Neidio i'r cynnwys

Clasuron Rhyddiaith Cymru/Morgan Llwyd

Oddi ar Wicidestun
Edward James Clasuron Rhyddiaith Cymru


golygwyd gan Edward Edwards, Aberystwyth
Charles Edwards

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Morgan Llwyd
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llyfr y Tri Aderyn
ar Wicipedia

MORGAN LLWYD.

AMSER blin ac ystormus oedd tymor bywyd Morgan Llwyd. Gwyddom adeg ei farw, y trydydd o Fehefin, 1659, blwyddyn ar ol marw Olifer Cromwel, a blwyddyn cyn dychweliad Siarls yr Ail; ac er mai gwir i Forgan Llwyd farw yn ddyn ieuanc deugain oed, gwyddai yn dda am erchylldra y Rhyfel Mawr rhwng Siarls I. a'r Senedd. Mae sicrwydd bron mai yng Nghynfael, Maentwrog, Sir Feirionnydd, y'i ganwyd, a'i fod yn berthynas i Huw Llwyd, cyfaill calon Edmwnd Prys. Ni fu erioed yn yr un brif-athrofa, eto cafodd addysg dda. Feallai mai yng Ngwrecsam y bu yn yr ysgol; beth bynnag, yno y cafodd droedigaeth dan bregeth Walter Cradoc, yn 1634. Ar ol ei ddychweliad at grefydd, ymdaflodd Morgan Llwyd o ddifrif i'r gwaith o efengyleiddio Gogledd Cymru, a pharhaodd i weithio a'i holl egni tan ddiwedd ei oes. Teithiol, yn ddiameu, oedd dull ei weinidogaeth, a rhaid fod iddo gyfarfod a llawer o anhawsterau, gan fod Gwynedd yn hynod yr adeg yma am ei dallbleidiaeth i Babyddiaeth a'r Frenhiniaeth. O dan Weriniaeth Cromwel, ymgartrefai Morgan Llwyd yng Ngwrecsam, ac yn ei deithiau pregethu oddiyno, sefydlodd Eglwysi Ymneillduol cyntaf y rhandir hon.

Ym mlynyddoedd olaf ei oes, o 1653 1 1659, ymroddodd i ysgrifennu llyfrau,—llyfrau ddangosant ei fod yn wr o allu anghyffredin iawn a'i fod yn feistr ar arddull ysgrifen. Ei waith pwysicaf yw "Llyfr y Tri Aderyn," gyhoeddwyd yn 1653, neu yn ol ei lawn deitl, "Dirgelwch i rai i'w ddeall ac eraill i'w watwor, neu lyfr Tri Aderyn." Dangoswyd gwerth a phwysigrwydd y llyfr yma gan Dr. Edwards mewn ysgrif nodedig yn y Traethodydd, 1848, ac yn ei ragymadrodd penigamp i'r un llyfr, dywed y Parch. Owen Jones, B.A., mai dyma yr unig lyfr o waith Morgan Llwyd sy'n hollol wreiddiol, tra mai lledgyfieithiad yw y gweddill. Ac er mwyn esbonio natur ac amcan "Llyfr y Tri Aderyn," dyfynaf y frawddeg hon:—"Nis gallasai ddethol tri mwy cymhwys o holl adar y nefoedd na'r Eryr, y Golomen, a'r Gigfran i osod allan Cromwel a'i ddidueddrwydd teg; y Diwygwyr Puritanaidd ac Anghydffurfiol, eu hegwyddorion a'u hysbryd, ym mha oes bynag; a'r Eglwys Sefydledig, fel yr oedd Laud a'i greaduriaid wedi ei darostwng yn ei rhagfarn, ei llygredigaeth, a'i hysbryd creulon ac erlidgar." Gallwn fentro rhoi taer a chynnes wahoddiad i bob un ddymuno ddarllen Cymraeg pur diledryw ac ymgodymu a meddyliau uchel a godidog i brynnu "Llyfr y Tri Aderyn," fel y mae wedi ei argraffu yng Nghyfres y Ceinion (Isaac Ffoulkes, Lerpwl). A disgwylir y bydd i hyn o bigion o hono symbylu llawer i ddarllen yr holl waith.

