Chydig ar Gof a Chadw/Anwariaid y Warehouse
Gwedd
| ← Er Cof am Ann Roberts | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
Sen y Meddyg → |
ANWARIAID
yn y "Warehouse" yn Bear Street—lle gweithia'r Bardd.
MAE bod o dan orfodaeth—i un dyn
Yn deg mewn gwasanaeth;
Dyna gosb, yw bod yn gaeth
Dan wehilion dynoliaeth.
Heb aros trof o Bear Stryd,—lle ryffiach
Na llawr uffern danllyd;
Am awyr i fy mywyd,
Gwnaf fy mhac, a gwyn fy myd.