Clasuron Rhyddiaith Cymru/Charles Edwards
| ← Morgan Llwyd | Clasuron Rhyddiaith Cymru golygwyd gan Edward Edwards, Aberystwyth |
Ellis Wynne → |
CHARLES EDWARDS.
Yr wyf yn pigo cryn lawer o ddarnau o "Hanes y Ffydd," prif waith Charles Edwards, a brintiwyd yn 1671. Ychydig o hanes yr awdwr sydd ar gael. Bernir, ar sail a ddywed Gwallter Mechain, iddo gael ei eni yn Rhydycroesau, ym mhlwyf Llansilin, Sir Ddinbych, a dengys ei Gymraeg mai ar odreu Gwynedd y'i magwyd. Mae'n siwr ei fod ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1644, - gan iddo gael ysgoloriaeth yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, ond nis daliodd hi yn hir oherwydd i ystorm y rhyfel fawr rhwng y Brenin Siarls I. a'r Senedd dori ar y Brifysgol. Yn 1648, daeth yn ol i Rhydychen, yn ysgolor yn awr o Goleg yr Iesu, ond trwy gweryl a'i gymrawdwyr, ymadawodd am Gymru, ac yn 1653 fe'i gwelir ym mywoliaeth Llanrhaiadr.
Ystormus fu ei fywyd ar ei hyd. Pan ddaeth y brenin yn ol yn 1660, collodd ei fywoliaeth. Ba yng ngharchar am dymor, ac mewn iselder ysbryd rhoddodd i fyny ei bregethu. Ar ol bywyd priodasol hapus o un mlynedd ar bymtheg, ymadawodd a'i wraig a'i deulu drwy gydsyniad cariadus. Trodd yn ol am Rydychen, ond yr oedd achos Cymru o hyd yn agos at ei galon. Yma, mewn hiraeth dwfn ac mewn tlodi cyfyng ag afiechyd hir, gwnaeth ei oreu tuag at ei fam-wlad trwy ysgrifennu llyfrau Cymraeg, a gweddus oedd i Gymru gael hanes y "Ffydd Ddiffuant" pan oedd, erbyn hyn, yn dechreu dyfod yn gydnabyddus a gwirion- eddau'r efengyl. Gwnaeth lawer o waith arall, ond dyma ei brif waith, yr hwn gafodd ddylanwad mawr ar feddwl Cymru, ag a adargraffwyd lawer gwaith. Treuliodd lawer o amser llafurus yn ei ysgrifennu, ag mae ei Gymraeg mor ystwyth a thlws a Chym- raeg neb byd. [Am hanes ei fywyd, a'i bryder, a'i iselder ysbryd, gweler ysgrif ddyddorol gan Ysgrifennydd Prifathrofa Cymru yn y Traethodydd am 1886].
AT Y DARLLEYDD.
Annerch
Charles
Edwards,Gras, trugaredd, a thangneddyf a liosogo ti trwy Grist Iesu. Wrth ystyried mor gynnorthwyawl i'm gwladwyr a fyddai hyspysrwydd o'r pethau a ganlynant, ac nad adwaenwn i un llyfr i'w gyfieithu ydoedd yn wahanredol yn amgyffred y cwbl o honynt, ymosodais i'w pigo allan o amryw lyfrau; a chymerais gwrs y wenynen i sugno llawer llysieuyn i wneuthur hyn o ddilyn. Cyd-ddwg ditheu a'r fath grwybyr ac sydd ynddo.
