Neidio i'r cynnwys

Clasuron Rhyddiaith Cymru/Edward James

Oddi ar Wicidestun
← Edward Kyffin Clasuron Rhyddiaith Cymru


golygwyd gan Edward Edwards, Aberystwyth
Morgan Llwyd →

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward James
ar Wicipedia

EDWARD JAMES.

MAE tywyllwch dudew yn aros ar hanes a bywyd Edward James, cyfieithydd medrus "llyfr yr Homiliau." Brodor o'r De ydoedd, derbyniodd ei addysg ym mhrif athrofa Rhydychen, ond ni wyddir a dderbyniodd urddau Eglwysig. Rhaid ei fod ym mlodau ei ddyddiau ddiwedd teyrnasiad y frenhines Elisabeth, canys cyhoeddwyd yr "Homiliau" yn 1606, a gwelodd yntau felly y Beibl yn Gymraeg a Phrotestaniaeth wedi cael y llaw uchaf ar y Babyddiaeth yn Lloegr, a gallu teyrnas Spaen wedi ei dorri. Fe ddwg amryw lenorion dystiolaeth uchel i werth ei waith. Dywed Gwilym Lleyn, Golygydd "Llyfryddiaeth y Cymry," am dano, " Y mae ei gyfieithiad o'r 'Homiliau' yn gyfieithiad rhagorol dros ben, ac yn teilyngu sylw pe na bai ond er mwyn ei briodedd wir Gymreig yn unig. Saif Edward James ar orsaf uchel fel gwasanaethwr ei gyd-genedl, yn ymyl Gwilym Salsbri, yr Esgob Morgan, a'r Esgob Parri; ac fel ysgrifenwr Cymraeg dilediaeth, nid yw yn ol i un o honynt." Pa bryd y bu farw, nis gwyr neb, ac os cafodd gareg fedd, y mae mwswg a glaswellt wedi tyfu drosti.


"Pregethau a osodwyd allan trwy awdurdod i'w darllein ymhob Eglwys blwyf a phob capel er adeiladaeth i'r bobl annysgedig. Gwedi eu troi i'r iaith Gymraeg drwy waith Edward James.
Robert Barker, printiwr i odidowgaf fawrhydi y Brenin, ai printiodd yn Llundain. Anno Dom. 1606."

