Chydig ar Gof a Chadw/Gŵr yr eisteddle ucha
Gwedd
| ← Ar Lan Afon | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
Y Wialen Fedw → |
GWR YR EISTEDDLE UCHAF.
ANRHYDEDDUS rhaid adde',—yw ei swydd
A'i sêl dros y pethe;
Daw i'r ŵyl, daw o rywle,
Ai llwyfan oll a fyn e'?
Nid yw yr hwyl—hwyl o hyd—yn ddigon
I'w ymddygiad ynfyd;
Yr whole gêr—yr Hull i gyd,
He must have—a'r mast hefyd.