r nos."

Cyn gynted ag y dywedodd hynny daeth sŵn sydyn o'r tywyllwch ar y chwith; yr oedd yn eglur nad oedd nerfau'r teithiwr yn dda, canys rhoddodd naid a rheg pan redodd rhywbeth bron ar draws ei droed, ac ni thawelodd lawer pan sylweddolodd mai cwningen oedd wedi cychwyn o'i gwâl pan ddaeth ef i aflonyddu arni ac wedi rhedeg yn syth i'w gyfarfod yn ei dychryn.

"Cythraul o le ydi hwn," meddai. 'Roedd o'n ddigon drwg wrth olau dydd, ond y mae o'n ddigon â pheri i ddyn weld bwganod wedi nos fel hyn. Mi fydd yn dda iawn gen' i weled y ffordd fawr a'r car unwaith eto."

Yna dechreuodd ymwthio trwy'r brwyn. Nid oedd wedi myned mwy na llathen pan roddodd ysgrech uchel, ysgrech a oedd yn torri'r distawrwydd trwm fel cyllell. Aeth trwy'r brwyn, a chafodd fod y ddaear yn darfod dan ei draed. Fe'i teimlai ei hun yn llithro i lawr heb allu ei arbed ei hun o gwbl; teimlai ddwfr dwfn yn cau amdano. Rhoddodd un ysgrech, a dyna'r cwbl. Yr oedd y llyn yn ddwfn; yr oedd ei ochrau yn serth; yr oedd y brwyn yn ei guddio. Hyd yn oed liw dydd golau gallai dyn dieithr lithro i'r pwll hallt, dwfn, bron cyn ei weled, a suddo o'r golwg os na lwyddai yn ei ddychryn i gydio yn y brwyn a oedd yn tyfu hyd at ymyl y geulan. Nid oedd y llyn i'w weled o unman; yr oedd fel trap ynghanol yr anialwch o frwyn, hen lyn tro a adawyd gan y llanw pan ddeuai yn nes at yr hen gei nag y deuai yn awr, ac a borthid o hyd, trwy rigolau a sianelau o'r golwg, gan bob llanw a gyrhaeddai hyd at fin y glastraeth. Prin y deuai neb ar ei gyfyl unwaith mewn blwyddyn; yr oedd allan o'r trawiad, a gwyddai'r cyfarwydd ddigon amdano i gadw'n ddigon pell oddi wrtho, ddydd a nos, ac yn enwedig wedi nos.

Dyfnhaodd y tywyllwch. Dyfnhaodd y distawrwydd hefyd, ar ôl yr un ysgrech honno. Hwyrach nad oedd honno mor uchel; hwyrach, pe buasai ymdeithydd yn croesi'r traeth yr adeg honno ac wedi clywed yr ysgrech y buasai wedi meddwl mai ysgrech cwningen yng ngafael gwenci a glywsai. A phe buasai wedi cymryd digon o ddiddordeb i wrando. ni buasai wedi clywed dim wedyn—dim ond su trymllyd y don dros y dwnan a llef ddistaw, fain, awel y nos yn y brwyn.

A phrin y buasai wedi gweled dim, ychwaith, canys yr oedd yn nos erbyn hyn, os nad oedd ei lygaid wedi hen gynefino â sylwi ar bethau fel gwrychoedd a choed a physt yn erbyn llwydni'r awyr, yr unig ffordd i weled a chael hyd i'ch cyfeiriad yn y fath le yn y tywyllwch. A bwrw bod rhywun wedi gwneud hynny y noson honno—wedi gorwedd ar ei hyd ar lawr y traeth nes cael pob codiad rhyngddo a'r awyr, a oedd yn rhywfaint goleuach na'r traeth ei hun a'r bryniau tywod—gwelsai beth digon annisgwyliadwy.

Dywedwyd fod y post y cyfeiriodd y teithiwr tuag ato yn codi o ganol y brwyn fel braich unig, denau. Yn awr dechreuodd y post hwnnw symud, symud yn araf ac yn wyliadwrus ymhellach oddi wrth yr hen glawdd cerrig, ymhellach oddi wrth y bwlch yn y cei a'r llyn llechwraidd yn y brwyn. Yr oedd yn rhy dywyll i weled mwy na hynny—symudiad y polyn, fel pe buasai'n rhywbeth byw, ar draws y gwastadedd. Gwyrai weithiau, sythai dro arall, a symudai o hyd nes cyrraedd lle gryn chwarter milltir o'r fan lle y safasai. Ac yna llonyddodd, yn fraich denau, unig, yn pwyntio'n ddisymud at lwybr a oedd o'r golwg yn y brwyn.

A phe buasai'r gwyliwr wedi dal i edrych, ac wedi craffu mwy nag erioed i'r tywyllwch, efallai y buasai wedi gweled symudiad arall ynghanol y brwyn. Nid— oedd yn hawdd ei weled; ni fwriadwyd i neb ei weled, ac yn ôl pob tebyg nid oedd neb yn ei weled yn y lle unig hwnnw ac ar yr awr honno o'r nos. Eithr

yr oedd rhywun yn symud yn gyflym ac yn llechwraidd trwy'r brwyn ac ar draws y traeth i gyfeiriad tir Penlliw.

PENNOD II

"DYMA air pellach ynghylch y car hwnnw a gafwyd yn wâg ar ymyl y ffordd ger Llangam echdoe," meddai'r Arolygydd Jones wrth y Rhingyll Williams yn swyddfa plismyn Trewylan. "'Rydach chi'n cofio inni gael mai car John Gwynn o Dre'r Porth ydyw?"

"Ie," meddai'r Sarjant, "dyn busnes yn Nhre'r Porth, yntê?"

"Dyna fo," meddai'r Arolygydd. "Wel, dyma air heddiw yn holi a wyddom ni rywbeth o. hanes y dyn. Y mae'n ymddangos nad ydi o wedi bod efo'i fusnes ers tridiau ac na ŵyr ei wraig na'r staff yn yr offis ddim o'i hanes. Ac y maen' hw'n dechrau anesmwytho."

"Dydw i ddim yn synnu," meddai'r Sarjant. "Mae 'na rywbeth yn od yn y ffaith fod ei gar o wedi ei adael ar ymyl y ffordd fawr fel yna, a neb yn dwad i holi dim yn ei gylch."

"Mae yna rywun yn dwad i holi 'rŵan, beth bynnag," meddai'r Arolygydd. "Y mae ei glarc yn dweud yn y llythyr yma fod Mrs. Gwynn wedi gofyn i John Aubrey ddwad yma i'n gweld yng nghylch y peth, a'i fod o'n dwad bore heddiw."

"Aubrey? Aubrey?" meddai'r Sarjant. "'Rydw' i wedi clywed rhywbeth am yr enw yna o'r blaen."

"Do, debyg iawn," meddai'r Arolygydd. "Y fo oedd ym musnes Gallt y Ffrwd, pan ddiflanodd y gweinidog hwnnw, ac y mae o wedi bod â'i fys mewn aml helynt arall hefyd. Gobeithio nad ydi o ddim yn fusneslyd iawn-ond dyma fo ar y gair, 'ddalia' i."

"Bore da," meddai'r gŵr a ddaeth i'r ystafell mewn ateb i Dowch i mewn y plismon, gŵr llyfndew, rhadlon ei olwg, a'i sbectol gron fawr yn peri ei fod yn edrych yn dadol a siriol ar y byd. "Y mae'n debyg eich bod wedi cael llythyr ynghylch fy neges. John Aubrey yw fy enw, ac yr wyf yma ar gais Mrs. Gwynn i holi ynghylch ei phriod, John Gwynn. Dywedodd yr Arolygydd Hywel yn Nhre'r Porth wrthyf eich bod wedi cael hyd i'w gerbyd yn yr ardal yma, ac felly deuthum yma'n syth i ofyn a ellwch chwi roddi rhyw gyfarwyddyd i mi. Y mae Mrs. Gwynn yn bur anesmwyth yn ei gylch."

"'Wyddon' ni ddim o gwbl hyd yn hyn," meddai'r Arolygydd, "ond fod ei gar wedi ei gael ar fin y ffordd fawr yn ymyl Llangam, pentref rhyw saith milltir oddi yma, bore echdoe. 'Doedd yno neb wrth y cerbyd na dim lle i feddwl bod dim damwain wedi digwydd. Yr oedd yn amlwg fod rhywun wedi rhoi'r car i sefyll yn y fan honno, ar glwt glas yn ymyl y llidiart. Nid oedd dim yn y car i ddangos beth oedd neges ei berchenog ychwaith. Wrth gwrs, yr oedd ei drwydded a phopeth felly mewn trefn. Yr unig beth sydd yn ddirgelwch ydyw paham na ddaeth Mr. Gwynn yn ôl at ei gar."

"Ie," meddai Aubrey, yn fyfyriol, a hefyd paham y daeth Mr. Gwynn i Langam o gwbl. Hyd y gŵyr Mrs. Gwynn, 'doedd ganddo ddim cysylltiadau y ffordd hyn, a 'does dim yn yr offis 'chwaith i ddangos bod ganddo fusnes yn yr ardal." Q "Wel ie," meddai'r Arolygydd, "'roeddan' ninnau yn deall mai dyn diarth oedd o y ffordd yma. 'Does dim cownt i fod o wedi bod y ffordd hyn ar ei wyliau, a oes, Sarjant Williams?"

"'Does neb yn ardal Llangam yn cofio nac yn gwybod dim amdano," meddai'r Sarjant, "a hyd yn hyn 'ryda' ni wedi methu cael hyd i neb a'i gwelodd y dydd o'r blaen."

"'Roeddwn i'n meddwl braidd," meddai Aubrey. "Y mae yna ryw ddirgelwch. Yr oeddwn yn gobeithio eich bod chwi wedi cael rhyw drywydd arno bellach; y mae'n rhyfedd fod y dyn wedi medru diflannu cyn llwyred. Wrth gwrs, pe na buasai am y car, gallem feddwl bod arno eisiau diflannu, ond prin y. buasai'n gadael car sydd cystal â newydd ar ochr y ffordd. Ac y mae yna un peth arall sydd yn peri bod Mrs. Gwynn yn anesmwyth."

"Be' ydi hwnnw?" gofynnodd yr Arolygydd Jones. "Y ffaith fod Gwynn yn amlwg yn poeni ynghylch rhywbeth ers rhai wythnosau," meddai Aubrey. "Dywed ei staff yn yr offis nad oedd dim yn y busnes yn galw am iddo boeni, ac nid ymddengys fod, 'chwaith. Ond nid oes amheuaeth, medd Mrs. Gwynn, nad oedd rhywbeth ar ei feddwl. Gofynnodd hi iddo a oedd rhywbeth yn ei boeni, ond gwadu wnaeth o. Ond y mae'n debyg mai dyna fuasai fo'n wneud."

"Os oedd o am ei ladd ei hun," meddai'r Arolygydd, tybed na fuasai'n cael rhywle nes adref nag yma i wneud hynny?"

"Mi fuasech yn meddwl hynny," meddai Aubrey, ond y mae'r bobl sydd yn ei adnabod orau yn dywedyd nad oedd yn un a oedd yn debyg o'i ladd ei hun. Wrth gwrs, fedrwch chwi byth ddweud am hynny 'chwaith. Hwyrach mai'r peth gorau fyddai i mi fynd, os nad oes gennych wrthwynebiad, i weled y lle y cafwyd hyd i'r car, er fy mod yn ddigon siŵr nad oes yno ddim na welsoch chwi."

"Gall Sarjant Williams ddwad efo chi," meddai'r Arolygydd. "Bydd yn dda gennym gael eich help, Mr. Aubrey, ond gobeithio y daw'r dyn i'r fei cyn bo hir."

Yr oedd ei gar gan Aubrey, ac eisteddodd y Sarjant wrth ei ochr i ddangos y ffordd iddo. Milltir neu filltir a hanner wedi pasio pentref Llangam daethant at y lle y cafwyd hyd i gar John Gwynn. Nid oedd yr un tŷ yn agos i'r ffordd yn y fan honno; yn wir, nid oedd yr un tŷ yn y golwg. Yr oedd caeau tawel bob ochr i'r ffordd, ac yn y fan lle cafwyd y car yr oedd clwt glas a llidiart yn agor i ffordd gul, arw, a oedd yn arwain i'r gwernydd a'r morfa islaw. Edrychodd Aubrey o'i gwmpas.

"Lle od i ddyfod iddo," meddai wrth y Sarjant. "Lle od iawn i ddyn diarth. Ydi'r ffordd yma'n mynd i rywle heblaw i'r caeau yna?"

"Dim ond i'r morfa ac i'r traeth." meddai Williams. Mae hi'n gorffen yn y fan honno, ond fod pobol Penlliw yn ei defnyddio weithiau. Penlliw ydi'r tŷ a welwch chi draw dros y morfa a'r bryniau tywod acw. Welwch chi mo'r tŷ, o ran hynny, dim ond y llwyn coed sydd yn ei gysgodi.

Deffrodd diddordeb Aubrey. "Pwy sy'n byw yno?" meddai.

"Sais ydi o, am wn i," meddai'r Sarjants "dyn diarth, beth bynnag, Albert Morley wrth ei enw. Fe ddaeth yna rhyw flwyddyn yn ôl ar ôl i'r lle fod yn wâg am flynyddoedd. Fel y gwelwch chi, y mae o'n lle anghysbell ac yn anodd ei osod am y rheswm hwnnw." "Sut y maen' hw'n mynd ato fo?" meddai Aubrey. "Tybed nad oes yna well ffordd na hon?"

"Nac oes," oedd yr ateb. "Dyna un o'r pethau sydd yn erbyn y lle. Ond y mae'r afon yn hwylus ac y mae modd dyfod efo cwch at gei Llangam. Dyna'r ffordd orau a'r ffordd gyntaf, o ran hynny, ond os byddwch am fynd dros y tir y mae'n rhaid i chi gymryd y ffordd yma."

"Ac y mae'n rhaid i ninnau wneud yr un peth, mae'n debyg," meddai Aubrey, "a'i cherdded hi, yn ôl pob golwg. 'Tydi hi ddim yn ffordd i geir, beth bynnag."

Cychwynasant ar hyd y ffordd, heb wybod yn glir iawn i ba le'r oeddynt yn myned na pha beth y disy gwyliant gael hyd iddo. Fe'i cysurai'r Sarjant ei hun ei bod yn llawn difyrrach myned am dro yn y wlad na cherdded heolydd Trewylan, ac nid oedd yn ddrwg ganddo gael gwylio dull Aubrey o weithio ar yr un pryd.

"Ydach chi am fynd i Benlliw i holi?" gofynnai cyn hir.

"Wel, gan i Gwynn adael ei gar yn y fan yma y mae'n ddigon naturiol i ni feddwl bod a wnelo hynny rywbeth â Phenlliw," oedd yr ateb. "Fyddwn ni ddim gwaeth ar fynd yno i holi, beth bynnag. Hylo, dyma rywun yn dwad. Pwy ydi hwn?"

"Dyna Mr. Morley," meddai'r Sarjant, ac edrychodd Aubrey gyda diddordeb ar y dyn a gerddai'n hamddenol i'w cyfarfod.

Dyn tal, tenau, rhwng hanner cant a thrigain oed ar ei olwg, yn gwisgo dillad llwydion a chlos penglin, oedd gŵr Penlliw. Yr oedd ei wallt yn dechrau britho, ond yr oedd yn amlwg ei fod wedi bod yn dywyll iawn, yn wallt du fel y frân, fel y dywedir. Tywyll oedd ei lygaid hefyd, a'r hyn a drawodd Aubrey ar yr olwg gyntaf oedd yr edrychiad craff a roddodd Morley i'w cyfeiriad fel yr oeddynt yn agosau at ei gilydd. Y Sarjant a siaradodd gyntaf.

