Chydig ar Gof a Chadw/Miss Sydney Jones
Gwedd
| ← Torri ar ei arfer | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
Hen Alawon Cymru → |
MISS SYDNEY JONES, PENRHYNDEUDRAETH.
GWN fy hun fod gan y fâd—Sydney lais
Dania lond adeilad;
Fel swyn o fwyn gyfuniad,
Odl a thôn hen deulu'i thad.
Dynion i Rhyd yn anrhydedd oeddynt
Ac ydynt yn gydwedd;
A'u cu aelwyd tra'n coledd
Tân a thant yn nyth o hedd.
O'u mwyn dalent mae'n dilyn—i Sydney
Ras adnod ac emyn;
Onid alaw i delyn
Llysfoel hoff yw llais fel hyn?
Gwylio rhwysg ei halaw raid—uwch y wlad
Gyda'i chlodydd dibaid
I dirion dir ei hen daid,
A thannau y Brotheniaid.