LLYFR Y TRI ADERYN.

Dirgelwch i rai i'w ddeall, ac i eraill i'w watwor; sef, Tri Aderyn yn ymddiddan—yr ERYR, a'r GOLOMEN, a'r GIGFRAN—neu Arwydd i Annerch y Cymry yn y flwyddyn mil a chwechant a thair ar ddeg a deugain, cyn dyfod 666.

Ymgydnabod
yr Adar.
Eryr. O BA le'r wyti (y Gigfran ddu) yn ehedeg?

Cigfran. O dramwy'r ddaiar, ac o amgylchu'r gweirgloddiau i ynnill fy mywyd.

Eryr. Onid tydi yw'r aderyn a ddanfonodd Noah allan o'i long na ddaeth yn ol fyth atto drachefn?

Cigf. Myfi yn wir yw'r Aderyn hwnnw, ac mae arnai dy ofn di, brenin yr Adar.

Er. Pam na ddoit ti yn ol at yr hwn a'th ddanfonodd?

Cigf. Am fod yn well gennif fwytta cyrph y meirwon na bod dan law Noah ai feibion.

Er. Di wyddost (O, Gigfran!) i'r golomen ddychwelyd yn ol, ai deilien wyrdd yn ei phig.

Cigf. Beth er hynny? nid yw hi ond aderyn gwan ymysg ehediad y ffurfafen; rwi fy hun yn gryfach, ac yn gyfrwysach o lawer.

Er. Ond yr wyti yn bwytta cig y meirwon, ac yn ymborth ar y budreddi annaturiol.

Cigf. Felly yr wyt tithau (O, Eryr!) weithian, er dy fod yn falch, ac megis yn frenin.

Er. Gwir yw hynny: Ond galwn am y golomen i wrando beth a ddywed hi am dani ei hun ac am danom ninnau.

Cigf. Ni ddaw hi i'n cwmni ni rhag ofn, ac ni feiddia hi ddywedyd ei meddwl lle bwyfi.

Er. Nage. Rhaid wrth gynghor y golomen. Gwrandawn ar bawb, a dewiswn y gorau. Pa le yr wyti (O, golomen!) yn lloches y grisiau? Gad i ni glywed dy lais dithau.

Col. Os cair cennad (ac onide) mae ewyllys i ddangos dirgelwch y dwfr diluw, a'r hen fyd a'r newydd; da gennif ddwyn y ddeilien lâs, a newydd da i'r rhai a achubir. Ac mi ddylwn gael cennad i ddywedyd y gwir yn llonydd am danaf fy hunan ac am bob aderyn arall.

Er. Dos rhagot. Ni rwystra neb di: di gei gennad i fynd ymlaen.

Col. Mae gennifi etto lawer ynghylch yscrythurau ac eneidiau dynion, ynghylch teyrnasoedd a rhyfeloedd, Arch y dystiolaeth a chodiad y seren ddydd, Haul y cyfiawnder, a dydd y farn, diwedd y byd hwn, a dechrau'r byd arall, naturiaeth Duw a natur dyn, nef ac uffern, a llawer o fatterion eraill. Ond mae'r gigfran yn anhywaith, ni chair son am ddim daioni o'i bodd hi.

Er. Ond mae Noah wedi peri i mi, 'r Eryr, lonyddu'r Gigfran, a chadw heddwch ymysg Adar: ac fel yr ydym ni, 'r Eryrod, yn gryfach na'r cigfrain, felly mae'r da yn gryfach na'r drwg.

Col. Beth a fyn yr Eryr i wybod? ac am ba'r y newydd y mae yn ei feddwl ymofyn?

Er. Mi fynwn wybod genniti pa beth yw dirgelwch Arch Noah; a chan fod y dychryn, a'r diluw, a'r rhyfel, a'r rhwystrau, a'r gwae, a'r gwagedd, a'r camwedd wedi parhau cyhyd ar y ddaiar; pa bryd y ceir diwedd?

Col. Cyfrinach yw Arch Noah iw ddangos i rai, canys nid yw'r adar drwg, nag yn deilwng, nag yn ewyllysgar iw glywed: ond am y ddeilien wyrdd, a'r newydd da, fe baid y dwfr diluw pan bregether yr efengyl dragwyddol drwy'r holl ddaiar.

