Neidio i'r cynnwys

Clasuron Rhyddiaith Cymru/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Cynnwysiad Clasuron Rhyddiaith Cymru


golygwyd gan Edward Edwards, Aberystwyth
Y Mabinogion

RHAGYMADRODD.

Fe gyhoeddwyd o dro i dro amryw gasgliadau o Farddoniaeth Gymreig, ond nid oes neb eto, hyd ag y gwn i, wedi dwyn allan yr un gyfrol fer a chryno o bigion rhyddiaith glasurol Cymru.

Fy amcan gyda'r gyfrol fechan hon ydyw dangos i ieuenctyd Cymru,—yn enwedig i ddisgyblion уг Ysgolion Canolraddol a'r Colegau,—fod y fath beth yn bod a Chymraeg cadarn, ystwyth, safonol, wedi ymddangos yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg; ac nid oes well athraw i ddysgu arddull dlos mewn ysgrifennu a siarad Cymraeg na darllen yn fanwl weithiau digymar yr hen awduron Cymreig.

Ceisiais gyfyngu darnau y llyfr hwn i ysgrifennwyr sy'n cael eu cydnabod gan lenorion yn gyffredinol fel awduron safonol. Credaf nas beiir fi am un darn sydd ynddo: feallai y'm beiir am adael rhannau allan a ddylent fod i mewn. Ond fy esgus barod ydyw fod gennyf awydd cryf am i'r llyfr fod yn fychan, ac felly yn isel ei bris, fel ag i fod yn hawdd o fewn cyraedd pawb a'i myn.

Rhoddais nodyn i mewn ar amser a bywyd y gwahanol ysgrifennwyr,—i ddangos yr adeg y buont byw, a'r helynt a'u cynhyrfodd i gyfansoddi. Os caiff y gyfrol fechan yma dderbyniad gweddol gynnes, bwriadaf ddwyn un arall allan yn cynnwys pigion o ryddiaith ddiweddar,—o lythyrau Goronwy Owen i lawr i ganol y ganrif hon.

Cefais aml gyngor caredig gan gyfeillion lu,caredigion addysg Cymru. Ond nid enwaf ond tri, —fy nghyd-athro Edward Anwyl a fy nghyfeillion. R. E. Jones a J. H. Davies—a roddasant i mi bob cymorth trwy adael i mi chwilio allan am drysorau eu hen lyfrau Cymraeg.

EDWARD EDWARDS.

TANYBRYN,
ABERYSTWYTH.

Nodiadau

[golygu]