Chydig ar Gof a Chadw (testun cyfansawdd)
| ← | Chydig ar Gof a Chadw (testun cyfansawdd) gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) |
→ |
| I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Chydig ar Gof a Chadw |


HYNAWS DDARLLENYDD,
"Y DALENT o wneud elw—ni feddaf,
Na fydded dim twrw;
Am yr hyn ynt—cymer nhw,
"'Chydig ar gof a chadw."
Dy ufudd was,
GWILYM DEUDRAETH.
61 Claughton Road,
- Birkenhead
'CHYDIG AR
GOF A CHADW
O WAITH
GWILYM DEUDRAETH
[AIL ARGRAFFIAD.]
LERPWL:
YNG NGWASG "Y BRYTHON",
HUGH EVANS A'I FEIBION, 356/358 STANLEY ROAD.
MCMXXVI.
RHAGAIR.
ANNWYL GYD-WLADWYR,
Poenais ganwaith am na fuasai cynnyrch awen fy nghymydog
talentog, Gwilym Deudraeth, wedi eu casglu ynghyd mewn llyfr, a chyda
help cyfeillion, heliais gannoedd o'i Englynion, a che's yr awdur i ddethol
y rhai cymhwysaf i'w hargraffu—a dyma nhw. Dros ddeuddeng ugain
am ddeunaw, a dwy gân ffraeth yn fendin. Os ca'r werin gymaint pleser
wrth eu darllen ag a gefais i wrth eu casglu, byddant yn berffaith foddhaol.
Diolch i bawb a addawodd brynu'r llyfr, a diolch fwy i'r boneddwyr hyn am help i ddwyn traul yr argraffu:
| Enw | £ .s. c. |
| Y Dr. John Owen Jones, Treffynnon | 2.2.0 |
| Mr. Morgan Owen, Porchester Terr., Llundain | 2.2.0 |
| Mr. Thos. Davies, Bryn, Prenton, Birkenhead | 2.0.0 |
| Mr. O. C. Roberts, Bryntirion, Birkenhead | 2.0.0 |
| Mr. Isaac Roberts (Ap Carrog), Mossley Hill, Lerpwl | 1.1.0 |
| Dienw | 1.1.0 |
| Mr. John Hughes, 20 Oxton Rd., Birkenhead | 1.0.0 |
| Mr. W. R. Pritchard, Bidston Avenue, Birkenhead | 1.0.0 |
| Mr. Joseph Humphreys, Y.H., Penrhyndeudraeth | 1.0.0 |
| Mr. H. Humphreys-Jones, A.I.C., School of Pharmacy, Lerpwl | 0.10.6 |
| Y Parch. T. J. Williams (Creigfab), Rock Ferry... | 0.10.6 |
| Mr. Isaac Davies, 41 The Woodlands, Birkenhead | 0.10.6 |
| Mr. A. R. Fox, Alexandra Drive, Lerpwl..... | 0.10.0 |
| Mr. Edward Jones, Recreation Offices, Newtown | 0.10.0 |
| Mr. T. Humphreys Jones, Bryn Orthin, Wallasey | 0.10.0 |
| Y Parch. W. A. Lewis, 87 Sheil Road, Lerpwl | 0.10.0 |
| Mr. Hugh Lloyd, Richmond Terrace, Lerpwl | 0.10.0 |
| Mr. Alun McDonald, Glynwood, Wallasey | 0.10.0 |
| Mr. J. W. Thomas, Y.H., Tan y Bwlch, Ffestiniog | 0.10.0 |
| Y Dr. G. Parri Hughes, Blaenau Ffestiniog | 0.10.0 |
| Mr. R. E. Hughes, "Crofton," Birkenhead | 0.10.0 |
| Mr. David Jones, Y.H., Colonial House, Lerpwl | 0.10.0 |
| Mr. J. C. Roberts, The Promenade, Southport | 0.10.0 |
| Mr. Ifan Thomas, Melrose, Birkenhead | 0.7.6 |
| J. | 0.5.0 |
| Mri. R. Wyn Edwards a Morris, Renshaw Street, Lerpw | 0.5.0 |
| Mr. J. W. Evans, 12 Kirkland Avenue, Birkenhead | 0.5.0 |
| Mr. J. R. Owen, 40 Holly Bank Road, Birkenhead | 0.5.0 |
| Mr. Gomer D. Roberts, Jenstan, West Kirby | 0.5.0 |
| Mr. Ben Thomas, 5 Fearnley Road, Birkenhead | 0.5.0 |
| Mr. Thos. Williams, 15 Monro Street, Lerpwl | 0.5.0 |
| Mr. R. E. Davies, Wynne Rd., Bl. Ffestiniog | 0.2.6 |
| Mr. Evan Evans, 20 Primrose Road, Birkenhead ..... | 0.2.6 |
| Mr. G. W. Hughes, 70 Kingsley Road, Lerpwl | 0.2.6 |
| Mr. R. R. Jones, Cefnfaes, Bl. Ffestiniog | 0.2.6 |
| Mr. R. Vaughan Jones, 52 Hertford Rd., Bootle. | 0.2.6 |
| Mr. Hugh Roberts, Derfel House, Birkenhead | 0.2.6 |
| Mr. R. T. Roberts, Jackson Street, Birkenhead... | 0.2.6 |
| Mr. R. G. Williams, Hamilton Square, Birkenhead... | 0.2.6 |
| Mr. David Williams, 12 Wylva Rd., Lerpwl | 0.2.6 |
| Cyfaill o Parkfield | 0.2.6 |
| J.R. | 0.2.6 |
| Hen Gyfaill o Ffestiniog. | 0.2.6 |
| Gol. Y Brython | 0.2.6 |
| Collwyn, Fairfield, Lerpwl | 0.2.6 |
| R.R.R., Blaenddol, Trawsfynydd | 0.2.6 |
| Monwr | 0.2.6 |
- Yn gywir,
- ISAAC DAVIES
- (Ap Asiedydd o Walia).
- ISAAC DAVIES
CYNHWYSIAD.
Y Bardd a'i Lyfr
Si lwi lwli, Bili bach
Uwchben Bedd Modryb
Fy annwyl Fam
Yr Anwydwst
Dychweliad y Bardd o'r Ysbyty
Fy Awen
Hy
Hen Gyfreithiwr
Y Rhew ar ol Hin Wleb
Gwell Ci byw
Y Gath ddu a gwyn
Y Gath arall
Y Knocker up
Ysmygyn
Yr Hen Lanc
Hydref, 1923
Gwanwyn Oer
Dydd Gŵyl Domos
Ein Rhieni Cynta'
Crwydryn afiach
Gwell hwyr na hwyrach
Ar ol ymfudo
Y Pellseinydd
Y Fesen
Y Parch. Wm. Nicholson
Cwympiad Dail
Y Chwedleuwr
Chwidredd
Yr Eilun addolwr
Ymholiad
Gormod o heyrn yn y tân
Olwen
Er Cof am Ann Roberts
Anwariaid y Warehouse
Sen y Meddyg
Y Balmwydden
Dr. Lloyd, Llan Ffestiniog
Y Ford Gron
Tegfelyn
Ar Lan Afon
Gŵr yr eisteddle ucha
Y Wialen Fedw
Y Cybydd
Cyfarchiad i Isaac Davies
Ysgwyd Llaw
Ymson Credadyn tlawd
Gwrthrychau tosturi
Fy Ardystiad
Y Forwyn afler
Plwc y Bardd i'r Bais Gwta
Spectol Glanbarlwyd
Beddargraff Hen Boacher
Haf gwlyb 19—
Harri Bach
Dathliad Priodas R. T. Roberts
Geneth 18 oed
Hefin a Mai
Priodas Ifan ab Owen Edwards
J. W. Thomas, Y.H.
Thos. Ll. Pritchard a T. W. Jones
R. T. Jones, Y.H.
G. P. Jones, Y.H.
Y Parch. Cunllo Davies
Eldred bach, Bryntirion
O. C. Roberts, Ysw., Birkenhead
D. Roger Rowlands, Ysw., B'head
Conwy Edwards, Ysw
D. Ffrancis, y Telynor Dall
Olwen Margred
Manon Lewis
Mrs. Evan Evans, Birkenhead
Y Parch. R. R. Williams, B.A.
Mawredd mwy
Genau glân i ganu'n glir
Fy Nymuniad
Dwyfor
Y Bardd ar ei wyliau yn Lloegr
Arch mewn ffenestr Shop
Claddu Nain
Crefyddwr Llac
Torri ar ei arfer
Miss Sydney Jones
Hen Alawon Cymru
Nebuchodonosor
Fy narlun gyda dau gyfaill
Distawrwydd
Melltith yr Oes
Hedd Wyn
Herbert bach
String Band y Gymanfa Ganu
Cymanfa'r Sulgwyn
Wrth ddrws Aled Davies
Arthur yn gwneud gwal
Dyn yr Insurance
Hen Lythyrau
Coch Bach y Bala
Marw Syr O. M. Edwards
Dr. John Williams
Penillion Fy Ewythr
Ffoedigaeth Lot
Y Gwn Un o'r gloch
Coron, Ci'r Dduallt
Now'r Allt
Stesion y Dduallt
Wm. Phylip, Ddwyryd
Tan y Bwlch yn yr Haf
Lladd Ned y Ci
Cronglwyd Dyfrdwy
Afon Maentwrog
Yn y Parc
Par o 'Sanau
Tŷ ar Osod
Dychangerdd y Critic
Hamilton Sq., Birkenhead
Rhuthr Sion Ben Tarw
Dr. Owen
Gwrthrych torcalonus
Torrwr Cyhoeddiad
Eifion Wyn
Y Rasion
Atebiad i'r Bardd Collwyn
Blodau Melyn Eisteddfod yr Wyddgrug
Ymadawiad y Parch. Evan Roberts o Birkenhead|
Newyddion am y Rhyfel
Owen Jones, Y.H., Erw Fair
Y Niwl Mawr, Tach., 1905
Seindorf Frenhinol Oakeley
Y Sêt Fawr
Cyngor i Wr Gweddw
Gŵr Du y Wasg
Y Meddwyn
Englynion i ŵyr y Bardd
Shon Ifan, Maentwrog
Er Cof am Syr O. M. Edwards
Penri
Y Tywydd
Hen Efail Dewi Gerddor
Cofia'r Tlawd
Y Stiward
Gwraig Tŷ Lodgin
Y Bardd yn treio dal y Tram
'Chydig ar Gof a Chadw.
