Chydig ar Gof a Chadw/Haf gwlyb 19—
Gwedd
| ← Beddargraff Hen Boacher | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
Harri Bach → |
HAF GWLYB 19—.
ODDEUFIS annoddefol—gwlaw o hyd—
Ow galedi treiddiol!
Mae arwydd anhymorol
O farn Duw ar fryn a dôl
Grawn a gweiriau yn gorwedd—a'r ydau
Dan ddifrodol lygredd;
Dyfnhau'i glwyf wna deufin gledd—
Gwers Iôn a'r drwg o'r Senedd.
Pwy ŵyr pa hyd y pery—O Dduw Nâf
Fydd hîn well yfory?
Mae'n anodd, mi wn hynny,
I dlawd ŵi adael ei dŷ.
I awenydd cyn waned—onid tost
Yw gwneud dim ond cerdded—
Ond o'i araul haul ar lêd
Mae Iôr yn dwyn ymwared.