Neidio i'r cynnwys

Chydig ar Gof a Chadw/Dathliad Priodas R. T. Roberts

Oddi ar Wicidestun
← Harri Bach Chydig ar Gof a Chadw

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)

Geneth 18 oed →

"CWLWM SY'N DAL,"
sef dathliad priodas arian Mr. a Mrs. R. T. Roberts,
Jackson Street, Birkenhead.

BYWIOG wên "Bob ac Annie,"—fedd lonnaf
Ddylanwad eleni;
Haedda'u hunol wedd heini
Englyn o fy nhelyn i.

Mor rydd a hoff—mor ddiwahân—ynt hwy
Yn eu tawel drigfan;
Sieryd priodas arian
Fod gwerth ar fywyd o gân.

Boed eu hannedd heb donnog,—arw for
O firi tymhestlog;
Hapus, dangnefeddus fo,
Gŵr clên a gwraig galonnog.


Nodiadau

[golygu]