Neidio i'r cynnwys

Clasuron Rhyddiaith Cymru/Wiliam Morgan

Oddi ar Wicidestun
Gruffudd Roberts Clasuron Rhyddiaith Cymru


golygwyd gan Edward Edwards, Aberystwyth
Sion Dafydd Rhys

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Morgan (esgob)
ar Wicipedia

WILIAM MORGAN.

Fel cyfieithydd yr holl Feibl i'r Gymraeg yr anwylir enw Wiliam Morgan, a gweddus iawn oedd codi cofadail iddo, ac yscrifennu ei hanes yn fanwl ar dri chan mlwydd y Beibl yn yr iaith Gymraeg. Daeth yr argraffiad o'r holl Y'scrythur Lån allan yn 1588,—blwyddyn fawr gorchfygu llynges Yspaen a gallu y Påb,

Nid Wiliam Morgan oedd cyfieithydd cyntaf yr Yscrythur i'n iaith ni. Credir fod gan yr hen Gymry ran—gyfieithiad o hono mewn yscrifen: daeth cyfieithiad Wiliam Salsbri, cymydog Wiliam Morgan o'r Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi Gyffredin allan yn 1567, mewn Cymraeg lled afrosgo ac esgymiog. Yr oedd y Beibl yn llaw y Saeson yn gyffredin erbyn yr adeg hon, canys ymddangosodd y Testament Newydd wedi ei droi i'r Saesneg gan Wiliam Tyndal mor foreu a 1526, a bu aml argraffiad o hono gan fawr awydd y werin am wybodaeth yscrythurol. Daeth yr holl Feibl, sef Beibl Miles Coverdale, allan yn 1535, dan awdurdod y Goron, ac yn 1560 wele gyfieithiad arall o'r Beibl, sef Beibl Geneva, gan y Cristnogion Seisnig aeth ar ffo i Geneva—cartre Calfiniaeth rhag creulon lidiog erledigaeth y Frenhines waedlyd Mari.

Ond 1588 ydyw'r flwyddyn fawr yn hanes cyfieithiad y Beibl Cymraeg, a fel hyn y mae ei deiti:

Y Beibl Cyssegr-Lân, Sef yr Hen Destament a'r Newydd
Imprinted at London by the Deputies of Christopher Barker,
Printers to the Queen's most Excellent Majestie.
1588."

Ganwyd Wiliam Morgan tua 1547, yn y Wybrant,—lle tlws, rhamantus ar gyffiniau plwyfi Penmachno a Dolyddelen yn Nant Conwy,―lle oedd yn nodedig am nifer o ddynion dyscedig a fagwyd eisoes ynddynt. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Ioan Sant yng Nghaergrawnt, lle y graddiodd yn D.D., ac yn 1575 fe'i gwelir yn ficer y Trallwm. Bu yno am flynyddoedd yn gweithio yn galed a gonest gyda'i gyfieithiad a'i bregethu, ond yn 1585 fe'i gwysiwyd o flaen Archesgob Whitgift i ateb amryw gyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn. Nid yn unig fe'i profwyd yn ddieuog, ond daeth yr Archesgob yn un o'i brif gefnogwyr i ddwyn allan yr oll o'r Beibl, canys rhyfeddodd at ei ddysceidiaeth ac at ei onestrwydd diwyrni a'i gariad mawr at ei genedl oedd eto heb gael yr Yscrythur yn ei hiaith. Yn ei lythyr cyflwyniad i'r Frenhines Elisabeth, dywed Morgan i Whitgift fod yn un o'i brif noddwyr, —ac enwa hefyd Wm. Hughes, Esgob Llanelwy, Hugh Bellot, Esgob Bangor, Gabriel Goodman, Deon Westminster, Dr. Powell, yr Archddiacon Edmund Prys, a Richard Fychan, Esgob Llundain.

Gwaith cariad oedd cyfieithu'r Beibl i Wiliam Morgan,—eto cafodd ychydig o dal mewn swyddi Eglwysig am ei fawr lafur, canys yn 1595 cafodd Esgobaeth Llandaf, ac yn 1601 fe'i hetholwyd yn Esgob Llanelwy, lle y bu farw yn 1604, a lle codwyd colofn gôf ar ei fedd yn 1888.