Cawn weled yma siamplau pobl Dduw, a'r modd y carasant ei ewyllis ef, ac y cadwasant ei orchymyn- nion ef; fel y bo i ni ganlyn y brisc a dorrasont hwy drwy lychfeydd profedigaethau'r byd dryc-hinog hwn; a cherdded y llwybr cul sydd yn arwain i orphywystra tragywyddol. . . . Ni a ddeuwn i borfeydd gleision, os awn rhagom ar hyd ol praidd y gwir fugail. Na fyddwn fuscrell, eithr dilynwyr i'r rhai drwy ffydd ac ammynedd sy 'n etifeddu yr addewidion, yn enwedig byddwn ddilynwyr i'n henafiaid megis y buont hwythau i Grist. Dodwn hawl i fraint a bonedd ein hen deidiau, sef purdeb ffydd efangylaidd, a grym duwioldeb. Er mwyn hynny, fy ngwladwyr anwyl, y rhoddais hyn o ddiwydrwydd ar yscrifennu attoch am yr iechydwriaeth gyffredinol, gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a roddwyd unwaith i'r sainct, ie ym mhlith y Britanniaid. Yr oedd Paul yn hoffi Timotheus yn hytrach wrth alw i'w gof y ffydd ddi-ffuant ydoedd ynddo ef, yr hon a drigodd yn gyntaf yn ei nain Lois, ac yn ei fam Eunice. Eled y Cymro yn hoff gan Dduw yn yr unrhyw fodd. Ac fel y dylem ddilyn rhinweddau yr ychydig o rai da ym mysc ein henafiaid, felly hefyd gochelyd pechodau y llaweroedd o honynt ydoedd ddrwg, a ddug arnynt ddialedd dwys, ac a wnaethont na bu Duw foddlon i'r rhan fwyaf o honynt, canys cwympwyd hwy yn nhir eu ganedigaeth. A'r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwennychem ddrygioni, megis ac y chwennychasant hwy; ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd miloedd o honynt; ac na themtiwn Grist, megis ac y temtiodd rhai o honynt hwy, ac a'i destrywiwyd. A'r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy, ac a scrifenwyd yn rhybydd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd. Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y prophwydi arnynt, gan ddywedyd,—"Dychwelwch oddiwrth eich ffyrdd drwg," ond ni chlywent, ac ni wrandawent, nes i fwgythion Duw eu goddiwes hwynt.
Darllen yn astud, a chydnabyddi nad yw ffydd beth newydd, eithr hen; na pheth dychymygol, eithr sylweddol; a sicrwydd y pethau nid ydis yn eu gweled. Y rhai sydd ystyriol ar eiriau a gweithredoedd Duw, ac yn byw yn rasol, a dderbyniant gyflawn hyder yn ei ffyrdd ef. Arfera sanctaidd ddiwydrwydd er mwyn llawn siccrwydd gobaith hyd y diwedd. I'w blant ufudd, ac nid i'w elynion anghymmodol, y mae'r Duw doeth yn adrodd ei gyfrinach. . .
Y mae i mi achos arbennig i glodfori enw yr Hollalluog am ddwyn fy ngorchwyl i hyn o hyd, ac i'w alw Eben Ezer, a dywedyd,—"Hyd ymma y cynnorthwyodd yr Arglwydd fi." Adolwg na ddigio neb wrth hyn o lyfran, eithr ei dderbyn a'r un ewyllis ac yr wyf inneu yn ei ddanfon. Na friwa'r llaw a estynno it arwydd o garedigrwydd, er gwaeled fyddo. Nid yw ddiarwybod i mi fod eraill yn y wlad a fedrasent wneuthur y rhan fwyaf o hyn yn well. Ond ni rediff y sûg o'r aeron,—er pereiddied a chyflawned fyddont,—nes eu dryllio a'u gwascu. Os digwydd i'r cyfryw, a nhwy yn gwybod ofn yr Arglwydd, ymosod i berswadio dynion, y mae iddynt er hyn ddigon o waith, a lle i'w wneuthur. Ac ni hwyrach i ryw un o gariad iti, neu o genfigen i mi, yscrifennu ychwaneg ynghylch yr unrhyw bethau; pa fodd bynnag gwna'r defnydd goreu o bob cynnorthwy. Yr oedd yn o—anhydyn genifi fyned trwy'r daith hon, i geisio it hyn o hanes am beth gwerthfawr a fu ar goll, ac i hel ynghŷd hyn o dystion yn achos Duw, nes i'w wialen ef fy ngyrru, ac i'w ragluniaeth ef osod angenrhaid arnafi; ac i gariad Crist fy nghymell. O cofiwn yr hwn a fu farw tros bawb, fel na byddei i'r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw trostynt, ac y gyfodwyd. Bu fodlon gan baganiaid wasanaethu eu pobl drwy ddirfawr boen, a chaledi; ac os bu i'r cyfryw chwysu a gwaedu dros eu gwlad, nid ydyw ond peth bychan i Gristianogion yscrifenu er ei mwyn. Y Cymro caredig, o chei lessad wrth ddarllain, treulia ymbell ddeigryn mewn gweddi dros un a dreuliodd lawer mynudyn mewn rhyw fath a'r orchwylion er dy fwyn di, ac felly tal y pwyth ith
gydwladwr anwiw
CHARLES EDWARDS.
