Neidio i'r cynnwys

Chydig ar Gof a Chadw/Cyfarchiad i Isaac Davies

Oddi ar Wicidestun
Y Cybydd Chydig ar Gof a Chadw

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)

Ysgwyd Llaw

CYFARCHIAD

i Isaac Davies, "The Woodlands," Birkenhead, ar ol iddo draddodi
Araith ar "Hanes Methodistiaeth" yn Birkenhead (1920).

ISAAC DAVIES, cu dafod,—hyawdledd,
"Woodlands" yw'n hawdurdod;
Pob dalen o'i glir bennod,
Newydd a glân haedda glod.

Drwy'i oleu ar dreialon,—a chynnydd
Gwych enwad ei galon;
Mwynhâ llu ei gwmni llon,—
Cwmni Isaac am noson.


Nodiadau

[golygu]