Y BARDD A'I LYFR.
Ni ddaw o'i lyfr iddo les;—i râs bardd
Dyrus bwnc yw busnes;
Dim, druan fydd ei hanes—
Dyn y print sy'n dwyn y pres.
SI-LWI-LWLI BILI BACH.
BILI bach o helbul y byd—a'i gŵyn
Gafodd gynnar weryd;
Uwch ei lwch awel iechyd
Sua gân i'w gwsg o hyd.
UWCH BEDD FY MODRYB
ym mynwent St. Mary, Bootle.
YN syn drist o sŵn y dre—y deuais
I'r dawel fud fangre;
Er wylo uwch ei hoer le,
Ni ddaw modryb ddim adre.
FY ANNWYL FAM.
AM ei gwenau mŷg ynom—mae mawr gur
Mam ragorol erom,
Oedd, er yn weddw—ei rhiniau wyddom;
Gofalai'n dyner, dyner am danom;
Hyd donnau ysig fe gyd—dynasom;
Ac aml i gysur digwmwl gawsom.
Ei bywiog lais yn ei burdeb glywsom;
Iddi y ganwyd deuddeg o honom.
Rhodio'n ol ei thraed wnelom,—adnodau
A pheraidd dônau, ei ffordd adwaenom.
YR ANWYDWST.
AR gwrr y tân, a'r grât, ennyd—gwridaf
Yn greadur rhynllyd;
Mae 'ngorff bach afiach hefyd
Fel rhew neu foiler o hyd.
DYCHWELIAD Y BARDD O'R YSBYTY.
YMA i orwedd a marw—y deuthum,
Ond bendithiaf enw
Fy Nuw Dad, am fuan dŵ
Mwyn wellhad a mi'n lludw!
Ce's boen, ond ce's obennydd—cysurus;
Ce's orwedd yn llonydd ;
Ce's adfywhad toriad dydd
Drannoeth, a chodi drennydd.
Ce's gerdded 'chydig wedyn,—er yn wan,
Ar un wedd â chorffyn;
Ce's flas ar gymdeithas dyn
I 'mywiogi â" mygyn."
FY AWEN.
DIOLCH i'r Nef fod awen,—mae hi'n help,
Mi wn hyn mewn angen;
Eiddiled yw ar ddalen,
Byddai'r bardd hebddi ar ben.
Eiddiled yw ar ddalen,—mi wn hyn
Mae hi'n help mewn angen;
Diolch i'r Nef fod awen—
Byddai'r byd hebddi ar ben.
"HY."
MAE'n resyn gwel'd dyn yn cael tâl—am "Hy,"
Heb ddim hwyl i'w chynnal;
Beth sy mor sobor o sâl
A pheswch artiffisial?
HEN GYFREITHIWR.
EITHA rôg, fe aeth i'r rhwyd,—hen ewach
Annuwiol a gladdwyd;
O Fadog hwn a fudwyd
I'r un lle â'r twrne Llwyd.
Tynnu'r diafl drwy'r tân a'r dŵr,—a'i osod
Yn isa'n y pentwr;
Ar ei gefn rhoi llawer gŵr
Frathodd yr hen gyfreithiwr.
Ymroi i boen marw a byw,—annuw
Ei enaid yn nistryw;
Enwog oedd,—beth bynnag yw,—
Truan—nid twrne ydyw.
Yn y llys tu draw i'r llen,—ni fedd ef
Fwy o ddawn na meipen;
Ac yn y dirfawr gynnen,
Mae'n bod heb ddim yn ei ben.
Y RHEW AR OL HIN WLEB A CHYNNES.
O! REW distŵr, deuaist ti—i roi taw
Ar wawd tywydd digri';
Nid gaeaf na haf oedd hi,
'Roedd rhy'wyr iddi rewi.
"GWELL CI BYW NA LLEW MARW."—Dihareb.
O! mor wael os marw yw—y llew mawr
Ni all mwy wneud distryw;
I wlad, mwy perigl ydyw
Chwannen fach a honno'n fyw!
Y GATH DDU A GWYN.
CRIPIO a rhwygo'r hogyn,—torri llestr
A lladd yr aderyn;
Ac yfed y llaeth wedyn
Yw gwaith y gath ddu a gwyn.
Y GATH ARALL.
PASIODD o flaen Miss Pwsi—chwyrn nwydwyllt
Ddychrynedig filgi
Fel mellten trwy yr Entri,—
Cythraul yw cath ar ol ci.
Y KNOCKER UP.
Y Knocker Up sy'n cripian—ei hir ffon
Ar y ffenestr allan;
Tery'n flin—fel drycin drom,
Neu storom i'n hystwyrian.
YSMYGYN.
YN wir—gwenwyn ar ginio—i du mewn
Ydyw mŵg tybaco;
Ond ar ei ol, i'w dreulio,
Ni chawn falm iachach na fo.
YR HEN LANC.
MEWN Hen Lanc mae hunan les—yn ei wneud
Yn un oer a diles;
Dyn unig—dyna'i hanes,
Dyn heb wraig yn dwyn ei bres!
HYDREF, 1923.
Bu i'r haf gwlyb a rhyfedd,—oer wyro
I weryd o'r diwedd;
Ond wele'n llawn hudoledd,
Hydref aur yn crwydro'i fedd.
GWANWYN OER.
BRAU yw agwedd y brigyn,—o'i briddell,
Heb arwyddion blodyn;
Amlyga'r ddaear i ddyn
Ardd gynnar ddi—eginyn.
DYDD GWYL DOMOS.
WEL, dyma Ddy' Gŵyl Domos,—a bore'r
Dydd byrraf yn agos;
Gwawr ddi—yngan gâr ddangos
Terfyn hynt yr hwyaf nos.
Haeledd iach i leoedd yrr—elusen
Yng nghôl iasoer Rhagfyr;
Dyma lith ei dwym lythyr,—
Bwydydd i bawb y dydd byr.
EIN RHIENI CYNTA'.
YN Eden cyn ein geni,—Adda'n tad
Oedd ddyn teg ei noethni;
Ac Efa'i wraig, decaf fri,
Mam dyn, heb ddim am dani!
CRWYDRYN AFIACH.
Er brif ddadl drwyadl, druan,—ar hyd bro,
Ydyw brest yn gwichian;
Ca'dd yn wir, cyhoedda'n wan,
Golled wrth gysgu allan.
GWELL HWYR NA HWYRACH.
"Os allan yn rhodiana—yr oeddyt
Foreuddydd dy yrfa;
Tro i fewn cyn terfyna
"Oedfa'r hwyr,"—edifarha.
AR OL YMFUDO.
GWYLIAF rhag gosod gwely,—na rhoi dim
O'r domen i fyny;
'Rwy'n bendant denant mewn tŷ,
Ond wna'i fawr dan yfory.
Y PELLSEINYDD.
ENWOG was, chwim negesydd,—red yn nerth
Trydan yw'r pellseinydd;
Ei 'stori oll i'r glust rydd
Ef o enau'r anfonydd.
Y FESEN.
CHWAER ddel wrth ochr y ddeilen—werdd yw hi—
Arwydd haf ar gangen
Syrth ar ddôl; ond breiniol bren,
Saif oesau, roes y fesen.
Y PARCH. WILLIAM NICHOLSON.
GWYRAI o flaen ei gref floedd—weis cedyrn—
Ysgydwai dyrfaoedd;
Cu lais Naf Nicholson oedd,—
Nef urddedig fardd ydoedd.
CWYMPIAD Y DAIL.
WEDI haf a'i fwyn dyfiant,—dail y coed
Wyla'u cerdd mewn gwywiant;
Ac oer hydref hwy grwydrant
I ofyn bedd mewn dwfn bant.
Y CHWEDLEUWR.
GYDA'I gêg o hyd, a'i go',—hyawdl yw
Y Chwedleuwr effro;
Dylem i gyd ei wylio,—
Gwneud drwg yw ei natur o.
CHWIDREDD.
Ei wadu nis gall hoeden,—dyna'i waith,
Dynoethi ei berchen;
Fel gormod o'r ddioden,
Chwidredd y balch drydd i'w ben.
YR EILUN ADDOLWR.
EFE a'i law ffurfia lûn—duw o bren,
Od ei bryd a'i gynllun ;
Hwn addola nâdd—eilun
Duw na ŵyr am dano'i hun.
YMHOLIAD.
MAE yn hawdd, mi wn, i un—draw o'i wlad
Droi o'i lwybr yn ddilun;
Darewaist di ar rywun—
Ge'st di hwyl ar gost dy hun?
"GORMOD O HEIYRN YN Y TAN."
GWLADWYR a theg aelodau—seneddol,
Sy'n addaw gwelliantau;
Rhowch un peth, mawrhewch ein pau,—
Na chybolwch y "Biliau."
