Chwi Feibion Dewrion (Mynyddog)

Oddi ar Wicidestun
Neidio i: llywio, chwilio

(Geiriau i’r Marseillaise)


Chwi feibion dewrion gwlad y bryniau,
Clywch, clywch yr udgorn croch o draw,
Llywelyn sydd yn chwifio’i ddreigiau
A’i gleddyf gloew yn ei law;
Mae dagrau baban gwan a’r weddw
Yn gwaeddi’n uwch na chorn y gâd,
Fod rhyddid hoff ein hanwyl wlad
O dan ei chlwyf ymron a marw;


Ymlaen! ymlaen i’r gâd,
Dadweinied pawb ei gledd,
Ni awn, ni awn dros freiniau’n gwlad
I ryddid neu i’r bedd!


Ystormydd rhyfel sy’n ymruo,
Yr holl awyrgylch sydd yn ddu,
Mae cledd dialedd wedi deffro,
Gwae, gwae i’r holl elynol lu;
Ni allwn edrych ar gelanedd
Estroniaid yn arteithio’n gwlad,
Gan ddwyn aneddau’n mam a’n tad
A gwneud ein gwlad i gyd yn garnedd;


Ymlaen!


Deffroed ysbryd hŷf ein teidiau
I danio mynwes ddewr pob dyn,
Mae’r ddraig yn edrych lawr o’r bryniau
Gan ddisgwyl gweled Cymru’n un;
Bu’n gwlad am oesau’n araf waedu,
Ond sych dy ddagrau, Walia Wen,
Mae seren gobaith uwch dy ben,
Daeth cledd Llywelyn i’th waredu.


Ymlaen!