- Llundain, mîs
- Ebr, 1677.
- Llundain, mîs
Helynt
Cymru. Wrth a draethwyd y gwelwn gael o'r Britaniaid yr unrhyw rybuddion ac y gafas yr Israeliaid gynt o flaen eu caethiwed, ac ynghylch yr un modd y gwrthodasant hwynt, ac ynghylch yr un fath gystudd a ganlynodd: ac nid heb ei haeddu. Yr achos amlwg o'r destryw ydoedd hollawl bechadurieth pob gradd ar ddynion,—sef barnwyr, eglwyswyr, a chyffredin, a'r ymlygriad a fagodd oddiwrth ymbleidiau yr Arriaid a'r Morganiaid. Pan gymerodd ymddadlau opiniwnus le pregethau iachus, parasant lid yn lle duwioldeb. Aml ryfeloedd hefyd a ostegasant gyfreithiau dinasol ac ysprydol; ac a wnaethant bechaduriaid yn hyfach, a ffrwythlondeb y tir a'u gwnaeth yn wresoccach. Y Britwn fel Jeshurun a aeth yn fras, ac a wingodd, pwyntiodd, yna efe wrthododd Dduw yr hwn a'i gwnaeth. Am hyny cafodd ei gystwyo, a chollodd y wlad a halogodd. Ac ni wnaeth Arglwydd y winllan mo'r cam fwrw allan denantiaid anniolchgar,—yr hwn yn ei ddoethineb a'i gyfiawnder a ganhiadodd i'r un fath beth ddigwydd mewn llawer o wledydd eraill ynghylch yr un amser, gan laccio ffrwyn cenhedloedd y gogledd, y rhai oeddent bob amser, pan lanwent eu gwledydd oerion eu hunain, yn deirion am ymhyrddu i leoedd cynhesach. Heidient am bennau rhai ereill pan lenwent eu cychod eu hunain. Y cyfryw oedd y Phichtiaid y ddaethant i'r Albain, y Gothiaid, a'r Fandaliaid a ymgyrchasant i'r Ital a'r Affric a'r Hispaen ychydig cyn yr amser hwn; a'r Lwmbardiaid a breswyliasant yn yr Ital. A'r Ffranconiaid yn nghylch hyn a arhosasant yn Gallia, ac a'i galwasant hi Ffrainc. Ac ychydig wedi hyn daeth y Twrciaid a'r Tartariaid i gymeryd meddiant o'r gwledydd gorau yn yr hollfyd, sef Asia Leiaf, Arabia, yr Aipht, a Syria. Ymhob oes torrodd Duw genhedloedd pechadurus i lawr fel glaswellt; a hynny i'w ymddiffyn ei hun a'i anrhydedd yn erbyn pechaduriaid afreolus. Pan addfedeu eu hanwireddau, troseddwyr a gyd—ddestrywid, weithiau drwy'r elfenau, sef drwy ddwfr yn amser Noah, a thrwy dân yn amser Lot; weithiau drwy ddynion, megis y Cananeaid yn amser Joshua ; a'r Israeliaid drwy'r Assyriaid a'r Caldeaid.