Er. Onid yw'r pregethwyr yn i phregethu hi ymhob plwyf yn barod ar i rhedeg, ac yn parablu, ac yn darllain yr efengyl i ni yn ein sefyll?

Col. Nag ydynt, gan mwyaf: Nid adwaenant Dduw, mwy nag y mae'r twrch daiar yn adnabod yr haul, neu blant Eli yr hwn ai gwnaeth.

Er. Ond mae nhwy yn dywedyd mai pregethu'r efengyl y maent i gyd.

Col. Ie, os yr un llais sydd gan y gigfran a'r golomen, neu os yr un fath yw cyfarthiad cŵn a lleferydd angelion. Ac nid un o ddefaid yr Oen nefol yw'r hwn ni ŵyr nad blaidd yw bugail, ac nad bugail yw'r blaidd.

Cweryl.Cigf. Na feia ormod arnafi: pa warrant oedd genniti, os gwiw gofyn, i dori pen y Brenin, ac i symmud Parliamentau wrth dy bleser dy hun, fel na wyr fawr yr awron i bwy yr ymostwng i dalu teyrnged. Ac mi welaf fod teyrnas heb reolwyr fel corph heb ben, a phawb yn gwneuthur a fynno ef ei hunan.

Er. Geirwon yw geiriau'r Gigfran. Ond gwrando er hynny ar reswm. Mae yspryd rheolaeth fyth yn parhau, a'r sawl na phlycco iddo a ddryllir. Mae Noah yn rhoi rheolaeth i'r sawl a fynno; yn gostwng y naill, ac yn codi'r llall o'r dommen i reoli. Nid oedd Gideon, a Saul a Dafydd, ond gwŷr gwael ar y cyntaf yn y byd. Ac o'r tu arall, y mae efe yn chwythu ymmaith bennaethiaid y byd, fel llwch y llawr dyrnu i'r dommen, canys nid yw efe yn derbyn wynebau dynion; nid yw'r holl ddaiar ond stôl draed iddo. Mae efe yn rhychwantu y ffurfafen, ac yn dal y môr mawr ar gledr ei law, ac yn pwyso y mynyddoedd mewn cloriannau; ac os bydd un gwr mawr yn rhy yscafn, mae efe yn i roddi heibio; ond y mae efe yn edrych ar yr isel, ac yn cynnal y galon dorredig.

Cigf. Mi welaf y teyrnasoedd yn berwi fel ped faent grochanau ar y tân. Ond beth a ddaw, dybygi di, O! Eryr, ar ol hyn?

Er. Ni wn i fy hun, mi gaf wybod gan y golomen: ond rwi'n tybied y ceir etto fyd gwell nag a gaed erioed, canys yn y nef a'r ddaiar newydd fe erys cyfiawnder.

Cigf. Ond oni weli dy hunan fod y byd yn myned waeth waeth, a chariad perffaith yn treio?

Er. Na sonia di am gariad perffaith, O! gigfran amherffaith. Beia arnat dy hun yn gyntaf, ac yna mae gobaith o honot. Oni weli di fod yr haul yn cledu'r clai? a pha dwymna y tywynno ar y dommen, brynta fydd: mae'r da yn myn'd well—well ymhob oes erioed, a'r drwg yn mynnu mynd yn waeth-waeth.


Athroniaeth
y Golomen
Cigf. Mae Noah wedi fy ngwrthod i,ac nid gwaeth i mi beth a wnelwyf os . gwrthodedig ydwyf.

Er. Nid efe a'th wrthododd di, ond dydi ai gwrthaist ef, ac a aethost ymmaith. Cariad ac ewyllys da yw efe, ac nid oes dywyllwch ynddo: hawdd ganddo faddeu i'r gwaethaf; anhawdd ganddo ddigio, a gwych ganddo hir-ymaros.

Cigf. Ond mae llawer yn dywedyd i fod ef wedi gwrthod llawer, a dewis rhai cyn i geni.

Er. Mae hyn tu hwnt i'm dysg i: fe alle y gŵyr y golomen y dirgelwch hwn. Beth a ddywedi di?

