Chydig ar Gof a Chadw/D. Ffrancis, y Telynor Dall
Gwedd
| ← Conwy Edwards, Ysw | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
Olwen Margred → |
CWRDDYD D. FRANCIS,
"Y Telynor Dall o Feirion," ar Lanfa Lerpwl.
O LONFYD ar y lanfa!—pa gerddor,
Pwy gwrddais i yma?
Eilun teg—un o blant da,—
Enwog ŵyl telyn Gwalia!
Francis hoff, yr hwn sy' sant,—o ganol
Clogwyni atebant
Iddo fyth yn ddi fethiant
Lafar dôn ei ddi lyfr dant!
Wedi cwrdd am funud cu,—wedi sôn
Am adseiniau Cymru;
Mwyniant oedd ymwahanu—am dymor—
A'r hen Delynor yn dal i wenu.