Neidio i'r cynnwys

Chydig ar Gof a Chadw/Harri Bach

Oddi ar Wicidestun
Haf gwlyb 19— Chydig ar Gof a Chadw

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)

Dathliad Priodas R. T. Roberts

"HARRI BACH,"

gor-ŵyr y diweddar Asiedydd o Walia—yn nhŷ ei daid
a'i nain (Mr. a Mrs. Isaac Davies, yr " Woodlands,"
Birkenhead).

HARRI bach, yn Gymro bydd,—wyt or-ŵyr
Pert i'r hen Asiedydd;
Nefol hardd, fel ei hirddydd,
Fywyd o ddawn fo dy ddydd.

Fe yrri a'th arferion,—hyd yn oed
Daid a nain yn deilchion;
A denol iaith dy wên lon
Wna yr "Woodlands " yn rhadlon.


Nodiadau

[golygu]