Mae'n hawdd yscrifennu llawer ar fywyd llawn gwaith a llafur a llwyddiant yr Esgob Morgan, ond mae yn barod amryw gofiannau iddo, gan Charles Ashton a chan y Parch. Wiliam Hughes, Llanuwchllyn, sy'n rhoddi ei hanes yn llawn.

Y mae ei Gymraeg yn cael ei gydnabod gan bawb yn Gymraeg safonol, yn ystwyth, yn feistrolgar, a byw. Creodd ymddangosiad ei Gymraeg ef ddull newydd a gwell o yscrifennu, canys y mae y gwahaniaeth rhyngddo ef a'r rhan fwyaf o'r llyfrau a brintiwyd o'i flaen yn ddirfawr.

Copiais y ddwy bennod o lob ac Esay a'r tair Psalm yma o gopi o'r Beibl sy'n llyfrgell Coleg Aberystwyth, a maent fel yr yscrifennodd Wiliam Morgan hwynt. Pigais y rhannau lled wybyddus yma er mwyn i'r rhai a'u darllenno gael eu taro gan y gwahaniaeth rhyngddynt a Chymraeg presennol ein Beibl. Y mae llyfr Iob wedi ei ddwyn allan eisoes gan Mr. Gwenogfryn Evans, a gobeithio yn fawr y caiff y cyfleustra yn fuan i gyflawni ei addewid o ddyfod a rhannau eraill allan yn ei ddull campus ei hun.

IOB XXIX.

Iob yn hiraethu am y gwynfyd gynt. 12 Yn datcan ei fuchedd. 21 Ac yn mynegu ei barch.

1. YNa Iob a barablodd trachefn, ac a ddywedodd,

2. Oh na bawn i fel yn y misoedd o'r blaen: fel yn y dyddiau pan gadwe Duw fyfi.

3. Pan wnae efe iw oleuni lewyrchu uwch fy mhen: wrth oleuni yr hwn y rhodiwn drwy dywyllwch.

4. Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuengtid, ac ymgeledd Duw ar fy mhabell.

5. Pan [oedd] yr Holl-alluog etto gyd a mi a'm llangciau o'm hamgylch.

6. Pan olchid fy nhraed ag ymenyn: a [phan] dywallde y graig arnafi afonydd o olew.

7. Pan awn i allan i'r porth trwy'r dref: parwn baratoi fy eisteddfa yn yr heol.

8. Llangciau a'm gwelent ac a ymguddient: a henuriaid a gyfodent, ac a safent.

9. Tywysogion a attalient eu ymadroddion: ac a osodent [eu] llaw ar eu genau.

10. Pendefigion cymmen a ymguddient: ai tafod hwy a lyne wrth daflod eu genau.

11. Canys y glust [a'm] clywe a'm bendithie: a'r llygad [a'm] gwele a destiolaethe o honof.

12. Canys gwaredwn y tlawd yr hwn a fydde yn gweiddi a'r ymddifad, a'r [hwn] ni [bydde] gynnorthwy-wr iddo.

13. Bendith y colledig a ddeue arnaf: a gwnawn it galon y wraig weddw lawenychu.

14. Gwiscwn gyfiawnder, a hithe a wisce am danafi: a'm barn [fydde] fel mantell a choron.

15. Llygaid oeddwn i'r dall: a thraed oeddwn i'r cloff,

16. tâd oeddwn i'r rhai anghenog: a'r cwyn [yr hwn] nid adwaenwn, a chwiliwn i allan.

17. Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn: a gwnawn iddo ef fwrw'r sclyfaeth allan o'i ddannedd.

18. Am hynny y dywedwn, byddaf farw yn fy nŷth: a byddaf morr aml [fy] nyddiau a'r tywod.

19. Fyng-wreiddin [oedd] yn agored i'r dyfroedd: a'r gwlith a arhosodd yn fy mrig.

20. Fyng-ogoniant oedd ir gyda mi a'r bwa a adnewydde yn fy llaw.

21. Hwynt a wrandawent arnaf, ac a ddisgwilient: distawent am fyng-hyngor.

22. Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy ailwaith: canys fy ymadrodd a ddifere arnynt hwy.

23. A hwy am disgwilient i fel glaw: ac a agorent eu genau fel [am] y diweddar-law.

24. Chwarddwn arnynt hwy [ond] ni chredent: ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio.

25. Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu: megis yr hwn a gyssuro rai galarus.