"Dydd da, syr," meddai, "y mae'n dda gennyf eich cyfarfod. Gall arbed taith i ni."

"Oeddach chi'n dwad acw, Sarjant Williams? meddai Morley, gyda thinc o syndod yn ei lais. "Ydi'r ci acw wedi gwneud rhyw ddrwg? Y mae o'n crwydro ers diwrnod neu ddau, ac y mae arna' i ofn y bydd. yn rhaid i mi 'i saethu o."

"Na, dim byd felly," meddai Aubrey, gan wenu. "O ran hynny, y mae'n ddigon posibl na wyddoch chi ddim am y peth. Chwilio am ddyn o'r enw John Gwynn yr ydym, a chan inni gael hyd i'w gar ar ben y ffordd yma yr oeddym am holi ar hyd y wlad rhag ofn bod rhywun wedi digwydd ei weled."

"John Gwynn, Tre'r Porth?" gofynnodd Morley yn sydyn. "Beth amdano? 'Roedd o acw dridiau'n ôl."

PENNOD III

"Acw?" meddai Sarjant Williams. "Acw, ddydd Mawrth?"

Edrychodd Morley yn od braidd ar y plismon, fel pe'n methu gwybod beth oedd arno.

"Ie," meddai. Doedd dim byd yn rhyfedd yn hynny, tybed? 'Roedd o'n ceisio cymryd gêm Penlliw gennyf am y tymor nesaf, ar ei ran ei hun neu ar ran rhyw gwsmeriaid, nid wyf yn sicr p'run. Ond beth amdano? Paham yr ydych chwi'n cymryd diddordeb ynddo? Oeddach chi wedi trefnu i'w gyfarfod yma heddiw? 'Roedd o'n dweud feallai y deuai rhywun i weled y lle."

Dywedodd Morley hyn oll yn hollol naturiol. Gwyliai Aubrey ef yn ofalus ac ni allai weled arwydd o anesmwythyd nac anghysur. Yn ôl pob golwg yr oedd y dyn yn dweud y gwir.

"Na," meddai Aubrey, "nid wedi trefnu i gyfarfod Mr. Gwynn yr ydym. Y .gwir ydyw ei fod wedi diflannu. Welodd neb mohono er bore dydd Mawrth, pan adawodd ei offis heb ddweud wrth neb i b'le'r oedd yn myned. Cafwyd hyd i'w gar yn y fan yma."

"Wedi gadael ei gar?" meddai Morley. "Y mae'n bosibl felly na . . ." ac yna ychwanegodd, fel pe buasai syniad brawychus wedi dyfod iddo, "ddyn bach! y mae'n rhaid na ddaeth o ddim yn ei ôl ato fo." "Dyna oedda' ninnau'n feddwl," meddai Aubrey. "Pryd y gadawodd o chwi, Mr. Morley?"

Am y tro cyntaf edrychodd Morley yn anghysurus, ond yr oedd yn amlwg ar ei eiriau nesaf beth oedd yn ei boeni. " Y mae'n ddrwg gennyf ddweud," meddai, "ei bod yn bur hwyr. Yn wir, yr oedd yn dechrau tywyllu, a bûm ar gyfyng-gyngor a fuaswn yn ei ddanfon ar draws y traeth ai peidio. Ond yr oedd gennyf dwts o siatica, ac yr oedd yntau'n dweud y medrai gael hyd i'w ffordd yn iawn. Gobeithio'r tad nad oes dim wedi digwydd iddo fo."

"'Does dim i'w wneud felly ond chwilio," meddai Aubrey. "Sarjant Williams, yr ydach chi'n gwybod am y lle; a fedrwn ni'n dau wneud y gwaith?"

"Mi gaiff y bobol acw ddwad i'ch helpu," meddai Morley. "Y mae'n wir mai diarth ydi'r rhan fwyaf o ohonynt' hw', ond y mae'r hen gipar, Wmffra Jones, yn gwybod am bob llathen o'r lle."

"Os gŵyr rhywun fe ŵyr Wmffra Jones," meddai'r Sarjant, "ac os cawn ni ei help o mi wnawn o'r gore. Mae arna' i ddigon o ofn fod yna rywbath o'i le."

"Cawn weld," meddai Aubrey. "Gadewch i ni fynd at y gwaith gynta' medrwn ni."

Cychwynasant. Yr oedd ganddynt gryn dipyn o waith cerdded cyn cyrraedd min y traeth, a chan eu bod yn edrych pob man lle y gallai corff guddio—y ffosydd o boptu'r ffordd, y cilfachau a'r conglau yn y cloddiau, a'r twmpathau eithin a brwyn, yn araf y symudent. Erbyn hyn yr oedd Aubrey a'r Sarjant yn bur sicr yn eu meddwl na ddaethai John Gwynn erioed o'r gwaelodion at ei gar. Pa beth bynnag a ddigwyddodd iddo, credent fod yr allwedd i'r dirgelwch yn rhywle yn y wlad wyllt, unig honno rhwng y ffordd fawr a Phenlliw. "Neu ym Mhenlliw ei hun," ychwanegai Aubrey wrtho'i hun, gan fwrw golwg ar Albert Morley. Eithr nid oedd dim ond pryder i'w weled ar wyneb Morley, pryder digon naturiol o dan yr amgylchiadau. Dywedodd fwy nag unwaith ei bod yn edifar iawn ganddo adael i Gwynn groesi'r traeth ei hun a hithau ar dywyllu.

"Ie," meddai Aubrey, "lle digon anodd i ddyn diarth gael hyd i'w ffordd ynddo, gallwn feddwl."

Yr oeddynt bellach yn sefyll ar fin y traeth ac yn edrych ar draws y gwastad brwynog at y codiad tir a'r llwyn coed lle'r oedd tŷ Penlliw.

"Ond cyn belled ag y gwelaf 'does yma ddim byd peryglus. A fuasai modd iddo droi i gyfeiriad yr afon?"

"Digon o waith," meddai Sarjant Williams, "ond y mae yma ffos neu ddwy. Fel rheol fydd yna fawr o ddŵr ynddyn' hw'. Ond dacw Wmffra Jones draw acw; y fo ŵyr os gŵyr rhywun."

Yr oedd dyn yn croesi trwy'r brwyn uchel yn y pellter i gyfeiriad y tŷ, ond safodd i wrando pan glywodd chwibaniad y Sarjant. Trodd, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi gweled Morley gyda'r lleill; dechreuodd gerdded tuag atynt.

"Faint sydd ers pan mae o efo chi, Mr. Morley?" meddai Aubrey.

"Pwy? Wmffra Jones? O, 'roedd o yma pan gymeris i'r lle," oedd yr ateb. " ac yn ôl fel 'rydw' i'n dallt, efo Syr William, a oedd yma o'm blaen i, y magwyd o.. Mae o'n gipar da, ac yn gwybod am yr ardal ar draws ac ar hyd."

Erbyn hyn yr oedd Wmffra Jones, hen ŵr gwar grwm, blewog, sarrug braidd ei olwg, wedi cyrraedd atynt. Nodiodd yn gwta ar y Sarjant, fel y buasai un swyddog yn gwneud ar y llall, rhoddodd ei law ar ei gap i Morley, ac edrychodd yn gilwgus dan ei aeliau trymion ar Aubrey. Gwrandawodd yn ddistaw tra bu Morley yn egluro'u. neges iddo.

"Welis i ddim byd hyd yn hyn, beth bynnag," meddai o'r diwedd, "a fuasai babi newydd ddysgu cerdded byth yn colli'r ffordd cyn belled â mynd i gyrraedd y llanw o ben y ffordd las, os ffordd honno 'roedd y dyn yna'n cychwyn."

"Wel, oes yna rywle peryglus ar y traeth?" meddai Aubrey. "Rhywle y buasech yn rhybuddio dyn diarth rhagddo, yn enwedig wedi nos?"

"Oes," meddai'r hen ŵr. "Mi allsai dyn diarth fynd ar 'i ben i'r Llyn Du neu i'r Llyn Tro 'tasai hi'n nos. O ran hynny, hen le digon perig' ydi o liw dydd golau."

"Ond mi fuasai'r fan honno ymhell o ffordd Mr. Gwynn," meddai Morley. "'Wn i ddim sut yr aethai o at y llynnau o gwbl."

"Be' 'newch chi hefo pobol y trefi yna?" meddai'r hen gipar, gan fwrw golwg dan ei guwch ar Aubrey. "Maen' hw'n ddigon gwirion i fynd i rywle!

Chwarddodd Aubrey. "Y mae hynny'n ddigon posibl," meddai, " ond mi fyddai'n well i ni gael golwg ar y lle yma y mae Wmffra Jones yn sôn amdano."

Arweiniodd y cipar hwy ar draws y glastraeth a thrwy'r brwyn nes dyfod i ymyl olion yr hen gei.

"Peidiwch â dwad dim cam pellach," meddai yn sydyn, gan rannu â'i ffon y twmpath brwyn a oedd yn union o'i flaen. Edrychodd Aubrey a'r Sarjant dros ei ysgwydd a gwelsant, bron wrth flaen esgid y cipar, geulan a dwfr glaslwyd, llonydd, y Llyn Du. Tyfai'r brwyn uchel o'i gwmpas ac ar hyd ymyl y geulan ym mhob man, ac yr oedd yn amhosibl gweled y llyn nes bod yn llythrennol uwch ei ben.

"Dyna bwll angau os gwelais i un erioed," meddai Aubrey, gan symud yn ofalus yn nes at y geulan i gael gwell golwg ar y lle. "Ydi'r llyn yn ddwfn iawn?'

"Mae rhai yn deud 'i fod o'n ddiwaelod," meddai'r hen gipar, "ond 'wn i ddim sut y mae o'n dal dŵr os ydi o felly. Y mae o'n ddwfn iawn, ac y mae 'i ochrau o, fel y gwelwch chi, yn syth fel talcen tŷ."

"Dylai fod yna rywbeth o'i gwmpas," meddai'r Sarjant. "Y mae o'n rhy beryglus fel y mae."

Cyffyrddodd y feirniadaeth Morley.

"Chwarae teg, Sarjant," meddai. "'Does yma ddim llwybr cyhoeddus y ffordd yma, ac y mae pwy bynnag a ddaw y ffordd hon yn trespasu. Ar yr un pryd, y mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i ddim yn cofio bod y lle mor beryglus. Rhyw unwaith y gwelais i'r lle o'r blaen, pan gymerais i Benlliw, tua blwyddyn a hanner yn ôl.

"'Roeddwn i'n meddwl 'mod i wedi'ch gweled chi yma echdoe, syr," meddai'r hen gipar, "toc ar ôl hanner dydd."

"Dim o'r fath beth," meddai Morley yn bur sydyn. "'Doeddwn i ddim allan ar y traeth echdoe o gwbwl. 'Rydach chi'n mynd yn hen, Wmffra, a tydi'ch golwg chi ddim cystal ag y buo fo."

"Feallai'n wir, syr," meddai'r hen ŵr yn gwta, ond sylwodd Aubrey a'r Sarjant ei fod yn edrych yn bur amheus.

"Beth bynnag am hynny," meddai Aubrey yn sydyn, fe fu rhywun yma. Edrychwch."

Cerddodd yn gyflym ond yn ofalus at yr ochr nesaf at yr hen gei o'r llyn, a dilynwyd ef gan y lleill. Penliniodd ac amneidiodd ar y lleill i beidio â dyfod yn rhy agos. "Welwch, Sarjant," meddai, "be' wnewch chi o hyn?"

Penliniodd Sarjant Williams wrth ei ochr. "Llithrodd rhywun ar y geulan yn y fan yma,", meddai, yn araf. "Y mae ôl ei sodlau i'w gweled yn glir. Ac fe aeth i'r dŵr hefyd."

Do," meddai Aubrey yn ddifrif, "ac fe geisiodd ei arbed ei hun cyn mynd. Edrychwch ar y brwyn yna, wedi eu tynnu o'r gwraidd

"Ydach chi'n meddwl iddo fo foddi yn y fan hyn?" meddai Morley, yn torri ar draws Aubrey yn gynhyrfus. "Os aeth o i lawr, mi foddodd," meddai Wmffra Jones yn bendant.

"Wn i ddim beth a ddigwyddodd," meddai Aubrey, "ond y mae lle i ofni'r gwaethaf. Yr oedd yn resyn Gwynn gael ei adael i groesi'r traeth ei hun a lleoedd fel hyn ar ei lwybr."

"Ond y mae ymhell o'i ffordd," meddai Morley, "hanner milltir beth bynnag o'i ffordd."

"Ie," meddai Aubrey, "ond cofiwch mai dyn diarth oedd o, ei bod hi'n nosi, ac nad oes dim ffordd na llwybr clir iawn. Bydd yn rhaid chwilio'r llyn. A oes gennych chwi rywun a all helpu?' **** Trefnwyd i gael dynion o Benlliw i wneud y gwaith, a chafwyd nad oedd y pwll cyn ddyfned ag y mynnai traddodiad gwlad ei fod. Cafwyd hefyd nad oedd corff John Gwynn na neb arall yn gorwedd ar ei waelod. Beth bynnag a ddigwyddodd i John Gwynn, nid oedd yr allwedd i'r dirgelwch yn y Llyn Du. Er mwyn gwneud yn hollol sicr, chwiliwyd y Llyn Tro hefyd, ond nid oedd ef yno ychwaith.

PENNOD IV

'DOES dim i'w wneud bellach," meddai Aubrey, ond chwilio'r traeth yn fanwl."

Galwodd ar y Sarjant o'r neilltu a gofynnodd iddo a oedd modd cael cwch oddi ar lan y môr yn y fan honno?

"Wyddom ni fawr am John Gwynn," meddai, " ac y mae'n rhaid i ni feddwl am y posibilrwydd y gallai fod arno eisiau diflannu am resymau personol."

"Mi allech roi cwch ar y dŵr ar y lan yn y fan yma," meddai'r Sarjant, braidd yn amheus, "ond 'tydi o ddim yn lle hwylus, ac 'rydw' i'n siŵr nad oes yr un cwch yn cael 'i gadw yma.'

"Wel," meddai Aubrey, "y mae'n amlwg mai'r traeth ydyw'r lle cyntaf i'w chwilio. Y peth od ydyw fod rhywun wedi syrthio i'r llyn—ac wedi dwad oddi yno wedyn, feddyliwn. Hylo, dyma'r hen gipar. Beth sydd arno fo ei eisiau, tybed?"

Yr oedd Morley a'r gweision y galwyd amdanynt o Benlliw wedi aros o gwmpas y llyn, yn siarad ac yn trafod yr achos, ond yr oedd Wmffra Jones wedi cerdded beth ffordd oddi wrthynt ac wedi bod â'i lygaid ar y ddaear am beth amser. Daeth at Aubrey a'r Sarjant yn awr yn edrych fel dyn a chanddo gyfrinach i'w dywedyd.

"Dowch draw, efo mi am funud, syr," meddai wrth Aubrey. "Mi leiciwn i chwi weld rhywbeth."

Cerddodd Aubrey a'r Sarjant ar ôl yr hen ŵr trwy'r brwyn nes dyfod at lecyn a oedd yn gymharol glir.

Be' 'ddyliech chi o hwn?" meddai Wmffra Jones.

"Hwn" oedd twll sgwar yn y ddaear tua chanol y clwt clir.