Rheswm
am
wendid
Cymru.Yr achlysur o wanhychiad ein gwlad ydoedd rheoliad y Rhufeiniaid arni, a'u hymadawiad hwy o honi i ddiffyn yr Ital. Megis mewn dychryn pan gilio'r gwaed o'r wyneb a'r aelodau at y galon i'w diddanu hi, digwydd glesni a llescedd ynddynt hwy. Ni adawodd ei hen feistriaid fawr o'u hol, ond amryw eiriau Ladin yn gymyscedig a'n iaith ni. A phlanniad y Britaniaid yn Llydaw a eiddilodd lawer ar eu cenedl gartref, ac a'u cymwysodd i dderbyn yr un mesur gan y Saeson, ac a roddasent hwythau i'r Letafiaid. Anghydfod y penaethiaid hefyd a agorodd adwyau i ollwn aflwydd i'r ynys. Pan aeth Fortigern, duwc Cerniw, yn frenin drwy frad gwaedlyd, rhoddodd fwy ymddiried yn y Saeson y gyflogasai nag yn ei ddeiliaid ganedigol. Gorfu i'r brenin Arthur ryfela a'i wladwr Melfas, tywysog gwlad yr haf, i ddial trais ei frenhines Gwenhwyfar. A chwedi iddo ynnill deuddeg brwydr oddiar y Saeson, trwy anfodlonrwydd ei nai, Modred, cafodd ei farwolaeth ; a chydag ef syrthiodd llwyddiant ei genedl; a'r deyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddwyd. Hefyd tra yr oedd Prydain yn wan, yr oedd hi yn brydferth, a'i glendid y barodd i gymaint o ddieithriaid ei threisio hi. Ni chafodd lonydd gan yspeilwyr wrth fod ei thir mor gyfoethog. Ffrwythlondeb y pren afalau y wnaiff ergydio cymmaint o bastynau atto, yn enwedig os bydd heb gae yn ei gylch. Aeth ei hymddiffynfeydd fel ffigyswydd a'u blaenffrwyth arnynt, pan yscydwyd hwynt, syrthiasant yn safnau y bwyttawyr. Pe buasai yn addoli Duw yn ddyladwy, ni chawsai neb chwennychu mo'i thir, er anamled ei gwrrywiaid; ac os buasai rhuthr iddi, creuasai'r Arglwydd amddiffyn ar ei holl ogoniant. Ond wedi iddi ddigio Duw, aeth ei golud hi yn obrwy i'r sawl a'i lladdent hi. Plannasei'r Arglwydd winllan, sef ei eglwys, ynddi, a disgwyliodd iddi ddwyn grawnwin o weithredoedd grasol, a hitheu a ddug rawn gwylltion o foesau drwg, sef trais yn lle barn, ac yn lle cyfiawnder gwaedd. Am hynny tynnodd ymaith ei chae amddiffyn fel y porrid hi, a thorrodd ei magwyr fel y byddai yn sathrfa; a gosododd hi yn ddifrod, ac i'r cwmylau y gorchymynnodd na lawient law arni, gan atal oddiwrthi neu brinhau ei ordinhadau a moddion gras. Cyn pen nemawr ar ol yscrifen Gildas bu agos i bla a elwid y Fall Felen a dibynnu gweddillion y Britaniaid, y rhai wedi hynny a gollasant Gaerloiw, a'r Bath, a'r cwbl o orllewin Lloegr, oddieithr Cerniw. A deleodd y Saeson y grefydd Gristnogol, a throesant yr eglwysydd yn demlau eulynnod paganaidd drwy eu harglwyddiaethau oll.