IOB IX.

Iob yn cydnabod gallu, cyfiawnder a doethineb Duw: a diffig dyn, ac er hyny yn cwyno rhac ei adfyd.

I. AC Iob a atebodd, ac a ddywedodd,

2. Yn wir mi a wn mai felly [y mae:] canys pa fodd y cyfiawnheuir dŷn, [o chyd-ystyrir ef] a Duw?

3. Os myn efe ymryson ag efo: nid ettyb iddo ef [am] un [peth] o fil.

4. Y mae efe yn ddoeth o galon ac yn alluog o nerth: pwy a galedodd [ei galon] yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd ?

5. Yr hwn sydd yn symmud mynyddoedd heb wybod iddynt yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint.

6. Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaiar allan o'i lle: fel y cryno ei cholofnau hi.

7. Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr.

8. Yr hwn sydd yn tanu y nefoedd unic: ac yn sathru ar donnau y môr.

9. Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac stafelloedd y dehau.

10. Yr hwn sydd yn gwneuthur [pethau] mawrion anchwiliadwy a rhyfeddodau aneirif.

11. Wele efe aiff trosofi, ac nis gwelaf: ac efe a aiff heibio, ac ni chanfyddaf mo honaw.

12. Wele efe a sclyfaetha, pwy a wna iddo dalu? pwy a ddywed wrtho ef, pa ham y gwnei di [felly ?]

13. Ni thrŷ Duw ei ddigllonedd ymmaith: tano ef y crymmwyd cynhorthwy-wŷr balchder.

14. Pa faint llai'r attebaf iddo ef? [ac] y gallaf ddewis fyng-eiriau [iw dywedyd] wrtho ef?

15. I'r hwn pe bawn cyfiawn nid atebwn, eithr ymbiliwn a'm barn-wr.

16. Os galwn, a phe atebe efe i mi, ni chredwn y gwrandawe efe fy lleferydd.

17. Yr hwn a'm dryllio a chôr-wynt: ac a amlhâ fy archollion уп ddi-achos.

18. Ni ddioddef efe i mi gymmeryd fy anadl attaf: canys efe a'm lleinw a chwerwder.

19. Os am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am gyfraith, pwy a ddadleua trosofi ?

20. Os myfi a ymgy fiawnhaf fyng-enau a'm barn yn euog: [os] perffaith [y cymmerwn i arnaf fy mod] efe a'm barn fi yn drofaus.

21. Pe byddwn berffaith [etto] nid adwen i fy enaid: ffaidd gennif fy enioes.

22. Dymma un peth, am hynny y dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith fel уг annuwiol.

23. Er lladd o honaw ef a ffrywyll yn ddisymmwth: a watwar efe am benn cospedigaeth rhai dinwed.

24. Y ddaiar a roddwyd yn llaw'r annuwiol, efe a fwrw hûg dros wynebau ei barn-wŷr hi onid e, pa le [y mae efe a] phwy [yw efe a ddengys y gwrthwyneb ?]

25. A'm dyddiau mau fi fuant gynt na rheddeg-wr: ffoasant heb wêled daioni.

26. Aethant heibio [megis] gyda llongau buan: megis yr eheda eryr at ymborth.

27. Os dywedaf, gollyngaf fyng-hwyn dros gof: mi a adawaf fy nigllondeb, ac a gryfhâf.

28. [Yna yr] ofnaf fy holl ddoluriau gwn na'm berni yn wirion.

29. [Os] euog fyddaf: pa ham yr ymflinaf felly yn ofer ?

30. Os ymolchaf mewn dwfr eira: ac [os] glanhaf fy nwylaw yn lân:

31. yna di a'm trochi mewn pwll: a'm dillad a'm drewant.

32. Canys nid gŵr fel myfi [ydyw yr hwn] ymae yn rhaid i mi ateb iddo ef, [pan] ddelom yng-hyd i'r farn.

33. Nid oes rhyngom ni ddyddiwr [yr hwn] a osodo ei law arnom ein dau.

34. Tynned ymmaith ei wialen oddi arnaf: ac na ddychryned ei ddychryn ef fi.

35. Yna y dywedaf, ac nid ofnaf ef: canys nid ydwyfi felly ynof fy hun.



PSALM XCI.