"Mi fuaswn yn meddwl," meddai Aubrey, "fod rhywun wedi rhoi polyn sgwâr yna rhywdro. Oes yma ffens neu rywbeth felly wedi bod yn ddiweddar?"

"Dim byd o'r fath," meddai'r hen gipar. "'Does yma'r un polyn sgwâr o fewn milltir i'r lle yma—ond un," ac edrychodd ar Aubrey a'r Sarjant gan ddisgwyl, yr oedd yn amlwg, iddynt ei holi ymhellach.

"A lle y mae hwnnw, Wmffra Jones?" meddai'r. Sarjant.

"Dacw fo," oedd yr ateb, a chyfeiriodd Wmffra Jones at y polyn a welid yn y pellter, "y sein sydd yn dangos y llwybr ar draws y traeth. At hwnna y bydd pawb yn 'nelu wrth groesi, a 'tasech chi'n i symud o, yn enwedig yn y llwyd olau, mi fuasech yn camarwain rhai mwy cynefin â'r lle yma na'r dyn yna 'rydach chi'n chwilio amdano fo."

Edrychodd Aubrey a'r Sarjant ar ei gilydd. Yr oedd rhywbeth yn awgrym yr hen ŵr.

"Mi triwn ni o cyn hir," meddai Aubrey.

"Well i chi wneud hynny 'rŵan," meddai Wmffra Jones, neu hwyrach na fydd y twll ddim yma pan ddowch chi yma nesa'. Mae Mistar Morley wedi'n gweld ni, ac roedd o yma pnawn echdoe hefyd, gwaded a wado," ychwanegai'r hen gipar dan ei anadl fel yr oedd ei feistr yn brasgamu tuag atynt ar draws y traeth.

"A gawsoch chi hyd i rywbeth?" gofynnodd Morley. "Tybed," meddai Aubrey wrtho ei hun, "ei fod yn ofni i ni gael hyd i rywbeth yn y fan yma?"

Tybiai fod ias o anesmwythyd yn llais Morley pan ofynnodd y cwestiwn, ond meddyliodd wedyn nad oedd hynny ond peth digon naturiol o dan yr amgylchiadau. Yr oedd yn naturiol i'r dyn fod yn anesmwyth ynghylch yr hyn a ddigwyddodd i'r gŵr a fu gydag ef mor ddiweddar.

"Y mae hwn yn edrych yn debyg fel pe buasai yma bolyn wedi bod yn ddiweddar," meddai Aubrey, gan ddangos y twll, "a dywed Wiffra Jones nad oedd—yma'r un polyn arall o'r siap yma ond nacw sydd yn dangos y llwybr draw."

"Ffwlbri ydi peth felly," meddai Morley â fflach sydyn o dymer. "Beth a ŵyr Wmffra Jones am waith y dynion eraill yma ar y traeth?" Trodd a gwaeddodd ar un o'r lleill.

"Elston," meddai, "dowch yma am funud."

Daeth un o'r dynion eraill atynt—dyn ieuanc, trwm a chydnerth o gorff a sorllyd ei wedd. Craffodd Aubrey arno; nid oedd yn hoffi ei olwg. "Os gwelais i aderyn amheus erioed," meddai wrtho ei hun, " yr wyt ti yn un."

"Fuoch chi efo'r pyst yn mesur lle'r ffens ar draws y traeth yma yr wythnos yma?" meddai Morley wrth y newydd-ddyfodiad.

"Do," meddai hwnnw, yn ddigon parod a dibetrus. "Bûm i a Bert yn mesur fel y dywedsoch chi, echdoe neu'r diwrnod cynt."

Efo be'r oeddach chi'n mesur?" gofynnodd Aubrey, cyn i Morley gael amser i ofyn cwestiwn arall. Gwelodd olwg Elston yn disgyn am eiliad-dim ond am eiliad ar y twll yn y ddaear, a gwelodd, hefyd, fod ei lygaid ef a llygaid Morley wedi cyfarfod—am eiliad. "Dau bolyn sgwâr," oedd yr ateb, "a thâp mesur." "Lle'r oedd y polyn nesaf?" meddai Aubrey, a thrachefn gwelodd olygon y gwas a'r meistr yn cyfarfod.

'Rhyw bum troedfedd ar hugain oddi yma, i'r cyfeiriad acw," oedd ateb Elston, gan gyfeirio at y banciau tywod. "Ond welwch chi ddim twll, neu ddylech chi ddim gweld yr un, beth bynnag."

"Paham?"

'Am ein bod ni wedi cael ordors i gau pob un ar ôl tynnu'r polyn, rhag gadael tyllau peryglus yn y traeth," oedd yr ateb parod." Y mae'n rhaid fod hwn wedi mynd yn angof rywsut."

"'Roeddach chi ar fai, Elston," meddai Morley, "ac y mae hynny wedi rhoi cyfle i'r hen ffwl busneslyd yma," gan bwyntio at Wmffra Jones, "wneud helynt heb achos."

"Howld on, Mistar Morley," meddai'r hen gipar, "wnes i ddim byd ond dweud wrth y ddau ŵr bonheddig yma nad oedd twll yna ddim yma bob amser. Rydach chi'n cynhyrfu am beth bach iawn."

"'Dyna ddigon, Wmffra Jones," meddai Morley, â'i wyneb yn cochi. "Peidiwch â busnesa eto, ac ewch yn ôl at eich gwaith."

"Efo 'ngwaith yr oeddwn i pan alwasoch chi arna' i." meddai Wmffra Jones, gan droi ar ei sawdl a gadael Morley, Aubrey, y Sarjant ac Elston yn sefyll gyda'i gilydd.

Ewch chwithau, Elston," ychwanegai Morley, 'fydd dim o'ch eisiau chwi eto."

"Bydd," meddai Aubrey, "i chwilio'r traeth. Y mae'n rhaid i ni edrych pob man."

"Debyg iawn," meddai Morley. "Anghofiais am hynny."

Rhoddwyd cyfarwyddiadau i'r dynion ynghylch chwilio'r lle, a cherddodd Aubrey a Morley yn araf ar eu holau.

Ydach chi'n meddwl mewn difrif fod rhywbeth wedi digwydd i Gwynn?" meddai Morley." Hwyrach mai wedi mynd o'i wirfodd y mae o."

"A oeddych yn tybio bod rhyw reswm dros iddo wneud hynny?" meddai Aubrey. "Yr oeddych chwi'n ei adnabod, ond 'welais i erioed mohono."

"Ychydig iawn o gydnabyddiaeth a oedd rhyngof finnau a fo," oedd yr ateb, "dim ond cydnabyddiaeth busnes, fel yr eglurais. Ond meddwl yr oeddwn y buasai rhywun wedi dod o hyd iddo bellach pe buasai rhywbeth wedi digwydd iddo. Fe glywsom am ddynion yn diflannu o'u gwirfodd."

"Do," meddai Aubrey, "ac y mae'n bosibl, wrth gwrs, mai dyna wnaeth Gwynn. Ond, os felly, y mae'n beth od braidd iddo adael ei gar fel y gwnaeth, ac, yn wir, ei fod wedi dewis lle fel hyn o gwbl i wneud hynny. Hylo, dacw'r Sarjant wedi cael hyd i rywbeth."

Draw, ar fin y traeth ac yn ymyl y banciau tywod yr oedd Sarjant Williams ac un o ddynion Penlliw yn craffu ar rywbeth. Cododd y Sarjant ei fraich ac amneidiodd ar Aubrey. Prysurodd yntau ato trwy'r brwyn ac ar draws y clytiau tywod.

Beth sy'n bod, Sarjant?" meddai Aubrey.

"Dim ond hyn, Mr. Aubrey," oedd yr ateb, ac estynnodd y swyddog gadach poced gwyn i'r detectif. Ar un gongl yr oedd y llythrennau "J.G." "Mi fu John Gwynn yn y fan yma, 'ddyliwn."

"Wel," meddai Aubrey, "y mae'n bosibl mai ei gadach poced ef ydyw hwn, ond y mae'n ychydig iawn o beth i adeiladu dim arno. A welsoch chwi ddim byd arall dim ôl troed na dim felly?"

"Dim byd," meddai'r Sarjant. 'Does yma ddim arwydd arall yn unman."

Safodd Aubrey yn synfyfyriol am ysbaid. O'r diwedd dywedodd, "Y mae'n debyg mai dyma'r cyfan a allwn ei wneud yn y fan yma yn awr. Diolch i chi a'ch pobl, Mr. Morley, am eich help. Af yn ôl i Drewylan yn awr, a deuaf ar eich gofyn eto os byddaf yn gweled hynny'n angenrheidiol. Os na ddaw goleuni yn fuan ar y dirgelwch hwyrach y caniatewch i mi alw ym Mhenlliw i gael sgwrs."

"Bydd yn dda gennyf eich gweled, Mr. Aubrey," meddai Morley, "er, fel y dywedais, ychydig iawn a wn i am Gwynn, ac nid oes gennyf ddim i'w ychwanegu at yr hyn a ddywedais wrthych eisoes."

"Debyg iawn," meddai Aubrey, "ond y mae'n fantais weithiau bod yn y fan a'r lle."

Ni cheisiodd egluro'i eiriau, ond sylwodd fod Morley yn edrych braidd yn amheus arno pan ysgydwodd law ag ef a chychwyn, gyda Sarjant Williams, ar draws y morfa tua'r ffordd fawr.

"Mae ar y pry' yna ofn i rywbeth ddwad i'r golwg," meddai'r Sarjant, fel y cydgerddent at eu car. "Welsoch chi fel y rhuthrodd o yr hen gipar yna am ddangos y twll i ni? Mae yna rhyw ddrwg yn y caws, yn siŵr i chi."

"'Rydw' i braidd o'r un farn â chwi, Sarjant," meddai Aubrey, "yn enwedig ar ôl gweled Elston."

"Y gwas hwnnw a golwg gibog arno fo?"

"Ie. 'Rydw' i wedi gweld Elston yn rhywle o'r blaen, ac yn ddigon siŵr nad Elston oedd ei enw fo'r pryd hynny. Dyna'r paham y dywedais i am fynd yn ôl i Drewylan; y mae arnaf eisiau gwneud rhai holiadau. Nid gwas oedd Elston y tro diwethaf y gwelais i o."

PENNOD V

TRODD Aubrey a Sarjant Williams yn ôl am Drewylan, ac aeth Morley ac Elston ar draws y traeth tua chlawdd parc Penlliw. Am ysbaid ni ddywedodd y naill na'r llall yr un gair, ond pan oeddynt ar gyrraedd terfyn y parc trodd Elston yn sarrug ar ei feistr.

"Pam gythraul 'roeddach chi'n gadael i'r Wmffra Jones yna aros yma?" meddai. "Y mae o â'i gyllell ynoch chi o'r cychwyn, ac yn awr dyna fo wedi rhoi'r 'tec busneslyd yna ar y trywydd. Mi ddylasech fod wedi ymadael ag ef ar y dechrau."

Trodd Morley ddau lygad lym a dirmygus ar ei gydymaith.

"Os ydi Wmffra Jones â'i gyllell ynom," meddai, mewn llais isel ond clir, y mae felly am eich bod chwi wedi ymddwyn fel ffwl tuag ato o'r dechrau. Y mae'n rhaid i chwi gofio nad yw pobol y wlad yma yn barod i gymryd pob sarhad ar law rhai fel chi. Pe buasech chi wedi bihafio gyda rhyw gymaint o synnwyr fe fuasai'r hen greadur yn iawn."

"Yn y llyn y mae'i le fo," meddai Elston, gyda rheg, yr hen lob busneslyd, dialgar!

"Peidiwch â bod yn ffwl, Ffelix," meddai Morley yn chwyrn, "â siarad fel yna am yr hen greadur nad yw o bwys yn y byd. Y mae perygl gwaeth o lawer yn llechu o'r golwg yn rhywle."

"Beth yw hwnnw?

"Dydach chi ddim mor ddwl â hynna, Felix," meddai Morley. "Y cwestiwn i chi a minnau, fy nghyfaill i, ydi paham yr oedd y llyn yn wâg?"

Safodd Elston yn sydyn, ac am y tro cyntaf daeth rhywbeth fel braw i'w lygaid. "Y llyn yn wâg?" meddai. "Ond y chi a aeth â'r corff oddi yno y noson honno, Frank?

"Peidiwch â chyboli," meddai Morley. "Sut y gallwn i symud y corff fy hun? Ac ni welais i'r un corff, 'chwaith. Pan euthum i symud y post arwydd yn ei ôl y cwbl a glywais oedd gwaedd Gwynn ar fin y llyn a'i sŵn yn disgyn i'r dŵr. 'Doedd dim golwg amdano fo pan euthum at y llyn, ond cymerais yn ganiataol mai wedi mynd i'r gwaelod yr oedd. Credwch fi, bu bron i mi lewygu pan gawsom nad oedd y corff yno heddiw."

"Be' sydd wedi digwydd, yntau?" meddai Elston. A gafodd rhywun arall hyd iddo? Bwnglerwaith a wnaethoch chi, wedi'r cwbl. Buasai'n well i chi fod wedi gadael i mi roi diwedd arno pan fygythiodd o ollwng y gath o'r cwd, fel yr oedd arna' i eisiau gwneud."

"A chael y plismyn yma drannoeth?" meddai Morley yn oeraidd. "Cadwch eich pen, Felix. 'Does ganddyn' hw' ddim praw yn y byd fod neb wedi'i ladd 'rŵan—dim ond fod John Gwynn, y dyn busnes parchus o Dre'r Porth, ar goll."

"Ar goll y buasai o pe buaswn i wedi cael fy ffordd echdoe hefyd," meddai Elston, gyda hanner-gwên greulon. "Ond 'rwan dyna rywun wedi cael hyd i'r corff ac yn dal y peth uwch ein pennau ni!

"'Rwyt ti'n colli dy afael, Felix," meddai Morley, ac yn colli dy ben. Hyd yn oed pe buasai rhywun wedi cael hyd i gorff Gwynn yn y llyn, pa le fuasai 'gan neb i feddwl bod rhywbeth heblaw damwain wedi digwydd? A phwy yn y byd a fuasai'n symud y corff ac yn ei guddio?

"'Dwn i ddim," meddai Elston, "ond ar ôl y peth ddeudodd Gwynn pan oedd o yma, be' wyddoch chi nad oes yna rhywun arall yr un fath ag yntau wedi penderfynu gwasgu arnom? Ac mi fydd hwnnw, pwy bynnag ydi o, wrth y drws un o'r dyddiau nesaf yma ac yn dweud beth fydd pris ei ddistawrwydd."

"Ai dyna sydd yn eich poeni chi, Felix?" meddai Morley, gan sefyll ac edrych ar ei gydymaith.

"Tybed nad ydi o'n ddigon i boeni dyn?" meddai Elston.

"Y mae peth gwaeth o lawer yn fy mhoeni i," meddai Morley. "Does arna' i ddim llawer o ofn gweled neb diarth wrth y drws yn gofyn am bris ei ddistawrwydd, mwy nag sydd arna' i lawer o ofn y 'tec busneslyd yna na'r plismyn pendew."

Be' sydd arnoch chi ofn, yntau?"

"Ofn yr hyn a wna John Gwynn yn awr," oedd yr ateb.

"John Gwynn?" meddai Elston. "John Gwynn? Ond y mae o . . . .