Col. Anhawdd dywedyd, ac anhawdd deall pa fodd y mae'r dyfnder hwn yn Noah. Ond mi ddarllenaf i chwi yr A, B, C, cyntaf fel hyn. Mae ynghragwyddoldeb dri yn un, sef ewyllys, cariad, a nerth, a'r naill yn ymgyrhaeddyd erioed a'r llall, ac yn ymborth ac yn ymgenhedlu yn i gilydd byth. Oni bai fod pleser cariad trag wyddol i borthi'r ewyllys anfeidrol, ni byddai neb yn gadwedig. Ac oni bai fod cynhyrfiad yr ewyllys cyntaf yn dân lloscadwy, ni byddai neb yn golledig. Ac oni bai fod y tri fel hyn yn cydweithio, ni buasai na dyn, nag angel, nag anifail, na dim arall wedi i wneuthur. Mae rhai wedi ymesgor erioed yn y cariad drwy yscogiad yr ewyllys, yr hwn sydd yn i gwasgaru fel gwreichion allan o hono ei hun, ac yn i tymheru yn nwfr y difyrwch, yr hwn yw'r Arch, nid yw gwreiddyn y tri ond cariad ynddo ei hun, heb gashau neb. Ond yn yr ewyllys gweithgar hwnw mae'r ysgogiad yn tewychu y peth sydd ynddo, ac yn gadel heibio (fel pren ei ddail, neu ddyn ei boeryn) y peth nad yw un ag yspryd y galon. Wele, nid yw'r cigfrain yn adnabod tarawiad y tant ymma yn y delyn nefol. Ond deall di, O Eryr, ac fe a ddeall y colomennod hyn fwyfwy. Canys fel dymma wreiddyn y matter, a ffynnon pob peth. Dymma fôn derwen yr holl fyd gweledig hwn. Dymma y cynhyrfiad tragwyddol sydd yn achosi pob symmudiad ymysg yr holl greaduriaid. Ond nid yw'r adar ar ganghenau'r pren yn meddwl pa fodd y mae'r gwreiddyn yn cynnal ei naturiaeth, a nhwythau ynddi. Yr ewyllys cyntaf yw gwreiddyn pob un (fel y mae'r wreichionen yn dyfod o'r garreg) ac mae efe ei hun yn ymgyrchu yn wastad i fonwes y Mab, ac yn ymlonyddu yno yn y cariad; ond mae llawer o'r gwreichion heb fynnu ymoeri felly ond yn ehedeg gyda Luciffer yn erbyn y goleuni a'r tawelwch tragwyddol, ac yn aros yn yr yscogiad tanllyd, heb gael esmwythdra byth, eisiau dyfod iw geisio allan o'i naturiaeth ei hunain. Mae gallu yn yr ewyllys i ysgog, ond nid oes mor ewyllys gyda gallu i ddychwelyd (fel y dywad y gigfran o'r blaen ran o'r gwir). Am hynny, mae llawer yn i gwrthod ei hunain, ac yn achwyn ar Noah. Ac er bod i fonwes ef yn i chwennych, mae ei monwes danllyd hwynt yn i dal yn ei teyrnas ei hunain. Ond, O Eryr, os cofi di ofyn ymhellach am hyn, pan fôm ni wrthym ein hunain yn y distawrwydd, mi ddangosaf yn helaethach wreiddyn pob dirgelwch. Ond yr awron dos ymlaen i chwedleua a'r gigfran.


Dau Esboniad.Er. Nid rhyfedd wrth hyn fod llawer yn golledig, os yw pob dyn fel nythod o nadroedd yn llawn o feddyliau cnawdol. Ond beth a ddywaid y från wrth hyn ?

Cigf. Dymma daro at y gwreiddyn. Os drwg gynghorwr, drwg ganlynwr. Os tywyll goleuni rheswm, mae'r holl gorph yn dywyll, a phob gair ar a ddywedais i erioed yn ofer. Ond (om rhan i) rwi'n tybied fod rheswm ymhob peth, ac mai rheswm naturiol yw'r goleuni gorau. Dymma wreiddyn y pren a blannwyd yn ddwfn. Diwreiddied y golomen ef, os gall.