Wele'r Rhagymadrodd:—

"Y mae'r Apostol Paul yn tystiolaethu yn oleu na all neb alw neu weddio ar Dduw heb gredu ynddo, na all neb gredu heb wrando, na neb wrando heb fod rhai a bregetho air Duw iddynt. Am hyny, pan ystyriodd y brenhin ieuangc duwiol Edward VI. pa mor anaml oedd gwir bregethwyr gair Duw o fewn ei deyrnas ef, y rhai a fedrai addysgu'r bobl i gredu yn Nuw, i alw arno, ac i gadw ei orchymynion sanctaidd ef, efe a barodd wrth gyngor ei gyngoriaid i wŷr duwiol dysgedig, cyfarwydd yngair Duw, gynnull a scrifenu yr Homiliau duwiol yma, allan o'r Ysgrythyrau sanctaidd; unig ffynnon pob doethineb; unig ymborth yr eneidiau; unig dywysog ac arweinydd, a rhinwedd, a duwioldeb; unig ddiwreiddydd pob chwyn gwenwynig; unig wrthladdydd pob anwybodaeth; ac unig gyferbyn yn erbyn pob athrawiaeth dwyllodrus, yr hon sydd yn tywys i ofer-goel, trawsopiniynau, a delw addoliad. Yn yr Homiliau hyn y cynhwysir y prif byngciau o'n ffydd ni, ac o'n dyled tu ag at Dduw a'n cymmydogion; fel y gallai adrodd, datgan, a darllain yr Homiliau hyn, bregethu i'w pobl wir athrawiaeth; ac fel y gallai pawb o'r bobl wrth wrando, ddysgu'n union ac yn iawn anrhydeddu ac addoli'r Hollalluog Dduw, a'i wasanaethu yn ddiwyd. Yr Homiliau hyn hefyd, am eu bod mor fuddiol, a orchymynodd yr ardderchog Frenines Elizabeth eu hargraffu eilwaith [yn Saesneg, bid sicr]; a hi a roddodd yr un gorchymyn am eu darllain hwy ag a roisai ei brawd duwiol yn y blaen. Ac megis na ellir dywedyd bod ar y ddaear erioed Dywysog a ddangosodd ymhob peth arall fwy o zel Dduw, ac o ofal dros ei ddeiliaid, na'r Brenhin godidog ardderchog duwiol James ein Grasusaf Frenhin a'n Llywydd; felly yn y peth hyn ni ddangosodd efe ddim llai o'r fath zel a gofal nag a ddangosasai y Brenhin Edward VI., a'r Frenhines Elizabeth o'i flaen ef. O herwydd yntau trwy gyfraith eglwysig (fel y gellir gweled yn y 46 Canon a wnaeth y Gymmanfa Esgobion ac Eglwyswyr, a gynhaliwyd yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad ef ar Brydain, Ffrainc a'r Iwerddon, yr hon a gadarnhaodd ei fawrhydi ef a'i awdurdod goruchel brenhinol) a rois orchymyn caled ar fod i bob Person, Ficar, a Churat, ddarllain yr Homiliau hyn bob Sul a gwyl (o ddiffyg pregeth) ymhob Eglwys Blwyf a Chapel o fewn ei deyrnas; fel y gallai y rhai ni chlywant lafar pregethwr ond yn anaml, wrth arfer o glywed darllain y pregethau duwiol dysgedig hyn yn fynych ddysgu mewn amser gredu yn Nuw yn union ac yn ffyddlon, galw arno o ddifrif, ac yn deilwng, gwneuthur y cwbl o'u dyled tu ag at Dduw a'u cymmydogion, ac ymddwyn felly yn y byd hwn yn ol gwybodaeth, fel y caffont fwynhau bywyd tragwyddol yn y byd a ddaw trwy ein Iachawdwr Iesu Grist. Etto er nad oedd rheitiach i un wlad wrth y fath ynhorthwy nag i wlad Cymru, am fod pregethwyr mor anaml ynddi, ni ewyllysiodd Duw i ni gael neb o'r Homiliau hyn na'r fath eraill yn yr iaith Gymraeg hyd yr amser hyn. Ond wele, y Cymro, hwy yn awr yn dy iaith di dy hun, fel y medrech dithau wrth eu gwrando eu deall hwy, Duw a wnelo wneuthur i ti fawr lles, ac a'th wnelo dithau yn ddiolchus i Dduw am ei fawr ddaioni. Amen."

Dyma eto ddarn byr o'r argraffiad cyntaf, 1606, i ddangos ei ddull clir a'i feistrolaeth ar gyfieithu:—

"Megis nad yw gwir ystyr yr athrawiaeth ymma: yr ydys yn ein cyfiawnhau ni yn rhâd, heb weithredoedd, neu fe'n cyfiawnhau'r ni trwy ffydd ynghrist yn unic: nid yw yr ystyr, meddaf, mai'n gorchwyl ni yn credi ynghrist, neu ffydd Grist yr hon sydd ynom ni, sydd yn ein cyfiawnhau ni, ac yn haeddu ini gyfiawnhad (o herwydd ni byddai hynny onid ein cyfrif ein hunain yn gyfiawn drwy ryw weithred neu rinwedd ynom ein hunain). Ond gwir ystyr a meddwl yr athrawiaeth hon, yw, er ein bod ni'n gwrando gwir air Duw, ac yn ei gredu, er bod yn om ffydd, gobaith, cariad, edifeirwch, ac ofn Duw, ac er ein bod ni'n gwneuthur llawer o weithredoedd da, etto rhaid ini ymwrthod a holl haeddiant y rhinweddau ymma, ffydd, gobaith, cariad, a phob rhinweddau eraill ar a wnaethom, neu a allwn eu gwneuthur, megis pethau o lawer yn rhy weinion, yn rhy analluog, ac yn rhy anghyflawn i haeddu ini ollyng dod o'n pêchodau, a chyfiawnhâd, ac am hynny rhaid ini ymddiried yn unic ynnhrugaredd Duw, a'r aberth a wnaeth ein Archoffeiriad, a'n Ceidwad Christ Iesu mâb Duw a offrymmodd ef unwaith drosom ni ar y groes, i hebrwng ini trwy hyny râd Duw a gollyngdod, cystadl o'n dechreuol bechodau cyn bedydd, ac o'n pechodau gweithredol y rhai a wnaethom ar ol bedydd, os ni a wir edifarhawn, ac a drown yn ddiragrith atto ef."

Nodiadau

[golygu]