Neidio i'r cynnwys

Chydig ar Gof a Chadw/Nebuchodonosor

Oddi ar Wicidestun
Hen Alawon Cymru Chydig ar Gof a Chadw

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)

Fy narlun gyda dau gyfaill

NEBUCHODONOSOR YN PORI GLASWELLT.

HA! Frenin, ce'st fraw hynod,—gŵr barfog,
A'r borfa'n dygymod;
Buost wychaf, falchaf fod,—
Buost fel y bwystfilod!

******
Ar y maes pan ormeso, anifail
Fo'n nwyfus i'w ruthro;
Gwael yw gwerth ei benglog o,
Heb gorn mae'n debyg arno.

Fe welodd yr anifeiliaid—ei fod
O dan farn felldigaid;
Fe ruodd ef ar y ddôl,
Anianol berchen enaid.

******
O anialwch annuwiolion, y mae
Yn ein mysg ynfydion
Yn aros hyd yr oes hon,—mewn swyddau,—
Sy' fel eidionau yn safle dynion.


Nodiadau

[golygu]