1. YR hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf a erys yng-hyscod yr Holl-alluoc.

2. Dywedaf wrth yr Arglwydd, fyng-obaith a'm hamddeffynfa [ydwyt,] yn fy Nuw y gobeithiaf.

3. Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr, [ac] oddiwrth haint echryslon.

4. Ai ascell y cyscoda efe trosot, a thann ei adenydd y byddi ddiogel ei wirionedd [fydd] darian ac astalch [i ti].

5. Nid ofni rhag dychryn nôs, [na] rhag y saeth a cheto'r dydd.

6. [Na] rhag yr haint yr hwn a rodio yn y tywyllwch, [na] rhag y dinistr a ddinistrio hanner dydd.

7. Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng-mil wrth dy ddeheulaw: ond ni ddaw yn agos attat ti.

8. Etto canfyddi a'th lygaid, a gwêli dal y rhai annuwiol.

9. Canys ti o Arglwydd [wyt] fyng-obaith, uchel y gosodaist dy bresswylfa.

10. Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw plâ yn agos i'th babell.

11. Canys efe a orchymyn i'w angelion am Matth.4.6 danat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.

12. Ac ar eu dwylo i'th ddygant, rhag taro dy droed wrth garrec.

13. Ar y llew, a'r asp y cerddi ar genew llew, a'r ddraig y sethri.

14. Gwaredaf ef hefyd am roddi o honaw serch arnaf: derchafaf ef am adnabod o honaw fy enw.

15. Efe a eilw arnaf, a mi ai gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gyd ag ef, y gwaredaf ef, ac y gogoneddaf ef.

16. Digonaf ef â hir ddyddiau: a dangosaf iddo fy iechydwriaeth.

PSALM XXXIII.
Psalm Dafydd.

1. EIDDO' yr Arglwydd y ddaiar, a'i chyflawnder y byd, ac a bresswylia ynddo. Boreuol weddi

2. Canys efe a'i seiliodd ar y môroedd: ac ai paratodd ar yr afonydd. Deut. 20. 14.

3. Pwy a escyn i fynydd yr Arglwydd, a phwy a saif yn ei lê sanctaidd ef? Iob 28.12, I Cor. 10.28

4. Y diniwed [ei] ddwylo, a'r glân [ei] galon: yr hwn ni dderchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo [ei gymmydog].

5. Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iechydwriaeth.

6. Dymma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef, [sef] y rhai a geisiant dy wyneb di ô Iacob. Selah.

7. O byrth derchefwch eich pennau, ac ymdderchefwch ddrysau tragywyddol: a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

8. Pwy yw yr brenin gogoneddus hwnnw? уг Arglwydd nerthol a chadarn: yr Arglwydd. cadarn mewn rhyfel.

9. O byrth derchefwch eich pennau, ac ymdderchefwch ddrysau tragywyddol, a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

10. Pwy yw'r brenin gogoneddus hwnnw? Arglwydd y lluoedd, efe [yw] brenin y gogoniant. Selah.

PSALM LXXXIII.

At y pen-cerdd ar y Gittith. Psalm i feibion Corah.

1. MOr hawddgar [yw] dy bebyll di o Arglwydd y lluoedd.

2. Fy enaid a chwênychodd, ac a fysiodd hefyd am. dy gynteddau di o Arglwydd: fyng-halon a'm cnawd a orfoleddant yn Nuw byw. 3. Aderyn y tô hefyd a gafodd dŷ, a'r wennol nŷth iddi, lle y gesid ei chywion: sef dy allorau di ô Arglwydd y lluoedd fy Mrenin a'm Duw.

4. Gwynfyd preswylwyr dy dŷ yn wastad i'th foliannant. Selah..

5. Gwyn ei fyd y dŷn y mae ei gadernid ynot, [a'th] ffyrdd yn ei galon.

6. Y rhai sydd yn myned trwy ddyffryn wylofain a'i gosodant yn ffynnon, a'r glaw a leinw y llynnau.

7. Aant o nerth i nerth, [ac] ymddengys [pob un] ger bron Duw yn Sion.

8. O Arglwydd Dduw'r lluoedd clyw fyng-weddi, gwrando o Dduw Iacob. Selah.

9. O Dduw ein tarian gwel, ac edrych wyneb dy eneiniog.

10. Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw o flaen trigo ym-mhebyll annuwioldeb.

