Neidio i'r cynnwys

Chydig ar Gof a Chadw/Olwen Margred

Oddi ar Wicidestun
D. Ffrancis, y Telynor Dall Chydig ar Gof a Chadw

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)

Manon Lewis

OLWEN MARGRED,
Wyres Mr. a Mrs. R. O. Williams, Laurel Rd., Lerpwl.

OLWEN MARGRED, rhaid credu,—yw golud
Ac eilun y teulu;
Ennyn cân wna'i Gwanwyn cu,—
Wych wyres hawdd ei charu.

Ei nhain ni yrr yn hynach,—ei thaid doeth
Deithia'n llawer sioncach;
Llawenydd penna'u llinach,
Feddyliwn, fydd Olwen fach.

Buan i glod o ben glin—ei thaid â'r
Eneth deg a hydrin;
Yn R.O. addfwyn ei rin,
Mae athro all ei meithrin.


Nodiadau

[golygu]