OLWEN—GOR-WYRES EHEDYDD IAL.
O DIRIONED yr enw—gwyned yw
Gwneud ei ol wna hwnnw;
Trwy ei dysg eto ar dŵ,
Gwnaed Olwen gnwd o elw.
ER COF
am Ann, priod Wm. Roberts, Lerpwl.
HEB dy Ann, William annwyl,—nid yw'r byd,
Er ei barch, ond arwyl;
Oni bydd 'mhen gronyn bach
Yn hawsach cadw noswyl?
ANWARIAID
yn y "Warehouse" yn Bear Street—lle gweithia'r Bardd.
MAE bod o dan orfodaeth—i un dyn
Yn deg mewn gwasanaeth;
Dyna gosb, yw bod yn gaeth
Dan wehilion dynoliaeth.
Heb aros trof o Bear Stryd,—lle ryffiach
Na llawr uffern danllyd;
Am awyr i fy mywyd,
Gwnaf fy mhac, a gwyn fy myd.
SEN Y MEDDYG I'R MEDDWYN.
Ei ddawnus sen dreiddiai'n saeth—hyd waelod
Ei welw fodolaeth;
Dweyd yn hyf rhag diod wnaeth—
"No more ale," neu marwolaeth.
Y BALMWYDDEN.
DILWGR a gwerdd ei deilen,—drwy ei hoes,
Ydyw'r hardd Balmwydden;
Y'ngwedd ei changau addien,
Adwaenaf fyd y nef wen.
DR. LLOYD, LLAN FFESTINIOG.
DYN yw Lloyd yn oludog—o feddwl
I foddio Ffestiniog;
Am rinwedd sydd mor enwog,
Ei ddeheu law haedda lôg.
Ei afaelion na'i filiau—ni raid ofn
Er dyfned y clwyfau;
Math o help i'n hesmwythau
Ddŷd a bysedd dibwysau.
Hawddamor iddo yma, 'n—ddyn a fedd
Wên foddus fel huan;
Ni cha ing fynych yngan
Tra'r "Llwyd" yn Ddoctor i'r Llan.
Y FORD GRON.
HYFRYD yw grym y Ford Gron—oddiwrth
Wledd Arthur Bendragon;
Ei henwog Fabinogion
Yw goreu saig yr oes hon.
TEGFELYN.
PAN oeddwn lesg wrth esgyn,—anogaist
Fi yn egwan lencyn;
Yn y lleddf linellau hyn
Atgof wyla Tegfelyn.
AR LAN AFON.
Cadwen o Englynion.
MYFYRIAF ar Lan Afon:—yma caf
I'm cyfarch, bur swynion;
Caf fwyn daith—caf fendithion
Oedfeuon hedd, hyd fin hon.
Hyd fin hon bywyd fwynhaf,—tirf Natur
O fy nentu welaf;
Ac, o heirdd goed, cerddi gaf
Ar hyd y fan lle rhodiaf.
Rhodiaf, a mynaf, am enyd—lawn hwyl
I 'nhawelaf ysbryd;
Haedda f'awen gudd fywyd,—
Ca' hedd o fâr cyhoedd fyd.
Byd, o gôl bywyd, gilia—ar y lan
Dyner lonydd yma;
Ofni gwedd Unigedd wna,—
Natur hen a'i trywana.
Trywana stŵr hynaws don—ei ddifudd
A'i ofer amcanion;
Ond aur-fri—mwynder i'w fron,
Fedd trefi 'ddeutu'r afon.
Afon lawn, fyn le, yw hi,—mwynha'i hynt,
Fel mewn hwyl perori:
O'i soniarus, aneiri'
Donau mân, daw hoen i mi.
I mi, hoen yw dymunol—araith hon
Ar ei thaith barhaol;
Rhydd, â'i geiriau hawddgarol
Wers i'r hwn erys ar ol.
Ar ol nis ymdroa hi,—mae rhyw "fynd,"
Er mawr fendith, drwyddi;
Anaddas gwmni iddi
Yw llusgwr llesg ger ei lli.
Ger ei lli mae gwir wellhâd—i feudwy
Clwyfedig, amddifad,—
Afon, i gôl denol dad,
Fwynha hudol fynediad.
Mynediad yw'n mwyn nodi—diwydrwydd
Hyd adref, heb ofni
Ataliad yw mâd hyli—
Mawr fwynhad y môr fyn hi.
Myn hi, i minnau, am einioes—redeg
Rhag gwaradwydd drygfoes;
Mae yn d'weyd i mi nad oes
Marwolaeth ym Môr Eiloes!
Môr Eiloes! Ymwrolaf,—mwy o nerth
Er mwyn hwn grynhoaf;
Os troiog hynt neu rwystr gaf,
Ar rym fy Iôr myfyriaf.
GWR YR EISTEDDLE UCHAF.
ANRHYDEDDUS rhaid adde',—yw ei swydd
A'i sêl dros y pethe;
Daw i'r ŵyl, daw o rywle,
Ai llwyfan oll a fyn e'?
Nid yw yr hwyl—hwyl o hyd—yn ddigon
I'w ymddygiad ynfyd;
Yr whole gêr—yr Hull i gyd,
He must have—a'r mast hefyd.
Y WIALEN FEDW.
GOFIDUS frig y Fedwen—wna leshad
I'r sawl sydd a'i hangen;
Ni phoena praff fôn y pren[1]
Yr aelwyd lle bo'r Wialen.
Y CYBYDD.
BODDHAD cybydd ydyw ceibio—am aur
Ei dymhorol eiddo;
Am hel o hyd y mae o,
Y dyhiryn diwario.
Ond ei neiaint annuwiol—a'i gwariant
Am y gwirod damniol;
Fel yna, bydd diflanol
Sarhad i'w bwrs ar ei ol.
CYFARCHIAD
i Isaac Davies, "The Woodlands," Birkenhead, ar ol iddo draddodi
Araith ar "Hanes Methodistiaeth" yn Birkenhead (1920).
ISAAC DAVIES, cu dafod,—hyawdledd,
"Woodlands" yw'n hawdurdod;
Pob dalen o'i glir bennod,
Newydd a glân haedda glod.
Drwy'i oleu ar dreialon,—a chynnydd
Gwych enwad ei galon;
Mwynhâ llu ei gwmni llon,—
Cwmni Isaac am noson.
YSGWYD LLAW.
Y DDEUFYS na oddefwch,—ond mewn llaw
Dwym, yn llon gafaelwch;
Llaw cyfaill yw hi—cofiwch
Ysgwyd llaw nes codi llwch.
YMSON CREDADYN TLAWD.
Os wyf ddifrif amddifad—o aur byd,
Arbedir fi'n wastad;
'Rwy'n aml, ar gyfri 'nheimlad
Yn filionaire fel y 'Nhad.
GWRTHRYCHAU TOSTURI.
GWEL un ar ddigaloni,—gweddw wraig
Ddi—rym mewn tylodi;
A gwêl chwech o'i hamgylch hi'—n amddifaid,—
Bywydau gweiniaid, heb eu digoni.
FY ARDYSTIAD.
NID wyf am fynd i yfed—i dafarn,
Pe'n deifio gan syched;
Ar y gwyliau ceir gweled
Fel y mwynhaf lemonade.
Y FORWYN AFLER.
MENYN ynghanol mwnws,—mawn, a dwr,
Tomen dail a "Begws";
Mae'n y drain ym min y drws
Lon'd het o bilion tatws!
PLWC Y BARDD I'R BAIS GWTA.
WEL, haleliwia lawen,—cwta wisg,
Cwta wallt aflawen;
Ond O! na foed yr hoeden
Gwta'i phais yn gwta'i phen.
WRTH GYFLWYNO SBECTOL I GLANBARLWYD.
GWELD y byd myglyd ymhell, gweld y pwynt,
Gweled pawb yn well—well;
Gweld yr Haf o'i ystafell,
A gweld y wawr mewn gwlad well.
BEDDARGRAFF HEN BOACHER.
MAE'R wningen yn gwenu,—a'r ffesant
Orffwysa nes cysgu;
O'i orwedd dan y pridd du,
Pry genwair sy'n pêr ganu.
HAF GWLYB 19—.
ODDEUFIS annoddefol—gwlaw o hyd—
Ow galedi treiddiol!
Mae arwydd anhymorol
O farn Duw ar fryn a dôl
Grawn a gweiriau yn gorwedd—a'r ydau
Dan ddifrodol lygredd;
Dyfnhau'i glwyf wna deufin gledd—
Gwers Iôn a'r drwg o'r Senedd.
Pwy ŵyr pa hyd y pery—O Dduw Nâf
Fydd hîn well yfory?
Mae'n anodd, mi wn hynny,
I dlawd ŵi adael ei dŷ.
I awenydd cyn waned—onid tost
Yw gwneud dim ond cerdded—
Ond o'i araul haul ar lêd
Mae Iôr yn dwyn ymwared.
"HARRI BACH,"
gor-ŵyr y diweddar Asiedydd o Walia—yn nhŷ ei daid
a'i nain (Mr. a Mrs. Isaac Davies, yr " Woodlands,"
Birkenhead).
HARRI bach, yn Gymro bydd,—wyt or-ŵyr
Pert i'r hen Asiedydd;
Nefol hardd, fel ei hirddydd,
Fywyd o ddawn fo dy ddydd.
Fe yrri a'th arferion,—hyd yn oed
Daid a nain yn deilchion;
A denol iaith dy wên lon
Wna yr "Woodlands " yn rhadlon.