11. Canys haul a tharian yw'r Arglwydd Dduw, yr Arglwydd a rydd râd a gogoniant: ni attal efe ddaioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.

12. O Arglwydd y lluoedd gwynfyd y dyn a ymddiriedo ynot.



ESAY.
PEN. XL.

Efangylaidd gyssur i'r Eglwys. 3 Galwedigaeth Ioan fedyddiwr. 12 Gallu Duw i gyflawni y cyssur uchod. 18 Ofered yw pob delw. 22 Duw'n unic sydd Ollalluog.

1. CYssurwch, cyssurwch fy mhobl, medd eich Duw.

2. Dywedwch wrth fodd Ierusalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth: canys maddeuwyd ei hanwiredd, oherwydd derbyniodd o law'r Arglwydd yn ddau ddyblyg am ei holl bechodau.

3. Canys llêf sydd yn llefain yn yr anialwch, paratoiwch ffordd yr Arglwydd, inionwch lwybr ein Duw ni yn y diffaethwch.

4. Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a brynn a ostyngir, y gwŷr a fydd yn iniawn, a'r anwastad yn wastadedd.

5. A gogoniant yr Arglwydd a ymeglura fel y cydwelo pob cnawd mai genau'r Arglwydd a lefarodd [hyn].

6. Llef a ddywedodd [wrth y prophwyd,] gwaedda di, yntef a ddywedodd, beth a waeddaf, [bod] pob cnawd yn wellt, a'i holl odidawgrwydd fel blodeun y maes.

7. Gwywodd y gwelltyn [a] syrthiodd y blodeun, canys Yspryd yr Arglwydd a chwythodd arno, gwellt yn ddiau [yw] 'r bobl.

8. Gwywodd y gwelltyn, syrthiodd y blodeun, a gair ein Duw ni a saif byth.

9. Dring rhagot yr efangyles Sion i fynydd uchel, derchafa dithe dy lef trwy nerth ô efangyles Ierusalem: derchafa nac ofna, dywed wrth ddinasoedd Iuda, wele eich Duw chwi.

10. Wele'r Arglwydd Dduw a ddaw'n erbyn y cadarn, a'i fraich a lywodraetha arno ef, wele ei obrwy gyd ag ef, a'i waith o'i flaen.

11. Fel bugail y portha ef ei braidd, a'i fraich y cascl ei ŵyn, ac [a'i] dwg yn ei fonwes, ac a goledda y mamogiaid.

12. Pwy a fessurodd y dyfroedd yn ei ddwrn? ac a fessurodd y nefoedd ài rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaiar mewn messur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwys, a'r brynnau mewn cloriannau?

13. Pwy a gyfarwyddodd Yspryd yr Arglwydd? ac yn ŵr o'i gyngor a'i hyfforddiodd ef? 14. A phwy'r ymgynghorodd efe, ie [pwy] ai hyfforddiodd ac a'i dyscodd mewn llwybr barn? ac a ddyscodd iddo wybodaeth, ac a gyfarwyddodd iddo ffordd deallgarwch?

15. Wele'r cenhedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn, ac fel brychewyn oddi wrth gloriannau wele fel brychewyn y bwrw efe ymaith yr ynysoedd.

16. Ac nid digon Libanus yn dân, nid digon ei fwyst-filod ychwaith yn boeth offrwm.

17. Yr holl genhedloedd [ydynt] megis diddim ger ei frô ef, yn llai na dim, ac [na] gwagedd y cyfrefwyd hwynt ganddo.

18. I bwy gan hynny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch chwi i fynu iddo ef?

19. Y saer a lunia gerf-ddelw, a'r aurych a'i goreura, ac a dawdd gadwyni o arian.

20. Yr hwn sydd arno eisieu offrwm a ddewis bren heb pydru, cais ef atto saer cywraint i baratoi cerf-ddelw yr hon ni syfl.

21. Oni ŵyddoch, oni chlywch, oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad, oni ddeallwch sciliad y ddaiar?

22. [Myfi ydwyf] yr hwn a eistedd ar amgylchoedd y ddaiar, (pan [yw] ei thrigolion fel locustiaid) yr hwn a estyn y nefoedd fel cortyn, ac a'i lleda fel pabell i drigo [ynddi].