Col. Mi wn mai dymma Salomon y byd, ond mae yspryd gwirion y golomen yn fwy na Salomon yn ei holl ogoniant ai ddoethineb. Ond i ddangos i ti ddoethineb ddaiarol y frân, ei synwyr hi yw hyn, Dalied pawb ei eiddo, cippied pawb a allo; safed pob dyn ar ei waelod ei hun; na ddyweded mor gwir mewn cariad, ond mewn creulondeb; na ddringed uwchlaw rheswm dyn; canlyned y byd ei arfer ; maged ei naturiaeth, ai gnawd, ai waed, a gwaried ei amser mewn trythyllwch. Bwyttaed ac yfed, a bydded lawen; bodloned bawb er i fwyn i hun; bydded ganddo ddau wyneb yn barod, ai galon yn ddauddyblyg; bydded gall drosto ei hunan, onid e marw a wna. Ond dymma ffolineb y byd, dymma ynfydrwydd pen agored, canys nid call y dyn ai ceisio ei hun. Y sawl sydd a dau wyneb gantho, mae un o'r ddau yn gythreulig: y neba wenhieitho i ddynion sydd bwdr yn ei galon. Hawdd yw bwytta, yfed, a chwarae gormod, a dawnsio yn y cnawd ar ôl pibell yr ysbryd drwg. Ysbryd y gwaed yw cwmmwl y meddwl. Arfer y byd yw'r porth llydan i ddestryw. A'r sawl na ddringo uwch ei law ei hun, ni eistedd fyth yn y Nefoedd. Mae'r dyn difyr, chwerthinog, allan o'i gôf ei hun, ac o'r tu fewn i gôf y sarph. Amser dyn yw ei gynnyscaeth, a gwae ai gwario yn ofer. Rhaid yw dofi yspryd y cnawd, a magu bywyd ysbryd yr uchaf. Boddi a wna'r dyn na nofia yn erbyn ffrwd y wlad. Y rheswm uchaf yw'r afreswm isaf. Ni saif neb ond un arno ei hun. Nid eiddo neb ei hunan. Cadwed pawb ei galon at Dduw. Adrodded pob un ei gydwybod yn ddoeth. Cladded dyn ei reswm ei hun. Ond dyma iaith nad oes nemmor yn ei ddeall. Nag ofned neb arall cymmaint ag ef ei hun. Oni fedri roi taw ar eraill, distawa dy hun. Pan fo mwyaf swn yn y byd, bydded lleiaf yn dy galon. Nac ofna ddiafol na châr y pechod ac na chynnwys dy hun. Na ddalied ysbryd y creadur di, ond nofia i Ysbryd y Creawdwr. Cyfrif y da o'th flaen yn berl, a'th waith o'th ôl yn dom. Melys i'r cnawd yw siwgwr diafol, ond bwytta di y manna dirgel. Mochyn yw Luciffer yn ymdreigio ynghawd dyn. Crochan hwn yw calon fudr yn berwi ar dân uffern. Gwyniau'r cnawd ynt feirch o ryfel; descyn oddi arnynt ac nag oeda. Perthen o ddrain yw rhesymmau dyn, ai gwado ei hun a ddiangc o honi. Portha dy chwant, ac fe a'th ladd. Llei mae dynion mae angelion, llei mae angelion y bydd dynion. Y sawl sy'n byw ynddo ei hun sy'n byw allan o fonwes y Tad. Oni elli achub eraill, diange dy hun oddiwrthit dy hun. Gwell yw adnabod y galon yn y byd ymma, nai bod hi yn adnabod digofaint byth. Pa fodd y gelli fod yn llonydd oni byddi ar y graig. Nid gwaeth beth a ddywedo ffyliaid, nid ei gair nhwy y saif. {[lein|5em}}

Newid,
y pwnc.
Er. Oni ŵyr y pechadur pwy sydd yn aros ynddo?

Col. Na ŵyr, mwy nag y mae'r muriau meirwon yn adnabod y trigianydd. Canys ni fỳn dyn weled y carnlladron o bechodau sydd yn llechu ynddo fel y gweli di y genegoegion a'r pryfed mewn pwll drewllyd.

