Clasuron Rhyddiaith Cymru/Sion Dafydd Rhys
| ← Wiliam Morgan | Clasuron Rhyddiaith Cymru golygwyd gan Edward Edwards, Aberystwyth |
Morus Kyffin → |
SION DAFYDD RHYS.
MAE hanes y gwr dyscedig hwn, o'i febyd i'w fedd, yn rhamant ddyddorol. Garddwr oedd ei dad, Dafydd Rhys, a ddaeth i Wynedd o Forgannwg gyda Syr William Griffith pan briododd ferch Thomas Stradling, o Gastell St. Donat's. Dafydd, ynteu, yn ei dro a briododd wasanaethyddes i'w feistr, ac un o St. Donat's oedd hi. Ganwyd iddynt un mab,—Sion: a buan wedi ei eni bu farw ei dad a hefyd Syr William. Gan nad oedd i'w fam unrhyw berthynas yn y Gogledd, penderfynodd droi yn ol i'r De, a chan mai ifangc a gwan oedd y bachgen bach, gorfod iddi ei gario ar ei chefn agos yr holl ffordd i Forgannwg. Profodd hyn yn ormod o waith iddi, a bu farw yn union wedi cyrhaedd ei hen gartref, gan adael ei phlentyn diymgeledd yn unig ag amddifad.
Ond gwenodd rhagluniaeth arno, gan i Syr Edward Stradling ei gymeryd i'r Castell, a chafodd yr un meistri ofalu am ei ddysgeidiaeth ag a ddysgai fab y boneddwr caredig. Anfonwyd y ddau i'r Eidal, i Brif Athrofa Sienna, lle y cawsant bob cyfleustra i ymberffeithio yn yr Italaeg a'r Lladin. Pan ddaethant yn ol, gwnawd Sion Dafydd Rhys yn athro teulu Stradling: a phan gofir iddo achub bywyd yr etifedd rhag boddi yn y môr pan oedd pawb arall wedi methu, hawdd yw canfod paham y bu i'r Stradlingiaid estyn pob cymorth i Sion ar hyd ei oes. Aeth i'r Eidal drachefn, i Sienna, a gwnawd Sion yn Ddoctor Meddyginiaeth gan Gyngor y Brifysgol. Erbyn hyn, yr oedd wedi penderfynu byw yn fynach, ond gan fod yr holl fynachlogydd wedi eu dinystrio yn amser Harri'r Wythfed, prynodd Sion Dafydd Rhys etifeddiaeth fechan iddo ei hun a elwir y Clyn Hir, ar eithaf Cwm Llwch, o dan gysgod Bannau Brycheiniog, lle y bu farw yn hen wr aml ei ddyddiau yn 1609.
Ysgrifennodd amryw lyfrau yn ei ddydd,—un ar "Reolau i Ddeall уг Iaith Lladin" yn Italaeg a argraffwyd yn Venis,—un ar yr iaith Italaeg, yn Lladin a gyhoeddwyd ym Mhadua, ond ei lyfr mawr a orffennodd yn nhawelwch y "Clan Hir" ydyw ei Ramadeg Cymraeg. Y mae hwn yn llyfr mawr dyscedig, yn Lladin gan mwyaf, ond gydag Annerch miniog Cymraeg. Rhoddaf yma ddarnau o'r Annerch, ac er mwyn ei wneyd yn lled hawdd i'w ddarllen rhaid oedd newid tipyn ar ddull yr hen ddysgawdwr o lythyrennu. Oherwydd mae ganddo ei ddull ei hun o sillebu, canys defnyddia am f, dd, ng, ngh, l, y llythyren wreiddiol ac h, fel hyn, bh, dh, gh, ghh, lh, yr hyn a rydd olwg ddifrifol ar ei lawysgrif. Ond er hyn ac ychydig newid arall, cedwir ei arddull a grym ei Gymraeg yn gyflawn. Mae teitl ei Ramadeg yn Lladin, ond o'i gyfieithu dyna yw,—"Elfennau ac Egwyddorion y Gymraeg Brydeinig, wedi eu traethu yn ofalus, ac, hyd y gellid, yn fanwl a llawn, &c., 1592" Amlwg yw mai i'r bobl ddyscedig y bwriadai Rhys ysgrifennu, canys y mae ei fater a'i ddull o drin ei bwngc ymhell uwchlaw cyraedd amgyffred y werin.