"CWLWM SY'N DAL,"
sef dathliad priodas arian Mr. a Mrs. R. T. Roberts,
Jackson Street, Birkenhead.
BYWIOG wên "Bob ac Annie,"—fedd lonnaf
Ddylanwad eleni;
Haedda'u hunol wedd heini
Englyn o fy nhelyn i.
Mor rydd a hoff—mor ddiwahân—ynt hwy
Yn eu tawel drigfan;
Sieryd priodas arian
Fod gwerth ar fywyd o gân.
Boed eu hannedd heb donnog,—arw for
O firi tymhestlog;
Hapus, dangnefeddus fo,
Gŵr clên a gwraig galonnog.
BEDDARGRAFF GENETH IEUANC.
O! WYRYF deg arafa di,—a gwel
Y golofn sy'n nodi
Nad henaint a'm clodd tani;
Un ddeunaw oed oeddwn i.
HEFIN A MAI,
sef priodas Huw Ifor Huws a Mary Adelaide
Humphreys (May)—y ddau o Birkenhead.
FE ddylifodd haul Hefin―eleni
Ei ddylanwad dibrin;
Uno dau heb ofn dewin
Wnaeth ei fwynaidd hafaidd hin.
Drwy'u hoes dymunaf drysor—i'w mwyniant
Pwy ddymuna agor?
I May yn stâd Mai yn stor,
A hin Hefin i'w Hifor.
PRIODAS
Ifan ab Owen Edwards, y Neuadd Wen.
O GU fryd o serchog fron,—Eirys Llwyd
'Roes ei llaw a'i chalon;
I bwy? ond i'r Ab eon,
Hoenwedd lanc y Neuadd lon.
Neuadd Wen ddiwahaniaeth,—i'n Gwalia
Fyddo'n goleg helaeth;
Swyno ein hoes yna wnaeth
Llaw fawr rwydd a'i Llyfryddiaeth.
J. W. THOMAS, Y.H., BL. FFESTINIOG.
DIRWY drom ni rydd Tomos—ar undyn
Yn rhandir yr eos;
Ei fonedd ef yn ddi os,
A'i synhwyrau sy'n aros.
AR DDYRCHAFIAD
T. Ll. Pritchard a T. W. Jones, Penrhyndeudraeth, yn
Ynadon Heddwch.
DAU ŵr rhagorol o drugaredd―fydd
Ar y Fainc yn eistedd;
Drwy'i hynni o du rhinwedd,
Dyna hwy'n Ynadon Hedd.
Abl fodd T. W. fyddo,—y diball
Brofiad byw sydd ganddo;
Rhodder yr hollwir iddo,—
Gwron ffeind mewn gair wneiff o.
T.L.P. fel talp o hedd,—goleuddysg
Lwydda'n wyneb rhysedd;
Ac ar y farn gywir fedd,
Rhagored ei drugaredd.
R. T. JONES, Y.H., PENRHYNDEUDRAETH.
I BUR ddeiliaid bro ddilys,—mae R.T.
Gymrawd teg yn hysbys;
Prinion fydd cwynion, canys
Dyna wellâd yn y Llys.
G. P. JONES, Y.H., PENRHYN, A GWYL HARLECH
I HARLECH drwy'i ymdrechion,—pery G.
Parri Jones yn ffyddlon;
O charaf hoenwych wron,
Caraf Frut cywir ei fron.
Ie! hen Frut yw Guto,—heb esgus
Bob asgwrn ohono;
Am y rhan a gymer o
Hyd y Sir, rhaid ei syrio.
Y Parch. D. CUNLLO DAVIES, MACHYNLLETH
ABL i waith y Bibl yw o,—yr ethawl
Areithydd diflino;
Rhown fawrhad i dirion fro
Machynlleth am ei Chunllo.
PAN GYFARFU'R BARDD
â Mr. O. C. Roberts, Bryntirion, Bidston, yn chwilio am
ei fachgen bach, ebe fe:
ADRE' daw Eldred Owen,—a chap coch
Pig cam uwch ei dalcen;
I'th iach, galonnog fachgen,
Yn awr, O.C., na ro sen.
Hawlia dyn ar Holidê—fyned i
Fin y dŵr neu rywle;
Hoffa'i rownd at hen ffrindie,
A hoffa'r plant gael fair—play.
WEDI CAEL HYD I'R CRWYDRWR BACH,
ychwanegodd y Bardd:
MAE'I nwyf iach fel Mai yn fyw,—Mis y Gân
A'i grymus gôr hyglyw;
Gwanwyn oes bachgenyn yw,
Naw oed eleni ydyw.
I'w "Dirion" dŵr, enw da—roddo ef
Drwy ddiofid yrfa;
Yno athro cefnog gâ—
Deued Eldred i'w daldra.
ELDRED BACH AR BIDSTON HILL.
ER mor braf yw tramwy'r brig,—adre dos,
Eldred iach yn ddiddig;
Hebddo ti'r aur, byddai trig
Dy rieni'n dra unig.
O. C. ROBERTS, Ysw.,
"Bryntirion," Upton Road, Birkenhead.
I LÊN a llais pwy fel ein Llyw,—O.C.,
Gyda'i acen hyglyw;
Ac i lwydd ein gŵyl heddyw,
Tarian aur Bryntirion yw.
D. ROGER ROWLANDS, Y.H.
(Cyn-faer Birkenhead), a Llywydd Eisteddfod y
G'lomen Wen."
Un siŵr o'i gwrs yn sir Gaer,—yw Rolant
A'i athrylith ddisglaer ;
Yng ngŵyl wen y G'lomen glaer,
Da yw canfod y Cyn-faer.
CONWY EDWARDS,
Arweinydd Cor yr Heddlu, Lerpwl.
CONWY EDWARDS, cân ydyw—ef i gyd
Hefo'i gôr uchelryw;
Yn ei swydd hynaws heddyw,
Rhodd ei wlad i'r Heddlu yw.
Arddel ei Gôr Heddlu gwrol—wna barn
Y byd cymdeithasol;
Myn y dref gael mynd ar ol
Gwŷr y Llys—gewri lleisiol.
I Gonwy ddedwydd ddidwrf,—rhown encor
Yn un cu lawendwrf;
Ni bydd cân o bydd cynwrf
O byddo tôn, ni bydd twrf.
Enaid cân ydyw Conwy, a grym mwyn
I'w gôr mawr clodadwy;
I wybren y brif wobrwy
Ei "fatwn" ef a'i tyn hwy.
CWRDDYD D. FRANCIS,
"Y Telynor Dall o Feirion," ar Lanfa Lerpwl.
O LONFYD ar y lanfa!—pa gerddor,
Pwy gwrddais i yma?
Eilun teg—un o blant da,—
Enwog ŵyl telyn Gwalia!
Francis hoff, yr hwn sy' sant,—o ganol
Clogwyni atebant
Iddo fyth yn ddi fethiant
Lafar dôn ei ddi lyfr dant!
Wedi cwrdd am funud cu,—wedi sôn
Am adseiniau Cymru;
Mwyniant oedd ymwahanu—am dymor—
A'r hen Delynor yn dal i wenu.
OLWEN MARGRED,
Wyres Mr. a Mrs. R. O. Williams, Laurel Rd., Lerpwl.
OLWEN MARGRED, rhaid credu,—yw golud
Ac eilun y teulu;
Ennyn cân wna'i Gwanwyn cu,—
Wych wyres hawdd ei charu.
Ei nhain ni yrr yn hynach,—ei thaid doeth
Deithia'n llawer sioncach;
Llawenydd penna'u llinach,
Feddyliwn, fydd Olwen fach.
Buan i glod o ben glin—ei thaid â'r
Eneth deg a hydrin;
Yn R.O. addfwyn ei rin,
Mae athro all ei meithrin.
MANON LEWIS,
Merch y Parch. W. A. Lewis, Lerpwl, yn ennill dwy
wobr am adrodd yn Eisteddfod y G'lomen Wen, B'head.
Mi wnawn lw mai Manon Lewys—yw hon,
Ei hanes sy'n hysbys;
Honna bawb mae'i henw byw
Yn fwy heddyw fe wyddys.
Mwyniant fo bywyd Manon,—eleni
Boddlonodd bob calon;
Iddi, dwy o'r gwobrwyon
Yn syth aeth y noswaith hon.
Gan y "G'lomen Wen," mae'n wir—ei gwedd hoff
A'i gwiw ddawn edmygir;
I lwyfanau'n ŵyl feinir
Rhoed ei hoes hyfryd a hir.
MRS. EVAN EVANS, BIRKENHEAD.
ER rhagored yw'r gwron,—anhafal
Evan Evans radlon;
Doniau y wraig dyner hon
Gura'i gŵr a'i ragorion.
PRIODAS
Y Parch. R. R. Williams, B.A., Aberteifi (nai y Bardd).
Fy nai Robert, fin yr Aber,—ddaliodd
Yno Ddilys dyner;
Ni roes y ddau, gynau gêr
Afon Teifi hynt ofer.
Ei "Ddilys "i feddyliau—ei galon,
Yw'r ymgeledd orau;
Mewn purdeb boed undeb dau
Yn briodas bwriadau.
MAWREDD MWY.
MAE mewn byd, i hŷd ei hwy—mae i drwm
Ei drymach yn tramwy;
Caffaeliad amhrisiadwy
Yw dyn mawr yn gweld un mwy.
"GENAU GLAN I GANU'N GLIR."
OFER yw peint o ddwfr poeth—at oeri
Peint arall mor chwilboeth;
Mae eisiau dyn cymwys doeth
I drin creadur annoeth.