Er. Gâd hyn heibio yr awron. O ba le y daeth yr holl ddwfr i foddi yr holl fyd?

Col. Allan o drysorau y Goruchaf. Efe a rwygodd y dyfnder mawr ynghalon y greadwriaeth oddi tanodd, ac a egorodd ffenestri element y dwfr oddiarnodd ; a rhwng y ddau ddwfr yn un, fe orchfygwyd pob cnawd er dewred oedd. Ac ar ddydd y farn olaf, fe ddaw tân ysbrydol, a thân naturiol, i farnu ac i brofi'r byd, oddiwrth y Goruchaf, yr hwn sydd ganddo yn ei drysordŷ y tân, a'r gwres, a'r gwynt, a'r glaw, a'r ôd, a'r rhew. Ac ni all un cnawd aros na'î wres na'i oerni ef. Ac fel y gwnaed corph dyn o bedwar defnydd (sef tân, awyr, dwfr a daiar), felly ni all un corph cnawdol spario yr un o'r pedwar, na byw ar awyr heb ffrwyth y ddaiar, nag yn y gwres heb ddwfr, nag yn y dwfr heb y tri eraill: am hyny fe foddwyd pob peth a'r yr oedd anadl y bywyd ynddo, ac fe ddygwyd ysbryd pob cnawd nad oedd yn yr Arch dan gaethiwed y dwfr.

Er. Pam y deuai y dwfr ymma i foddi dynion druain, heb roi rhybudd i fod yn dyfod fel y gallent i ochel?

Col. Nhwy gawsant rybydd i gyd gan Noah (pregethwr cyfiawnder): ond roedd yr holl fyd yn chwerthin am ei ben ef, er bod pob dyrnod morthwyl yn bregeth yn galw ar y byd cyndyn i'r Arch.


Dim ofn
marw
.
Er. Rwyti yn sôn yn fynych am Baradwys, wyddost ti pwy sydd yno?

Col. Dod gennad i mi i son yn ddifyr am fy ngwlad a'm bro fy hunan. Rhaid i bawb son am ei gartref. Rwi (mewn rhan) ynddi yn barod, a'r colomennod gyda'm fi, fel y dywedais i ti.

Er. Ond beth ped fawn i yn dy ladd di yr awron, i ba le yr ait ti?

Col. I mewn ymhellach i'm gwlad; canys ni ellir mo'm gwthio i allan o'm naturiaeth: a naturiaeth nefol yw paradwys.

Er. A wyddosti beth yr wyti yn i ddywedyd?

Col. Gwn, er na fedrai beri i ti ddeall.

Er. Onid oes arnat ti ofn marw er hyn i gyd?

Col. Nag oes, mwy nag ar un sydd wedi blino, fynd iw wely i orphwys. Cennad yw angau oddi wrth fy Nhad i'm dwyn i adref allan o yscol y byd hwn, fel allan o garchar y cnawd.

Er. Ond mae ofn marw ar eraill?

Col. Mae iddynt hwy achos, canys pan fo angau yn marchogaeth attynt hwy, mae uffern yn ei scîl ef.

Er. Pam nad oes arnat tithau ofn marw?

Col. Am fod Un arall wedi marw drosofi, a hwnnw yw fy Meichiau i. A digon yw naill ai iddo ef ai i minnau farw.

Er. Oni bu efe farw dros bob un arall cystal a thithau?

Col. Fe fu farw dros bawb, ac mae pawb yn cael llès oddiwrtho dros amser. Ond nid ydynt hwy yn i garu ef, ond yn ymollwng oddiwrtho i fyw ac i farw fel Balaam. Ac oni bai iddo erioed ymroi a chytuno i farw, ni buase y byd ymma yn sefyll munud awr ar ol cwymp Adda.

Er. Ond bu efe farw lawer blwyddyn ar ol hynny?

Col. Ond deall di, O! Eryr, iddo addo, a bwriadu marw, er sylfaeniad y byd; a'r peth a fwriado efe, mae hynny fel ped fai wedi i wneuthur yn barod.


Rhy ddwfn
i'r Eryr.
Er. Er a ddywettech di, nid yw hyn yn mynd im pen i, nag im calon chwaith. Ar pen yw drws y galon. Pa fodd y mae i ddyn feddwl heb gam feddwl am y pethau hyn?