Moddion
gwella
Cymru.Gwelwn yma mor aflesol fu i'n henafiaid amcanu bwrw cystudd oddiwrthynt cyn troi at Dduw drwy edifeirwch. Prifiodd y gwrthryfel hwn, fel un Zedeciah, yn achos o gaethiwed Babilonaidd. Darfu i'r daroganau eu siomi nhw hefyd. Cnawd i bob cenedl dan orthrymder goelio pob bruttiwra'r addaworyddhad iddynt. Cresawai'r Israeliaid y prophwydi gwenhiethus, ond deuai'r peth yn y gwrthwyneb i'r boblanwireddus. Pandorrodd Hananiah y gefyn pren, rhoddes Duw yn ei le iau o haiarn ar eu gwarrau. Dull yr amseroedd Pabaidd hynny, a chystudd gydag hiraeth am warediad, a wnaeth ein henafiaid ni yn dueddol i roi lle i feddyliau ofergoelus. Y newynog a'r sychedig a freuddwydia am lunieth, ond pan deffro gwag a deffygiol fydd ei enaid. Pan gafodd y brenin Arthur y briw marwolaeth i ynys Wydren i'w ddiweddu, er mwyn celu ei farwolaeth, rhag llawenychu ei elynion, na digaloni ei ddeiliaid. Am hynny bu ein gwladwyr ni, gantoedd o flynyddoedd gwedi, yn tybied na buasai ef farw, ond yn brithgoelio y caent ef eilwaith i lywodraethu arnynt fel y taer ddymunent. A phan aeu tywysogion Cymry a'r maes oddiar y Saeson mewn dwy frwydr neu dair, ymhyfaent yn aruthr, gan ddisgwyl cyflawni bruttiau'r prydyddion am gael o'r Britaniaid ail gorescyn yr ynys. A hynny a wnaeth i'r Saeson, o ran gwawd, wisco coron am ben Llewelyn y dorrasent oddi ar ei gorph ef, wrth ei osod ar y tŵr yn Llundain.
A dyma fel y cyfieitha Charles Edwards lythyr yr Esgob Morgan at y Frenhines a Thy'r Cyffredin :
"I'r ardderchoccaf Frenhines Elizabeth, gras a bendith yn yr Arglwydd.
Pa gymaint y mae eich mawrhydi chwi, odidoccaf dywysoges, yn nylêd y goruchaf Dduw, nid yn unic ei ryfeddol amddiffin ef yn tarfu y gelynion creulon yn ddiweddar, eithr hefyd y duwioldeb rhagorol, clodfawr drwy'r hollfyd, a pha un yr addurnodd ef eich mawrhydi, sy'n eglur dystiolaethu. A hyn a ddengis pa radlawn ofal ydoedd gan eich mawrhydi chwi am eich Britaniaid, nid amgen na'ch ordinhad drwy awdurdod Parliament y deyrnas i droi yn Gymraeg yr ddwy yscrifen o sanctaidd air Duw, sef yr hen a'r newydd. Yr hyn hefyd sy'n datcan ein syrthni a'n esgeulysder ni, gan nad allai y fath athrwm angenrhaid ein cynhyrfu ni, na chyfraith mor llesol ein cymell ni, fel nad arhosai peth mor bwysfawr, mwy na pha un nis gallai dim fyth fod, cyhyd heb ei gymeryd mewn llaw. Canys y Testament Newydd yn unic a drôdd escob Menyw yn Gymraeg er ys ugain mlynedd, gyda chynorthwy William Salisbury, gwr a haeddai yn dda ar law ein eglwys ni. Nid hawdd mynegi faint o leshad y wnaeth ef i'n gwlad ni wrth y gorchwyl hwnw. Canys y pryd hynny prin y medrai ymbell un bregethu yn Gymraeg, o herwydd bod y geiriau rheidiol i egluro sanctaidd ddirgeledigaethau yr Scrythyr lân yn Gymraeg wedi myned ar aball, megis wedi eu golchi ymaith a dwfr Lethe; neu wedi eu claddu dan lwch anarfer; mal nas gallau na'r dyscawdwyr agor yn ddigon amlwg yr hyn a ewyllysient, na'r gwrandawyr eu deall; na dirnad pa rai oedd geiriau'r scrythyrau, a pha rai