"Nac ydi, Felix," oedd ateb Morley, "y mae cyn sicred â dim, bron, nad yw John Gwynn wedi boddi. 'Roeddwn i, fel chwithau, wedi meddwl nad oedd fodd iddo ddianc o'r Llyn Du, ond y mae'n rhaid ei fod wedi gwneud. Pa eglurhad arall sydd yn bosibl ar y ffaith nad yw ei gorff yn y llyn? A'r peth yr wyf yn ei ofyn i mi fy hun yn awr ydyw pa bryd y mae John Gwynn yn bwriadu ymweled â ni eto? Y mae'n siŵr o ddwad, ac fe allwch chi a minnau, Felix, fod yn bur sicr na bydd yn teimlo'n gyfeillgar. O'm rhan fy hun, bwriadaf fod yn bur ofalus rhag mynd allan wedi nos yn y lle anial yma nes cael sicrwydd pa le y mae o."

Cyrhaeddasant lidiart y parc erbyn hyn, ac yr oedd y tŷ yn y golwg. Hen dŷ hir, isel, oedd Penlliw, hen blasty bychan, Cymreig, a fu'n gartref i uchelwyr o Gymry gynt. Yr oedd parc, a fu unwaith yn drefnus, o'i gwmpas; yr oedd y coed oll yn plygu rhag grym gwynt y gorllewin yn y fan amlwg honno ac erbyn hyn yr oedd golwg wyllt a didrefn ar y rhannau agored. Lle wedi bod yn olygus ac yn drefnus ydoedd; heddiw, er na ellid dywedyd bod "mieri lle bu mawredd ", eto, gwael oedd ei wedd wrth yr hyn a fu pan oedd yr hen deulu'n byw yno. Yr oedd yn amlwg nad oedd Morley yn gwneud fawr mwy na byw yn y tŷ, ac yr oedd eithaf golwg ar amgylchoedd y tŷ ei hun. Yr oedd yr ardd o'i flaen yn weddol daclus a'r tŷ mewn eithaf cyflwr, ond cyn gynted ag yr elid gan' llath oddi wrth y tŷ i gyffiniau'r coed, gwelid bod yr anialwch yn cael ei ffordd. Nid oedd neb wedi tocio twmpathau'r rhododendron ers llawer dydd, ac yr oeddynt hwythau wedi tyfu ar led yn llwyni tewfrig. Cwympasai rhai o'r coed pîn yn ystod storm rhyw aeaf, ac ni thrafferthodd neb i'w symud; gadawyd hwy ar eu lled-orwedd ymhlith y coed byw, yn pwyso arnynt ac yn peri eu bod hwythau hefyd yn gwyro ac yn barod i gwympo yn eu tro pan ddeuai storm arall i guro arnynt. Lle wedi ei esgeuluso ydoedd, lle na chymerai neb falchter ynddo; nid oedd angen neb craff iawn i ddywedyd mai pobl wedi arfer byw mewn tref a oedd yn byw ym Mhenlliw yn awr, pobl heb feddu'r traddodiad gwlad a fuasai'n codi cywilydd arnynt o weled lle mor afler. Nid oedd yno arwydd o falchter y gwladwr yn ei amgylchoedd.

Cerddodd Morley ac Elston yn araf at y tŷ; yr oedd yn amlwg fod geiriau Morley wedi effeithio ar ei gydymaith, ac yr oedd mewn myfyrdod dwfn, a hwnnw i bob golwg yn fyfyrdod digon annifyr. Cyn cyrraedd at y drws trodd at Morley.

"Does dim ond un peth i'w wneud," meddai, "a hynny ydyw'r peth y dylasech fod wedi gadael i mi ei wneud echdoe. Y mae'n rhaid rhoi Gwynn allan o'r ffordd y cyfle cyntaf. Gwyliaf amdano heno, a byddaf yn fwy dethau na chwi efo'r gwaith, gobeithio."

"Unwaith eto, Felix," meddai Morley, ac yr oedd awdurdod ddigamsyniol yn ei lais y tro hwn, "peidiwch â bod yn ffwl. A ydych yn meddwl fod y plismyn yna'n fodlon ar yr hyn a welsant heddiw? Byddant o gwmpas yma yn rhywle o hyd am rai dyddiau, beth bynnag, a phe byddech yn llwyddo i wneud diwedd ar Gwynn byddai'r rhaff am eich gwddf chwithau yr un pryd, ac am fy ngwddf innau—peth fyddai'n llawer gwaeth, fy nghyfaill i."

Chwarddodd wrth ddweud y geiriau, ond nid oedd y chwerthin yn siriol na dymunol. A barnu oddi wrth ei gilwg, dyna oedd barn Elston hefyd.

"Pa beth wnewch chi, yntau?" meddai hwnnw. Disgwyl yma fel llwfrgi nes daw Gwynn yn ôl i ddweud wrth y plismyn mai chi sydd yn delio yn y rhan fwyaf o'r gemau a ladrateir ar hyd a lled y wlad? Cofiwch mai dyna a fygythiodd os nad oeddych yn fodlon talu'r swm a ofynnodd. Mi wyddoch cystal â minnau y rhoddai'r plismyn unrhyw beth am gael gafael ar y Brawd Llwyd sydd wedi bod y tu ôl i bob lladrad o bwys ers deng mlynedd bellach, ac fe wyddoch hefyd y gwaeda Gwynn chwi'n fyw fel ei bris am gadw'r gyfrinach. Ffwl, aie? Pwy oedd yn ffwl, ys gwn i, yn gadael i'r dyn yna gael gafael ar y 'stori? 'Wn i ddim beth oedd ar eich pen chi yn gwneud dim â fo."

"Y mae Gwynn wedi bod yn ddigon buddiol," meddai Morley yn dawel, "ac wedi gwneud eithaf gwasanaeth o dro i dro. Y mae'n rhaid i mi gyfaddef na feddyliais i ddim y buasai'n troi i flacmelio, ond ni phery hynny ddim yn hir. Y mae mwy nag un ffordd i ddelio â pheth felly, Felix. Cofiwch fod eich pen chwithau mewn cryn enbydrwydd hefyd. Yr oedd Aubrey yn edrych yn bur graff arnoch gynnau. 'Synnwn i ddim nad oedd o'n drwgdybio rhywbeth."

"Tybed?" meddai Elston, yn anesmwyth. "Sut y gallai wybod dim amdanaf?

"Bu'n ddigon cyfyng arnoch ar ôl llofruddiaeth. Black," meddai Morley. "Cofiwch fel y bu'r plismyn yn eich holi yr adeg honno—a chofiwch hefyd na chafwyd byth hyd i lofrudd y plismon. Dywedir na bydd y plismyn byth yn gollwng eu gafael ar achos felly, a buasai'n beth anffodus iawn pe buasai Aubrey yn digwydd eich adnabod."

Gwenodd Morley yn sarhaus wrth weled fel yr oedd ei gydymaith yn anesmwytho, ac yna ychwanegodd:

"Ond na hitiwch am hynny'n awr. Mi wnaf i o'r gorau ag Aubrey eto. Y peth sydd ar fy meddwl i yn awr ydyw symudiad nesaf John Gwynn. Y mae o'n siŵr o symud, ac y mae'n rhaid i ni ddarparu ar gyfer hynny."

"Sut?" gofynnai Elston yn swrth.

"Gwrandewch," meddai Morley, a siaradodd yn gyflym ac yn isel am rai munudau. Ar y dechrau edrychodd Elston arno mewn syndod, ond yn raddol daeth gwên i'w wyneb, ac o'r diwedd trawodd ei law ar ochr ei glun gyda rheg.

"O'r gorau," meddai. "Un garw ydach chi, hefyd. Ond fe fydd yn well i Aubrey ac i Gwynn edrych ati hi."

Pe buasai rhyw ddamwain anffodus yn digwydd i'r ddau," meddai Morley yn sychlyd, buasai'n beth gofidus iawn."

"Gobeithio'r gorau," meddai Elston, ac ar hynny cerddodd y ddau i'r tŷ.

Yr oedd y lle'n ddistaw iawn. Yr unig bethau a dorrai ar y distawrwydd oedd sŵn y môr a brefiadau gwartheg draw i gyfeiriad y beudai. Yn gymysg â'r sŵn hwnnw yr oedd islais dwfn y tarw. Yr oedd ffarm ynglŷn â Phenlliw, ac yr oedd Morley wedi cymryd y stoc drosodd gyda'r lle. Ymfalchïai yn yr ochr yma i'w fywyd. Hwyrach ei bod cystal ffordd â'r un o daflu cochl dros y gorffennol—a'r presennol hefyd, o ran hynny.

PENNOD VI

TRANNOETH aeth Aubrey i Dre'r Porth i holi hanes John Gwynn. Nid oedd yn disgwyl cael hyd i fawr fwy nag a gawsai pan yn cychwyn ar yr ymchwil, ond teimlai fod rhyw berthynas rhwng Gwynn a Morley amgen nag ymholiad ynghylch hawliau saethu, ac amheuai mai yn y cyswllt hwnnw yn rhywle yr oedd allwedd—neu ran o'r allwedd—i'r dirgelwch. Wedi trafod yr achos yn ei wahanol agweddau â'r Arolygydd Jones yn Nhrewylan, a chael barn Sarjant Williams ar yr hyn a welwyd ac a glywyd ar y traeth, teimlai Aubrey yn weddol sicr yn ei feddwl ei hun fod ymgais wedi ei gwneud i lithio Gwynn i'r llyn, a'i fod yntau rywfodd neu'i gilydd wedi llwyddo i ddianc o'r trap.

Ond, os felly, paham na buasai wedi dyfod i'r fei bellach? Paham na buasai wedi myned at ei gar yn y ffordd ac wedi mynd adref, os oedd yn meddwl mai damwain a'i cyfarfu, neu, os oedd ganddo le i amau rhywbeth arall, paham na buasai wedi hysbysu'r plismyn yn Nhrewylan?

"Y dirgelwch mwya' yn yr holl beth," meddai'r Arolygydd, gan grafu ei ben, "ydi be' ddaeth o John Gwynn. 'Rydw' i bron â gresynu na buasech chi wedi cael hyd iddo fo yn y llyn hwnnw."

"'Roedd yno eraill yn dymuno hynny, beth bynnag," meddai Aubrey. "Y mae Morley yn hen law ar guddio'i deimladau, gallwn feddwl, ond os gwelais i syndod a braw ar wyneb neb erioed yr oeddan' hw' i'w gweled ar ei wyneb o am eiliad pan gawsom ni nad oedd yna neb yn y llyn."

"Braw?" meddai'r Arolygydd.

"O, ie," oedd yr ateb, "braw yn llawn cymaint â syndod. Am ryw reswm neu'i gilydd y mae Mr. Morley yn teimlo'n anghysurus iawn wrth feddwl bod John Gwynn yn fyw ac yntau heb wybod ymhle."

"Wel," meddai'r Arolygydd, "fyddai'n well i ni anfon dyn i lawr i Benlliw tra byddwch chi yn Nhre'r Porth? Os ydach chi'n iawn, wyddom ni ddim beth all ddigwydd yno. Ond 'wn i yn y byd lle y gallai Gwynn fod 'chwaith. Os syrthiodd o i'r llyn, y mae'n rhaid ei fod o'n wlyb ac yn anghysurus iawn. Oes yna le iddo fo gael lloches yn rhywle, Williams?

"Lle diolwg iawn oedd o i'm golwg i, beth bynnag," meddai Aubrey, " heb dŷ na thwlc yn y golwg yn unlle ond Penlliw ei hun, a phrin y buasai Gwynn yn mynd i'r fan honno am noddfa."

"'Does yna unlle yn agos," meddai Sarjant Williams. "Y mae Llangam, fel y gwyddoch chi, tua dwy filltir o'r lle ar draws y morfa, ac fe fuasai yn hwylusach i Gwynn fynd at ei gar na mynd i'r fan honno. A phe buasai fo wedi mynd yno fe fuasem wedi clywed, y mae'n siŵr. Os syrthiodd o i'r llyn y mae'n rhaid fod golwg mawr arno, a fedra' fo ddim 'sgoi sylw. A phe. . .'

Tawodd y Sarjant yn sydyn, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi meddwl am rywbeth.

"Wel, Sarjant, beth sy'n bod?" meddai'r Arolyg ydd, braidd yn ddiamynedd.

Cofio ddaru mi am Siôn y Bodiau, syr," meddai'r Sarjant.

"Pwy ydi hwnnw?" gofynnai Aubrey, ac edrychodd yr Arolygydd yntau yn bur hurt am eiliad. Ond gyda hynny daeth golwg arall i'w wyneb.

"Siôn y Bodiau?" meddai. "Creadur sydd yn byw ar botsio a dwyn ar hyd y glannau yma. Y mae o wedi bod o flaen 'i well 'wn i ddim sawl gwaith, ac wedi bod yng ngharchar tua dwsin o weithiau am ryw droseddau bach. Y mae lle i amau pethau gwaeth amdano: byddai'r Arolygydd oedd yma o'm blaen i yn mynd ar 'i lw mai fo a laddodd gipar Penlliw rhyw ddeng mlynedd yn ôl, ond fedrodd neb brofi dim. 'Deryn amheus iawn ydi Siôn, neu, a dweud y gwir, 'deryn nad oes dim amheuaeth o gwbl yn ei gylch."

"Ond sut y gallai hwnnw ddwad i gysylltiad â Gwynn o gwbl?" gofynnodd Aubrey.

"Fel hyn, syr," meddai Sarjant Williams. "Y mae Siôn yn byw mewn hen fwthyn ar lan y môr heb fod ymhell iawn oddi wrth Benlliw—yr unig dŷ yn y cyffiniau yn unman. Maen' hw'n dweud bod yno bentre bach wedi bod yno rywdro pan fyddai llongau'n cario glo a chalch ar hyd y glannau yma, ac y byddai yno lawer o smyglwyr yn byw yno ers talwm. Ond welais i ddim ond rhyw un tŷ arall heblaw'r tŷ y mae Siôn yn byw ynddo fo, ac fe aeth hwnnw efo'r llanw un noson fawr rhyw bum fmlynedd yn ôl. Wrth gwrs, y mae tŷ Siôn wedi'i gondemnio lawer gwaith drosodd, ond yno y mynn o fod, ac fe â yntau efo'r llanw rhyw ddiwrnod—a Siôn ynddo fo."

"A fawr o golled i neb," meddai'r Arolygydd yn gwta. "Y mae'r Sarjant yn iawn. Os oes ceiniog anonest i'w gwneud yn rhywle, Siôn y Bodiau ydi'r dyn i'w gneud hi. Os daeth Gwynn ac yntau i gyfarfod ei gilydd, synnwn i ddim nad yno y mae'r dyn sydd ar goll. Fe fyddai'n well i chi drefnu i chwilio, Sarjant." "Mi â i yno fy hun, syr," meddai'r Sarjant. "Dyna'r unig le y gall o fod."

I swyddfa Gwynn yr aeth Aubrey wedi cyrraedd Tre'r Porth, a theimlodd ar unwaith nad oedd fawr obaith cael hyd i ddim gwybodaeth bellach yno. Ni wyddai'r clercod ddim mwy nag a ddywedasant wrth Aubrey o'r blaen; nid oedd dim yn y llythyrau yn yr offis yn taflu unrhyw oleuni ar y dirgelwch, a'r unig lythyrau yno ynglŷn â Phenlliw oedd rhyw ddau neu dri ynghylch gosod y saethu. Cyn belled ag y gellid barnu, nid oedd unrhyw gysylltiad arall rhwng Gwynn a'r plasty anghysbell ar fin y traeth.

