Neidio i'r cynnwys

Chydig ar Gof a Chadw/Manon Lewis

Oddi ar Wicidestun
Olwen Margred Chydig ar Gof a Chadw

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)

Mrs. Evan Evans, Birkenhead

MANON LEWIS,
Merch y Parch. W. A. Lewis, Lerpwl, yn ennill dwy
wobr am adrodd yn Eisteddfod y G'lomen Wen, B'head.

Mi wnawn lw mai Manon Lewys—yw hon,
Ei hanes sy'n hysbys;
Honna bawb mae'i henw byw
Yn fwy heddyw fe wyddys.

Mwyniant fo bywyd Manon,—eleni
Boddlonodd bob calon;
Iddi, dwy o'r gwobrwyon
Yn syth aeth y noswaith hon.

Gan y "G'lomen Wen," mae'n wir—ei gwedd hoff
A'i gwiw ddawn edmygir;
I lwyfanau'n ŵyl feinir
Rhoed ei hoes hyfryd a hir.


Nodiadau

[golygu]