Chydig ar Gof a Chadw/Hen Alawon Cymru
| ← Miss Sydney Jones | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
Nebuchodonosor → |
HEN ALAWON CYMRU.
(Ail oreu yn Eisteddfod Genedlaethol Rhyl).
CODIAD YR HEDYDD.
DYLANWAD o lawenydd—ga' hudol
Godiad yr Ehedydd;
Daear deg gofleidia'r dydd
Dan foreuwawd nef froydd.
MORFA RHUDDLAN.
O ORWEDDLE mawr Rhuddlan,—rhoes telyn
Ei thrist alaw allan;
I lwydo gwedd Gwlad y Gân,
Llwydd fynnodd a'i lleddf anian.
PEN RHAW.
YN frwd tôn hefo'r tannau,—byw wna'r hen
"Ben Rhaw" drwy'r blynyddau;
Am ei llafur pur i'n pau
Lle fynn ar ein llwyfannau.
Y GARREG WEN.
O GYWIR gaine y Garreg Wen—y del
Hudolus leddf acen;
Sain hyfryd bywyd ar ben
Rwydd grea ddagrau awen.
CLYCHAU ABERDYFI.
ALAW fawrheir,—hawlia fri,—yw uchel
Glychau Aberdyfi;
Daw trwy iaith ei hun, dau, dri,
Adloniant a hwyl ini.
SERCH HUDOL.
SŴN gwefus, sain guaf sydd,—er iachad
Yn "Serch hudol" beunydd ;
O'i phur gainc i'r ieuainc rhydd
Beraidd win, bâr ddywenydd.
AR HYD Y NOS.
"AR hyd y nos "roed i ni,—o ddawn brudd
Yn bereiddiol gwmni;
Nid oes hûn i'w dwys ynni—
Hoffir ei hiaith effro hi.
TORIAD Y DYDD.
TER ydyw dawn "Toriad y dydd,"—ar rawd
Hyfrydol drwy'n broydd;
Anaf hwyr i hon ni fydd,—
Dal wna yn hudol newydd.
GWYR HARLECH.
GWAU ei thân drwy'n gwytheni—wna'r orlawn.
"Wŷr Harlech" clod iddi;
Llon iawn gyfeillion ini
Grea'i choedd ryfelgyrch hi.
LLWYN ONN.
RHINIOL nerth yr hen "Lwyn Onn,"—guaf rin
All gyfrannu swynion;
Fe hawlia'i lleddf fel ei llon,
Anogaeth Telynegion.
Y GWENITH GWYN.
"Y GWENITH GWYN," hithau ga'—ddigonedd
O ganu, pwy beidia?
Yn beraidd brudd hi barha
Uwch golud yn serch Gwalia.
CWYNFAN PRYDAIN.
MOR ddistaw mor ddiosteg,—yw parhad
"Cwynfan Prydain" lyfndeg;
Dwys ofidus fu adeg
Y dyner dôn ara' deg.
HEN WLAD FY NHADAU.
TRA bo'r Wendon,—tra Bryndir,—eofn nwyd
"Gwlad fy Nhadau" deimlir;
Noda'r gân â'i mwynder gwir
Unfrydedd ein hen frodir.