Gofynnodd Aubrey am gael gweled cynnwys y sêff, a chafodd weled popeth oedd yno—papurau busnes heb unrhyw gysylltiad â dirgelwch diflaniad eu perchennog. Gorfodid ef i gredu nad oedd dim ym musnes John Gwynn ond y pethau arferol, nad oedd yno ddirgelwch o gwbl, a bod yr hyn a ddywedodd Morley am ei gysylltiad ag ef yn wir. Ar hynny daeth at fwndel o bapurau a oedd yng ngwaelod dror y sêff —y sypyn olaf—a datododd y tâp a oedd yn eu clymu yn ddigon difater. Synnodd braidd weled nad oedd yn y sypyn ddim ond un llun yn dangos nifer o bobl gyda'i gilydd, fel grŵp o ddynion chware golff neu rywbeth felly.

"Beth yn y byd a barodd i Gwynn gadw hwn yn y sêff, tybed?" meddai Aubrey wrtho ei hun, gan baratoi i'w roddi o'r neilltu. Ac ar hynny ail-afaelodd yn sydyn yn y llun a chraffodd arno fel pe buasai'n gweled ysbryd.

Canodd y gloch a daeth prif glerc y swyddfa mewn atebiad i'r alwad.

"A ellwch chwi ddweud wrthyf pwy yw rhai o'r bobl yma, Mr. Griffith?" meddai Aubrey, gan estyn y llun iddo.

"Dyna Mr. Gwynn," meddai Griffith, gan bwyntio at un o'r dynion, "a dyna Mr. Wilkins, a fu'n bartner efo fo rai blynyddoedd yn ôl," gan bwyntio at un arall. "Aeth o oddi yma toc ar ôl i mi ddwad yma, a welais i fawr arno fo, ond 'rydw' i'n siŵr mai fo ydi o. Pobl y dre' yma ydi'r lleill, hefyd, aelodau'r clwb golff yr adeg honno, tua deng mlynedd yn ôl."

"Wyddoch chi ddim i b'le'r aeth Mr. Wilkins?" gofynnai Aubrey.

"Mi glywais mai i Lundain yr aeth o oddi yma," meddai Griffith, "ond 'wn i fawr iawn amdano fo, i ddweud y gwir. Fuo fo yma fawr, mi glywais, a 'dydw i ddim yn meddwl bod neb yn y dre' yn cofio amdano erbyn hyn. Fe wyddoch sut y mae hi efo pobol ddwad fel yna."

"Gwn," meddai Aubrey, ond yr oedd yn amlwg fod ei feddwl ymhell yn rhywle. "Gwn—a wyddoch chi ddim am i gerdded o ar ôl iddo fo fynd oddi yma?"

"Dim o gwbl," meddai'r prif glerc.

"Wel, 'does mo'r help felly," meddai Aubrey," ond os digwydd i rywbeth ddyfod i'ch cof gadewch i mi wybod ar unwaith."

Addawodd Griffith wneud hynny, a throdd Aubrey yn ôl tua Threwylan gan yrru'n gyflymach nag y buasai yr Arolygydd Jones yn ei gymeradwyo o dan amgylchiadau cyffredin. Yr oedd ei feddwl yn fwy cynhyrfus nag arfer. Yr oedd y llun yn ei boced, a throdd y peth drosodd a throsodd yn ei feddwl ar hyd y ffordd, gan chwilio ym mhob cyfeiriad am ateb i'r cwestiynau a oedd yn ei boeni. Bwriodd y llun ffrwd o oleuni newydd ar bethau—neu credai ef ei fod yn gwneud hynny. Yr oedd arno eisiau barn yr Arolygydd ar y mater. Ond hyd yn oed os nad oedd yn camgymryd ac ni chredai ei fod—nid oedd yn gweled yn glir iawn i ba le'r oedd y goleuni yn ei arwain wedyn. Yr oedd un peth yn amlwg. Yr oedd yn rhaid gweled Morley ar unwaith a gofyn un neu ddau o gwestiynau pur blaen iddo.

Cyrhaeddodd Aubrey orsaf y plismyn yn Nhrewylan pan oedd yr Arolygydd ar gychwyn at ei swper.

"Dowch efo mi am damaid," meddai yn groesawus. "Diolch yn fawr," meddai Aubrey, "ond y mae' arnaf eisiau i chwi a Sarjant Williams edrych ar un peth sydd gennyf i ddechrau."

Tynnodd y llun o'i boced a datododd y papur a oedd amdano. Yr oedd yn amlwg i'r lleill ei fod braidd yn gynhyrfus.

"A ydych yn adnabod rhywun yn y llun yma?" meddai.

Edrychodd yr Arolygydd a'r Sarjant ar y llun yng ngolau'r lamp drydan.

"Gwelais Gwynn rhyw unwaith neu ddwy," meddai'r blaenaf. "Dyma fo, yn edrych dipyn iau, ond 'does dim dwywaith nad y fo ydi o. Yntê, Sarjant?"

Rhythai Sarjant Williams â'i geg yn agored—ond nid ar lun Gwynn yr edrychai.

"Yr argol fawr!" meddai, gan roddi bys praff ar lun y dyn a alwodd y prif glerc yn Wilkins.

"Ie, Sarjant," meddai Aubrey. "Pwy ydi hwnna?

Morley, mi gymra' fy llw," meddai'r Sarjant.

"Felly 'r oeddwn innau'n meddwl," meddai Aubrey.

PENNOD VII

'DOEDD dim amheuaeth ym meddwl yr un o'r plismyn nad Morley oedd y dyn yn y darlun. Yr oedd yn edrych gryn lawer yn iau, y mae'n wir, ond yr oedd beth bynnag ddeng mlynedd er pan dynnwyd y llun, ac nid oedd hynny ond peth i'w ddisgwyl. Y peth rhyfedd oedd ei fod wedi newid cyn lleied, ac, fel y dywedodd yr Arolygydd, ei fod wedi dyfod i Benlliw i fyw wedyn.

"Buasech yn meddwl, os nad oedd arno eisiau i neb wybod ei fod yn adnabod Gwynn, y buasai wedi cadw draw o'r ochrau yma," meddai.

"Wel," meddai Aubrey, "y mae'n rhaid cofio bod pum milltir ar hugain rhwng Trewylan a Thre'r Porth, ac nad oes llawer iawn o gyfathrach busnes rhyngddynt. Heblaw hynny, casglaf na bu Wilkins—neu Morley—yno fawr, ac mi wyddoch mor fuan yr anghofir pobl sy'n mynd a dyfod mewn trefi o'r fath. Beth bynnag am hynny, y mae'n rhaid holi Mr. Morley ar y mater yna. A gawsoch chwi ryw wybodaeth ynghylch y dyn hwnnw—Siôn rhywbeth neu'i gilydd?

Yr oedd Sarjant Williams wedi bod yn edrych am Siôn, a dywedodd yr hanes. Nid oedd Siôn yn caru'r plismyn, ac nid oedd wedi rhoddi croeso brwd i'r Sarjant; yn wir, dywedodd gyn lleied ag oedd yn bosibl wrtho, a gwadodd yn bendant fod ganddo neb yn aros dan ei gronglwyd. Rhoddodd wahoddiad taer a rheglyd i'r Sarjant chwilio'i fwthyn os oedd yn amau gair dyn gonest. Yr oedd y Sarjant yn amau, a derbyniodd y gwahoddiad, eithr ni welodd ddim a roddodd le iddo feddwl bod Gwynn yno. Ac eto yr oedd yn berffaith sicr yn ei feddwl ei hun fod Siôn yn dweud celwydd. Yr oedd yn rhy daer, yn rhy bendant, yn rhy barod i ddangos y tŷ. Amheuai'r Sarjant mai adrodd gwers wedi ei dysgu yr oedd, a buasai'n hoffi gwybod gan bwy y'i dysgodd. Ond hyd yr oedd yr hyn a welodd yn mynd, nid oedd argoel fod Gwynn a Siôn y Bodiau yn adnabod ei gilydd o gwbl.

"Mi gymra' fy llw yr un pryd," meddai'r Sarjant, "fod Siôn yn gwybod rhywbeth. 'Rydw' i'n siŵr i fod o'n fy nisgwyl i ac yn barod hefo'i stori."

"Mae'n debyg iawn," meddai Aubrey, "ac mi dâl i ni beidio â cholli golwg ar Siôn. Ond fy musnes cyntaf i yn awr ydyw mynd â'r llun yma i Benlliw a chael eglurhad Morley arno. Ac y mae un peth arall ar fy meddwl, hefyd."

"Be' 'di hwnnw?" gofynnai'r Arolygydd. "Elston," meddai Aubrey. "Dywedais wrth Sarjant ddoe fy mod yn sicr fy mod wedi ei weled ef yn rhywle o'r blaen, a pho fwyaf a feddyliaf am y peth sicraf yn y byd ydwyf. Ond yn fy myw y gallaf alw i gof pa le nac o dan ba amgylchiadau. Y ffordd orau, y mae'n debyg, fydd i mi fynd yno a chael golwg arall arno. Hwyrach y cofiaf felly."

Ac felly y trefnwyd. Aeth Aubrey a'r Sarjant unwaith eto ar hyd y ffordd ac i lawr y llwybr ar draws y morfa ac ar hyd y traeth. Nid oedd neb yn y golwg, ond yr oedd Aubrey, wedi hen arfer â lleoedd tebyg, yn sicr yn ei feddwl ei hun fod rhywun neu rywrai yn eu gweled. Dywedodd hynny wrth y Sarjant.

"Peidiwch ag edrych 'rwan," meddai, "ond cadwch eich llygaid yn agored. Y mae rhywbeth yn dweud wrthyf fod rhywun yn ein gwylio."

Cerddasant hyd at lidiart mawr y parc ac ar hyd y fynedfa at y tŷ, ac eto heb weled neb. Penderfynodd y Sarjant yn ei feddwl ei hun fod Mr. Aubrey wedi dychmygu pethau; ni theimlodd ef fod neb yn ei wylio, a methodd weled arlliw ar neb yn unman. Dywedodd hynny.

"Feallai'n wir," meddai Aubrey. "Y mae'n hawdd dychmygu pethau mewn lle unig fel hwn.. Ond y mae'n amlwg fod Mr. Morley wedi ein gweled. Dacw fo'n dyfod i'n cyfarfod."

Ac felly yr oedd. Yr oedd drws Penlliw yn agored, a daeth Morley i lawr ar hyd y grisiau ac ar hyd y fynedfa i'w cyfarfod. Yn ôl pob golwg yr oedd yn hollol dawel ei feddwl; edrychai'n eithaf siriol, a chyfarchodd y ddau ymwelydd yn groesawgar. "Y mae'n dda gennyf eich gweled," meddai. "Yr wyf yn hoffi'r wlad a'i thawelwch, ond y mae'n rhaid i mi gyfaddef fod unigrwydd y lle yma'n mynd yn. dipyn o faich ar adegau, yn enwedig pan fo rhywbeth fel diflanniad John Gwynn wedi digwydd. A oes gennych ryw newydd amdano?"

"Ni chawsom hyd iddo eto," meddai Aubrey," ond y mae arnaf eisiau gwybod, Mr. Morley, paham y dywedasoch nad oeddych yn ei adnabod hyd y dydd o'r blaen?"

Edrychodd Morley mewn syndod ar Aubrey. "Nid wyf yn deall," meddai. "Yr oedd Gwynn yn hollol ddieithr i mi nes anfonodd yma ynglŷn â chymryd y gêm am y tymor nesaf. Beth sydd yn eich meddwl, Mr. Aubrey."

"Hyn," meddai Aubrey, yn tynnu'r llun a gawsai yn swyddfa Gwynn o'i boced yn sydyn, ac yn ei ddal o flaen Morley.

"Y mae eich llun chwi yn hwn, Mr. Morley—ond nid Morley oedd eich enw pan dynnwyd o. Beth yw'r eglurhad?"

Naill ai yr oedd y peth yn hollol newydd i Morley neu yr oedd yn actiwr penigamp. Dyfalai Sarjant Williams p'run wrth edrych arno-a methai a phen- derfynu.

Daliodd Morley y llun yn ei law a chraffodd arno. "Yr unig beth a welaf yn hwn, Mr. Aubrey," meddai ymhen eiliad neu ddwy, "ydyw llun rhywun sydd, hwyrach, rhywbeth yn debyg i mi, er bod yn anodd i ddyn farnu ynghylch ei ymddangosiad ei hun. Ond y mae'n llawer iau na mi ac, yn sicr, nid myfi ydyw. Nid wyf yn adnabod neb yn y llun ac ni bûm erioed yn y fath gwmni."

"Llun dyn a oedd yn mynd dan yr enw Wilkins ar y pryd ydyw," meddai Aubrey yn ddigyffro. "Yr oedd yn bartner efo John Gwynn yn Nhre'r Porth rai blynyddoedd yn ôl, a'm barn i, Mr. Morley, a barn eraill hefyd, ydyw mai'r un dyn ydyw Wilkins sydd yn y llun á Mr. Morley sydd yn byw ym Mhenlliw. Ac y mae arnaf eisiau gwybod beth oedd y berthynas rhyngoch chwi a Gwynn."

Ffromodd Morley yn sydyn.

"Y mae'r peth yn ynfydrwydd," meddai'n ffyrnig. "Yr ydych yn adeiladu'r cwbl ar ryw debygrwydd honedig rhwng hen lun na welais i erioed o'r blaen mohono, â minnau. Tybed nad yw eich profiad wedi eich dysgu bod digon o bobl debyg i'w gilydd? A buaswn yn eich cynghori i fod yn bur ofalus pa beth a ddywedwch. Y mae'r fath beth yn bod â chyfraith athrod."

"Oes, Mr. Morley," meddai Aubrey, yn hollol ddigyffro o hyd, "a gwn cystal â chwithau fod dynion tebyg i'w gilydd i'w cael. Ond tebygrwydd arwynebol yn unig ydyw hwnnw. Nid am hynny yr wyf yn sôn. Y mae hwn yn llun clir iawn er ei fod braidd yn hen, ac os sylwch chi ar law chwith Wilkins fel y mae yn ei dal ar ei lin yn y llun fe welwch fod y bys cyntaf ar goll. Lle mae eich llaw chwith chwi, Mr. Morley?"

Yr oedd hyn yn newydd i Sarjant Williams; nid oedd Aubrey wedi sôn gair wrtho am y llaw yn y llun. Ond yr oedd y Sarjant yn eithaf cyflym ei feddwl, a chyn gynted ag y clywodd Aubrey yn gofyn y cwestiwn edrychodd ar law chwith Morley. Yr oedd Morley, wedi gwelwi yn ei gynddaredd, yn rhoddi ei law chwith yn ei boced.

"Nid atebaf gwestiynau mor ynfyd a digywilydd," meddai. "Nid oes gennych hawl i'w gofyn ac ni ddangosaf fy llaw i chwi."

"'Does dim rhaid i chwi wneud," meddai Aubrey, yn ei lais mwynaf. "Yr oeddwn i wedi ei gweled ddoe."

Yr oedd y Sarjant hefyd wedi ei gweled, ac wedi gweled bod y bys cyntaf ar y llaw honno ar goll.

"A oes gennych ryw eglurhad i'w roddi?" meddai Aubrey drachefn, ac erbyn hyn sylwodd y Sarjant fod ei lais wedi caledu, a'i fod yn edrych ym myw llygad Morley.

"Yr wyf wedi dweud wrthych na wn i ddim am y llun ac na wn i ddim am Gwynn," meddai Morley, â'i lygaid yn fflamio. "Ac yr wyf wedi blino ar y ffwlbri yma."

