Neidio i'r cynnwys

Chydig ar Gof a Chadw/Y Cybydd

Oddi ar Wicidestun
Y Wialen Fedw Chydig ar Gof a Chadw

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)

Cyfarchiad i Isaac Davies

Y CYBYDD.

BODDHAD cybydd ydyw ceibio—am aur
Ei dymhorol eiddo;
Am hel o hyd y mae o,
Y dyhiryn diwario.

Ond ei neiaint annuwiol—a'i gwariant
Am y gwirod damniol;
Fel yna, bydd diflanol
Sarhad i'w bwrs ar ei ol.


Nodiadau

[golygu]