Chydig ar Gof a Chadw/Thos. Ll. Pritchard a T. W. Jones
Gwedd
| ← J. W. Thomas, Y.H. | Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
R. T. Jones, Y.H. → |
AR DDYRCHAFIAD
T. Ll. Pritchard a T. W. Jones, Penrhyndeudraeth, yn
Ynadon Heddwch.
DAU ŵr rhagorol o drugaredd―fydd
Ar y Fainc yn eistedd;
Drwy'i hynni o du rhinwedd,
Dyna hwy'n Ynadon Hedd.
Abl fodd T. W. fyddo,—y diball
Brofiad byw sydd ganddo;
Rhodder yr hollwir iddo,—
Gwron ffeind mewn gair wneiff o.
T.L.P. fel talp o hedd,—goleuddysg
Lwydda'n wyneb rhysedd;
Ac ar y farn gywir fedd,
Rhagored ei drugaredd.