Neidio i'r cynnwys

Chydig ar Gof a Chadw/Hamilton Sq., Birkenhead

Oddi ar Wicidestun
← Dychangerdd y Critic Chydig ar Gof a Chadw

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)

Rhuthr Sion Ben Tarw →

HAMILTON SQUARE, BIRKENHEAD,
o dan ofal Mr. Tom Edwards.

RHOI i Edwards anrhydedd—wna'r lawnt hon
Ddarlun teg o rinwedd;
Nefolaidd fawl iddo fedd
Ei chu geinwych ogonedd.

Fe âd ef o hyd ei ol―ar lawer
O welyau'n swynol;
I'w hedrych ewch drwy ei chôl,—
Fu Eden yn fwy hudol?

Iddo, drwy ei ddiwyd ran—a'i foddus
Feddwl wrtho'i hunan;
Llun ei wlad Llanelidan,
A'i daear fyg ydyw'r fan.


Nodiadau

[golygu]