"Yr wyf innau wedi blino arno hefyd," meddai Aubrey, "ond nid yw hynny'n golygu fod pen arno. Y mae'n rhaid i ni gael gwybod bellach beth a ddig wyddodd i John Gwynn, ac yr wyf fi a'r Sarjant yn meddwl y gwyddoch chwi fwy nag a ddywedwch, Mr. Morley. Yr ydym yn sicr o gael gwybod, yn hwyr neu'n hwyrach."

Gwnewch fel y mynnoch; 'does wnelo'r peth ddim â mi," meddai Morley, gan droi ar ei sawdl a'u gadael. "Dyna fy ngair olaf i ar y mater."

"Ie," meddai Aubrey yn dawel. "Ond nid ein gair olaf ni. Y mae arnaf eisiau gweled Elston."

Safodd Morley yn sydyn a throdd yn ei ôl. Am y tro cyntaf tybiodd Sarjant Williams ei fod yn gweled arwyddion o anesmwythyd gwirioneddol ar ei wyneb. "Elston?" meddai. "Pa beth sydd a wneloch chwi ag Elston?"

"Mr. Morley," meddai Aubrey, " yr ydym yn edrych i mewn i ddiflaniad John Gwynn. Chwi ac Elston a'i gwelodd ddiwethaf, ac y mae gennym hawl i holi pawb a all daflu unrhyw oleuni ar yr achos. Lle mae Elston?"

Fel pe'n ateb y cwestiwn drosto'i hun daeth Elston i'r golwg heibio i dalcen y tŷ. Pan welodd pwy oedd gyda Morley dechreuodd droi yn ei ôl, ond galwodd y Sarjant arno, a daeth yn ei flaen, gwaethaf yn ei ddannedd, megis.

"A oeddych chi'n adnabod dyn o'r enw Wilkins dro'n ôl?" meddai Aubrey yn sydyn.

Am eiliad trodd Elston ei lygaid ar Morley. Yr oedd yn edrychiad mor gyflym ac mor llechwraidd fel mai prin y gallech ei weled o gwbl. Ond yr oedd Aubrey yn disgwyl amdano, ac yn yr edrychiad hwnnw gwelodd rywbeth arall. Nid oedd yn rhyfeddu dim at yr ateb pan ddaeth.

"'Doeddwn i'n adnabod neb o'r enw hwnnw, am wn i," meddai Elston, "ond y mae o'n enw digon cyffredin."

"Ydyw, o ran hynny," meddai Aubrey, "bron mor gyffredin mewn rhai rhannau o Loegr â Smith." Daeth goleuni peryglus i lygaid milain y gwas.

"Be' sydd yn eich meddwl?" gofynnai, mewn llais, a wnaeth i Sarjant Williams gymryd cam yn nes ato.

"Dim byd, Elston," meddai Morley yn sydyn. "Beth sydd ar eich pen chwi? Holi am Mr. Gwynn y mae'r plismyn yma—neu hwyrach y dylaswn ddweud y ditectif enwog yma a'r Sarjant. Prin, hwyrach, yr hoffai Mr. Aubrey gael ei alw'n 'blismon."

"Waeth gennyf beth y gelwir fi," meddai Aubrey, gan wenu. "P'run bynnag, nid wyf yn meddwl bod gennyf ychwaneg i'w ofyn i Mr. . . . Elston."

Petrusodd cyn dweud yr enw, a gwenodd wrth weled anesmwythyd Elston.

"P'nawn da, Mr. Morley, cawn eich gweled eto cyn bo hir."

Er syndod i'r Sarjant trodd Aubrey ar ei sawdl, a chan amneidio ar Williams i'w ganlyn cerddodd i gyfeiriad llidiart y parc.

"Wel, syr," meddai Sarjant Williams, wedi cyrraedd y ffordd gul at y traeth, "beth oedd ystyr yr ergyd yna? Mi gymerasoch 'i wynt o pan soniasoch chi am Smith."

"Smith ydyw ei enw, Sarjant," meddai Aubrey. "Neu dyna oedd ei enw, beth bynnag, pan anfonwyd ef i garchar am ddwyn gemau ddeng mlynedd yn ôl. Ac yr oedd yn ffodus yn cael dianc heb ei grogi, canys lladdwyd plismon yn yr helynt hwnnw. 'Does gen' i ddim amheuaeth nad oedd Smith—neu Elston—yn euog, ond 'doedd yno ddim digon o brawf. Y mae gennych bobol od yn byw yn y wlad dawel yma, Sarjant."

PENNOD VIII

"YN awr be' wnewch chi?" meddai Elston yn ffyrnig, wedi i Aubrey a Sarjant Williams ymadael. "Fe welwch i b'le'r ydach chi wedi'n harwain ni gyda'ch clyfrwch a'ch llwfrdra. Pe buasech wedi gadael i mi setlo efo Gwynn pan ddaeth yma gyntaf, fuasai hyn ddim wedi digwydd, a 'rwan dyma'r Aubrey yma ar eich trywydd chi pan oeddych yn Nhre'r Porth ac wedi fy adnabod innau. Y mae'n rhaid i ni gael y cwch heno a chlirio allan cyn yr â pethau'n waeth. 'Does dim eiliad i'w golli."

Cododd llais Elston fel yr âi ymlaen, ac yr oedd bron yn ysgrech pan ddywedodd y geiriau olaf. Ar y dechrau nid oedd Morley fel pe'n gwrando arno o gwbl. Eisteddai â'i en wedi suddo ar ei fynwes, a'i lygaid bron ynghau, fel dyn wedi llwyr ymgolli mewn myfyrdod. Ond pan gododd Elston ei lais agorodd yntau ei lygaid ac edrychodd arno, heb ddywedyd yr un gair. Daeth atal i eiriau cynhyrfus Elston a gostyngodd ei lais; bron na ddywedai sylwedydd ei fod fel pe'n cilio'n ôl rhag ei gydymaith fel pe byddai arno ei ofn. Ac yna distawodd.

"Felix," meddai Morley o'r diwedd, "dywedais o'r blaen am i ti beidio â bod yn ffwl. Y mae ffyliaid cyn berycled â bradwyr, ac nid oes gennyf le i'r naill na'r llall. Hwyrach y dylaswn fod wedi gwneud yn siŵr na ddeuai Gwynn yn ei ôl, ond yr wyf wedi dysgu'r wers. Os bydd yn rhaid, gwnaf yn siŵr na chei di, beth bynnag, ddim cyfle i ddianc. Paid â chamgymeryd. Myfi sydd yn arwain yn y busnes yma."

"Ie," meddai Elston, yn ceisio'i adfeddiannu ei hun, "ond am fy ngwddf i y mae'r rhaff."

"Paid â chyboli," meddai Morley. "'Does dim rhaft am wddf neb hyd yn hyn. Os bydd yn rhaid, y mae'r cwch gennym, ac ni ŵyr Aubrey na'r plismyn ddim am hwnnw. Ond yn gyntaf peth y mae'n rhaid talu'r pwyth i Gwynn. Y fo sydd wedi dwyn yr holl helynt yma am ein pennau, a fydd yr un ohonom yn ddiogel tra bydd o ar dir y byw. Wyt ti wedi gwneud y trefniadau y soniais i amdanynt?

"Naddo," oedd ateb sorllyd y llall. "Fe ddaeth y plismyn felltith yna yma'n rhy fuan. Ond mi af i wneud yn awr. Y mae'n tywyllu'n gyflym."

"Ydyw," meddai Morley, gan godi ac edrych trwy'r ffenestr. O'i flaen yr oedd y lawnt a'r parc, ond yr oedd bwlch yn y coed ar gyfer y ffenestr, a gellid gweled ar draws y traeth i gyfeiriad y bryniau a oedd yn codi yr ochr draw i'r morfa. Eisoes yr oedd y bryniau hynny'n ymgolli yn y gwyll. Yr oedd goleuni olaf yr haul wrth fachlud wedi cilio, ac yr oedd cymylau tywyll y glaw a'r nos yn cuddio y rhan fwyaf o'r ffurfafen. Nid oedd yn glawio, ond yr oedd yn edrych yn debyg i law, ac yr oedd y cymylau'n dyfnhau'r gwyll. "Y mae'n tywyllu, bydd yn noson dda at y pwrpas. Ond cymer ofal, Felix, wrth fynd at y gwaith. 'Wyddom ni ddim pa le y mae Gwynn, ac fe all ymosod yn sydyn."

Edrychodd Elston yn anesmwyth braidd.

"Tybed y gallai gyrraedd yma heb i rywun ei weled?" meddai. "Ond, p'run bynnag, mi wnaf o'r gorau â fo os daw.. Nid wyf am fethu'r ail waith. Ond, o ran hynny, eisio arian sydd arno, nid eisiau lladd yr un ohonom. Eisio arian am gau ei geg."

"Eisio arian oedd arno," meddai Morley yn araf, ond, os wyf yn adnabod Gwynn-ac yr wyf yn ei adnabod yn bur dda-'does arno eisio dim erbyn hyn ond dial arnom ni—arnaf fi ac arnat tithau, Felix—am yr hyn y bwriadasom ei wneud iddo. Na, fy nghyfaill' i, yr unig ffordd i ti a minnau deimlo'n ddiogel bellach ydyw cael sicrwydd fod Gwynn wedi marw."

Yr oedd gwên ar ei wyneb, ond nid oedd yn wên a oedd yn argoeli'n dda i John Gwynn, pa le bynnag yr oedd. Yr oedd creulondeb a chyfrwystra yn gymysg ynddi, a gwyddai Elston—neu Smith—fod y neb a groesai lwybr Morley pan fyddai'r wên honno ar ei wyneb mewn dirfawr berygl.

"Yn awr, Felix," ychwanegodd Morley, "at dy waith. Y mae'n ddigon tywyll bellach, ac y mae'n beryglus i ni ei gadael yn rhy ddiweddar. Gyda llaw, a glywodd rhywun rywbeth am ddyn diarth wedi ei weled ar hyd y glannau? Y mae'n beth od na buasai rhywun wedi ei weled."

"'Does yna na siw na miw," meddai Elston. "Wmffra Jones fuasai'r tebycaf i weled neu i glywed, ond ddywed yr hen benci hwnnw ddim byd."

"Diolch i dy ddull di o ymddwyn ato," meddai Morley. "Ond, p'run bynnag, y mae'n hen bryd rhoi'r cynllun ar waith. Byddaf allan wrth y Llyn Du fy hun rhag ofn iddo ddwad y ffordd honno. Gwell i ti fynd â'r gwn efo ti."

"'Da' i ddim allan hebddo fo tra bo Gwynn yn crwydro o gwmpas," oedd ateb Elston wrth fynd trwy'r drws. Taniodd Morley ei bibell, a daeth y wên i'w wyneb drachefn. Ond nid oedd Elston yno i'w gweled yn awr

Oddi wrth ddrws cefn bwthyn unig Siôn y Bodiau yr oedd llwybr yn agor i anialwch o rug ac eithin a llwyni o goed helyg isel. Byddai'n anodd i ddyn dieithr ddyfalu paham y codwyd tŷ yn y fangre ddiarffordd honno o gwbl, ar fin tir rhos a'r morfa, ac ymhell o bob man. Tŷ a godwyd rhywdro pan fyddai llongau bychain yn cludo nwyddau o borthladd i borthladd ydoedd. Bu yno rai tai eraill, ond fel y dywedodd Sarjant Williams, diflanasant o un i un dan bwysau'r tywydd a threigl amser. Gwag a diolwg ddigon oedd y bwthyn pan gymerodd ffansi Siôn. Yr oedd yn lle wrth ei fodd ef, yn ddigon pell ac yn ddigon unig ac yn ddigon o olwg pawb, ac yr oedd yn byw yno bellach—ac yn byw ar ei ben ei hun—ers cryn nifer o flynyddoedd. Nid oedd Siôn yn caru gormod o gwmni ei gyd-ddynion, na hwythau, a dweud y gwir, yn or-awyddus am ei gwmni yntau.

Eithr nid oedd ei hun y noson honno. Agorwyd drws cefn y bwthyn yn ddistaw a llechwraidd. Llithrodd Siôn allan fel cysgod, a symudodd yn ei grwcwd i gyfeiriad y llwybr cudd. Ar ei ôl daeth John Gwynn, ei ddillad yn llawer salach eu gwedd na phan gychwynnodd ar ei daith o Benlliw am y morfa, a'i wyneb heb ei eillio ers dyddiau. Fel cysgod llithrodd yntau i gyfeiriad y llwybr, a phe buasai dyn yn dyfod i'r lle funud yn ddiweddarach ni buasai'n gweled dim ond y bwthyn unig a'r tyfiant gwyllt o'i gwmpas. Hwyrach y buasai'n clywed rhyw siffrwd yn y grug a'r eithin, ond prin yr oedd digon o hynny i dynnu sylw. Unigrwydd a distawrwydd y lle a fuasai yn gadael argraff ar feddwl dyn felly.

Ac y mae'n debyg na buasai wedi gweled peth arall, ychwaith. Pan agorodd Siôn y drws edrychodd o'i gwmpas yn graff, ond nid oedd mewn gwirionedd yn disgwyl gweled neb na dim. Yr oedd yn hen gynefin ag unigrwydd y lle, ac er bod ymweliad Sarjant Williams wedi peri iddo anesmwytho peth—a rhegi mwy—nid oedd mewn gwirionedd yn disgwyl gweled na chlywed neb. Ac ni welodd ac ni chlywodd neb.

Arweiniodd Siôn yn gyflym a difeth ar hyd y llwybr cudd, trwy ddrysni'r grug a'r eithin ac yng nghysgod yr helyg bach. Nid oedd y tywyllwch yn mennu dim arno ef; gwyddai am bob cam a thro ar y llwybr. Collai ei amynedd wrth weled Gwynn mor anfedrus ac araf yn ei ddilyn, a throdd yn ôl fwy nag unwaith i'w regi ac i ddweud wrtho am frysio. Tuthiai Gwynn, dyn nad oedd erioed wedi arfer â llwybrau'r wlad, yn llafurus ac yn boenus ar ei ôl, ond yr oedd penderfyniad ffyrnig yn peri iddo yntau ddal ymlaen. Nid oedd waeth ganddo am regfeydd Siôn y Bodiau. Nid oedd waeth ganddo am ddrysni'r grug na phigiadau'r eithin na'r tyllau sydyn yn y llwybr. Yr unig beth a oedd yn ei feddwl oedd y cof am y disgyniad hwnnw dros geulan y Llyn Du yn y nos a'r penderfyniad caled, di-ildio, fod yn rhaid i'r sawl a'i twyllodd dalu am ei dwyll.

Yr oedd Morley yn llygad ei le. Nid oedd ar Gwynn eisiau dim erbyn hyn ond dial ar Morley ac Elston. Aethai i Benlliw y diwrnod hwnnw gan gredu y gallai wasgu arian o groen y ddau. Synnodd braidd fod Morley wedi cytuno mor rhwydd i'w gyfarfod trannoeth ac i dalu am y darlun a oedd yn ei feddiant, ond, am fod y darlun ganddo ac yn ddiogel yn ei swyddfa, ni chredodd y buasai Morley yn ymosod arno nes ei gael. Pe buasai wedi ei drosglwyddo iddo, cymerasai ei ffordd ei hun i'w ddiogelu ei hun, canys nid oedd ganddo fymryn o ffydd yn ei gyd-leidr. Ond ni ddaeth i'w feddwl ei fod mewn perygl y noson honno.

