Chydig ar Gof a Chadw/Eldred bach, Bryntirion
Gwedd
| ← Y Parch. Cunllo Davies | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
O. C. Roberts, Ysw., Birkenhead → |
PAN GYFARFU'R BARDD
â Mr. O. C. Roberts, Bryntirion, Bidston, yn chwilio am
ei fachgen bach, ebe fe:
ADRE' daw Eldred Owen,—a chap coch
Pig cam uwch ei dalcen;
I'th iach, galonnog fachgen,
Yn awr, O.C., na ro sen.
Hawlia dyn ar Holidê—fyned i
Fin y dŵr neu rywle;
Hoffa'i rownd at hen ffrindie,
A hoffa'r plant gael fair—play.
WEDI CAEL HYD I'R CRWYDRWR BACH,
ychwanegodd y Bardd:
MAE'I nwyf iach fel Mai yn fyw,—Mis y Gân
A'i grymus gôr hyglyw;
Gwanwyn oes bachgenyn yw,
Naw oed eleni ydyw.
I'w "Dirion" dŵr, enw da—roddo ef
Drwy ddiofid yrfa;
Yno athro cefnog gâ—
Deued Eldred i'w daldra.
ELDRED BACH AR BIDSTON HILL.
ER mor braf yw tramwy'r brig,—adre dos,
Eldred iach yn ddiddig;
Hebddo ti'r aur, byddai trig
Dy rieni'n dra unig.