Neidio i'r cynnwys

Clasuron Rhyddiaith Cymru/Edward Kyffin

Oddi ar Wicidestun
Morus Kyffin Clasuron Rhyddiaith Cymru


golygwyd gan Edward Edwards, Aberystwyth
Edward James

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward Kyffin
ar Wicipedia

EDWARD KYFFIN.

YCHYDIG iawn sydd ar gael o hanes Edward Kyffin. Ond y mae un peth sicr am dano, sef iddo gyhoeddi rhannau o'r Salmau ar gân yn 1603, a phleser yw darllen ei ragymadrodd llithrig i'w lyfr. Teitl y llyfr yn llawn ydyw,

"Rhann o Psalmae Dafydd Brophwyd i'w canu ar ôl y dôn arferedig yn Eglwys Loegr. Simon Stafford a'i Printiodd yn Llundain dros T.S. 1603."

Yr oedd Edward Kyffin felly ym mlodau ei ddyddiau adeg cyfieithiad y Beibl i'r Gymraeg, yng ngwanwyn deffroad Cymru am addysg ysgrythyrol. Ei ran ef yn y deffroad yma oedd cyfieithu rhai o'r Salmau,—mewn Cymraeg glân, cadarn, ac mae'n fwy na thebyg mai ei ddymuniad cryf yn ei ragymadrodd am i ŵr mwy cymhwys nag ef gymeryd y gwaith i fyny a ysgogodd feddwl yr Archddeon Edmwnd Prys i droi Salmau Dafydd ar gân.

Credir fod Edward a Morus Kyffin yn ddau frawd; yr oeddynt yn byw yn yr un adeg, mae dull eu hiaith yn debyg iawn i'w gilydd, a roedd y ddau wedi meddwl am wneyd yr un gwaith o gynghaneddu llyfr y Salmau (gweler Morus Kyffin, tud. 57).

RHAGYMADRODD EDWARD KYFFIN I'W PSALMAU CAN.

"At fy ngharedigion wlâd-wyr y sawl a garant Ogoniant yr Arglwydd, ag ymgeledd eu gwlad-iaith.

Wrth weled mor ofalus ydyw ieithyddion eraill am ei gwlad-iaith, a chynnydd yr efengyl drwy oll grêd, a bod y Saeson mor gymwynascar i'w gelynion y Spaeniaid ag iddynt brintio bagad o lyfre yn yr Yspaen-iaith a'u danfon ymysg y gelynion ar feddwl eu hynill at Dduw; a'r rhai a aeth a'r llyfre rheini at y gelynion, a fentriasant nid yn unig eu dâ a'u trafael ond eu hoedl hefyd ar fedr gwneuthur lles i Estrongenedl.

Pa faint mwy y dylem ni ymgeleddu ein hiaith ein hunain, yr honn a ddeffynodd y Goruchaf Dduw yn yr unlle yn y deyrnas honn ers seithgant ar hugain o flynyddoedd, ag ychwaneg ymysc cynnifer o amrafaelion cenhedloedd, terfyscoedd a dinystroedd a fu i'n mysg er yr amser hwnnw i geisio difa a dinystrio yr iaith a'i phobl yn llwyr. Yr hynn beth ni all yn nasiwn nag iaith ar sydd dan Grêd a Bedydd heddyw ddoedydd y cyffelyb. Am yr hynn yr ydym ni yn fwy rhwymedig i'r Arglwydd nag oll Bobloedd y byd: ag nyni yn olaf ag yn ddiweddaraf am osod allan Ogoniant Duw yn ein hiaith ein hunain.

Ag wrth weled a chlywed mor brydferth ag mor hyfryd rydys yn moliannu Duw yn yr holl Eglwysi lle mae'r Efengyl yn cael rhyddid, ond Ynghymru yn unig, wrth ganu Psalmae Dafydd, hynny a wnaeth i mi (Er Gogoniant i'r Arglwydd a Chariad i'm Gwlad), ddangos fy ewyllys dâ yn cychwyn hynn o waith ar ddechre cynghanedddu hynn o Psalmae yn nesa ag ellais at feddwl yr Yspryd Glân, fel y cefais hwynt yn scrifennedig yn y Scrythurau.

