Neidio i'r cynnwys

Chydig ar Gof a Chadw/Spectol Glanbarlwyd

Oddi ar Wicidestun
Plwc y Bardd i'r Bais Gwta Chydig ar Gof a Chadw

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)

Beddargraff Hen Boacher

WRTH GYFLWYNO SBECTOL I GLANBARLWYD.

GWELD y byd myglyd ymhell, gweld y pwynt,
Gweled pawb yn well—well;
Gweld yr Haf o'i ystafell,
A gweld y wawr mewn gwlad well.


Nodiadau

[golygu]