"At Bendefigion, a' Phrydyddion, a Chymreigydd-
ion, ac at eraill o m' Anwylieid o Genedl
Gymry, ac eraill amgen no'r hain, Annerch a
Llwyddiant."
Nyd oes nemor o iaith (hyd y gwn i) ynn Europa a'i hynysoedd na's cafas ei hymgeleddu a'i choledd gan ei Ieithyddion a'i Gwladwyr ihun, o amser i gilydd; onid ein hiaith ni y Cymry. Yr honn ynawr yn hwyr, ac o braidd, a ddechreuawdd gaffael pêth gwrtaith gan 'wyrda dyscedig o'n hamser ni; a hynny yn enwedic o rann cymrec-hâu corph yr yscrythur lân. Canys o's golygwch arr genhedloedd a' phobloedd eraill megys y Groecieit, a'r Lladinieit; chwi a 'ellwch ganfod nadd oes nebryw wybodaeth na chelfyddyd dann yr haul o'r a ddichon bôd mywn dyn, na's caffer ei gweled yn amlwc ynn ei hiaith a'e llyfreu hwy, yn gyn amled, a' bod hôll Europa yn gyflawn o'i hiaith a'e llyfreu hwy, yn tragwyddoli moliant a' gogoniant i'r gwledyth hynny, ac i'r Awduriaid ac i Ymgeleddwyr yr ieithoedd hynny hyd tra byddo byd. A' gwedi yr hein hynn, y dilynasant yr Ieithoedd cyffredin megys yr Italieith, yr Hyspanieith, y Phrangec, yr Almanieith, y Saesônec, Scotieith, a' ieithoedd eraill heb law hynny a fedrwn eu hadrodd ony bei rhac ofn 'ych trablino. A'r ieithoedd hynn oll a gyfarfûant o amser i amser a Ieithyddion a Ieithymgeleddwyr hawddgaraf o'r byd, ac ewyllysgaraf i ymgeleddu a' choledd, a mawrhâu bob un o honynt ei iaith 'i hun: hyd ynn y diwedd nadd oes cymeint ac un meddir o'r holl ieithoedd cyffredin uchod na bod ynddei holl gelfyddodeu'r byd wedi eu cyfleu a'i cymhennu yn brintiêdic mywn. collyfreu, a barhâont hyd tra byddo ffurfâfen. Yr hyn beth a fagodd ddirfawr barch a' mawrhad tragwyddawl, nyd yn unic i'r leithyddion, a'r Gwrteithwyr, a'r Awduricit; ond hefyd i'r Gwladwyr a'r cenhedloedd hynny. Eithr ninheu y Cymry (mad gweision gwychion) rhai o honon' ynn myned morr ddiflas, ac mor fursenaidd, ac (yn amgenach nog un bobl arall o'r byd) mor benhoeden, ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedyd cyn hiaith. eyn hunain; ief a gwynn eyn byd ryw rai o honom. fedru bod mor findlws, a cymerud arnam ddarfod inni o gwbl abergôfi y Gymraec, a' medru weithion (malpei) ddoedyd Saessnec, a' Phranghec, ac Italieith, neu ryw iaith alltudaidd arall parywbynnac a fô honno oddieithr Cymraec, cytboet wir ynn y cyfrwng hynn, na's medrom y ganfed rann o'r ddieithriaith at gymherasam arnam ei gwybod a'i doedud mor hyfedr. Eithr nid yw y fursenaidd sorod hynn o Gymry (os teg doydud y gwir) onyd gohilion a llwgr, a' chrachyddion y bobl, a'i brynteion; a megys cachadurieit y wlad. Ac ynn yr un orseddfa a chadeir a'r rhai hynn y dylid llehau a gosod y rhai a' fynnynt doddi a' difa holl iaith y Cymry, a chyfleu a' dodi iaith y Sacson yn ei lle hi: Yr hynn beth yssydd ymhossibl i gwblhau a'i berffeithio, heb ddifa yn llwyr holl genedl y Cymry a'i gwneuthur yn Seisnic.
