Chydig ar Gof a Chadw/Hefin a Mai
Gwedd
| ← Geneth 18 oed | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
Priodas Ifan ab Owen Edwards → |
HEFIN A MAI,
sef priodas Huw Ifor Huws a Mary Adelaide
Humphreys (May)—y ddau o Birkenhead.
FE ddylifodd haul Hefin―eleni
Ei ddylanwad dibrin;
Uno dau heb ofn dewin
Wnaeth ei fwynaidd hafaidd hin.
Drwy'u hoes dymunaf drysor—i'w mwyniant
Pwy ddymuna agor?
I May yn stâd Mai yn stor,
A hin Hefin i'w Hifor.