FY NYMUNIAD.
WEDI'R Cwyn a'r crwydro c'yd,—os uniawn
Yw syniad fy ysbryd;
Cyrhaeddaf yn braf ryw bryd
Drwy y baw dir y bywyd.
AT DWYFOR.
"DWYFOR" annwyl, difyr i ni—yw sôn
Am dy swynol gwmni;
O dywed pryd y deui
Eto mewn hwyl atom ni?
Y BARDD AR EI WYLIAU HAF YN LLOEGR.
RHY dost gall llawer dystio,—yw yr hin
I'r awenydd grwydro;
O'i Walia fad, wele fo,
Ar ei eistedd yn rhostio.
Mae yn y wlad ynghadw i ddoniau
Y ddinas bur elw;
Mae yn y wlad mi wna lŵ,
Iachach ac oerach cwrw.
ARCH MEWN FFENESTR SIOP YN LERPWL.
LLWYDAIS wrth weld dilledyn—wedi'i wneud
Yn iawn wrth orchymyn;
Ond beth yw gweled brethyn?
Gweled arch sy'n gwelwi dyn!
CLADDU NAIN (Hen esgusawd).
DYNA ddyn nad yw yn ddoeth,—myn ei derm,
Un dydd parha'i gyfoeth;
Clywch ei wan esgus drannoeth,—
"Yn claddu nain,"—celwydd noeth.
CREFYDDWR LLAC.
O ADDOLIAD pan ddelo,—myn ei beint,
Mwynha'i bib gan dystio,
Nad oes niwed i'w gredo,
Na dim drwg mewn mynd am dro.
TORRI AR EI ARFER.
Bu amser y rhoit bumswllt,—o beidio,
Rho bedwar neu dri—swllt;
Os nad oes pisyn deuswllt,
Hen Dori sal, dyro swllt.
MISS SYDNEY JONES, PENRHYNDEUDRAETH.
GWN fy hun fod gan y fâd—Sydney lais
Dania lond adeilad;
Fel swyn o fwyn gyfuniad,
Odl a thôn hen deulu'i thad.
Dynion i Rhyd yn anrhydedd oeddynt
Ac ydynt yn gydwedd;
A'u cu aelwyd tra'n coledd
Tân a thant yn nyth o hedd.
O'u mwyn dalent mae'n dilyn—i Sydney
Ras adnod ac emyn;
Onid alaw i delyn
Llysfoel hoff yw llais fel hyn?
Gwylio rhwysg ei halaw raid—uwch y wlad
Gyda'i chlodydd dibaid
I dirion dir ei hen daid,
A thannau y Brotheniaid.
HEN ALAWON CYMRU.
(Ail oreu yn Eisteddfod Genedlaethol Rhyl).
CODIAD YR HEDYDD.
DYLANWAD o lawenydd—ga' hudol
Godiad yr Ehedydd;
Daear deg gofleidia'r dydd
Dan foreuwawd nef froydd.
MORFA RHUDDLAN.
O ORWEDDLE mawr Rhuddlan,—rhoes telyn
Ei thrist alaw allan;
I lwydo gwedd Gwlad y Gân,
Llwydd fynnodd a'i lleddf anian.
PEN RHAW.
YN frwd tôn hefo'r tannau,—byw wna'r hen
"Ben Rhaw" drwy'r blynyddau;
Am ei llafur pur i'n pau
Lle fynn ar ein llwyfannau.
Y GARREG WEN.
O GYWIR gaine y Garreg Wen—y del
Hudolus leddf acen;
Sain hyfryd bywyd ar ben
Rwydd grea ddagrau awen.
CLYCHAU ABERDYFI.
ALAW fawrheir,—hawlia fri,—yw uchel
Glychau Aberdyfi;
Daw trwy iaith ei hun, dau, dri,
Adloniant a hwyl ini.
SERCH HUDOL.
SŴN gwefus, sain guaf sydd,—er iachad
Yn "Serch hudol" beunydd ;
O'i phur gainc i'r ieuainc rhydd
Beraidd win, bâr ddywenydd.
AR HYD Y NOS.
"AR hyd y nos "roed i ni,—o ddawn brudd
Yn bereiddiol gwmni;
Nid oes hûn i'w dwys ynni—
Hoffir ei hiaith effro hi.
TORIAD Y DYDD.
TER ydyw dawn "Toriad y dydd,"—ar rawd
Hyfrydol drwy'n broydd;
Anaf hwyr i hon ni fydd,—
Dal wna yn hudol newydd.
GWYR HARLECH.
GWAU ei thân drwy'n gwytheni—wna'r orlawn.
"Wŷr Harlech" clod iddi;
Llon iawn gyfeillion ini
Grea'i choedd ryfelgyrch hi.
LLWYN ONN.
RHINIOL nerth yr hen "Lwyn Onn,"—guaf rin
All gyfrannu swynion;
Fe hawlia'i lleddf fel ei llon,
Anogaeth Telynegion.
Y GWENITH GWYN.
"Y GWENITH GWYN," hithau ga'—ddigonedd
O ganu, pwy beidia?
Yn beraidd brudd hi barha
Uwch golud yn serch Gwalia.
CWYNFAN PRYDAIN.
MOR ddistaw mor ddiosteg,—yw parhad
"Cwynfan Prydain" lyfndeg;
Dwys ofidus fu adeg
Y dyner dôn ara' deg.
HEN WLAD FY NHADAU.
TRA bo'r Wendon,—tra Bryndir,—eofn nwyd
"Gwlad fy Nhadau" deimlir;
Noda'r gân â'i mwynder gwir
Unfrydedd ein hen frodir.
NEBUCHODONOSOR YN PORI GLASWELLT.
HA! Frenin, ce'st fraw hynod,—gŵr barfog,
A'r borfa'n dygymod;
Buost wychaf, falchaf fod,—
Buost fel y bwystfilod!
******
Ar y maes pan ormeso, anifail
Fo'n nwyfus i'w ruthro;
Gwael yw gwerth ei benglog o,
Heb gorn mae'n debyg arno.
Fe welodd yr anifeiliaid—ei fod
O dan farn felldigaid;
Fe ruodd ef ar y ddôl,
Anianol berchen enaid.
******
O anialwch annuwiolion, y mae
Yn ein mysg ynfydion
Yn aros hyd yr oes hon,—mewn swyddau,—
Sy' fel eidionau yn safle dynion.
FY NARLUN—GYDA DAU GYFAILL.
GLANWEDD a llonwedd yw'n llûn,—bywyd rhydd
Yw bod rhwng dau eilun;
Yr wyf, a phwy warafun,
Yn falch o honof fy hun.
DISTAWRWYDD.
SWYN ni fedd na gwledd i glyw,—ond o'i hun
Daw hedd i ddynolryw;
Duwdod pob mudandod yw,
A cheidwad pob chwa ydyw.
MELLDITH YR OES.
DINISTR ar ddinistr a ddêl,—i'r oes hon
Drwy ei syniad isel;
Bywyd ei byd yw y Bêl,
A'r coupon oriau'r Capel.
HEDD WYN (Ellis Evans).
DI garreg ydyw gweryd—ein Hedd Wyn
Oedd awenydd hyfryd;
Na foed arwyl anwylyd
Yr Ysgwrn, yn fwrn ar fyd.
Gwnawn dŵr i filwr o fardd—yn ei Lan
Eleni heb wahardd;
Pwy warafun i'n Prifardd,
Fu yn y rheng, fynor hardd?
ETO, AR DDADORCHUDDIAD EI GOLOFN.
I LEN a chân ei ail ni chwyd—yn serch
Hynaws un a siomwyd;
At ei "Helis" ataliwyd
Pwyntio'i llaw wna Sian Pant Llwyd.
Hawlia Sian ei "Helis" o hyd,—wrthi
Pan syrthiodd i weryd;
'Roedd gan y bardd, gwyn ei byd,
Ryw ddidwyll air i'w dd'wedyd.
Oes, mae cynnes amcanion—a chŵyn serch
Yn ei Salm hiraethlon;
Eglured yw y glaer don,
Dirgel ydyw'r gwaelodion.
HERBERT,
Plentyn bach Mr. a Mrs. Tom Roberts, Seacombe.
BORE teg i Herbert iach, pwy ond ef
Pan y daw yn hynach?
I gael cân heb ei glanach,
Erys byd yr Eos bach.
Dirioned, O! rieni,—yw eich gwedd
Mynnwch gân a pharti;
Mae'r uchaf fraint, mawrhewch fri
Ei dair oed mewn direidi.
Y STRING BAND YN Y GYMANFA GANU
FE ddywed rhai'n iawn gredu—mai ynfyd
Yw'r Gymanfa ganu
Trwy hel stoc y Minstrels du,
Violin i foliannu.
Mae dyn am gyflym dônau,—mae y diafl
Am dinc offerynau;
Mae Iôn ei Hun yn mwynhau
Yr "Amen" a'r "Emynau."
CYMANFA Y SULGWYN.
HEN ddyledswydd pob blwyddyn,—arlwy fer
O'r wyl faith ddi-derfyn;
Am a gafwyd mae gofyn,
Grasol yw gwawr y Sul Gwyn.
WRTH DDRWS ALED DAVIES,
3 Hero Street, Bootle.
MAE Gwilym fel y gweli,—wedi bod
A bardd yn ei gwmni;
Am "Aled" hir ymholi
Y bu wrth ddrws "Number three."
GWR O'R ENW ARTHUR,
yn gwneud Gwal heb y defnyddiau priodol.
HERIO gwŷr am wneuthur Gwal—wna Arthur
Heb forthwyl na thriwal;
Prin yw tools y llipryn tal,
A'i fortar yn gyfartal.