oedd esponiadau o honynt. Yn ddiau pan ymgasclent yn chwannog at bregethau, a bod yn ddyfal ynddynt, etto yn anhyspys ac yn amheus y byddai y rhan fwyaf yn ymadel, megis wedi cael tryssor mawr nis gallent gloddio atto, neu fod mewn gwledd fawr heb gael bwytta o honaw. Ond yn awr, drwy ddirfawr ddaioni y Goruchaf Dduw, a llafur y cyfieithydd hwn, y mae genym fwy o bregethwyr a pharottach, a gwrandawyr hyddyscach. Fel y mae'r ddau beth hyn yn dda gan y duwiol, etto nid yw'r un o'r ddau hyd yn hyn yn gyfattebol i'w dymuniad hwy. Canys gan fod ar ein gwlad ni eisiau yr yscrifen gyntaf honno o air Duw, y sydd ragfynegiad, a darluniad, a thyst ddiogel i'r llall, Och! faint o esamplau, pa nifer o addewidion a chyssuron sydd dan gudd? Pa faint o rybuddion, annogau, a thystiolaethau y mae ein pobl ni o'u hanfodd hebddynt, iechydwriaeth dragwyddol pa rai sydd mewn mawr berygl hyd yn hynn, pan yw pob un i fyw drwy ffydd, a bod ffydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw, yr hwn ni seiniodd ond ychydig i'n cenedl ni hyd yn hyn, gan ei fod mewn iaith ddieithr. Am hynny, wrth weled mor llesol ac angenrheidiol ydoedd cyfieithu'r Scrythyrau eraill i'r Gymraeg,-er i atgof o'm gwendid fy hun, a maintioli'r gorchwyl, a drygianiaeth rhai anwydau fy nigalonni yn hir-gan gydsynio â dymuniadau'r duwiol, goddefais fy mherswadio i osod ar y gwaith poenus hwn, a thra anghymeradwy i lawer. A chwedi ei ddechreu, deffygiaswn o ran anhawstra y peth, a maintioli'r gost, a dugaswn bum llyfr Moesen yn unig at y printwasc, oni bai i'r parchediccaf archescob Caer Gaint, achleswr dysceidiaeth, amddiffynwr y gwirionedd, a thirion wrth ein cenedl ni, fy nghymorth a'i haelioni, a'i awdurdod, ac a'i gynghor i fyned ymmlaen. Ar ol ei esampl ef, aeth gwŷr da eraill yn gynnorthwyol i mi; oni chyfieithais i yr Testament Hen i gyd, a diwygiais argraphiad y Newydd.
Os tybia neb mai gwell er mwyn cyttundeb fyddai cymell ein cenedl ni i ddyscu Saesonaeg, na throi'r Scrythyrau i'n hiaith ni, dymunwn arnynt ymogel na yrront grefydd ymmaith wrth hyfforddi cordiad. Er bod yn ddymunol i drigolion yr un ynys siarad yn yr un iaith; etto mae yn gystal i'w ystyried, y gofyn hynny gymmaint o amser a thrafferth i'w ddwyn i ben, oni byddai yn rhy greulon ewyllysio neu oddef pobl Dduw i golli drwy newyn ei air ef yn y cyfrwng. Heblaw hynny diammau y dichon cyssondeb crefydd wneuthur mwy tuag at danghnefedd na chyssondeb iaith. Ac nid duwiol cyfrif budd yn well na chrefydd, a chordiad addiallan yn well na'r heddwch y mae gair Duw yn ei seilio ymmeddyliau dynion. Yn olaf, mor annoeth yw y rhai y dybiant, pe gwarafunid gair Duw yn ein hiaith mammawl, yr annogai hynny i ddyscu un arall. Canys bydd crefydd yn anadnabyddus onis dyscir yn iaith y cyffredin; a'r peth y bo un heb adnabod ei felysdra a'i werthfawrogrwydd, ni chymmer ddim poen er mwyn ei gael. Am hynny attolugwn ar eich mawrhydi i'r rhai y rhoddasoch un fron y gwirionedd eusus, ganhiadu yr llall, fel y clodforo pob tafod Dduw."
