Chydig ar Gof a Chadw/Penri
Gwedd
| ← Er Cof am Syr O. M. Edwards | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
Y Tywydd → |
PENRI,
mab bychan Mr. J. W. Jones, Bl. Ffestiniog.
MI wna'n wir, heb ohirio,—unrhyw beth
Penri bach i'th foddio;
Hwda englyn gwyn i'th go',—
Cof atat cei fwy eto.
Bydd yn fachgen talentog,—a gwrol,
Y goreu'n Ffestiniog;
Rho wyn fawrhad i'r hen fro,—
Gwna dy gân a dy geiniog.