DYN YR INSURANCE.
SIARAD wna'r dyn Insurance—am henaint
Ac mae hynny'n nuisance;
Gwêl ei cheek yn gwylio'i chance,
Ar ei lŵ i'r Alliance.
HEN LYTHYRAU.
AR gael mae'th lythyrau gynt,—mae'n daliad
Myned eilwaith drostynt;
Dyma 'ngorchwyl, hwyl i'm hynt,
Chwilota a chael atynt.
"COCH BACH Y BALA,"
a saethwyd ar ol dianc o'r Jail.
MIRAIN yw hi, Meirion iach,—a oes swydd
A'i throseddau'n brinach?
Edliwyr, pa wlad loywach;
Cauwch y bedd ar "Coch bach."
AR FARWOLAETH SYR O. M. EDWARDS.
DYNION y byd a'i weniaith,—a'i golud
Giliant yn ddi effaith;
Ond O.M.! nid â ymaith
I'r bedd rhwym tra byddo'r iaith.
AR FARWOLAETH
Dr. J. Williams, Brynsiencyn.
BONEDD gwlad dderbyniodd glwy—a gwyrodd
Gwerin yn ei gofwy;
Ni theimlir nerth rhyferthwy
Y Barwn mawr o'r "Bryn" mwy.
FY EWYRTH (THE PAWNBROKER).
AR gongl heol yn y dre,
Tair Pelen euraidd a noda'r lle
Mae'r porth i'w balas gorlawn e,—
Fy Ewyrth.
Mae ganddo drwyn bwaog mawr,
A barf yn cyrraedd hyd y llawr,—
'R un fath ag Aaron,—O'r fath gawr!
Yw f'ewyrth.
Na chymer arnat wrth dy frawd,
Dy chwaer, na neb dy fod yn dlawd,
Dy gynorthwyo ar dy rawd
Wna f'ewyrth.
Os byth y byddi'n brin o bres,
Wna crafu'r gwegil fawr o les;
Un da ar ol pob Hol-i-des
Yw f'ewyrth.
Os na bydd modrwy am dy fys,
A'r hin yn boeth, a thitha'n chwys,
Rhoi benthyg arian ar dy grys
Wna f'ewyrth.
Ar ol bod fis yng nglan y môr,
A myned drwy dy holl ystôr,
'Does undyn byw mor driw a drôr
Fy ewyrth.
Fe gymer gennyt, na lwfrhâ,
Dy ambarel, os yw'n un da,
A chadw'th Dopcot dros yr ha'
Wna f'ewyrth.
Rhoi serch ei galon ar dy Watch,
Ond gwrthod trowsus hefo patch,
Wna f'ewyrth.
Mi glywais rai mor hyf a deyd
Nad ydyw'n bechod ar neb wneud
Fy ewyrth.
Ond da waeth beth ddywedo rhai,-
Os heb ei eni heb ei fai,"-
Caredig wrth bob Nith a Nai
Yw f'ewyrth.
Os gwnaiff o di o dan dy drwyn,
Nid oes mo'r help fy nghyfaill mwyn;
Hen ŵr ga'dd ganiatad i ddwyn
Yw f'ewyrth.
Pe gwnaet ag ef fwriadol gam,
Ni lwyddit byth ond hynny. Pam?
Un o hiliogaeth Abraham
Yw f'ewyrth.
FFOEDIGAETH LOT.
FFOI 'roedd Lot i ffwrdd o'i lŷs—a'i ddwyferch
Ddiofid mae'n hysbys;
Daeth o'r fro drwy daith ar frys
Yn ddiangol ymddengys!
O ddrwg nid oedd ei wreigan—yn dewis
Dianc yn ei choban;
Glynai serch y wenferch wan
Yn Sodom wrth "Own Sidan."
Y GWN UN O'R GLOCH.
DYNA'r gwn, dyna awr ginio—ar ben,
Mae'r byd yn ail rwymo
Ei dynn faich, a dyna fo—
Dyna'r dyn a'i war dano.
CORON, CI'R DDUALLT,
A gauwyd ar ddamwain yn Stesion y Dduallt dros nos.
YMA'n isel am noson—o'i ryddid
Gorwedda'r hen "Goron";
Nos o boen mewn eisiau bwyd
A dreuliwyd gyda'r oilion.
Islaw mewn gwely tawel—heb ei drin,
Budur oedd ei gornel;
O! buodd dost, be' ddywed Del
A Ross am ei gyflwr isel.
Ar rhyw hen sach a darn o shawl—e' wnaeth
Ei hun yn gartrefol;
Y lle'i orwedd oedd weddol,
Tan ei ben 'roedd Cotton Ball.
E' ledodd ei aelodau,—a thuchai
Wrth ochor y lampau;
Yma'n wir 'roedd ci'n mwynhau
Gas oil at ei geseiliau.
Wylai am ei hen aelwyd,—unig oedd
Yr hen gi'n ymysgwyd;
Fe roddodd yn ei freuddwyd
Ddwy lef am ei annedd Lwyd.
Ei hunan welai'n hanos—yn ei hûn,
Wow, wow, wow! rhed aros,
Deffroai, nadai gefn nos,
Wyt ti yma Sian Tomos?
Ar hyn y ddor agorwyd,—mwy y ci
Am y cast ni welwyd;
Ar un llam 'roedd "Coron" Llwyd
Yn ol ar ei hen aelwyd.
CYFARFU OWEN JONES,
sef Now'r Allt, a'i ddiwedd mewn modd echryslon trwy i
Feudy fynd ar dân.
'ROEDD Now'r Allt yn dallt y dŵr,—iddo swyn
Oedd ei su a'i ddwndwr;
Rhed y Ddwyryd ddiarwr
Yn afon syn, 'rwyf yn siwr.
Noddfa ydoedd ei feudy,—iddo ef
Ddiofal ei lety;
Ar fin dŵr i'r heliwr hy',
Pa hwylusdod fâ'i plasdy?
Pwysig wron pysg gariwyd—o'i dŷ sych,
A "Rhyd Sarn" frawychwyd;
O wastraff! a ddinistriwyd
Ei enwair hir, a'i hen rwyd?
Ei foddion fu iddo'n fael—am ei oes,
Pa le maent i'w caffael?
Ac wedi iddo'n gadael,
A oes gwn a shots i'w cael.
A oes gŵn hyddysg yno—oriau'r hwyr
O hiraeth yn udo?
A wnaeth y drud annoeth dro,
Y gwartheg yn ddig wrtho?
Heibio'r âi, ebe rhywun,—trwy ei oes
Heb ddim trefn na chynllun;
O'i erlid troai'n ddarlun
Robin Hood ar ben ei hun.
Hyd ing fu rhawd ei ang'oedd,—fywyd ef
Drwy feudai a dyfroedd;
Rhyw ffoadur ryff ydoedd,
A gwell dyn na'r Gwylliaid oedd.
Pan ar fai, pwy'n rhy fuan,—iddo ef
Ydoedd ail i drydan?
A hen dro i "Now" druan
Fu'n neidiwr dŵr, fynd ar dân.
Ni bu diwedd rhyfeddach,—damwain oedd,.
'Does dim i'w wneud bellach;
Bywiog wylied pob gelach,
Y tân o ben cetyn bach.
Hyfryd wawr ei fro dirion,—ni ddenodd
Unwaith ei olygon;
Cudd fu ei rawd, ca'dd i'w fron
Rhyw fudd rhyfedd o'r Afon.
Gorwedd "Now "o gyrraedd niwed,—ar d'ol
Mae'r dalent yn cerdded;
Torir hi'r gyfraith tra rhed
Y dŵr o hyd i waered.
YN NHY "STESION Y DDUALLT"
ar linell gul Ffestiniog. Anfon i Boston Lodge, Pen y
Cob, am adgyweiriad.
ANOBEITHIOL yw'n bwthyn,—at ollwng
Mae tyllau'n ei goryn;
Dros ein desg dŵr sy'n disgyn,
Ac ar y llawr y ceir llyn.
Ail i Einon a'i lonaid—o ddwfr oer
Oddi fry yn ddibaid;
Mae'n lle oer, fe wna min llaid
Balas i benebyliaid.
Dwfr welaf os dof i'r aelwyd,—y llawr
A phob lle a wlychwyd;
Gwlyb fwthyn a llencyn llwyd
O'i fewn yn goddef annwyd.
Trwy y ffenestr, ffei honi,—fe red dŵr,
Af o'r tŷ rhag boddi;
Dafydd Rhisiat dowch ati
Am un waith er fy mwyn i.
ANFON AT WM. PHYLIP (DWYRYD)
am allwedd newydd.
PHYLIP, a wnei di ffeilio—darn o ddur,
A'i droi'n ddel a chryno,
I wneud 'goriad diguro
Wna greu clec wrth agor clo.
"TAN Y BWLCH" YN YR HAF.
HAF o'i fewn, gwêl dyrfa faith,—bywiog lu
O bob gwlad ar ymdaith;
Lle enwog yw yn llawn gwaith—
Dau drên yn d'od ar unwaith.
LLADD "NED" Y CI.
I GWILYM, câs fu gweled—y peiriant
Perigl diamgyffred,
Yn taro i lawr yn awr Ned,
Y byrbwyll gi heb arbed.
Ar ei drwyn i'r olwynion—y rhedodd
Y creadur gwirion;
A "Ned y Ci"'r adeg hon
Falwyd yn ei afaelion.
'Roedd Ned yn gyflym redwr,—del ei gam
Diail gi amaethwr;
Dyna loes, gwneud doniol ŵr
O'i gi llwyd yn golledwr.