Hanes ysgrifennu'r Gramadeg"A mwyaf parth o'r llyfr yma a fyfyriwyd ac a feddyliwyd yn gyntaf, yn Nhy y Pendefic M. Morgan Meredydd o ymyl y Bugeildy ynn Nyffryn Tafida o fywn Swydd Faesyfed: ynn y lle lawer gwaith y bu fawr fy nghroeso, a'm hansawdd o fwyt a' llynn, gan y gwrda a'r 'wreicdda. Eithr diweddbarth y Llyfr hwnn a fyfyriwyd dann berthi a' dail gleision. mywn gronyn o Fangre i mi fyhûnan a 'elwir y Clûn Hir, ym mlaen Cwm y Llwch, a' thann 'Odreuon Mynydd Bannwchdenni. Rhai a'eilw y Mynydd hynn [Bann Arthur,] eraill [Moel Arthur]. Dann grib y Foel honn, ac yn ei harffet, y mae Llynn digon 'i faint, ac yn afrifed ei ddyfnder, ac yn rhyfedd ei ansawdd; o ethryb [mal y cerddant chwedleu] ny 'welspwyt eirioet ederyn o'r byd yn cyrchu nac iddo, nac atto, nac yn nofiaw arno: onyd yn hollol ymwrthod oc êfo: a rhai a ddywedant, na's gnotáynt nag anifeilieid na milod o unrhyw, yfed ddim dwfr o hono. A' llawer o enrhyfeddôdau eraill (ac o rann canfod arr brydieu betheu dieithr dros benn yn nghylch y Llwch yma) a ydys ynn eu hadrodd gann gyffredin y "Wlad honno: ac yn enwedic gann y sawl a arfêrynt o ymgyrchu i'r Moelydd a'r Banneu hynny er mywn bugeila. A'r Llyn neu'r Llwch hynn a 'elwir Llynn Cwmm y Llwch. Eithr ymchwêlwn bellach i adrodd taw ym mha le bynnac y dechreuwyd, nac y cenôlwyd, nac y diwêddwyd y Llyfr yma; nag ym mha fann bynnac y myfyriwyd un dim arno, i chwi, ac er eych mwyn chwi y gwnaethpwyd hynn oll. Ac o'r ethryb hynny, odd oes dim ynddo a fâ tebyc i wneuthur dim llês nag i'r Iaith, nag i chwitheu y Pendefigion a' Boneddigion Gwlad Gymry, y mae yn dda iawn gann fy nghallon; onyd ef, gadawer heibio mal diffrwythbeth, a dechymyger ryw beth arall a fó gwell nog ef, a' charer fi (o's mynner) am fy ewyllys da, er i mi o ddamchwain fôd (a hynny of eisieu gallu) yn ddyffygiol (scatfydd) o barth perffeithio fy ngorchwyl. A' hynn a ddywedaf wrthych' cynn ymado o honof â chwi, na 'wnaethpwyt ernioed ddim. yn y byd yma yn gyn gystadled, nac yn gyn berffeithied, na's gallei ryw ddyn cynfigennus, a 'drwc ei ewyllys, o'r ddrwc dafawt, gymryt arno anurddo y pêth da hynny a'i 'eiriau duon marwaraidd, o damwheiniei iddo ar adêgeu ymgyfarfod ac undyn arall. anneallus a fwriei ei goel arno, ac a gredei i'r pêth a ddywetei. Weithion rhac tra gormodd blino arnoch', yma cymhêraf fy nghennad ganwch', gan ddeisyf ynn fy ngweddi rhât y Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryt Glân i'ch plîth oll уп 'wastad. Amen.
"O'r Clûn Hir y chweched dydd o fis Tachwedd, oedran eyn Harglwydd Iesu Grist, mil a' phymcant a' deuddec a phedwar ugeint.
"Yr eiddoch' oll, ac yn holl yr eiddoch
"I.D.R."