Chydig ar Gof a Chadw/Dr. Lloyd, Llan Ffestiniog
Gwedd
| ← Y Balmwydden | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
Y Ford Gron → |
DR. LLOYD, LLAN FFESTINIOG.
DYN yw Lloyd yn oludog—o feddwl
I foddio Ffestiniog;
Am rinwedd sydd mor enwog,
Ei ddeheu law haedda lôg.
Ei afaelion na'i filiau—ni raid ofn
Er dyfned y clwyfau;
Math o help i'n hesmwythau
Ddŷd a bysedd dibwysau.
Hawddamor iddo yma, 'n—ddyn a fedd
Wên foddus fel huan;
Ni cha ing fynych yngan
Tra'r "Llwyd" yn Ddoctor i'r Llan.