Gwyddai bellach ei fod wedi camfarnu Morley. Gwyddai iddo fod yn ymyl boddi ac y buasai wedi boddi oni buasai fod Siôn yn ymyl, yn cuddio yn y brwyn. Yr oedd holl ffyrnigrwydd twyllwr a dwyllwyd yn ei gynhyrfu, ac nid oedd ganddo ond un meddwl bellach. Teimlai'r automatic a oedd ganddo yn ei boced: gwnaethai Siôn drefn ar hwnnw ar ôl y drochfa yn y Llyn Du, a daeth gwên nid annhebyg i eiddo Morley ei hun i'w wyneb wrth feddwl pa fath olwg a fyddai ar Morley ac Elston pan ddeuai ar eu trywydd.

Ar y cychwyn gobeithiai eu bod hwy'n credu ei fod wedi boddi. Yr oedd yn amhosibl credu hynny ar ôl ymweliad Sarjant Williams â bwthyn Siôn, ond hyderai y caffai hyd i'r ddau cyn i'r plismyn gael gafael ar y gwir. Creadur peryglus oedd John Gwynn y noson honno, yn cwrcwdu yn y drysi ac yn ceisio gweled yn y tywyllwch fel bwystfil gwyllt ar drywydd ei ysglyfaeth.

Ond nid oedd yntau, mwy na'i gydymaith, wedi gweled na chlywed dyn arall yn symud yn ddistaw a chyflym fel drychiolaeth ar eu trywydd hwy. Ni welsant ef yn sleifio heibio i ddrws cefn y bwthyn ac yn llithro i enau'r llwybr cudd, amryw lathenni ar eu holau hwy. Ni wyddent ei fod yn eu dilyn ar draws Y morfa, wedi i'r llwybr ddarfod, na'i fod o fewn tua dau gant o lathenni iddynt pan gyrhaeddasant y traeth. Yr oedd yn anodd iawn eu gweled yn y tywyllwch, ond llwyddodd y sawl a'u dilynai i gael ambell gip arnynt trwy orwedd yn sydyn ar y ddaear a'u gosod hwy felly rhyngddo a'r awyr a oedd beth yn oleuach. Gallai eu clywed yn siarad weithiau, ond yr oeddynt yn bur wyliadwrus ac yr oedd yn amhosibl deall yr un gair. Ond yr oedd yn amlwg eu bod yn cyfeirio at Benlliw. Tawedog iawn oedd Siôn a Gwynn ar y daith honno, Siôn am mai tawedog oedd wrth natur, a Gwynn am fod ei feddwl yn llawn o'i gynlluniau. Yr oedd distawrwydd y nos o'u cwmpas. Torrid arno weithiau gan chwibaniad aderyn môr yr aflonyddid arno ganddynt wrth fynd heibio, ac weithiau gan wich rhyw greadur yng ngafaelion creadur ysglyfaethus arall a chryfach nag ef ei hun. Y mae'r nos yn y wlad, ac yn enwedig yn y lleoedd gwylltion, agored, yn llawn o sibrydion ac o seiniau sydyn, brawychus. Gwyddai Siôn hynny, ac ni sylwai arnynt. Ni roes ddim sylw pan chwibanodd gylfinhir yn uchel a lleddf ychydig y tu ôl iddynt, ond anesmwythodd Gwynn.

"Beth oedd yna?" meddai.

"Dim byd ond rhyw hen 'dderyn," meddai ei gydymaith. "Rhaid i chi beidio â gadael i bethau fel yna y'ch dychryn chi ne' 'newch chi ddim byd ohoni hi. Dyna fo eto; mae o wedi meddwl 'i bod hi'n fore, 'ddyliwn i."

Chwibanodd y gylfinhir drachefn, yn uchel ac yn glir, ond erbyn hyn yr oedd y sŵn yn dyfod o'r cyfeiriad arall, o'r traeth a oedd o'u blaen.

PENNOD IX

WEDI gadael Penlliw dychwelodd Aubrey a'r Sarjant i swyddfa'r heddlu yn Nhrewylan cyn gynted ag y gallent. Yr oedd Aubrey yn gweled ei ffordd yn glir erbyn hynny, ac yr oedd yn symud gyda'r ynni a'r cyflymder a'i nodweddai bob amser wedi iddo benderfynu pa lwybr i'w gymryd. Hyd yn hyn tueddai Sarjant Williams, a fedrai symud yn bur gyflym ei hun, i ryfeddu at ei arafwch a'i bwyll; ofnai ei fod yn cymryd pethau'n rhy dymhoraidd ac yn gadael i gyfle ar ôl cyfle lithro trwy ei ddwylo. Ond ar ôl yr ymweliad â Phenlliw cafodd y Sarjant reswm digonol dros newid ei feddwl. Er cyflymed oedd ef ei hun prin y medrai ddilyn symudiadau Aubrey yn awr; o ran corff a meddwl yr oedd fel dyn newydd, ei enau yn benderfynol a'i lygaid yn fyw a threiddgar.

Ychydig a ddywedodd ar y daith yn ôl i Drewylan, ond wedi cyrraedd y swyddfa a chael gafael ar yr Arolygydd Jones aeth dros yr hanes yn gryno ac yn fanwl.

"'Does dim amheuaeth yn fy meddwl bellach," "Yr meddai Aubrey wrth yr Arolygydd a'r Sarjant. wyf yn cofio Smith—neu Elston—yn iawn. Ond nid y fo oedd y prif ddyn yn y busnes; yr oedd yno rai eraill. Daliwyd un neu ddau heblaw Smith, ond gwyddai'r plismyn bob amser fod cynllunydd galluocach na hwy o'r tu cefn yn rhywle."

"'Rydw i'n cofio'r helynt," meddai'r Arolygydd. "'Doedd dim amheuaeth nad oedd rhywun medrus iawn yn cynllunio'r cwbl, ac ni chafwyd byth hyd i hwnnw. Bu'r giang yn gweithio heb fod ymhell iawn oddi yma flynyddoedd yn ôl, pan ddygwyd gemau o blasty yng nghyfeiriad Trewylan."

"Ac yr oedd hynny tua deng mlynedd yn ôl," meddai'r Sarjant.

"Ac mi gymra' fy llw," meddai'r Arolygydd, yn taro ei law ar y bwrdd, " 'tasech chi'n holi, fod hynny tua'r adeg yr oedd Morley, neu Wilkins, yn bartner efo Gwynn yn Nhrewylan. Y mae pethau'n ffitio i'w gilydd yn dda iawn."

Yr wyf bron yn sicr eich bod yn eich lle," meddai Aubrey, "ac yn awr y mae'n rhaid symud yn sydyn iawn os ydym am ddal ein gafael yn y giwed yma. Y mae'n ddrwg gennyf i mi adael i Smith wybod fy mod yn ei amau; y cam nesaf, y mae'n sicr, fydd ceisio dianc. A oes ganddynt gwch, tybed?"

"'Wn i ddim am hynny," meddai'r Arolygydd, "ond synnwn i ddim nad oes, a byddai'n ddigon hawdd iddynt ei gludo i lan y môr a diflannu. Ond beth am John Gwynn?"

Yr ydych yn cadw golwg arno ef, gobeithio?" meddai Aubrey.

Gwenodd yr Arolygydd. "Cafodd y Sarjant yma syniad da," meddai. "Y mae wedi gofyn i Wmffra Jones, yr hen gipar, gadw golwg ar fwthyn Siôn y Bodiau a dilyn Gwynn os gwêl ef yn dwad oddi yno. Y mae Wmffra yn well na'r un plismon mewn lle fel yna ac yn gwybod am bob tro ar y morfa a'r traeth. Cytunwyd ei fod i chwibanu fel gylfinhir ar ôl cyrraedd y traeth os byddai Gwynn yno, ac y mae dau blismon yn gwylio ar hyd y gwaelodion yna ac yn barod amdano. Byddant hwy'n deall yr arwydd ac yn gwybod beth i'w wneud efo Gwynn. Ond mater arall ydyw rhwystro i Morley ac Elston ddianc."

"Y mae'n rhaid rhoddi dynion ar lan y môr," meddai Aubrey, "a hynny ar unwaith. Ac fe ddylent fod yn arfog, hefyd."

"Fe wneir hynny ar unwaith," meddai'r Arolygydd, "ac af i a'r Sarjant i Benlliw yn awr. Y mae'n debyg y dowch chwithau hefo ni, Mr. Aubrey?'

Gwenodd Aubrey.

"Diolch am y gwahoddiad," meddai. "Y mae'n amheus gennyf a allai holl blismyn y sir fy nghadw rhag dyfod heno. Ond," ychwanegodd yn ddifrif, "y mae'n rhaid i ni sylweddoli ein bod yn ymwneud â dynion na waeth ganddynt pa beth a wnânt pan welant ei bod wedi mynd i'r pen arnynt. Gwyddom fod Elston yn beryglus, ond yn fy marn i y mae Morley yn beryclach. Y fo ydi'r meddwl sydd y tu cefn i'r cwbwl. 'Wn i ddim am Gwynn, ond 'rydw' i'n amau, os ydi o'n meddwl bod Morley neu Elston wedi ceisio'i hudo i'r Llyn Du, ei fod o wedi penderfynu dial arnynt rywfodd neu'i gilydd. Ond awn i lawr cyn gynted ag y byddwch chwi wedi gwneud eich trefniadau, Inspector."

Ymhen llai na chwarter awr yr oedd y tri, a phlismon ieuanc, cydnerth gyda hwynt, yn cychwyn unwaith eto am ben y ffordd a oedd yn arwain i'r morfa a'r traeth. Yr oedd yn nos erbyn hyn, ond gwyddai'r Sarjant yn dda am y llwybr, ac yr oedd gan Aubrey hefyd reddf a'i galluogai i gael hyd i'w ffordd yn y tywyllwch hyd yn oed mewn lleoedd dieithr iddo. Gadwyd y car ychydig yn is na'r ffordd fawr, mewn lle nad oedd neb yn debyg iawn o'i weled, a cherddwyd yn gyflym ac yn ddistaw ar draws y gwernydd a'r morfa nes cyrraedd cwr y traeth.

Yr oedd y pedwar newydd groesi llain gyntaf y traeth pan glywsant chwibaniad y gylfinhir a'r chwibaniad arall yn ateb. Ac yna daeth sŵn arall, sŵn lleisiau isel a sŵn fel pe buasai pobl yn yr afael â'i gilydd. Ac ar hynny daeth rhywun yn erbyn yr Arolygydd yn y tywyllwch nes peri iddo golli ei wynt. Ond yr oedd Puw, y plismon ieuanc, yn barod, a gafaelodd yn yr ymosodydd—os ymosodydd hefyd—cyn iddo gael cyfle i ymryddhau oddi wrth yr Arolygydd, a chyn pen eiliad arall yr oedd y Sarjant hefyd wedi cael ei ddwylo ar yr un dyn. Rhegodd hwnnw mewn Cymraeg croyw a huawdl, a deallodd y Sarjant mai Siôn y Bodiau ydoedd; yr oedd wedi rhyfeddu'n aruthr eu gweled—neu yn hytrach eu teimlo—yno.

"Cawn ei holi eto," meddai Aubrey, wedi deall pa beth a ddigwyddodd. "Y mae gofyn i ni fod cyn ddistawed ag y medrom yn awr. Y mae'n amlwg fod rhywbeth arall wedi digwydd draw acw."

Ar hynny fflachiodd goleuni am eiliad yn y tywyllwch o'u blaenau.

Rhowch y golau yna allan," meddai'r Arolygydd yn bendant. "Huws, y chi sydd yna? Peidiwch â siarad yn uchel."

"Ie, syr," meddai llais un o'r plismyn a fu'n gwylio ar y traeth. "Y mae Wmffra Jones yma hefyd, a rhyw ddyn diarth.'"

Erbyn hyn yr oedd y ddwy fintai fechan wedi cyfarfod ei gilydd. Yr oedd Wiffra Jones yn gafael yn un fraich i'r "dyn diarth" a Huws y plismon yn gafael yn y fraich arall. Fflachiodd Aubrey oleuni i wyneb y dyn oedd yn y ddalfa.

"Mr. Gwynn, y mae'n debyg?" meddai.

"Ie," oedd yr ateb, "a beth am hynny? Pwy 'roddodd hawl i chi na neb arall fy nghamdrin i fel hyn?"

Yr oedd yr Arolygydd yn y cyfamser wedi tynnu ei law dros Gwynn ac wedi cael hyd i'r automatic a oedd yn ei boced.

"Hanner munud, Mr. Gwynn," meddai. "Pa hawl sydd gennych chwi i fod yn crwydro'r traeth wedi nos yn arfog fel hyn? Y mae gennych gryn lawer o bethau i'w hegluro."

Dechreuodd Gwynn fygwth eilwaith, ond torrodd Aubrey ar ei draws.

"Cewch ddweud yr hyn sydd gennych i'w ddweud eto," meddai, "pan gawn Wilkins a Smith i'ch wynebu."

Rhegodd Gwynn yn groch.

'Wilkins a Smith?" meddai. "'Wn i ddim am be'r ydach chi'n sôn."

Ond erbyn hyn daethai ansicrwydd i'w lais, a thawodd yn sydyn.

"Ewch ag o o'r neilltu, Huws," meddai'r arolygydd," "ac mi fyddai'n well i Wmffra Jones ddwad efo chi,. os daw o, i ofalu na bydd Mr. Gwynn yn myned i unrhyw berygl eto. Cawn egluro'r cwbl i chwi ymhellach ymlaen, Mr. Gwynn," ychwanegai. "Y mae eisiau eglurhad ar lawer iawn o bethau."

Ac ar hynny gadawodd yr Arolygydd, Aubrey, y Sarjant a Phuw, y plismon ieuanc, y tri arall yn y tywyllwch, a cherddasant yn araf ac yn wyliadwrus i gyfeiriad Penlliw. Yr oedd yn dywyll iawn erbyn hyn, ac yr oedd yn anodd cerdded trwy'r brwyn ac ar draws y tyllau yn y traeth. Maglodd pob un ohonynt fwy nag unwaith, ond llwyddasant i gadw gyda'i gilydd o hyd. Mewn distawrwydd y symudent. Ni wyddent pa funud y gallai rhywun eto dyfod ar draws eu llwybr, ac yr oedd rhywbeth yn unigrwydd y lle hwnnw yn nhrymder nos yn peri eu bod hwythau'n teimlo rhyw ddieithrwch a phryder wrth symudi gyfeiriad dynion peryglus a ffyrnig.

Aubrey oedd y cyntaf i sylwi ar y sŵn a dorrodd ar ddistawrwydd y nos. Yr oedd islais y don i'w glywed o hyd yn y lle hwnnw—sŵn y môr yn golchi'n araf ac yn gyson ar y traeth. Ond nid sŵn y môr oedd y sŵn a barodd i'r pedwar sefyll a gwrando. Clywsai'r lleill ef erbyn hyn—rhu dwfn, isel, bygythiol yn rhywle o'u blaen yn y tywyllwch i gyfeiriad Penlliw. Gwrandawsant drachefn. A thrachefn daeth y sŵn. Yr oedd yn nes atynt yn awr. Nid oedd dim i'w weled, ac yr oedd rhywbeth arswydus yn y rhuo isel, dwfn hwnnw, fel pe buasai'n llais yr anial a'r nos.

"Be' sy'n bod?" meddai'r Arolygydd. "Sŵn be' ydi o?"

"Y mae'n debyg iawn i sŵn tarw," meddai Aubrey, "ond welais i'r un tarw, na dim gwartheg o gwbl, y ffordd yma pan oeddym i lawr o'r blaen."