CRONGLWYD (DYFRDWY).
Dy briod bur a da'i bwyd,—hefo'r ddau
Fardd ieuanc a phenllwyd!
Tithau'n ben llawen, Hugh Llwyd,
Haul athrylith yr aelwyd.
AFON MAENTWROG AR LI MAWR.
HEIBIO'i lwyswych balasau,—a gerddi
Gwyrddion mae'i throadau;
Dofa'i hun i'w hadfywhau—
Gyrr ei gwledd i'r gweirgloddiau.
YN Y PARC.
Os y ddinas sydd enwog—am helaeth
Ymylon blodeuog;
Beth yw dolydd hirddydd ha'
Palestina plwy' Stiniog?
PAR O 'SANAU.
CLOD seiniwn i'r clyd sanau—rhai gwlan hardd,
O'r glin hyd y bodiau;
Gwêad clir i hir barhau,
A chysur traed a choesau.
TY AR OSOD.
Ty ar osod! direswm,—tŷ na chwt,
Ni chawn er ys talwm;
Mae'n warthrudd, ac mae'n orthrwm,
Mynnu rhent am hanner rŵm.
DYCHANGERDD Y "CRITIC."
Ai'r Critic arbennig nodedig mewn dawn
Yw'r unig feidrolyn all feddwl yn iawn?
Mi deimlwn fy hunan yn deilwng o glod,
Pe gallwn ei duchan ef allan o fod.
Y Critic gâr atal y wobor o hyd;
Nid oes yr un gyngan a'i boddia'n y byd;
Efe sydd yn gwybod, ac ef sydd yn dyweyd
Pa beth ydyw englyn, ond, byth yn ei wneud.
Daw'n gyson i'r Moddion yn esgud ei farn
Er mwyn critiseisio y bregeth bob darn;
Arddengys y rhyfyg anferthaf ei faint
Wrth wawdio gramadeg profiadau y saint.
Y Critic, pwy sydd mor ddigwilydd ag ef?
Niweidia emynau hen feirdd sy'n y Nef;
Mae'n gerddor wrth gwrs, a cha'r lleddf fel y llon
Eu blino â'r ymchwydd orleinw ei fron.
Ceiliogod Colegau yw doniau y dyn,
A hanner y Wyddor wrth enw pob un !
Os cyfrin fydd araith rhyw oracl hir wallt,
Mae'r Critic yn ddigon o sgolor i'w ddallt.
Pe troai fy meirniad yn Gritic yn awr,
Mae'n debyg mai fi fyddai'r isaf i lawr;
Ond os yw'n wr grasol—waeth beth am ei radd,
Addefed yn onest,—"Mai'r gwir sydd yn lladd."
HAMILTON SQUARE, BIRKENHEAD,
o dan ofal Mr. Tom Edwards.
RHOI i Edwards anrhydedd—wna'r lawnt hon
Ddarlun teg o rinwedd;
Nefolaidd fawl iddo fedd
Ei chu geinwych ogonedd.
Fe âd ef o hyd ei ol―ar lawer
O welyau'n swynol;
I'w hedrych ewch drwy ei chôl,—
Fu Eden yn fwy hudol?
Iddo, drwy ei ddiwyd ran—a'i foddus
Feddwl wrtho'i hunan;
Llun ei wlad Llanelidan,
A'i daear fyg ydyw'r fan.
RHUTHR SION BEN TARW
ar Ddyffryn Ceiriog (pan y gwnaed cais gan Gorfforaeth Warrington i
brynu'r Dyffryn a'i droi'n Llyn at wasanaeth y Dre honno).
HERIWN y Sais yr hwn sydd—a'i olwg
Ar Walia'n dragywydd;
Eisiau dŵr fo nos a dydd
Ar greawdwr gwirodydd!
Yn awr codwn er cadw—Glyn Ceiriog
Lawn cariad rhag hwnnw;
Naturiol i ben tarw
Ar y maes yw rhuo mw.
Rhued ei ru hyd yr haf,—ac wedyn
Drwy gydol y gaeaf;
Ariannog nerth yr hen gnaf
Yw ei daerni cadarnaf.
Pentyred y Pen Tarw—ei lawn dål
Yn hudolus ddelw;
A drydd ef dir, aeddfed dŵ
Huw Morus yn fôr marw?
Dyddynwyr dedwydd unawl—a chwi'n falch
O hen feirdd naturiawl;
A fydd i chwi'n wirfoddawl
Fframio dŵr i "Ffirm y Diawl"?
Gwyliwch ei frad ofnadwy—a chofiwch
Hefyd am "Myfanwy,"
Dylai'r plant o lawer plwy
Gyd-redeg hyd yr adwy.
DR. OWEN, LAWRENCE ROAD, LERPWL.
Y TRWYADL Ddoctor Owen,—hefo'i ddull
Rhoes foddhad i'm hawen;
Galluog feddyg llawen,
Rhag tranc i'r ieuanc a'r hen.
Dyn gŵyl wedd, dyn goleu wallt,—o mor rydd
Yw'r Gymraeg mae'n dywallt;
Dyn hynod yw yn ein dallt
Hefo loesau, fel Isallt.
Heb lawer o boen, heb lŵon—rhwymodd
Fi yn rymus ddigon;
Mor hyderus, mor dirion,
Rhoes fy mraich ar draws fy mron.
Cu fu ei swydd, cefais i—ei hysgwyd
Er i'm hesgyrn dorri;
Braich union i'm hadlonni
Heb wall fel y llall yw hi!
A fo yn wael heb fwyn wên—neu yn brudd
Dan boen braich neu asen;
Aed treied Doctor Owen,—
Mawr yw clod y Cymro clen
GWRTHRYCH TORCALONUS.
O'I lygad amddifadwyd—ein brawd hwn
A'i bryd teg anurddwyd;
Och, ei dirion fraich a dorwyd,
Un llaw fedd i ennill ei fwyd!
TORRWR CYHOEDDIAD.
DYNA ddyn nad yw yn ddall—i wên ffawd
Mewn llawn ffydd a deall,—
Tyr ei gwys yn gyfrwys gall
I bentyrru'r bunt arall.
EIFION WYN.
O HAWDDGAR feirdd, gwiriaf hyn,—er nad wyf
O ran dawn ond gronyn;
Mae yn werth bod yn perthyn
Dafn o waed i Eifion Wyn.
EIFION WYN YN WAEL (1923).
FE laddodd yr hen flwyddyn—Eifionydd,
A f'annwyl Degfelyn;
A'i noeth arf, cyn ei therfyn,
A fynn hi waed Eifion Wyn?
Y RASION.
HAWLIAU teulu ataliwyd,—mae arnom
Oerni ar yr aelwyd;
A phan ddarfyddo annwyd
Bydd yma bawb heb ddim bwyd.
ATEBIAD I'R BARDD COLLWYN.
MOR ddoniol yr ymholi—am Gwilym
Galw pan y mynni;
Dawnsia 'dawen os deui,
Hefo'r Tram hyd Wavertree
"BLODYN MELYN"
Eisteddfod yr Wyddgrug, 1923.
HEN ŵyl annwyl eleni—rhoes Anian
Ei rhosynnau iti;
A oes gennyt ysgwni,
Un blodyn melyn i mi!
YMADAWIAD
Y Parch. Evan Roberts (W.), o Birkenhead.
DYN diwyd iawn ydyw Ieuan,—a'i wên
Dywynol ymhobman;
Awen Duw yn llawn o dân,
Ydyw enaid ei anian.
O Faentwrog, fan tirion,—a hen fur
Ei wyn fore rhadlon;
Daw cymorth i egnïon
Hyfrydlawn fryd ei lân fron.
Dawn Ieuan o hyd yn newydd,—barhâ
A'i bur hoen wêl gynnydd;
Goleuni ar gu lennydd,
Y Fersi fawr a'i oes fydd.
NEWYDDION AM Y RHYFEL.
MYG werin i'w magwyrydd,—a bonedd:
Dderbyniant drist newydd;
Mae'n d'od ar dafod pob dydd
Air "offisial" o'r ffosydd.
OWEN JONES, Y.H.,
Erw Fair, Bl. Ffestiniog.
DIWYD ei fywyd fu Owen,—carai'r
Cerrig er yn fachgen;
Ei brif nôd oedd bod yn ben,
Dechreuodd gyda chrawen.
Y NIWL MAWR, TACHWEDD, 1925.
AR heolydd oer hulyn,—hir erys,—
A yw'r eira'n dilyn?
Mae y niwl yma'n elyn,
Lloria i'w dwll, llawer dyn.
SEINDORF FRENHINOL OAKELEY,
Blaenau Ffestiniog.
"RHWYGWCH yr awyr, hogiau,"—medd calon
"Ianoron" fwyn eiriau;
Mae rhinwedd mâd eich tadau
O hyd yn bod yn y bau.
Chwi a'u rhwygwch a rhagor,—â chu sain
Chwi swynwch eich goror;
Ac wrth gipio pob gwobor,
Ychwaneg gewch o en—cor.
Fe raid i gof redeg am—yr hen Fand,
I drin ei fedd dinam;
Cofio'r hen gorn—corn mawr cam,
Yn nwylo Owen William.
Swynol drydar drwy'r Marian—wnai yr "hen
Lanrwst" a'i gorn bychan!
Byddai'r boblog—fryniog fro,
Yn leicio clywed clecian.
Hogiau annwyl, di-gynen—fo eich Band,
Cofiwch byrth elusen;
Ar rialtwch byddwch ben,
A chwaraewch i'r awen.
