Chydig ar Gof a Chadw/Ffoedigaeth Lot
Gwedd
| ← Penillion Fy Ewythr | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
Y Gwn Un o'r gloch → |
FFOEDIGAETH LOT.
FFOI 'roedd Lot i ffwrdd o'i lŷs—a'i ddwyferch
Ddiofid mae'n hysbys;
Daeth o'r fro drwy daith ar frys
Yn ddiangol ymddengys!
O ddrwg nid oedd ei wreigan—yn dewis
Dianc yn ei choban;
Glynai serch y wenferch wan
Yn Sodom wrth "Own Sidan."