23. Yr hwn a rydd lywodraeth-wŷr yn ddiddim, fel gwagedd y gwnaeth efe farnwŷr y tir.

24. Ac ni phlannwyd hwynt, ni's hauwyd ychwaith, ei foncyff hefyd ni wreiddiodd yn y ddaiar, eithr efe a chwythodd arnynt, ac hwynt a wywasant, a chorwynt a'i dwg hwynt. ymmaith fel us.

25. I bwy gan hynny i'm cyffelybwch, ac i'm cystedlir, medd y Sanct?

26. Dyrchefwch eich llygaid yn uchel, ac edrychwch pwy a greawdd y rhai hyn, yr hwn a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi, efe a'i geilw hwynt oll wrth eu henwau drwy amlder [ei] rym [ef,] a'i gadarn allu ni phallhâ dim.

27. Pa ham y dywedi Iacob, ac y lleferi Israel? cuddiwyd fy ffordd oddi wrth yr Arglwydd, a'm barn aiff heibio i'm Duw.

28. Oni wyddost, oni chlywaist na ddiffygia, ac na Alina Duw tragywyddoldeb? yr Arglwydd a greawdd gyrau'r ddaiar, ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef.

29. Yr hwn a rydd nerth i'r deffygiol, ac a amlhâ gryfder i'r dirym.

30. Canys llangciau a ddeffygiant ac a flinant, a gwŷr ieuaingc gan syrthio a syrthiant.

31. Eithr y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a wellhânt o nerth, ehedant fel eryrod, rhedant ac ni flinant, rhodiant ac ni ddeffygiant.

PEN. LV.

Duw yn annog y bobl i ffydd, ac i edifeirach trwy ei efangylaidd addewidion.

1. O Deuwch i'r dyfroedd bob un y mae syched. arno, ie yr hwn nid [oes] arian ganddo, deuwch prynwch, a bwyttewch, ie deuwch prynwch. win, a llaeth heb arian, ac heb werth.

2. Pa ham y telwch arian am [yr hyn] nid [ydyw] fara? a'ch llafur am [yr hyn] nid [yw] yn ddigonoldeb? gan wrando gwrandewch arnafi, a bwyttewch yr hyn sydd dda: ac ymhyfryded eich enaid mewn brasder.

3. Gogwyddwch eich clustiau a deuwch attaf, gwrandewch fel y byddo byw eich enaid, ac mi a wnaf gyfammod tragywyddawl â chwi [sef] siccr drugareddau Dafydd.

4. Wele rhoddais ef yn dyst i'r bobl, yn Psalm 132.ii. flaenor, ac yn athro i'r bobloedd.

5. Wele cenedl nid adweini a elwi, a chenhedlaeth nid adwaenant ti a redant attat, er mwyn yr Arglwydd dy Dduw, ac o herwydd Sanct Israel: canys efe a'th ogoneddodd.

6. Ceisiwch yr Arglwydd tra caffer ef: gelwch arno tra fyddo yn agos.

7. Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r gwr anwir ei amcannion, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymmer drugaredd arno, ac at ein Duw ni o herwydd y mae efe yn barod iawn i faddeu.

8. Canys nid fy amcannion i [yw] eich amcannion chwi ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i medd yr Arglwydd.

9. Canys [fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaiar, felly uwch yw fy ffyrdd i na'ch ffyrdd chwi, a'm amcannion i na'ch amcannion chwi.

10. Canys fel y descyn y glaw, a'r eira o'r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dwfrhâ y ddaiar, ac a wna iddi darddu a thyfu fel y rhoddo hâd i'r hau-wr, a bara i'r bwytta-wr.

11. Felly y bydd fy ngair yr hwn a ddaw o'm genau ni ddychwel attaf yn wag: eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda lle'r anfonwyf ef.

12. Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd i'ch arweinir [i mewn,] y mynyddoedd a'r brynnau a floeddiant ganu o'ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo.

13. Yn lle drain y cyfyd ffynnid-wŷdd, yn lle danadl y cyfyd myrt-wŷdd, a [hyn] fydd i'r Arglwydd yn enw ac yn arwydd tragywyddol yr hwn ni thorrir.

Nodiadau

[golygu]