Mi a rois y Psalmae prés ar gyfer y cynghanedd, ag a adewais lê rhwng pôb vers ai gilydd o'r cynghanedd, fel y gallo rhai celfyddach gymhennu a pherffeithio hynn a wneuthym i ofras-naddiad, er praw yn unig, ag er annog eraill (a fedrant yn well) ei hail-ddiwygu hwynt. Gan ddymuno arnoch bawb yn ol ei allu hyfforddi fy wyllys da i a'ch cyngor a'ch cymorth, i amlygu i'r byd eych serch a'ch cariad i Dduw a'ch Gwlad. Yr hynn bêth os gwnewch, chwi a ogoneddwch yr Arglwydd, chwi a fawrhewch eych gwlad, ag a'm cyssurwch innau, nid yn unig i fynd trwodd a holl gorff y Psalmae yn yr un rhyw gynghaneddiad (yr hwnn fesur gynghanedd sydd gymwysaf ei ganu gann yr holl Gynlleidfa ar un-waith) ond hefyd i léshâu fyngwlâd ymhellach ar ôl hynn mewn pethau duwiol eraill o'r Scrythur làn drwy obeithio gann gadw o Dduw nyni a'n hiaith mor gryno ag mor ddilwgr dros gyd o amser, fôd gann yr Arglwydd Dduw ryw orcheswaith a goruchafiaeth tu ag at amlhad ei ogoniant ei hûn ym-mysc yr hên Frutaniaid a gadwodd ef mor wyrth-fawr mewn rhyddid a diogelwch hyd yn hynn.

A chann eyn bod yn byw yn yr oes honn dann ardderchockaf Vrenhineso'n gwlâd eyn hunain, yr honn sydd yn canhiadu i ni gael y Scrythur lan yn ein hiaith eyn hunain, ag oll gyfreidiau eraill ar a ddamunem er cael tu ag at amlhau Gogoniant Duw, a mawrhad eyn hiaith: (yr hynn bêth ni a attolygwn i Dduw ei hir-gynnal i ni rhag-llaw). O fy anwyl wladwyr tra fo Duw yn canhiattau i ni y rhwydd-deb, yr heddwch, a'r rhyddid y rydym yr rowron yn ei gael, na chollwn yr amser presennol, ond yn hytrach gwaredwn yr hîr-amser a gollasom yn barod, a dangoswn i'r byd eyn bod yn prisio mwy am ogoniant Duw, am orchafiaeth a derchafiad eyn gwlâd a'n hiaith ag am ddi-dranck lywenydd ag iechydwriaeth eyn Eneidiau eyn hunain nag yr ydym am ddarfodedig fwnws y byd hwnn, yr hynn nid oes i ni ond byrr amser iw fwynhau.

Ag ar hynn mi a ddymunwn ar bob gwir Gymro na rodde hun iw lygaid, na heppian iw amrantau (fel y doedodd y prophwyd Dafydd) nês gweled Gogoniant yr Arglwydd, drwy hy-hyfforddi gorffenniad y Gorchwyl duwiol yma yn ei wlad-iaith ei hunan.

Yr oll-alluawg Dduw yr hwn yn unig a roes y meddwl ynof i gychwyn hynn o waith a gynhyrfo ynoch chwithau wyllys i gymhorth yr unrhyw, tu ag att helaethiad Gogoniant Duw, mawrhad eyn priod-iaith, a chyssur eyn Eneidiau erbyn y dydd a ddaw.

Yr eiddoch iw orchymyn yn-Christ Iesu.

EDWARD KYFFIN."

Nodiadau

[golygu]