Col. Ni all fod ond un anfesurol; a hwnnw am i fod ef yn berffaith, rhaid iddo fod ymhob man ar unwaith, ac yn llefaru wrth bawb yn wastad, yn clywed ac yn cynnal pob peth ar unwaith. Nid rhan o hono sydd ymma, a rhan accw, canys nid oes mor rhannau ynddo. Ond mae fe i gyd, ac yn gwbl, ac yn hollawl ymhob man ar unwaith. Am hynny y galle Moesen chwedleua âg ef wyneb yn wyneb, canys yr oedd yr holl Dduwdod o flaen ei lygaid ef. Ond ni wêl neb hyn ond y meddwl ysprydol, fel naellir gweled yr haul ond yn ei oleuni ei hunan. Pwy sydd yn gweddio? neu pwy sydd yn pregethu? neu yn rhoi tro yn y byd, ac yn gweled fod yr holl Dduwdod i gyd, sef y Duw mawr, ai holl olwg arno? ac yn deall mai lle y mae ei gariad ef, yno y mae bywyd a pharadwys; ac lle mae ei ddig ef, yno y mae angau ac uffern. Hwn yw'r Duw anfesurol, bendigedig byth, yn ymlonyddu ynddo ei hunan, ac iddo fe bo'r clod ym mhob man yn dragywyddol. Ni ddyle ddyn son am ei enw ef heb barch a chrynfa, canys ynddo y mae pawb yn son am dano. Oi flaen ef y mae'r nefoedd yn diange, a char ei fron ef y mae'r angelion sanctaidd yn ymguddio; ond mae dynion fel anifeiliaid direswm, uffernol, yn rhuo, yn anghofus, yn cablu, yn camarfer y gair, yn tyngu, yn drwg- feddwl, yn melldithio, yn rhegi eraill ai heneidieu ei hunain, heb weled fod y tân aniffoddadwy wrthynt ac ynddynt. Ac mae rhai eraill (druain) yn edrych am Dduw o hirbell, ac hefyd yn gweiddi am dano oddiallan, heb weled fod ffynnon, a gwreiddyn ynddynt, yn ceisio tarddu a thyfu drwyddynt. Canys mae fe gyda phob dyn, er cynddrwg yw, yn goleuo pob dyn ar sydd yn dyfod i'r byd; ond er i fod ef drwy bawb, nid yw fe yn cael aros ond yn ymbell un. Y sawl sydd gantho glust i wrando, gwrandawed.

Er. O Golomen, onid wyti yn blino bellach a siarad am y pethau hyn? Ni fynnwn i mo'th flino di chwaith.


Ofn yr
Eryr.
Er. Ond pa fodd y caiff dyn adnabod dydd ei iechydwriaeth?

Col. Tra fo'r adar yn canu—tra fo'r felin yn troi —tra fo'r gwynt yn chwythu—tra fo'r haiarn yn dwymyn—tra fo'r awr hon yn parhau—tra fo'r meddwl yn ymgeisio—tra fo'r gydwybod yn rhybuddio. Cyn diffyg yr anadl—cyn cau porth y ddinas—cyn hedeg or enaid—cyn torri o'r edef—cyn cwympo'r pren—cyn caledu'r ewyllys—cyn serio'r gydwybod—cyn diffodd y ganwyll—cyn passio'r farn—cyn i heddyw ddarfod cyn i'r munud ymma fyned heibio. Dychwelwch, O! blant dynion. Pa hyd yr oedwch gymmeryd bywyd.

Er. Mae llawer yn son am gael i dal ai cymmeryd ar awr dda. Onid oes awr dda i bob un oddiwrth y Planedau?

Col. Mae'r Planedau yn rheoli y meddwl anifeilaidd cnawdol, nes iddo fynd allan o'r corph oddi tan yr haul. Ond mae'r dyn difrif ysbrydol uwchlaw'r holl blanedau yn ei feddwl yn barod, er bod ei gorph ef etto fel anifail. Ir dyn cyndyn nid oes un awr dda, nag i'r dyn nefol un awr ddrwg.

Nodiadau

[golygu]