Chydig ar Gof a Chadw/Stesion y Dduallt
Gwedd
| ← Now'r Allt | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
Wm. Phylip, Ddwyryd → |
YN NHY "STESION Y DDUALLT"
ar linell gul Ffestiniog. Anfon i Boston Lodge, Pen y
Cob, am adgyweiriad.
ANOBEITHIOL yw'n bwthyn,—at ollwng
Mae tyllau'n ei goryn;
Dros ein desg dŵr sy'n disgyn,
Ac ar y llawr y ceir llyn.
Ail i Einon a'i lonaid—o ddwfr oer
Oddi fry yn ddibaid;
Mae'n lle oer, fe wna min llaid
Balas i benebyliaid.
Dwfr welaf os dof i'r aelwyd,—y llawr
A phob lle a wlychwyd;
Gwlyb fwthyn a llencyn llwyd
O'i fewn yn goddef annwyd.
Trwy y ffenestr, ffei honi,—fe red dŵr,
Af o'r tŷ rhag boddi;
Dafydd Rhisiat dowch ati
Am un waith er fy mwyn i.