"Y mae yna un, syr," meddai Puw. "Ac hwnnw'n un brwnt iawn hefyd., Ydach chi'n cofio, syr," meddai wrth yr Arolygydd, "iddo fo ddarn-ladd y gwas rhyw hanner blwyddyn yn ôl?"

"Rydw i'n cofio hynny," meddai'r Arolygydd, ond 'does bosib' bod creadur felly'n rhydd ar y traeth yma. Y mae o'n beryg' bywyd."

Daeth y rhu drachefn, ac yn nes fyth yn awr. "Y mae o nid yn unig yn rhydd, ond yn dwad amdanom ni, 'ddyliwn i," meddai Sarjant Williams. "Y mae Morley ac Elston wedi gofalu na chaiff Gwynn ddim cyrraedd Penlliw," meddai Aubrey. "Ar ei gyfer o y mae'r tarw allan."

PENNOD X

"FEDRWN ni ddim sefyll yn y fan yma i'r bwystfil yna ymosod arnom," meddai Aubrey. "Y mae'n amlwg ei fod naill ai yn ein gweled neu yn ein synhwyro. Beth ydi'r peth gorau i'w wneud?"

"Y mae'n rhy bell i ni feddwl myned yn ôl at y bryniau tywod," meddai'r Sarjant, "ond 'dyda' ni ddim yn bell iawn oddi wrth yr hen gei sydd yn ymyl y Llyn Du. Dyna'r lle gorau, am wn i, er nad oes n y fan honno fawr iawn o godiad, 'chwaith."

"Y mae rhywle'n well na'r fan hyn," meddai Aubrey, "a 'does dim amser i'w golli. Y mae'r creadur yn dwad yn nes. Arweiniwch chi'r ffordd, Sarjant."

Troisant yn y tywyllwch, a chyn gynted ag yr oedd modd o dan yr amgylchiadau cerddasant i gyfeiriad yr hen glawdd a oedd yn cuddio'r Llyn Du ar un ochr. Yr oeddynt yn nes ato nag y tybiasant, canys daliasant fwy ar y chwith nag oedd yn rhaid iddynt wrth groesi'r traeth, ond, er gwaethaf y tywyllwch a phob anhawster arall, ar redeg y cyraeddasant y cruglwyth cerrig yn y diwedd. Yr oedd rhu'r tarw yn boenus o agos erbyn hynny, a chredai Aubrey ei fod yn clywed sŵn traed y creadur bygythiol yn dilyn ar eu holau. Efallai mai dychymyg oedd hynny; p'run bynnag, yr oedd yn dda gan bob un ohonynt gael hynny o ddiogelwch a roddid gan y domen gerrig yn lle eu bod ar y gwastad, heb ddim o gwbl i'w cadw rhag rhuthr y tarw. Pan gafodd ei wynt dywedodd Puw fel yr ymosododd y tarw ar i was Penlliw, gan ei daflu dros glawdd ar ôl ei friwio'n drwm, a cheisio myned dros y clawdd ar ei ôl wedyn er mwyn ei ladd.

Fedar neb wneud dim à fo," meddai'r plismon, a byth er hynny y mae o wedi cael ei gadw'n rhwym o hyd."

"Dydi o ddim yn rhwym 'rwan, beth bynnag," meddai'r Arolygydd. "Ydach chi'n meddwl mewn difrif," ychwanegodd, gan droi at Aubrey, "ei fod o wedi ei ollwng yn rhydd yn un pwrpas i ladd John Gwynn?"

"'Does gennyf ddim amheuaeth," atebai Aubrey, "ond y cwestiwn sydd yn fy mhoeni yn awr ydyw a baid o â'n lladd ni? "Tydi'r automatics yma fawr iawn o werth yn erbyn creadur fel yna."

"Y mae gen' i hen service revolver, syr," meddai'r Sarjant. "Taswn i'n cael at 'i ymyl o mi wnai hwnnw dipyn o ôl arno fo . . . Yr argian fawr! Be' sydd 'rwan?

Torrwyd ar y distawrwydd gan sŵn arall, sŵn sydyn, clir ergyd heb fod ymhell oddi wrthynt.

"Y mae rhywun yn saethu efo rifle," meddai'r Sarjant.

Yr oedd y rhuo wedi peidio am ennyd tra'r oeddynt yn siarad, ond fel yr oedd y Sarjant yn sôn am y saethu daeth y sŵn drachefn, gan derfynu mewn math o feichio uchel a oedd yn fwy brawychus yn y tywyllwch hwnnw na hyd yn oed y chwyrniad a oedd i'w glywed o'r blaen. Ac yn sydyn gwelodd y dynion a oedd yn sefyll ar y clawdd cerrig y tarw yn eu hymyl ac yn, union oddi tanynt fel duwch dyfnach yn y duwch a oedd yn gordoi'r traeth. Ond ni chawsant fwy na chip arno.

Taniodd y Sarjant, a deffrodd yr ergyd bob atsain yn y lle agored, gwag hwnnw, a phob aderyn a oedd yn clwydo yn y brwyn a'r morhesg, ond ni effeithiodd ddim ar ruthr y tarw. Yn unig gwelodd y gwylwyr nad atynt hwy yr oedd yn rhuthro. Aeth heibio iddynt heb eu gweled.

Rhuthrodd, yn anghenfil du, bygythiol, i gyfeiriad y bwlch yn y clawdd, y bwlch yr aethai Gwynn trwyddo ddyddiau yn ôl. A chollodd y gwylwyr ar yr hen glawdd olwg arno.

Eithr ni ddarfu am y sŵn. Daeth ergyd o'r gwyll yn eu hymyl, a chlywodd Aubrey fwled yn suo heibio i'w ben.

"Gorweddwch," meddai, "am eich bywyd."

Aeth pawb i lawr ar ei hyd ar y cerrig. Ac yna clywsant sŵn ergyd arall.

Rhwygwyd y distawrwydd gan sŵn mwy ofnadwy hyd yn oed na beichio'r tarw-ysgrech dyn wedi dychryn am ei fywyd, gwaedd o gyfyngder eithaf. Ac yna, distawrwydd, distawrwydd a oedd yn fwy dychrynllyd na'r sŵn a oedd o'i flaen.

"Y mae'n rhaid i ni weled beth a ddigwyddodd," meddai'r Arolygydd, "tarw neu beidio. Y mae 'na rywun mewn perygl yn y fan yna. Dowch, Sarjant, a chwithau, Puw."

Cychwynnodd i lawr i gyfeiriad yr ysgrech.

"A minnau hefyd," meddai Aubrey, " ond yn araf deg, Inspector. Cymerwch ofal."

"Paham?" meddai'r Arolygydd yn ddiamynedd. "Y mae'n ddyletswydd arnaf fyned."

"Ydyw," meddai Aubrey, " y mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom, ond 'does arna' i ddim eisiau i'r Llyn Du gael neb arall heno. Os nad wyf yn camgymryd, y mae wedi cael un, beth bynnag. Mi wyddoch chi am y lle, Sarjant. Y mae'r llyn yn ymyl, a bydd yn well i chi arwain."

Yn araf ac yn wyliadwrus iawn y symudodd y fintai o ben y clawdd a thrwy'r brwyn nes eu cael eu hunain ar geulan y Llyn Du. Hyd yn oed felly bu bron i Sarjant Williams faglu ar draws corff y tarw, a oedd yn gorwedd ar ei hyd ger y geulan, a'i ben dros yr ymyl, uwch ben y dŵr du, llonydd. Yr oedd yn hollol farw.

"Fe'i lladdwyd o gan un o'r ergydion hynny," meddai Aubrey. "Rifle oedd yr unig beth a fuasai'n gwneud ei dro o. Ond beth am y dyn a roddodd yr ysgrech honno? Daliwch y golau ar y dŵr, Sarjant.".

Trodd Sarjant Williams ei fflachell ar ddŵr y Llyn Du. Yr oedd rhywbeth gwelw yn y fan honno, rhywbeth nad oedd yn rhan arferol o'r llyn. Craffodd y pedwar trwy'r tywyllwch. Daeth rhyw fath o dro i wyneb y llyn a daeth y clwt gwelw yn nes i'r lan.

Trodd y Sarjant y goleuni yn llawn arno a gwnaeth Puw yr un peth gyda'i fflachell yntau. 'Doedd dim amheuaeth bellach.

Yr hyn a welsant oedd wyneb Morley, a'r dŵr hallt, duoer, yn golchi drosto.

"Wedi mynd i'w drap o'i hun," meddai'r Arolygydd, ond y mae'n rhaid i ni ei gael oddi yna, rhag ofn fod bywyd yn aros."


"Edrychwch eto, Inspector," meddai Aubrey, gan droi golau ei fflachell gref yntau ar wyneb y truan yn y dŵr. Chwibanodd yr Arolygydd.

"Nid y tarw a'i lladdodd, yntau," meddai, canys gwelai yn awr yr hyn a welsai Aubrey o'r blaen, sef twll bwled yng nghanol talcen Morley.

"Nage," meddai Aubrey. "Efallai mai'r tarw a'i taflodd i'r llyn ond mi gymeraf fy llw fod Morley wedi ei ladd efo'r ergyd gyntaf honno a glywsom. Llofrudd oedd Smith erioed, a chafodd ei gyfle yma. Wedi ei saethu y mae'r tarw hefyd. Clywsom dair ergyd, fe gofiwch ac yr oedd un ohonyn' hw' atom ni."

"Ond pa le y mae Elston, felly?" meddai'r Arolygydd. "Y mae'n rhaid cael hyd iddo cyn iddo wneud rhagor o ddrwg. Williams, ewch chi draw at Benlliw ac ewch a Puw hefo chi..

Torrodd Aubrey ar ei draws cyn iddo roddi ychwaneg o gyfarwyddiadau.

"Maddeuwch i mi, Inspector," meddai, "ond nid wyf yn meddwl y cewch chi hyd i neb ond y gweision arferol ym Mhenlliw heno. Yr oedd yr ysgrech a glywsom yn ymyl, onid oedd?"

Oedd, debyg iawn," meddai'r Arolygydd, "clywsom Morley yn gweiddi pan yn ei deimlo ei hun yn syrthio i'r llyn."

"Efo bwled yn ei dalcen, Inspector?" meddai Aubrey. "Yr oedd yr ergyd gyntaf honno beth amser o flaen y lleill, a'r tebyg ydyw mai honno a laddodd Morley. Ac erbyn meddwl, y mae'n amheus gennyf ai'r tarw a'i taflodd i'r llyn. Y mae'n debyg fod Elston yn meddwl y buasai'r dŵr yn ei guddio am ddigon o hyd iddo fo gael dianc o'r wlad. Ond daliodd dial yntau. Inspector, yr wyf cyn sicred â'm bod yn sefyll yma mai Elston a roddodd y waedd a glywsom."

Llais Elston oedd o, wedi meddwl, syr," meddai'r Sarjant. "Ond ym mh'le y mae'r dyn."

"Edrychwch ar y tarw, Sarjant," meddai Aubrey. Edrychodd y lleill arno mewn syndod, ond pwyntiodd Aubrey ei fflachell at gorff y tarw mawr ar lan y llyn. Ac yna neidiodd yr Arolygydd at y lle.

"Rhowch help," meddai, gan afael yng nghorff yr anifail a llusgo ei orau. Bu'n rhaid i bob un ohonynt dynnu, a thynnu'n galed, i'w symud, ond llwyddasant i wneud hynny o'r diwedd. Oddi tano yr oedd Elston yn gorwedd yn swp diymadferth, ei wyneb yn waed ac yn gleisiau drosto.

"Y fo aeth i'r trap," meddai Aubrey, yn penlinio wrth ei ochr. "Daliodd y tarw ef cyn gynted ag y taniodd arno, a meddyliodd ei fod yntau'n mynd i'r llyn hefyd. Dyna paham y gwaeddodd. Ni chafodd amser i ddianc; yr oedd y tarw ar ei warthaf pan saethodd."

Ydi o wedi marw?" meddai'r Arolygydd.

"Na," meddai Aubrey, "y mae'n fyw... Rhoddwch y cyffion ar ei arddyrnau, Sarjant. Y mae'n debyg mai'r cwbwl a ddigwyddodd iddo oedd i'r tarw syrthio arno a mynd a'i wynt a briwio'i wyneb."

Griddfanodd y dyn ar lawr, ac fel yr oedd Sarjant Williams yn rhoi'r cyffion ar ei-freichiau ceisiodd godi ar ei eistedd. Griddfanodd drachefn, ac yna agorodd ei lygaid; gwelodd y plismyn yn sefyll o'i gwmpas, a syrthiodd yn ôl ar y ddaear heb ddweud yr un gair.

"Y mae'n dechrau dyddio," meddai Aubrey, gan edrych tua'r dwyrain, lle'r oedd yr awyr yn llwydo ac yn goleuo.

"A dyna ddiwedd ar ein hymchwil am John Gwynn. Dyna ddiwedd hefyd ar gynllwynion Morley ac ar ddrwgweithredoedd Smith. Byddai'n well i chwi a minnau, Inspector, fynd i Benlliw rhag fod yno bethau a fydd yn fuddiol pan ddaw'r ddau ddyn yma i sefyll eu praw." **** Cludodd Puw a'r Sarjant Elston oddi wrth geulan y Llyn Du. Yr oedd wedi goleuo digon bellach iddynt weled Huws ac Wmffra Jones a'u carcharor yn edrych yn bryderus i'w cyfeiriad o ben y dwnan draw, a chyrchasant tuag atynt. Aeth Aubrey a'r Arolygydd ar draws y traeth tua Phenlliw. Yno, mewn sêff yn y mur, cawsant yr hyn yr oeddynt yn ei geisio digon o dystiolaeth i ran John Gwynn yn y cynllwyn i ddwyn gemau, a digon hefyd i grogi Elston ar wahân i'r hyn a wnaeth yn y diwedd i'w arweinydd a'i bartner ef ei hun.

"Nid bob amser y mae ffawd yn gorffen pethau mor daclus," meddai Aubrey wrth ffarwelio â'r Arolygydd a Sarjant Williams ymhen rhai dyddiau.

"Be' 'dach chi'n feddwl, Mr. Aubrey?" meddai'r Arolygydd.

"Dechrau a diweddu ar geulan y Llyn Du," meddai Aubrey. "Gwynn oedd i fynd i'r llyn, Morley a aeth, a'r llyn a fu'n drap effeithiol i Elston hefyd. Ac y mae'n debyg mai dyna'r gwaith gorau a wnaeth yr hen bwll anymunol erioed. 'Does arnaf byth eisiau ei weled eto."

Y mae E. Morgan Humphreys yn un o awduron mwyaf cynhyrchiol Cymru: at hynny mae'n adnabyddus fel newyddiadurwr a darlledwr mynych. Brodor o Sir Feirionnydd ydyw. Fe'i ganed yn y Faeldref, Dyffryn Ardudwy, yn 1882. Bu'n golygu'r Genedl, y North Wales Observer, a'r Goleuad, a bu'n ysgrifennu i'r Traethodydd, Cymru, Y Beirniad a'r Llenor. Ysgrifenna'n wythnosol ar faterion Cymreig yn gyffredinol i'r Liverpool Daily Post ers pum mlynedd ar hugain, ac ar faterion eisteddfodol a llenyddol i'r Manchester Guardian ers blynyddoedd. Llyfrau: "Dirgelwch yr Anialwch: a Storïau Eraill", "Y Llaw Gudd", Yr Etifedd Coll". "Rhwng Rhyfeloedd", "Dirgelwch Gallt y Ffrwd", "David Lloyd George", "Detholiad o Lythyrau 'Rhen Ffarmwr (Hiraethog)".

Nodiadau

[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.