Heblaw rhwygo'r gororau,—ewch rhagoch
I rwygo calonnau;
Pwy o flaen Band y Blaenau
Ddeil o hyd heb feddalhau?
Difyr ryddid fo'r eiddoch,—Oakeley Band,
Yn cael bendith fyddoch;
Dyma 'nghyfan am danoch
I gyd yn glyd yn y "Gloch."
Y SET FAWR.
GOGONIANT teg ac ynni,—Seiat fyw
Yw'r Sêt Fawr a'i gweddi;
Blaenor heb ei ail eni,
I'r swydd, yw ei haflwydd hi.
CYNGOR I WR GWEDDW.
YSTYR breswyl d'anwylyd,—y llwm âr
Yn lle mynd yn ynfyd;
A rhag ofn y rhyw i gyd,
Rho garreg ar ei gweryd.
GWR DU Y WASG.
WIR ddyn, mae'r beirdd o honi—o achos
Ei frychau aneiri;
Yr unig gosb a thranc i
Ddl y wasg fydd ei losgi.
Y MEDDWYN.
DDOE yn gwatwar a gwario—meddw oedd
Meddw heddyw eto;
A meddw fydd, medda fo,
Nes i bridd ei sobreiddio!
FY WYR BACH YN DAIR OED.
ROBIN aur heb anwiredd—dyma'n hoff
Dŷ mewn hwyl o'r diwedd;
Dy lonni di, lân dy wedd,
Ar f'aelwyd yw 'ngorfoledd.
Dy heinif dw yn fwy dyn,—a minnau'n
Myned yn fwy plentyn,
Adfywia'm dawn yn nawn oes,—
Try f'einioes fel tirf wanwyn.
Dof dan y bwrdd i'th gwrddyd,—di—reol
Yw dy droion hyfryd;
Fe ddaw hwyl rywfodd o hyd
Im'o hobi fy mebyd.
Wiw darllen na 'sgrifennu,—wiw gwneud dim
Egni teg sy'n pallu;
Yr hyn a gâr awen gu
Yw dawn tafod yn tyfu.
Mor ddiolwg, mor ddilun—yw'm papur,
Mae popeth yn wrthun;
Ond ti folaf, wyt f'eilun
Tair oed, llawn natur ei hun.
Diyngan yw'th deganau,―ti falaist
Dy filwyr yn ddarnau;
Onid tost yw'th ganiatau
Fel llofrudd fy holl lyfrau?
Peidiaf â hel, pwy ydwyf fi?—Nanna'n[2]
Unig gaiff dafodi;
Ni chei gam heb dy Fami
Hefo Nain—dy gefn yw hi.
O! fy nelaf anwylyn,—wel, tyred
Ar ol torri 'nghetyn;
Yn y gornel ddi elyn
Fy nghôl gei, fy angel gwyn.
Ni chei fy ngwg na'm grwgnach,—fy nghariad
Am fy ngyrru'n hynach;
Gemau Awen, gei mwyach,—
Derbyn y byd, Robin bach.
SHON IFAN, MAENTWROG,
yn cario gwellt i wneud cwch gwenyn.
DYNA faich, ond nid dan fochyn―y rho'ir
Yr hirwellt teg, melyn;
Fe wna Shon Ifan o hyn
Gannoedd o gychod gwenyn.
Er Cof am
SYR O. M. EDWARDS, M.A.
O 'RWY'N fawr iawn fy hiraeth
O'i Neuadd Wen fy nawdd aeth,
Ond er mewn braw'n wylaw, nid
Unig wyf yn y gofid.
Ingol hyd lwch yw 'Ngwlad dlôs
Am oreugwr mor agos
O! ddydd o fawr ddioddef
Oedd y dydd y cleddid ef.
Nid oedd Gwalia Walia wen—
Gwalia ddu gladdai Owen,
Yn fy nghur a fy ing hallt
Tawaf i'm henaid dywallt,
Iaith ddi air wrth ei Weryd,—
Gore y Gerdd—dagrau'i gyd,
Bu'n syn gan Dde a Gwynedd
R'oi Owen fawr yn ei fedd—
Y cyfoed cu o fyd cerdd—
Yr awengu Weringerdd.
Cywydded y Wig heddyw
Odlau mewn dail am nad yw,
Minnau ddistaw wrandawaf
Ar dirion wir Adar Naf,
Am Owen yn arbennig—
Fe garai ef Gôr y Wig.
O! fy nhalaf anwylyd—
Mae ar gôf Cymru i gyd.
Ei chodi'n uwch dyna oedd
Llw Awen ei alluoedd.
Dwys-leddfwyd—ataliwyd tôn
Disgwyliad ei Hysgolion.
Anwyliaid ei Hen Wylia
Wylant o'i ol yn Blant da.
Pan yn fachgen talentog
A'i lanwedd law yn ddi—log
Carodd ei Wers, concrodd hi
Heb arwyddion gwobr iddi.
Ac ar hyd ei weithgar oes—
Glanaf fuddugol einioes,
Eofn fu—ni fynnai fod
Llwydni ar sill o adnod―
I'w hysgol hi'n mynwes gwlad
Rh'odd gywiredd ei gariad,
O! mor falch yw Cymru Fydd
O'i dêr bryd ar barwydydd,
Boreddysg bur i haddef
Gwerin yw ei Goron ef,
Swyn hanes a'i henynnai,—
Gofod ei gôf o hyd g'ai
Llafar Llên, a phob llyfr llwyd,―
Hen wrolion yr aelwyd
Am ei dalent mae dolef,—
Llaith yw ei holl weithiau ef—
Ddoniol lenor[3] Dwy Fordaith,—
Dau lyfr del o hyfryd iaith
O'u cyfaredd caf hiraeth,
O.M. y ffrynd mwyaf ffraeth,
Man i'm hawen i mwyach
Mi wiriaf fydd Cymru fach,
Diferu eu clodforedd
I'w bin aur wna Bannau hedd,
Trwy'r Glynnoedd—trwy Gymoedd gant
Odlau dyled, a eiliant,
Fe wna cof o'i wenau cu
Swn hiraeth yn soniarus.
Mawr yw hawl fy mro'i wylaw
Deigryn yw y Llyn gerllaw,
Daw o eigion Estronaeg
Emau i rudd y Gymraeg.
Am ei berffaith waith a'i wên
Sieryd ochus Rhydychen
Er hualau Arholiad
Arddelai hen Feirdd ei wlad,
Pery blas Cymdeithas deg
Eilun calon y Coleg,
O fywyd gwyn, cyfyd gwedd
Athrofa hiraeth rhyfedd,—
Er ei thirf wawr a'i thorf fyw,
Bedd-adail hebddo ydyw.
Llan-uwch-llyn iach a llonydd
Fwynhaodd ef yn ei ddydd,
Hynaws rym i'w einioes r'odd
Yr awyr lle chwareuodd,
Mwy nid oes man dewisol
Heb hiraeth, hiraeth o'i ol.
Trowch i fewn—tariwch funyd
I weled glân aelwyd glyd—
Athen deg gobeithion dyn
Cronglwyd y Gainc a'r Englyn.
A'i thonyddiaeth yn addef
Ei rymus Lyfr misol ef.
Methu wna fy mwthyn heb
Y Gol. aur a'i Eglureb.
Honnai fy ngherdd a fy nghais
Am ei ddalen meddyliais.
Cymro gore Llyfrgelloedd
Ac eirian wawl Gwerin oedd,
Fe wyllâi pob 'Stafell heb
Wawr a thân ei ffraethineb.
Hiraetha'r iaith ar ei ol
A'i glân addysg lenyddol.
PENRI,
mab bychan Mr. J. W. Jones, Bl. Ffestiniog.
MI wna'n wir, heb ohirio,—unrhyw beth
Penri bach i'th foddio;
Hwda englyn gwyn i'th go',—
Cof atat cei fwy eto.
Bydd yn fachgen talentog,—a gwrol,
Y goreu'n Ffestiniog;
Rho wyn fawrhad i'r hen fro,—
Gwna dy gân a dy geiniog.
Y TYWYDD.
MAE'r ddaear hawddgar o hyd—am wên Duw,
O! mae'n dywydd hyfryd;
Cerddwn drwy dyfadwy fyd—
Mae'n braf—mae'n bwrw hefyd.
HEN EFAIL DEWI GERDDOR.
GEFAIL hoff a thrigfa lawn—teg efail
Atgofion hiraethlawn;
Gefail beirniadaeth gyfiawn
A gefail gôf hwyliog iawn.
COFIA'R TLAWD.
HAEL ymwêl, a'i lom aelwyd,—tro i blith
Twr o blant wynebllwyd;
O! drueni drwy anwyd—
A 'chydig bach adeg bwyd.
Y STIWARD.
UN nodda stad boneddwr—yw Stiward,
Gwas tewach na'r gweithiwr;
Teyrn y gwaith, tra enwog ŵr,
A phennaeth pob cynffonwr.
GWRAIG TY LODGIN.
WEITHIAU'n fud ac weithiau'n fwyn—a jolly,
Mae'n jellws o'r forwyn;
Ar 'chydig bach o achwyn,
Brolia'i thŷ, a thry ei thrwyn.
ENGLYN
wnaed wrth dreio dal y "Tram-Car."
RHYW yrru ar i waered—mae 'nyddiau,
Mae'n weddus ystyried;
Yr wyf finnau ar fyned—fel hen gi—
Rhy hen i gorddi, rhy wan i gerdded

Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.
|
|
Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1930, ac mae felly yn y parth cyhoeddus o dan gyfreithiau hawlfraint UDA, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi. | |