Chydig ar Gof a Chadw/Rhuthr Sion Ben Tarw
| ← Hamilton Sq., Birkenhead | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
Dr. Owen → |
RHUTHR SION BEN TARW
ar Ddyffryn Ceiriog (pan y gwnaed cais gan Gorfforaeth Warrington i
brynu'r Dyffryn a'i droi'n Llyn at wasanaeth y Dre honno).
HERIWN y Sais yr hwn sydd—a'i olwg
Ar Walia'n dragywydd;
Eisiau dŵr fo nos a dydd
Ar greawdwr gwirodydd!
Yn awr codwn er cadw—Glyn Ceiriog
Lawn cariad rhag hwnnw;
Naturiol i ben tarw
Ar y maes yw rhuo mw.
Rhued ei ru hyd yr haf,—ac wedyn
Drwy gydol y gaeaf;
Ariannog nerth yr hen gnaf
Yw ei daerni cadarnaf.
Pentyred y Pen Tarw—ei lawn dål
Yn hudolus ddelw;
A drydd ef dir, aeddfed dŵ
Huw Morus yn fôr marw?
Dyddynwyr dedwydd unawl—a chwi'n falch
O hen feirdd naturiawl;
A fydd i chwi'n wirfoddawl
Fframio dŵr i "Ffirm y Diawl"?
Gwyliwch ei frad ofnadwy—a chofiwch
Hefyd am "Myfanwy,"
Dylai'r plant o lawer plwy
Gyd-redeg hyd yr adwy.