Chydig ar Gof a Chadw/Englynion i ŵyr y Bardd
| ← Y Meddwyn | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
Shon Ifan, Maentwrog → |
FY WYR BACH YN DAIR OED.
ROBIN aur heb anwiredd—dyma'n hoff
Dŷ mewn hwyl o'r diwedd;
Dy lonni di, lân dy wedd,
Ar f'aelwyd yw 'ngorfoledd.
Dy heinif dw yn fwy dyn,—a minnau'n
Myned yn fwy plentyn,
Adfywia'm dawn yn nawn oes,—
Try f'einioes fel tirf wanwyn.
Dof dan y bwrdd i'th gwrddyd,—di—reol
Yw dy droion hyfryd;
Fe ddaw hwyl rywfodd o hyd
Im'o hobi fy mebyd.
Wiw darllen na 'sgrifennu,—wiw gwneud dim
Egni teg sy'n pallu;
Yr hyn a gâr awen gu
Yw dawn tafod yn tyfu.
Mor ddiolwg, mor ddilun—yw'm papur,
Mae popeth yn wrthun;
Ond ti folaf, wyt f'eilun
Tair oed, llawn natur ei hun.
Diyngan yw'th deganau,―ti falaist
Dy filwyr yn ddarnau;
Onid tost yw'th ganiatau
Fel llofrudd fy holl lyfrau?
Peidiaf â hel, pwy ydwyf fi?—Nanna'n[1]
Unig gaiff dafodi;
Ni chei gam heb dy Fami
Hefo Nain—dy gefn yw hi.
O! fy nelaf anwylyn,—wel, tyred
Ar ol torri 'nghetyn;
Yn y gornel ddi elyn
Fy nghôl gei, fy angel gwyn.
Ni chei fy ngwg na'm grwgnach,—fy nghariad
Am fy ngyrru'n hynach;
Gemau Awen, gei mwyach,—
Derbyn y byd, Robin bach.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Ei Nain.