Canlyniad
cyfieithu'r
YscrythurOnd er pan ddaeth yr scrythyrau yn Gymraeg i'n plith, y mae'r helynt orau ar ein cenedl ni ac y fu ers llawer o genedlaethau. Rhoddes Duw iddi heddwch oddiamgylch. Ni wyr y to presennol oddiwrth y cyfyngdra gofidus ydoedd gynefin i'n henafiaid ni gynt. Y mae'r Saeson oeddent fleiddiaid rheibus, wedi myned i ni yn fugeiliaid ymgeleddgar, ac agos cyn hynawsed wrthym ni ac ydym ni wrth ein gilidd. Y nhwy fu'n preintio ein llyfrau ni, ac yn dyscu celfyddydau i ni; ac yn marchnatta â'n gwlad, nid wrth y dur a'r haiarn, ond yr aur a'r arian. Yr hon sydd yn awr lawnach o ddynion ac o olud nag y fu ers talm o'r blaen; a'n celloedd yn llawn o bob rhyw luniaeth, a'n defaid yn dwyn myrddiwn, a'n hychen yn gryfion i lafurio, heb na rhuthro i mewn, na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd. Mae gwybodaeth wedi amlhau, a'r cythreuliaid yn y coedydd wedi distewi. Mae ein moddion hefyd wedi rhywiogeiddio llawer. Nid oes mo'r fath yspeilio, a threisio, a mwrdro ag y glywsom ni gan ein henafiaid ei fod yn eu mysc er's talm. Mae Powys yn weddus wrth fel y bu. Mae Lloegr yn agored i ni hefyd, a chyn hyfed ini breswylio ynddi mewn cyfiawnder ac oedd i'n hen rieni ni cyn ei cholli. Ni bu ein cenedl ni yn yr Iwerddon erioed amlach. A diammeu pe cryfhaeu ufudd-dod i air Duw yn ein mysc ni, ychwanegid at ein trugareddau ni. Canys gwyn fyd y bobl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddynt. Er gorwedd o honynt ymmysc y crochanau, byddant fel escyll colommen wedi eu gwisco ag arian, a'i hadenydd ag aur melyn. Ynteu nag anghyttuna ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, a'r athrawiaeth sydd ar ol duwioldeb. Os ewyllysi yn dda i'r wlad, a gweled dyddiau da, gochel y drwg, a gwna y da. Am hynny dywedaf wrth y Cymro a ryddhawyd, yn ol y siarse y roddes Christ ar y clwyfus a iachawyd, "Wele ti a wnaethpwyd yn iach, na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth."
Tâl
Duw."Ni ddileir y caredigrwydd a wneler i deml yr Arglwydd," ac ni phalla ei wobr. Pan gyfrannodd Dafydd ei feddwl i'r prophwyd Nathan, ei fod ef ar fedr adeiladu ty i Dduw, y nosson honno mynegodd Duw y gwnai ef dŷ iddo yntef; ac a'i cwplaodd yn helaeth. Pan swccrodd Obed Edom arch Dduw, cafodd daledigaeth syber a hynod, oni fynegwyd i'r brenin, gan ddywedyd, -" Yr Arglwydd a fendithiodd Dŷ Obed Edom, a'r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Dduw." Diandlawd ydoedd y fendith a lonnodd gymaint oll ac oedd eiddo ef. Y tarth a weler yn escyn i fynu, a fydd sicer o ddescyn i lawr eilwaith yn law ffrwythlon. Ac felly y gwnaiff anadliad y galon rasol, y fyddo â'r ewyllis ac a'r gallu yn ymgodi at bethau perthynol i deyrnas nef, gan ddychwelyd â chafodydd o fendithion aml. Ni bydd y nef yn nyled y ddaiar, yr hyn a wyddai Salomon yn hy-dda wrth ei brawf a'i lwyddiant ryfeddol wedi iddo adeiladu'r deml. Am hynny yn ei ddoethineb a'i serch, cynghorodd ei fab, gan ddywedyd, -" Anrhydedda yr Arglwydd a'th gyfoeth, ac a'r peth pennaf o'th holl ffrwyth; felly y llenwir dy yscuboriau â digonoldeb, a'th winwyryfoedd a dorrant gan win newydd." Ac nid yn y byd yma yn unig y ceir tal am yr hyn a dreulier ar wasanaeth Duw, eithr yn y byd arall hefyd. Pan gipio marwolaeth y rhai didda at benyd a phrinder dragwyddol caiff y goruchwylwyr ffyddlon a arferant eu talentau yngwasanaeth eu Harglwydd dryssor yn y nefoedd yr hwn ni dderfydd, a chynhalieth ogoneddus byth.